skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Y Cynghorydd Catrin Wager a’r Cynghorydd Aled Evans (Aelod Lleol).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol a nodi materion protocol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)       Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir:

 

·            Y Cynghorydd Gruffydd Williams yn eitem 5.3 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/0249/41/MG), oherwydd bod ei gymar efo ystâd o dai dros y ffordd i safle’r cais.

·            Y Cynghorydd Owain Williams yn eitem 5.3 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/0249/41/MG), oherwydd bod perthynas iddo yn berchennog tir dros y ffordd i safle’r cais.

·            Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn eitem 5.4 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/0780/20/LL), oherwydd bod un o drigolion Llanfair Hall yn ffrind iddo.

 

Roedd yr aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant  y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau.

 

(b)     Datganodd yr Uwch Gyfreithiwr fuddiant personol yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0796/11/R3) oherwydd bod ei rieni yng nghyfraith yn byw dros ffordd i’r safle.

 

          Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

(c)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Huw G. Wyn Jones, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/1086/11/LL);

·        Y Cynghorydd Gareth W. Griffith, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0780/20/LL);

·        Y Cynghorydd Elfed Williams, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0640/18/LL);

·        Y Cynghorydd Dewi W. Roberts, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0718/39/LL).

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 122 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2018, fel rhai cywir. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2018, fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

5.1

Cais Rhif C18/0796/11/R3 - Ysgol y Garnedd, Penrhosgarnedd, Bangor pdf eicon PDF 158 KB

Dymchwel yr ysgol gynradd bresennol a chodi ysgol gynradd newydd yn ei le gan gynnwys rhodfeydd newydd, caeau chwarae a gwaith cysylltiedig.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Elin Walker Jones

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel yr ysgol gynradd bresennol a chodi ysgol gynradd newydd yn ei le gan gynnwys rhodfeydd newydd, caeau chwarae a gwaith cysylltiedig.

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais ar gyfer adeiladu ysgol newydd ar gyfer 420 o ddisgyblion i gymryd lle adeilad presennol Ysgol y Garnedd, Penrhosgarnedd, oedd efo capasiti ar gyfer 210 o ddisgyblion. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

Nodwyd wrth ystyried bod y cynnig yn deillio o’r prinder llefydd ysgol ar gael ym Mangor a’r angen a adnabuwyd gan yr Awdurdod Addysg i ddarparu rhagor o lefydd ysgol yn ardal Penrhosgarnedd, credir bod graddfa’r datblygiad yn briodol ar gyfer ei leoliad ac yn dderbyniol mewn egwyddor i ddatblygu ysgol ar y safle hwn.

 

Eglurwyd nid oedd y cynnig i ddymchwel ac ail-adeiladu ysgol bresennol yn cyrraedd trothwyon cyflwyno asesiad effaith Iaith Gymraeg. Ymhelaethwyd nad oedd Polisi PS1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl), yn gofyn am asesiad o effaith o berspectif defnydd tir ar gyfer y math yma o ddatblygiad, oherwydd bod y Cynllun yn ymgorffori nifer o fesurau lliniaru datblygiad ar ffurf polisïau unigol.

 

Derbyniwyd sawl gwrthwynebiad yn ystod y broses ymgynghori gan drigolion Rhodfa Penrhos, a fwriedir ei defnyddio fel mynedfa ar gyfer trafnidiaeth adeiladu wrth ddatblygu’r safle, gan ddatgan pryder ynghylch materion megis sŵn, llwch a llygredd. Nodwyd y gellir goresgyn a rheoli’r materion hyn mewn modd derbyniol o sicrhau dulliau gwaith priodol trwy amodau cynllunio a thrwy gytuno Cynllun Rheolaeth Dulliau Adeiladu cyn dechrau ar y gwaith.

 

Nodwyd nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad ond yn argymell sicrhau y darperir y fynedfa gerbydol, llwybrau troed a’r holl ddarpariaeth barcio cyn agor yr ysgol newydd. Nodwyd y byddai’r cynlluniau yn cynorthwyo hybu dulliau teithio amgen ac yn cyd-fynd ag amcan Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Ymhelaethwyd yr argymhellir nifer o amodau gan gynnwys gwelliannau ffordd i gynnwys mesurau priodol i arafu cyflymder traffig ar hyd Ffordd Penrhos ynghyd ag amod o ran rheoli symudiadau traffig adeiladu yn ystod cyfnod penodol o’r dydd.

 

Nodwyd y derbyniwyd gwybodaeth y byddai’r llwybr o’r maes parcio i Rodfa Penrhos yn cael ei gau yn ystod y cyfnod adeiladu yn ogystal â’r llwybr ar hyd Rhodfa Penrhos a hynny ar sail pryderon lleol am ddiogelwch. Ymhelaethwyd y byddai’r llwybr oedd o amgylch caeau chwarae Ysgol Friars yn cael ei agor ar ôl y 3 mis cyntaf, yn dilyn sefydlogi’r llwybr, felly byddai llwybr amgen yn cysylltu efo llwybrau eraill. Nodwyd yn dilyn cwblhau’r datblygiad byddai’r llwybrau yn cael eu hail-agor. Eglurwyd bod Llwybr Cyhoeddus Rhif 25 Cymuned Bangor yn croesi’r safle a bod y cais yn cynnwys rhoi’r hawl i wyro’r llwybr yn swyddogol i ddilyn llwybr troed answyddogol a oedd eisoes wedi ei greu o amgylch caeau chwarae Ysgol Friars. Roedd y llwybr answyddogol hwn, ym mherchnogaeth y Cyngor ac wedi ei wynebu gyda tharmac.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1

5.2

Cais Rhif C17/1086/11/LL - Hen Iard Gychod Dickies, Beach Road, Bangor pdf eicon PDF 292 KB

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 2 ar ganiatad rhif C15/1081/11/LL er mwyn ymestyn y cyfnod cwblhau’r datblygiad yn unol â chynlluniau’r cais (cyflwyniad gwybodaeth ychwanegol i amrywio amod 3 i gynorthwyo gwaith torri a llenwad)

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Huw Gruffydd Wyn Jones

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 2 ar ganiatad rhif C15/1081/11/LL er mwyn ymestyn y cyfnod cwblhau’r datblygiad yn unol â chynlluniau’r cais (cyflwyniad gwybodaeth ychwanegol i amrywio amod 3 i gynorthwyo gwaith torri a llenwad).

        

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 19 Mawrth 2018 er mwyn ymchwilio i faterion yn ymwneud â thrin a rheoli llysiau'r dial yn llawn cyn i waith pellach fynd rhagddo ar gyfer gosod y deunydd amddiffynfeydd môr carreg.

 

Nodwyd yn dilyn trafodaethau daethpwyd i gasgliad ar gynllun oedd yn bodloni’r Gwasanaeth Cynllunio, Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn ogystal â Chyfoeth Naturiol Cymru o ran trin a rheoli llysiau’r dial. Eglurwyd y bwriedir chwistrellu’r planhigyn dros gyfnod o leiaf ddwy flynedd gyda dwy driniaeth o fewn tymor. Roedd rhaid gwneud y gwaith yma cyn bod unrhyw ddatblygiad pellach ar y safle.

 

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

          Roedd ystyriaeth wedi ei roi i adar yn y bae, cadernid y tir ac effaith y gwaith ar y tir ynghyd â mesurau rheoli trafnidiaeth. Nodwyd yr argymhellir nifer o amodau a oedd yn ymdrin â’r holl ystyriaethau, megis bioamrywiaeth a mwynderau trigolion cyfagos.

 

Eglurwyd bod yr ymgeisydd yn rhagweld y byddai’r gwaith o roi’r deunydd rip-rap o amgylch y safle yn cymryd oddeutu 3 i 4 mis gyda symudiad o oddeutu 25 llwyth y dydd. Nodwyd y byddai’r gwaith yma yn rhoi sadrwydd i’r safle.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

         

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Nid oedd unrhyw beth wedi digwydd o ran trin llysiau’r dial ar y safle ers trafodwyd y cais yn y Pwyllgor ar 19 Mawrth;

·         Mai yn ddiweddar iawn roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cytuno i’r bwriad;

·         Pe byddai llysiau’r dial yn cael eu trin ar yr adeg yma o flwyddyn mi fyddai’n aneffeithiol;

·         Bod gwaredu’r safle o lysiau’r dial yn mynd i gymryd blynyddoedd, roedd y planhigyn ar gyrion y safle lle bwriedir rhoi y rip-rap;

·         Cyfeirio at lythyr gan Uned Gwarchod y Cyhoedd. Yn glir bod gan yr uned bryderon ynglŷn a gwaith yn mynd yn ei flaen heb ddifa llysiau’r dial;

·         Pe caniateir y cais, gofyn i osod amod nad oedd y gwaith rip-rap yn mynd yn ei flaen tan fod llysiau’r dial wedi ei waredu neu ei drin o leiaf tair gwaith;

·         Gofyn ar ran trigolion lleol i ddiwygio’r oriau gwaith a ganiateir i hepgor dydd Sadwrn i leihau’r effaith arnynt.

 

(c)     Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod amod 21 yn nodi bod rhaid i’r ymgeisydd ddangos bod llysiau’r dial wedi eu gwaredu o’r safle cyn symud ymlaen i ddatblygu. O ran gweithio ar ddydd Sadwrn, bod amser gweithio wedi ei gyfyngu awr a hanner bob ochr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2

5.3

Cais Rhif C18/0249/41/MG - Madryn Arms, Chwilog, Pwllheli pdf eicon PDF 82 KB

Cais materion a gadwyd yn ol ar gyfer codi 15 tŷ preswyl i gynnwys 5 uned fforddiadwy a ganiatawyd yn amlinellol o dan C14/0061/41/AM.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Aled Ll. Evans

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi 15 tŷ preswyl i gynnwys 5 uned fforddiadwy a ganiatawyd yn amlinellol o dan C14/0061/41/AM.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn ymwneud â materion a gadwyd yn ôl a oedd yn cynnwys llunwedd, graddfa, golwg a thirweddu y safle. Nodwyd y byddai’r bwriad yn darparu 1 byngalo 2 lofft fforddiadwy, 11 tŷ teras a thai par 3 lloft (4 ohonynt yn fforddiadwy) a 3 tŷ sengl 4 llofft yn unol â’r caniatâd cynllunio amlinellol.

 

         Amlygwyd bod y cynlluniau gwreiddiol a gyflwynwyd yn cynnig dyluniad plaen heb nodweddion lleol. Roedd y cynlluniau diwygiedig yn cynnig dyluniad oedd yn cael ei ystyried i fod yn well na’r cynlluniau gwreiddiol, ac ni ystyrir y gellir gwrthod y bwriad erbyn hyn ar sail ei ddyluniad yn unig.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

                         

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

Amod:

Gorffeniad allanol.

5.4

Cais Rhif C18/0780/20/LL - Fferm Plas Llanfair, Ffordd Caernarfon, Y Felinheli pdf eicon PDF 144 KB

Lleoli 4 uned llety gwyliau tymhorol ar ffurf cwt bugail ynghyd a cwt cawod (cais diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan gyfeirnod C18/0393/20/LL).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Gareth Wyn Griffith

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Lleoli 4 uned llety gwyliau tymhorol ar ffurf cwt bugail ynghyd a cwt cawod (cais diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan gyfeirnod C18/0393/20/LL).

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Hydref 2018 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

         Nodwyd nad oedd y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor ar sail ei leoliad, graddfa a’i effaith andwyol ar fwynderau gweledol yr ardal leol.

 

         Eglurwyd bod safle’r cais yng nghornel cae agored ei natur ar yr arfordir ger glannau’r Fenai. Nodwyd er gwaethaf nad oedd yr ardal gyfagos wedi ei chydnabod na’i dynodi fel tirlun arbennig, credir byddai’r bwriad yn parhau i amharu’n andwyol ar gymeriad a naws agored y tirlun/parcdir lleol gan y byddai’n creu datblygiad ymwthiol o fewn tirwedd cefn gwlad.

 

         Argymhellwyd gwrthod y cais ar sail effaith andwyol ar fwynderau gweledol ynghyd ag effaith andwyol y datblygiad arfaethedig ar fwynderau preswyl a chyffredinol deiliaid cyfagos.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei bod yn cynrychioli grŵp o 7 tŷ yn Llanfair Hall;

·         Bod lleoliad yr unedau wedi eu symud ychydig o gymharu â’r cais gwreiddiol ond byddent yn parhau i fod yn ddolur ar y dirwedd agored;

·         Byddai’r bwriad yn cael effaith ar fywyd gwyllt a bioamrywiaeth;

·         Pryder o ran yr effaith ar dawelwch yr ardal;

·         Pryder o ran yr effaith ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn;

·         Byddai caniatáu’r cais yn gosod cynsail o ran datblygiadau o’r fath ar lannau’r Fenai.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Ei fod wedi cefnogi’r cais yn y cyfarfod blaenorol a’i fod yn parhau i fod yn gefnogol i’r cais;

·         Mai ar fore’r cyfarfod cysylltodd trigolion Llanfair Hall gydag ef;

·         Byddai’r datblygiad oddeutu 130 medr i ffwrdd o’r tai;

·         Tymhorol oedd yr unedau a byddent yn cael eu symud;

·         Bod y bwriad yn cyd-fynd gyda pholisïau twristiaeth ac economaidd;

·         Byddai’r unedau yn cael eu sgrinio gan y coed a ni fyddent yn cael effaith ar y trigolion;

·         Nid oedd yr Uned Drafnidiaeth yn gwrthwynebu’r bwriad;

·         Ar ddeall mai ail-dŷ oedd yr agosaf i’r datblygiad;

·         Gofyn i’r Pwyllgor dderbyn yr hyn a nodwyd gan yr ymgeisydd yn y cyfarfod blaenorol a chefnogi pobl leol.

 

(ch)  Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Er yn cydymdeimlo efo’r ymgeisydd, roedd y datblygiad yn y lleoliad anghywir. Dylai’r ymgeisydd drafod efo’r swyddogion os oedd safle gwell ar eu tir a oedd yn llai gweladwy;

·         Pryder o ran effaith y datblygiad ar dŷ cyfagos, roedd y ffaith ei fod yn ail-dŷ yn amherthnasol;

·         Byddai gwrych uwch yn effeithio ar yr olygfa;

·         Gwerthfawrogiad o’r ymweliad safle lle gwelwyd agosatrwydd y safle i’r tŷ agosaf. Yn hoff o’r cytiau bugail, yn bechod na ellir diwygio’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4

5.5

Cais Rhif C18/0640/18/LL - The Bull Inn, Stryd Fawr, Deiniolen pdf eicon PDF 112 KB

Newid defnydd tafarn wag yn llety gwyliau.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Elfed W. Williams

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd tafarn wag yn llety gwyliau.

 

(a)     Nododd y Rheolwr Cynllunio bod swyddogion wedi sylwi ar yr angen i’r ymgeisydd gyflwyno cynllun busnes ac nad oedd unrhyw fai ar yr ymgeisydd. Nododd y derbyniwyd cynllun busnes ar yr 2il o Dachwedd, felly gofynnir i ohirio’r cais er mwyn i’r swyddogion ymgynghori ar y cynllun busnes a’i ystyried fel rhan o’r asesiad.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais.

5.6

Cais Rhif C18/0718/39/LL - Tir ger Tŷ Adda, Abersoch, Pwllheli pdf eicon PDF 101 KB

Diwygio amod 2 ar ganiatad cynllunio C17/1161/39/LL er diwygio dyfnder y balconi o 1.5 medr i 2.5 medr.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dewi W. Roberts

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Diwygio amod 2 ar ganiatâd cynllunio C17/1161/39/LL er diwygio dyfnder y balconi o 1.5 medr i 2.5 medr.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y balconi arfaethedig wedi ei leoli tua 18 medr oddi wrth y tŷ preswyl agosaf a byddai’r tŷ hefyd ar ongl o’i gymharu â lleoliad y tai o’i gwmpas fyddai’n osgoi gor-edrych uniongyrchol i mewn i unrhyw dŷ. Er hyn, roedd rhaid hefyd ystyried y potensial o or-edrych i erddi preifat cyfochrog ond yn yr achos yma ystyrir fod y pellter rhwng y tŷ newydd a’r tai cyfagos a’u gerddi yn atal hyn i lefel fyddai’n cael ei ystyried yn annerbyniol. Nodwyd nad oedd y bwriad yn debygol o amharu ar fwynderau trigolion cyfagos.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Mai ymestyniad bychan o 1 medr a fyddai i led y balconi;

·         Bod cryn drafodaeth wedi bod efo’r swyddogion o ran y bwriad;

·         Yn cytuno efo argymhelliad y swyddogion;

·         Rhoddwyd ystyriaeth i’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd.

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod trigolion cyfagos yn pryderu o ran effaith y bwriad ar eu preifatrwydd;

·         Bod amod ar y cais blaenorol mai fel ffordd droed yn unig y defnyddir y balconi;

·         Ei fod yn derbyn nifer o gwynion o ran effaith datblygiadau tai haf ar breifatrwydd trigolion;

·         Nid oedd pellter y balconi o’r tŷ preswyl agosaf yn llawer o bellter;

·         Pe caniateir y cais, dylid gosod amod bod y drysau i’r balconi o wydrau afloyw ynghyd â chanllaw lefel uchel gyda gwydr afloyw o amgylch yr holl falconi.

 

(ch)   Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

         Nododd aelod nad oedd y bwriad yn golygu llawer o wahaniaeth ym maint y balconi a bod egwyddor y datblygiad eisoes wedi ei gadarnhau.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

         Amodau:

1.    5 mlynedd

2.    Unol gyda chynlluniau

3.    Angen i’r llechi ar y to a’r deunyddiau waliau allanol fod yn unol gyda’r hyn gytunwyd yng nghais C18/0613/39/AC

4.    Cynllun tirlunio i’w gwblhau yn unol gyda’r cynllun a gymeradwywyd yng nghais C18/0613/39/AC

5.    Tynnu hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer adeiladau cwrtil

6.    Dŵr wyneb / draenio tir ddim i gysylltu i’r garthffos gyhoeddus

7.    Dŵr aflan a dŵr wyneb i ddraenio ar wahan o’r safle

5.7

Cais Rhif C18/0873/40/LL - Tir gyferbyn a Tŷ Gwyn, Rhosfawr, Y Ffôr, Pwllheli pdf eicon PDF 82 KB

Codi stabl a storfa borthiant a pheiriannau amaethyddol

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Peter Read

 

Dolen i’r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Codi stabl a storfa borthiant a pheirannau amaethyddol.

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y cyflwynir y cais i’r Pwyllgor oherwydd ei fod yn gais gan berthynas agos i aelod o staff cyfredol y Gwasanaeth Cynllunio.

 

         Nodwyd bod y bwriad yn ymwneud â chodi adeilad stabl a storfa fechan ger eiddo presennol. Ymhelaethwyd bod yr eiddo agosaf, sef Pen Cefn, dros 50 medr i ffwrdd o safle’r datblygiad a ystyrir yn bellter mwy na rhesymol i sicrhau na fyddai effaith andwyol sylweddol ar eu mwynderau.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Holodd aelod a fyddai’n bosib gofyn i’r ymgeisydd arwyddo cytundeb 106 o ran defnydd amaethyddol yn unig i’w atal rhag troi i dŷ haf yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Cynllunio y byddai’n afresymol gwneud hyn ac argymhellir  gosod amod defnydd amaethyddol yn unig. Eglurodd yr Uwch Gyfreithiwr os gellir delio efo mater drwy osod amod, gosodir amod yn hytrach na drwy gytundeb 106.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed newid defnydd, nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod y cais ar gyfer pwrpas penodol ond fe ellir gwneud cais yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

         Amodau:

1.    Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.    Yn unol gyda’r cynlluniau.

3.    Amod amaethyddol