Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Media
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2018/19 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Penderfynwyd:
Ethol y Cynghorydd Elwyn Edwards yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn
2018/19. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2018/19 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Penderfynwyd: Ethol
y Cynghorydd Eric Merfyn Jones yn Is Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn
2018/19. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Simon Glyn a Louise Hughes. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi
materion protocol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr eitemau canlynol am
y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Catrin Wager,
yn eitem 7.2 a 7.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0903/16/LL a
C18/0266/44/LL) oherwydd ei bod yn ffrindiau gydag ymgeisydd y
ceisiadau. ·
Y Cynghorydd Stephen
Churchman, yn eitem 7.3 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C17/1094/36/LL)
oherwydd bod y Cross Foxes yn eiddo cyfagos i’w gartref. Yr ymgeisydd yn
gymydog ac yn ffrind i’r Cynghorydd Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Dafydd Owen, (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.1 a 7.2 ar y rhaglen,
(ceisiadau cynllunio rhifau C17/1266/16/LL a C17/0903/16/LL) ·
Y Cynghorydd Aeron Maldwyn
Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 7.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0967/39/LL). Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac
ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
16.4.2018 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2018, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau |
|
Cais Rhif C17/1266/16/LL Tir yn Bryn Cul, 2 Tal Gae, Tregarth, Bangor PDF 294 KB Gosod mast telathrebu 17.5 medr o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd â 2 gaban offer a 1 cabinet mesurydd a gwaith atodol AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Owen Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosod mast telathrebu 17.5
medr o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd a 2 gaban offer
a 1 cabinet mesurydd a gwaith atodol. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol
a dderbyniwyd Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r
safle a)
Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn un i osod tŵr telathrebu uchder ar dir amaethyddol garw i’r
gorllewin o ffin ddatblygu Pentref Tregarth. Nodwyd y byddai'r tŵr ar
ffurf 'monopole', wedi ei osod ar lawr o goncrid gyda 3 antenna a 2 ddysgl
trawsyriant ar ei ben; 3 cabinet offer ger ei waelod, a ffens 1.2m o uchder o’i
gwmpas i greu compownd. Y bwriad yw y bydd dau
gwmni, megis Telefónica UK Cyf. (O2) a Vodafone Cyf.
yn defnyddio’r cyfleuster i wella darpariaeth 2G a 3G a chynnig gwasanaeth 4G
oherwydd diffyg yn y ddarpariaeth leol bresennol. Ategwyd bod yr ymgeisydd yn
ceisio cwrdd gyda dyhead Llywodraeth Cymru o sicrhau gwell isadeiledd digidol
mewn cymunedau gwledig. Atgoffwyd yr Aelodau bod y penderfyniad ar y cais yng
nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 26/02/18 wedi ei ohirio er
mwyn ymweld â’r safle. Yn
y cyfarfod hwnnw gwnaed cais
gan yr Aelodau i’r ymgeisydd ymateb
i rai o’r materion a godwyd yn ystod
y drafodaeth a chyfeiriwyd
at yr ymateb hynny yn adran
1.7 o’r adroddiad. Gohiriwyd y cais am yr
ail dro ym Mhwyllgor 16/04/18 er mwynail drefnu
ymweliad safle (yr ymweliad cyntaf wedi ei ohirio oherwydd tywydd garw). Amlygwyd bod gohebiaeth gan wrthwynebydd yn cwestiynu
dilysrwydd y broses o ddelio
gyda’r cais wedi ei dderbyn a chyfeiriwyd at yr ymateb yn adran 1.8 o’r adroddiad. Nodwyd, yng nghyd-destun asesu’r cais mai mwynderau gweledol a materion
bioamrywiaeth oedd y prif ystyriaethau cynllunio perthnasol. Derbyniwyd y byddai’n
anorfod i’r strwythur arfaethedig fod yn rhannol weledol o fannau cyhoeddus oherwydd
yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored i sicrhau y byddai’n gweithio i’w
gapasiti yn llawn. Nodwyd gyda’r safle arfaethedig yn
un coediog, byddai’r tŵr yn weddol guddiedig o’r rhan fwyaf o fannau cyhoeddus
ac na fyddai yn goruchafu na gormesu unrhyw eiddo
preifat. Ategwyd bod nifer o strwythurau main ag uchel eisoes yn bodoli yn yr
ardal sydd yn cynnwys coed sylweddol, polion llinellau ffôn a rhes o beilonau
trydan. Amlygwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth wedi gofyn am adroddiadau ychwanegol
ynghylch yr effaith ar ecoleg a choed gan fod y datblygiad wedi ei leoli ar
safle o dir amaethyddol sydd heb ei wella
a bod coed brodorol aeddfed gerllaw. Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol a’i fod yn cydymffurfio gyda gofynion
y polisïau perthnasol. b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol; ·
Nad oedd y cais yn cydymffurfio
gyda pholisïau - yn groes i
TAN19 ·
Nad oedd sylw digonol wedi
ei roi i ardaloedd
o dirwedd arbennig · Nad oedd asesiad gwrthrychol wedi ei gwblhau - y cynnig yn dibynnu ar ddehongliad gwrthrychol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C17/0903/16/LL Carreg y Fedwen, Sling, Tregarth, Bangor PDF 419 KB Creu canolfan ymchwil a menter iachad acwstig cysegredig gan gynnwys codi pedwar adeilad newydd, creu meysydd parcio a chodi wal ffin 2.3m o uchder (cais diwygiedig i gais dynnwyd yn ol - C16/1158/16/LL) AELOD LLEOL:
Cynghorydd Dafydd Owen Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu canolfan ymchwil a menter iachâd acwstig
cysegredig gan gynnwys codi pedwar
adeilad newydd, creu meysydd parcio
a chodi wal ffin 2.3m o uchder (cais diwygiedig i gais a dynnwyd
yn ôl - C16/1158/16/LL) Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle a)
Ymhelaethodd y Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi mai cais llawn
ydoedd i greu canolfan ymchwil
newydd ar gyfer cwmni menter
gymunedol. Amlygwyd y gohiriwyd y penderfyniad yn wreiddiol
yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio 15 Ionawr, 2018 er mwyn trefnu ymweliad
safle. Ategwyd bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd yn
rhoi eglurhad mwy manwl o natur y datblygiad arfaethedig oedd yn cynnwys cais i
newid disgrifiad y bwriad i “Swyddfa, Ystafell Amlbwrpas a Chyfleuster Ymchwil”
yn unol â’r Datganiad Dyluniad a Mynediad a gyflwynwyd. Eglurwyd y byddai tair elfen i’r cyfleuster: ·
Swyddfa ·
Ystafell
aml-ddefnydd (y brif gromen) – i’w ddefnyddio ar gyfer chwarae a recordio
offerynnau acwstig a lleisiau ar gyfer profi eu heffeithiau ar iechyd dynol.
Mae’r adeilad wedi ei ddylunio er mwyn darparu ansawdd uchel o sŵn a chyda
mesurau lliniaru fel na fyddai’r sŵn i’w glywed yn allanol. ·
Tair
cromen fechan wedi eu dylunio i gyseinio ag amleddau penodol. Ategwyd mai’r bwriad yw y byddai’r adeiladau unigol wedi eu “tiwnio” fel
bod effaith unrhyw amledd yn cael ei uchafu gyda gobaith o ddarparu modelau
pensaernïol y gellid eu hatgynhyrchu ar gyfer gosod mewn adeiladau presennol.
Cadarnhawyd nad oedd bwriad trin cleifion ar y safle, ond ymchwilio er mwyn
deall, modelu a phrofi effeithlonrwydd nodweddion acwstig. Nodwyd bod y safle mewn lleoliad ynysig mewn coedwig gymysg ac ystyriwyd y
byddai’r adeiladau, oherwydd eu maint a deunyddiau, yn gweddu’r safle ac yn
guddiedig o welfannau pell. O safbwynt ymyrraeth
gyffredinol, cadarnhawyd y disgwylir dau aelod a staff fod ar y safle i
ddechrau (o bosib i gynyddu i 5), gyda’r nifer o gwsmeriaid yn y “rhifau sengl
isel” ar unrhyw adeg benodol. Ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i unrhyw bolisi
cynllunio perthnasol o fewn y Cynllun Datblygu Lleol. Ategwyd ei fod yn
ddefnydd priodol o’r safle ac nad oedd yn debygol o achosi effeithiau andwyol
annerbyniol o safbwynt y polisïau hynny. Nodwyd hefyd nad oedd y wybodaeth
newydd a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn newid yr argymhelliad. b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol; ·
Nad oedd dyfodol i’r fenter ·
Bod
trigolion ardal Pentir yn poeni
yn ddirfawr am effaith weledol y datblygiad ·
Ei fod yn amheus o’r
gair ‘ymchwil’ ·
Bod
y cytiau gwellt a phren allan o gymeriad ·
Petai'r fenter yn methu, pa ddefnydd
fydd o’r lle? ·
Bod
y busnes yn annelwig ·
Argymell gwrthod c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan
Aelodau unigol: · Balch o gael gwybodaeth ychwanegol yn cadarnhau mai gwaith ymchwil yn unig fydd yn cael ei ddarparu ac ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C17/1094/36/LL The Cross Foxes, Garndolbenmaen, Gwynedd PDF 352 KB Newid defnydd o dŷ tafarn i
dŷ preswyl AELOD LLEOL: Cynghorydd Stephen
Churchman Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid
defnydd o dŷ tafarn i dŷ preswyl Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol
a dderbyniwyd a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi y gohiriwyd y
penderfyniad ym
mhwyllgor Ebrill 16eg 2018 er mwyn gofyn
i gynrychiolwyr Cymdeithas Cymunedol Garndolbenmaen am wybodaeth bellach, ar ffurf
pecyn ariannol realistig, ar gyfer
eu bwriad o brynu’r adeilad a’i gadw
fel tŷ tafarn, ynghyd a thystiolaeth o gynnig ariannol rhesymol i brynu’r eiddo. Ers y penderfyniad i ohirio, mynegwyd bod y cais bellach yn
destun apêl ffurfiol i’r Arolygaeth
Gynllunio am ddiffyg penderfyniad o fewn yr amserlen briodol.
Nodwyd bod trefn ffurfiol
i ddelio gydag apêl am ddiffyg
penderfyniad ac amlygwyd
bod y rheoliadau perthnasol
o fewn Deddfwriaeth Cynllunio yn nodi’r
canlynol: Ar gyfer apeliadau Cynllunio ble mae
apêl wedi ei wneud am fethiant
yr Awdurdod Cynllunio Lleol i wneud
penderfyniad ar y cais o fewn y cyfnod
priodol, mae cyfnod o 4 wythnos o dderbyn yr apêl ble
mae cyfle i’r Awdurdod Cynllunio
Lleol barhau i benderfynu’r cais. Yn yr achos yma, cyflwynwyd yr apêl i’r
Arolygaeth Cynllunio ar y 18fed o Ebrill gyda’r angen am benderfyniad erbyn Mai 16eg. Atgoffwyd yr Aelodau bod y cais hefyd wedi ei ohirio ym
Mhwyllgor Cynllunio 26ain o
Chwefror 2018 er mwyn
rhoi cyfle i’r gymdeithas gymunedol leol gyflwyno tystiolaeth o’u bwriad i
brynu’r adeilad er mwyn cadw
ei ddefnydd fel tŷ tafarn. Nodwyd, ei bod yn rhesymol ystyried nad oedd y defnydd
presennol bellach yn hyfyw fel
tafarn. Derbyniwyd gwybodaeth gyda’r cais gan gwmni
o gyfrifwyr yn cadarnhau bod dirywiad wedi bod ers rhai
blynyddoedd yn nhrosiant y busnes. Mynegwyd bod argymhelliad y swyddogion
yn glir i
ganiatáu y cais, ond cyfeiriwyd at dri opsiwn, oedd
wedi eu cynnwys
yn yr adroddiad,
yn amlygu'r risgiau i’r Cyngor,
oedd yn agored
i’r Pwyllgor eu hystyried. b) Cynigiwyd ac
eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol ag argymhelliad
y swyddogion fyddai’n golygu fod yr
apêl yn dod
i derfyn heb unrhyw weithrediad
pellach gan osgoi costau i’r
Cyngor. c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau
unigol: ·
Bod
asedau cymunedol yn cael llawer
mwy o sylw o dan y Localism Act yn Lloegr ·
Y
Pwyllgor eisoes wedi cynnig 9 wythnos
i’r Gymdeithas Gymunedol - dylid cadw at eu gair
a chadw at yr amserlen ch) Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â’r amserlen, nododd yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth
Cynllunio bod
y Pwyllgor yn cael eu gorfodi
i drafod y cais oherwydd trefniadau apêl. Ategodd y buasai yn dymuno gweld
y dafarn yn parhau fel tafarn, ond
gyda’r busnes wedi bod ar y farchnad ers 2011, nid oedd prynwr wedi dod
ymlaen. Nododd bod y Gymdeithas Gymunedol yn ceisio prynu'r safle, ond nad
oedd pecyn ariannol realistig na chynnig cadarn
wedi ei wneud. d) Mewn ymateb i sylw ynglŷn â thebygolrwydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais Rhif: C17/1011/24/LL Safle Fron Deg, Rhostryfan, Caernarfon PDF 264 KB Cais llawn i godi 4 ŷy deulawr newydd i gymeryd lle 4 byngalo fel a ganiatwyd yn flaenorol AELOD LLEOL: Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i godi 4 tŷ deulawr newydd i gymryd lle 4
byngalo fel y caniatawyd yn flaenorol Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol
a dderbyniwyd a) Argymhellodd y
Rheolwr Cynllunio i ohirio penderfyniad ar y cais gan fod anawsterau cofrestru i
siarad wedi bod ar y cais ynghyd ag awgrym i ymweld â’r safle. b) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd yr aelod lleol (nad
oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), ·
Bod
y safle wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol ac nad oedd digon o waith paratoi
pellach wedi ei wneud ·
Angen gofyn i’r datblygwr
wella trefniadau dŵr wyneb ·
Angen amodau pendant
fyddai yn ymdrin â sefyllfa llifogydd a gorlif dŵr wyneb ·
Gormod
o dai ar y safle yn arwain at ormod o geir ·
Angen
ystyried preifatrwydd tai cyfagos - goredrych ·
Nifer
o broblemau parcio yma ·
Dim mynediad i wasanaethau
brys – datrysiadau eisoes wedi gorfod eu gwneud i gasglu gwastraff ·
Byddai
cadw at 4 byngalo yn gweddu yn well ac yn edrych yn naturiol ·
Dim sôn am dai fforddiadwy
yn y cais ·
Cytuno gyda’r awgrym i ymweld
â’r safle ·
Angen
ystyried y safle yn ystod yr hwyr – posib dosbarthu lluniau c) Cynigiwyd ac eiliwyd
i ohirio y cais ch) PENDERFYNWYD
gohirio y cais -
anawsterau cofrestru i siarad ar y cais ac felly angen sicrhau ail gyfle - angen trefnu ymweliad safle |
|
Cais Rhif C18/0233/15/LL Tir ger Ty Du Road, Llanberis, Caernarfon PDF 249 KB Newid defnydd tir i ddarparu 5 llecyn parcio ffurfiol, llwybr troed newydd ac ardaloedd gardd AELOD LLEOL: Cynghorydd Kevin Morris Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd tir i ddarparu 5 llecyn parcio ffurfiol,
llwybr troed newydd ac ardaloedd gardd a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y
cais, gan nodi mai cais ydoedd i ddarparu 5 lle parcio ffurfiol fyddai’n cael eu
gosod i drigolion lleol, ynghyd â darparu llwybr troed i’r safle o Fron Goch a
newidiadau i’r trefniant ar gyfer gerddi a mynediad i’r tai bwriedig. Amlygwyd mai safle parcio preifat ydoedd ac y byddai unrhyw
drefniadau ynghylch hawliau parcio yn faterion preifat rhwng y defnyddwyr a’r
perchennog. Ategwyd gall fod peth ymyrraeth i
eiddo cymdogion fod drwy oleuadau ceir a sŵn y nifer bychan o
leiniau parcio a fwriedir, lleoliad a gogwydd y safle parcio, ynghyd â’r
defnydd cyson o’r ffordd gerllaw. Ni ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn newid y
sefyllfa o safbwynt mwynderau preifat mewn modd arwyddocaol o’i gymharu â’r hyn
a ganiatawyd eisoes. Nodwyd
y byddai’r lleiniau parcio yn ymestyn hyd at 1.2m i’r parth diogelu gwreiddiau
coed a adnabuwyd yn y cynllun safle blaenorol, ond eglurwyd bod gwaith i wyneb
y tir eisoes wedi digwydd yn y lleoliad hwn fel rhan o gynllun gwelliannau
carthffosiaeth Dŵr Cymru. Amlygwyd y byddai'r coed a oedd i’w plannu ar y
rhan yma o’r safle yn cael eu plannu mewn man arall. Ategwyd
bod pob mater cynllunio perthnasol wedi ei ystyried a bod y newidiadau a gynigiwyd yn dderbyniol. b) Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais c) PENDERFYNWYD caniatáu y cais Amodau 1. Amser 2. Cydymffurfio gyda’r cynlluniau 3. Amod Dŵr Cymru |
|
Cais Rhif C18/0266/44/LL 26, Y Ddol, Porthmadog PDF 234 KB Codi estyniad deulawr ar ochr eiddo ag estyniad unllawr ar y cefn AELOD LLEOL:
Cynghorydd Nia Wyn Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Codi estyniad deulawr ar ochr
eiddo ag estyniad unllawr ar y cefn a) Ymhelaethodd y
Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais wedi ei ddiwygio o’i
gyflwyniad gwreiddiol trwy ddileu balconi
juliet ar lawr cyntaf yr
edrychiad cefn. Nodwyd fod y cais
yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio gan mai'r Aelod
Lleol oedd yr ymgeisydd. Golygai'r bwriad ychwanegiad at estyniad cefn unllawr
presennol er mwyn creu ystafell
fyw ac ystafell fwyta fwy. Byddai’r estyniad newydd yn darparu ystafell
wely ag ystafell ymolchi ar y llawr
cyntaf heb newidiadau mewnol i’r llawr daear
presennol. Wedi ystyried yr holl faterion Cynllunio
perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol, ystyriwyd na fyddai’r bwriad
yn cael effaith
niweidiol andwyol ar yr ardal
a thai cyfagos a bod dyluniad diwygiedig y bwriad yn dderbyniol. b) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais c) PENDERFYNWYD caniatáu
y cais Amodau 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol gyda’r cynlluniau. 3. Llechi 4. Gorffeniadau’r waliau 5. Tynnu hawliau PD ffenestri |