skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Linda A. W. Jones (Aelod Lleol).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol a nodi materion protocol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 104 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2019, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Mawrth 2019, fel rhai cywir.

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

5.1

Cais Rhif C17/0512/03/AM - Cyn Safle Garej Gwylfa, Ffordd Manod, Manod, Blaenau Ffestiniog pdf eicon PDF 135 KB

Cais amlinellol gyda'r holl faterion wedi eu cadw yn ôl i godi 7 tŷ unllawr ar wahân i'r henoed gyda datblygiadau cysylltiol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Linda A. W. Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais amlinellol gyda'r holl faterion wedi eu cadw yn ôl i godi 7 tŷ unllawr ar wahân i'r henoed gyda datblygiadau cysylltiol.

 

(a)      Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli tu mewn i ffin datblygu ardal Manod ym Mlaenau Ffestiniog. Nodwyd y gallai’r safle fod yn addas ar gyfer datblygiad tai ond ni dderbyniwyd gwybodaeth digonol i asesu’r cais yn llawn yn erbyn y polisïau perthnasol. Adroddwyd y cysylltwyd â’r asiant ar sawl achlysur am wybodaeth ychwanegol, ond ni dderbyniwyd gwybodaeth ychwanegol. Eglurodd bod y cais wedi ei gyflwyno ers 2017, rhoddwyd cyfle digonol i’r ymgeisydd gyflwyno gwybodaeth ychwanegol felly penderfynwyd asesu’r cais. Nodwyd er ei fod yn sefyllfa anffodus roedd rhaid dod â’r mater i ben.

 

Tynnwyd sylw at yr argymhelliad i wrthod y cais. Ymhelaethwyd y gallai’r safle fod yn addas pe byddai’r ymgeisydd yn dymuno cyflwyno cais gyda’r wybodaeth angenrheidiol. 

        

(b)     Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod yng nghyswllt gohirio’r cais, nododd y Rheolwr Cynllunio bod cyfnod amser rhesymol wedi ei roi i’r ymgeisydd i gyflwyno gwybodaeth. Mewn ymateb i gwestiwn pellach, ymhelaethodd nad oedd cyfiawnhad wedi ei dderbyn ar gyfer darparu 7 tŷ o’r un math felly nid oedd y bwriad yn cyd-fynd â gofynion Canllaw Cynllunio Atodol Cymysgedd Tai.

 

Holodd aelod os oedd y datblygiad tai ar gyfer tai cymdeithasol. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio nad oedd cymdeithas dai ynghlwm â’r bwriad.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

Rhesymau:

 

1.      Nid yw’r datblygiad arfaethedig yn cyflawni cymysgedd priodol o dai nac yn darparu unrhyw dai fforddiadwy ac felly ystyrir fod y bwriad yn groes i ofynion perthnasol polisïau ISA 1, TAI 8 a TAI 15 ynghyd â gofynion perthnasol Chanllawiau Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy a Chymysgedd Tai.

 

2.     Nid yw’r cais fel a gyflwynwyd yn darparu tystiolaeth i brofi’r angen am y math o unedau fel a fwriedir, o ganlyniad, credir fod y bwriad yn groes i ran 1c o bolisi PS1 gan na ellir ystyried yr effaith ar yr iaith Gymraeg.

5.2

Cais Rhif C18/1198/45/AM - Cyn Gae Hoci, Allt Salem, Pwllheli pdf eicon PDF 148 KB

Adeiladu 15 o dai annedd, gyda 5 i fod yn dai fforddiadwy, creu mynediad gerbydol newydd a ffordd fynediad fewnol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dylan Bullard

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu 15 o dai annedd, gyda 5 i fod yn dai fforddiadwy, creu mynediad cerbydol newydd a ffordd fynediad fewnol.

        

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn gais amlinellol gyda’r mynediad a gosodiad yn ffurfio rhan o’r cais amlinellol ac yn faterion i’w ystyried. Eglurwyd bod materion edrychiad, tirweddu a graddfa yn faterion a gadwyd yn ôl ac felly ddim yn faterion i’w ystyried fel rhan o’r cais. Nodwyd y byddai’r datblygiad yn cynnwys cymysgedd o dai unllawr a deulawr 2,3 a 4 ystafell wely.

 

          Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli tu mewn i ffin datblygu Pwllheli ac wedi ei ddynodi ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLl). Nodwyd y byddai 5 o’r tai ar gyfer angen fforddiadwy, sef unedau 2 ystafell wely a oedd yn cynnwys 4 tŷ teras ac 1 byngalo. Amlygwyd bod yr Uned Strategol Tai wedi cadarnhau'r angen am y math yma o dai ym Mhwllheli. Nodwyd bod y bwriad yn cynnig amrywiaeth briodol o dai ar y safle gan gydymffurfio â gofynion polisi TAI 8 o’r CDLl ac yn unol â’r Canllaw Cynllunio Atodol Cymysgedd Tai.

 

          Nodwyd o ran materion mwynderau gweledol a mwynderau cyffredinol a phreswyl y gellir sicrhau bod y materion yma yn dderbyniol drwy’r cais materion a gadwyd yn ôl ynghyd a’r amodau a argymhellir ar y cais gerbron. Ymhelaethwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt bioamrywiaeth a thrafnidiaeth. Ychwanegodd bod y Cyngor Tref yn gefnogol i’r cais.

         

          Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a oedd yn cynnwys cadarnhad gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd mai’r cyfraniad ariannol a fyddai’n ofynnol tuag at lefydd chwarae / mannau agored oedd £5,001.71. Eglurwyd y byddai’r cyfraniad yn cael ei sicrhau drwy gytundeb 106.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

          Nodwyd bod yr argymhelliad wedi ei ddiwygio i’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad, ar sail y wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd nad oedd yr ymgeisydd wedi cynnal trafodaethau efo cymdeithas dai yng nghyswllt trosglwyddo’r tai ar hyn o bryd oherwydd bod y cais yn gais amlinellol ond bod bwriad i wneud hyn ac i adeiladu’r tai i safonau adeiladu cymdeithasau tai (safon ‘DQR’) a fyddai’n galluogi trosglwyddo’r unedau i gymdeithas dai. Argymhellwyd sicrhau’r tai fforddiadwy drwy amod yn hytrach na drwy gytundeb 106 oherwydd y gellir asesu’r disgownt o dan gais materion a gadwyd yn ôl pan fyddai manylion megis dyluniad a maint wedi ei gadarnhau. Argymhellwyd yn ogystal i osod amod ychwanegol er mwyn sicrhau bod enwau Cymraeg i’r tai/stad.

         

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Mai cais amlinellol oedd gerbron a bod gosodiad y safle a mynediad i’w gytuno;

·         Byddai 5 tŷ yn dai fforddiadwy ac roedd amod i sicrhau hyn yn dderbyniol i’r ymgeisydd;

·         Gan mai cais amlinellol a gyflwynwyd nid oedd yr ymgeisydd wedi cysylltu efo cymdeithas dai  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2