Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Neuadd Dwyfor - Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Simon Glyn, Louise Hughes, Elin Walker Jones a
Dilwyn Lloyd. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol a nodi materion protocol. Cofnod: Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd John
Brynmor Hughes, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar
y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0027/39/LL); ·
Y Cynghorydd Annwen
Daniels, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0154/03/LL). Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac
ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS I nodi
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi
cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 10 Mehefin
2019, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod
blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2019, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno
adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac
ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C19/0149/46/LL - Congl y Cae, Llangwnadl, Pwllheli PDF 158 KB Dymchwel
adeilad allanol a chodi estyniad unllawr ar y tŷ ac addasu adeilad allanol
yn 2 uned wyliau. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Simon Glyn Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel adeilad allanol a chodi estyniad unllawr ar y
tŷ ac addasu adeilad allanol yn 2 uned wyliau. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y
Pwyllgor a gynhaliwyd ar 20 Mai 2019 er mwyn cael cyfle i
ystyried cyd-destun apêl cais rhif (C18/0023/42/LL),
a wrthodwyd am resymau yn ymwneud â gormodedd o ail gartrefi yn yr ardal.
Nodwyd yn sgil y ffigyrau a nodwyd yng nghanlyniad yr apêl, ystyriwyd bod angen
ail asesu’r cais yn erbyn y ffigyrau perthnasol. Nodwyd bod cais ar gyfer ‘Dymchwel adeilad allanol sydd wedi ei gysylltu
i’r tŷ a chodi estyniad unllawr yn ei le’, a oedd yn ffurfio rhan o’r cais
gerbron, wedi ei ganiatáu ar 28 Mehefin 2019. Adroddwyd bod apêl am ddiffyg penderfyniad ar y cais wedi ei gofrestru
gyda’r Arolygiaeth Cynllunio. Eglurwyd pe gwrthodir neu gohirir y cais byddai’r
apêl yn parhau. Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd, a oedd yn cynnwys
sylwadau Uned Cefnogi Busnes yr Adran Economi a Chymuned ar gadernid y cynllun
busnes. Nodwyd bod Polisi TWR 2 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
(CDLl) yn caniatáu cynigion i drosi adeiladau presennol megis adeiladau
amaethyddol yn llety gwyliau, cyn belled â’u bod yn cydymffurfio gyda 5 maen
prawf. Cyfeiriwyd at faen prawf ‘v’, a oedd yn gofyn ‘Nad yw’r datblygiad yn
arwain at ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal’. Amlygwyd bod yr ymgeisydd, yn unol â gofynion Polisi TWR 2, wedi
cyflwyno cynllun busnes cynhwysfawr a oedd yn cynnwys ffigyrau buddsoddi,
costau a ffigyrau gosod disgwyliedig ac ystyriwyd fod ei gynnwys yn realistig
ac yn dangos hyfywedd fel defnydd gwyliau. Roedd Uned Cefnogi Busnes yr Adran
Economi a Chymuned yn cydweld gyda’r canfyddiadau yma a’u bod yn fodlon ei fod
yn gynllun busnes addas ar gyfer y cais. Nodwyd yr aseswyd gormodedd yng nghyd-destun Canllaw Cynllunio Atodol:
Llety Gwyliau a phenderfyniad apêl Tŷ’n Pwll, Nefyn. Amlygwyd bod yr
asesiad wedi cadarnhau bod 14% o’r unedau domestig yn ardal Cyngor Cymuned
Tudweiliog yn ail gartrefi, felly yn uwch na’r trothwy 10% a ddefnyddiwyd gan
yr Arolygydd ar yr apêl yn Nefyn. Eglurwyd nad oedd yr ymgeisydd yn cytuno
gyda’r ffigyrau ac yn nodi nad oedd y mwyafrif o ail gartrefi yn cael eu gosod
a’i fod yn anghytuno â’r sail yr aseswyd gormodedd. Nodwyd er gwaethaf dadleuon yr ymgeisydd ac er bod holl faterion eraill
TWR 2 yn dderbyniol, ar sail y ffigyrau cyfredol ac yng ngoleuni penderfyniad
ac asesiad yr Arolygydd ar apêl Tŷ’n Pwll, Nefyn roedd rhaid argymell
gwrthod y cais ar sail gormodedd o lety o’r fath yn groes i faen prawf ‘v’ TWR
2 y CDLl a throthwyon Canllaw Cynllunio Atodol: Llety Gwyliau (2011). (b) Yn manteisio ar yr hawl i
siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:- ·
Bod diwygiadau sylweddol
i’r bwriad er mwyn gwneud y datblygiad yn dderbyniol; · Bod argymhelliad y swyddogion wedi ei ddiwygio, gyda’r ffigwr o 14% o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Cais Rhif C18/1133/14/LL - Cwm Cadnant Valley, Ffordd Llanberis, Caernarfon PDF 135 KB Gosod 25 caban gwyliau ar gyfer defnydd gwyliau trwy'r flwyddyn yn lle 32 llain carafan teithiol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosod 25 caban gwyliau ar gyfer defnydd gwyliau trwy'r
flwyddyn yn lle 32 llain carafán deithiol. (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y bwriad yn golygu lleoli 25 uned
wyliau oddi fewn i safle cuddiedig ac oddi fewn i’r amgylchedd adeiledig ac fe gredir, ni fyddai’r bwriad yn arwain at ormodedd o
safleoedd carafanau/cabannau sefydlog cyffelyb yn nalgylch safle’r cais ac ni
fyddai’r datblygiad, ynddo’i hun, yn cael ardrawiad
sylweddol ac arwyddocaol ar gymeriad a mwynderau’r dirwedd leol. Eglurwyd y
byddai’r bwriad yn lleihau ar ddwysedd defnydd y safle presennol fel safle
teithiol gan ddisodli 32 carafán deithiol. Nodwyd o ystyried lleoliad cuddiedig y safle o fewn y treflun; ei raddfa
a oedd yn llai dwys na’r defnydd presennol, a’r ffaith ei fod yn ymddangos y
byddai’r llety gwyliau a’r safle’n gyffredinol yn darparu cyfleusterau o
ansawdd uchel, roedd y bwriad arfaethedig yn dderbyniol. Amlygwyd bod materion llifogydd ar rannau o’r safle a bod yr ymgeisydd
wedi symud y cabannau o’r rhan a oedd yn cael ei lifogi
ac nid oedd mynediad o fewn y parth llifogydd. Nodwyd bod Cyfoeth Naturiol
Cymru yn fodlon gyda’r bwriad. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod llawer o safleoedd
unedau sefydlog yn yr ardal, gyda’r nifer o unedau sefydlog yn yr ardal ymhell
dros riniog gormodedd. O’r farn bod trosi safle carafanau symudol i safle
unedau sefydlog parhaol yn gam rhy bell; ·
O ran pryder yr Uned
Dwristiaeth ynghylch yr orddarpariaeth o unedau sefydlog a’r prinder safleoedd
teithiol yn ardal Caernarfon, pa asesiad a wnaed? Roedd angen gwarchod y nifer
o safleoedd carafanau teithiol yn yr ardal; ·
Byddai’r bwriad yn
golygu llai o drafnidiaeth a ni fyddai’n weledol o unrhyw fan; ·
Yn well datblygiad na’r
un presennol. A fyddai’r ymgeisydd yn gwerthu’r cabanau neu eu gosod? ·
Byddai’r bwriad yn
welliant i’r safle gyda lleihad yn y nifer o unedau. Nid oedd y Cyngor Tref yn
gwrthwynebu’r bwriad, nid oedd yn bosib cyfyngu defnydd o’r safle i 11 mis yn
unol â’u dymuniad, ond fe fyddai gosod amod defnydd gwyliau yn unig/cadw
cofrestr yn sicrhau nad oedd y cabanau yn cael eu meddiannu fel cartrefi
parhaol. (c) Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, nododd y swyddogion: ·
Yng
nghyd-destun Polisi TWR 3 o’r CDLl, asesir gormodedd
o ran capasiti’r dirwedd leol ar gyfer ychwaneg o
ddatblygiadau siales neu garafanau gwyliau. Ni
fyddai’r datblygiad yn weledol yn y dirwedd; ·
Mai dymuniad
yr Uned Twristiaeth oedd cael ychwaneg o safleoedd teithiol. Bod safleoedd
teithiol yn yr ardal gyda photensial yn y dirwedd ar gyfer safleoedd teithiol
newydd. Nid oedd y bwriad yn tanseilio polisi cynllunio; ·
Bod Astudiaeth Capasiti a Sensitifrwydd y Dirwedd yn Ynys Môn, Gwynedd a’r
Parc Cenedlaethol (Cwmni Gillespies, 2014), yn nodi
bod capasiti ar gael ar gyfer datblygiadau bach; · Nid oedd bwriad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |
|
Cais Rhif C19/0027/39/LL - Tir ger Drws y Llan, Llanengan, Pwllheli PDF 174 KB Adeiladu 2 dŷ fforddiadwy (cais diwygiedig). AELOD LLEOL: Cynghorydd John Brynmor Hughes Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu 2 dŷ fforddiadwy (cais diwygiedig). (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi bod y safle yng nghefn gwlad ar gyrion clwstwr tai Llanengan.
Eglurwyd mai’r polisi tai perthnasol yng nghyswllt clystyrau oedd Polisi TAI 6
o’r CDLl, gyda’r polisi yn gallu caniatáu adeiladu
tai mewn clystyrau pe gellid cydymffurfio gyda’r holl feini prawf yn y polisi. Manylwyd ar y meini prawf: ·
Maen prawf 1: ‘Mae’r
angen am dŷ fforddiadwy ar gyfer angen lleol (yn unol â’r Rhestr Termau)
wedi’i brofi’ - Bod yr angen am dŷ fforddiadwy ar gyfer meddianwyr
cychwynnol tŷ rhif 1 wedi ei brofi ond nid oedd yr angen am dŷ
fforddiadwy ar gyfer deilydd tŷ rhif 2 wedi ei
brofi. Yn sgil hynny nid oedd y bwriad yn cwrdd yn llawn gyda maen prawf 1 o
ran profi angen am dŷ fforddiadwy. ·
Maen prawf 2: ‘Mae’r
safle yn safle mewnlenwi rhwng adeiladau sydd wedi’u
lliwio ar y Map Mewnosod perthnasol, neu mae’n safle sydd union gyferbyn â
chwrtil adeilad lliw’ - Nid oedd safle’r cais yn safle mewnlenwi
oherwydd nid oedd wedi ei leoli union gerllaw cwrtil adeilad a oedd wedi ei
liwio gyda’r ffordd sirol rhwng y tai a oedd wedi eu lliwio’n goch a’r safle.
Roedd Canllaw Cynllunio Atodol Tai Newydd mewn Pentrefi Gwledig yn rhoddi
syniad o’r math o safleoedd a oedd yn dderbyniol ac nid oedd safleoedd ble
roedd ffordd rhwng yr adeilad a oedd wedi ei liwio yn goch a’r safle yn rhai
addas. ·
Nid oedd pryder o ran
meini prawf 3 a 4. ·
Maen prawf 5: ‘Mae maint
yr eiddo yn adlewyrchu angen penodol am dŷ fforddiadwy yn nhermau maint y
tŷ yn gyffredinol a nifer yr ystafelloedd gwely’ - Roedd y tai dan sylw yn
rhai deulawr gydag arwynebedd llawr mewnol o oddeutu 116m2. Ers i’r
cais gael ei gyflwyno roedd Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) Tai Fforddiadwy
newydd wedi ei fabwysiadu. Roedd maint tai fforddiadwy wedi eu lleihau o
gymharu gyda’r CCA Tai Fforddiadwy blaenorol a bellach y maint ar gyfer tŷ
deulawr 5 person 3 ystafell wely oedd 94m2. Ni ystyriwyd fod maint y
tai yn adlewyrchu maint eiddo fforddiadwy. ·
Nid oedd pryder o ran
maen prawf 6. ·
Maen prawf 7: ‘Mae
mecanwaith i gyfyngu meddiannaeth y tŷ yn y lle cyntaf ac am byth wedi
hynny i’r rheini a chanddynt angen am dŷ fforddiadwy’ - Derbyniwyd fel
rhan o’r cais brisiad ar gyfer y tai arfaethedig wedi ei baratoi gan Beresford Adams a oedd yn nodi y byddai pris marchnad
agored y tai yn £325,000. Ni fyddai disgownt o 45% ynghlwm â chytundeb 106 Tai
Fforddiadwy yn gwneud y tai yn fforddiadwy i deuluoedd eraill yn yr ardal.
Roedd achlysuron ym mhlwyf Llanengan yn y gorffennol, ble’r
oedd pris tai yn uchel ac felly mewn gwirionedd nid oeddynt yn dai fforddiadwy.
O ganlyniad tynnwyd cytundebau 106 ar y tai gan eu gwneud yn dai marchnad
agored. Argymhellwyd i wrthod y cais oherwydd bod y bwriad yn groes ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.3 |
|
Cais Rhif C19/0154/03/LL - Market Hall, Church Street, Blaenau Ffestiniog PDF 131 KB Addasu
adeilad yn 14 fflat AELOD LLEOL: Cynghorydd
Annwen Daniels Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Addasu adeilad yn 14 fflat. (a) Adroddwyd bod sylwadau hwyr wedi eu derbyn
gan yr Uned Iaith a oedd yn nodi nad oeddent yn teimlo bod digon o wybodaeth
wedi ei gyflwyno gan y datblygwr er mwyn gallu llunio barn gyflawn ar effaith y
datblygiad ar yr Iaith Gymraeg, ac oherwydd aneglurder yn y dogfennau gan y
datblygwr ni allwyd cefnogi’r safbwynt na fyddai effaith. Gofynnwyd i’r
Pwyllgor ohirio’r cais er mwyn trafod gyda’r ymgeisydd ac i ddeall y sefyllfa
ieithyddol yng nghyd-destun yr hyn a gynigir fel rhan o’r bwriad. Cynigwyd ac eiliwyd i gynnal ymweliad safle. Pleidleisiwyd
ar y cynnig, disgynnodd y cynnig. PENDERFYNWYD gohirio’r
cais. |
|
Cais Rhif C19/0323/11/LL - 233-235, Stryd Fawr, Bangor PDF 122 KB Addasu'r llawr cyntaf a'r ail ar gyfer 8 uned
breswyl hunan gynhaliol ynghyd â newidiadau i edrychiad blaen yr adeilad. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Steve Collings Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Addasu'r llawr cyntaf a'r ail ar gyfer 8 uned breswyl hunangynhaliol
ynghyd a newidiadau i edrychiad blaen yr adeilad. (a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod Polisi TAI 9 o Gynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl) yn caniatáu isrannu eiddo
presennol i fflatiau hunangynhaliol cyn belled eu bod yn cydymffurfio gyda’r
meini prawf perthnasol. Nodwyd
bod Datganiad Cymysgedd Tai a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn datgan bod diffyg
darpariaeth ar gyfer unedau un llofft ym Mangor. Roedd y wybodaeth a
dderbyniwyd gan yr Uned Strategol Tai yn cadarnhau diffyg darpariaeth o’r math
yma o lety gan ddatgan bod 940 o ymgeiswyr ar gofrestr Tîm Opsiynau Tai'r
Cyngor a oedd yn dymuno cael unedau un llofft yn ardal Bangor, ac fe fyddai
caniatáu’r cais yn rhannol ymateb i’r galw am dai cymdeithasol o’r fath. Cadarnhawyd
er nad oedd y bwriad yn darparu mwy o unedau na’r ddarpariaeth tai dangosol bod
yr ymgeisydd wedi cyflwyno Datganiad Ieithyddol a Chymunedol o’i wirfodd.
Nodwyd bod yr Uned Iaith wedi dod i’r casgliad na fyddai’r datblygiad ynddo’i
hun yn cael effaith arwyddocaol a sylweddol ar gymeriad a chydbwysedd iaith o
fewn y gymuned. Roedd
y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol
am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. Argymhellwyd
i osod amod ychwanegol, i’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad, i sicrhau darpariaeth
storio gwastraff/biniau i ddiwallu anghenion yr unedau a ganiateir. (b) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod nifer cynyddol o
geisiadau i addasu adeiladau i unedau preswyl ym Mangor a bod angen gofyn a
oedd galw am y math yma o unedau; ·
Bod 940 o ymgeiswyr ar
gofrestr Tîm Opsiynau Tai'r Cyngor a oedd yn dymuno cael unedau un llofft yn
ardal Bangor; ·
Llawer o geisiadau o’r
fath yn cael eu caniatáu ond nid ydynt yn cael eu datblygu. Pryder y
gweithredir ar y ceisiadau ar yr un adeg gan olygu llawer o unedau newydd un
neu dwy lofft ar yr un pryd; ·
Nid oedd darpariaeth
parcio ar y safle, er bod cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, roedd meysydd
parcio a strydoedd yn llawn gyda gweithwyr yn parcio drwy gydol y dydd, gan
olygu nid oedd mannau parcio ar gyfer ymwelwyr. Roedd angen cadw golwg ar y
sefyllfa. (c) Mewn ymateb i’r sylwadau
uchod, nododd swyddog: ·
Gwneir
gwaith monitro gan ystyried y caniatadau cynllunio a’r rhai a oedd yn cael eu
gweithredu yng nghyd-destun y CDLl yn ei gyfanrwydd. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. 5 mlynedd. 2. Yn unol â’r cynlluniau. 3. Sicrhau bod 2 o’r unedau yn
rhai fforddiadwy drwy gyflwyno cynllun tai fforddiadwy. 4. Darpariaeth storio gwastraff/biniau i ddiwallu anghenion yr unedau. |
|
Cais Rhif C19/0414/18/LL - Gwaith Trin Dŵr Gwastraff Rhiwlas, Rhiwlas, Bangor PDF 100 KB Ymestyn
safle gwaith trin dŵr presennol ar gyfer gosod cyfarpar offer a thirweddu. AELOD LLEOL: Cynghorydd
Elwyn Jones Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ymestyn safle gwaith trin dŵr presennol ar gyfer gosod cyfarpar
offer a thirweddu. (a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi bod yr egwyddor o ganiatáu datblygiadau ar gyfer isadeiledd
gwasanaethau fel cyflenwad dŵr wedi ei selio ym Mholisi ISA 1 o Gynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. Nodwyd o ystyried graddfa a natur y
datblygiad credir bod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad. (b) Mewn ymateb i ymholiad gan aelod, nododd y
Rheolwr Cynllunio er mai cais gan Dŵr Cymru a gyflwynwyd, cyflwynwyd
sylwadau fel rhan o’r ymgynghoriad statudol gan uned wahanol o fewn Dŵr
Cymru. PENDERFYNWYD caniatáu’r cais. Amodau: 1. 5 mlynedd. 2. Yn unol â’r cynlluniau. 3. Tirlunio. 4. Cydymffurfio gyda mesurau lliniaru’r Adroddiad Ecolegol Rhagarweiniol. |