Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Berwyn Parry Jones, Gareth A. Roberts a Gruffydd Williams |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: ·
Y Cynghorydd Elin Walker Jones (sydd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C19/0716/25/LL) oherwydd bod ei gwr yn gyflogai i Goleg Menai a hefyd yn aelod
o Gyngor y Coleg. Roedd yr aelod o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a
gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 23.9.19 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23
Medi 2019, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau
mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C19/0556/21/LL Fferm Talybont Uchaf, Tal y Bont, Bangor PDF 121 KB Newid defnydd adeilad amaethyddol i weithdy mecanig trin peiriannau cychod (Defnydd Dosbarth B1) AELOD LLEOL: CYNGHORYDD DAFYDD MEURIG Dolen i'r dogfennau
cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid
defnydd adeilad amaethyddol i weithdy mecaneg trin peiriannau cychod (Defnydd
Dosbarth B1) Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd Roedd yr Aelodau
wedi ymweld ar safle a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi bod y cais yn ymwneud â throsi adeilad
amaethyddol presennol yn weithdy trin peiriannau cychod. Nodwyd ei fod yn gais
ôl weithredol gan i’r defnydd o’r adeilad eisoes fod wedi dechrau. Eglurwyd bod y bwriad yn cynnwys defnyddio’r adeilad yn bennaf ar gyfer
trwsio a rhoi gwasanaeth i beiriannau cychod ynghyd â storio cyfarpar morwrol
ar gyfer gwerthiant ar-lein yn bennaf.
Amlygwyd bod y busnes yn cyflogi naw aelod staff llawn amser gyda’r
bwriad o wasanaethu hyd at bum cwsmer y diwrnod (a fydd yn mynychu’r safle trwy
apwyntiad yn unig). Fe fyddai pum gofod
parcio ar gyfer cwsmeriaid ar y safle, pump yn benodol ar gyfer staff a saith
gofod ar wahân ar gyfer parcio cyffredinol.
Fe fyddai hefyd gofod penodol ar gyfer cadw hyd at bedwar cwch ar y
safle. Dywed y Datganiad Cynllunio a gyflwynwyd, y disgwylir hyd at bum
cludiant nwyddau / cychod i’r safle bob wythnos yn ystod yr haf gyda llai yn y
gaeaf. Lleolir y safle gerllaw adeiladau cyn fferm Tal y Bont Uchaf, sy’n cynnwys
tŷ sylweddol, anecs ac adeiladau allanol ac sy’n adeilad rhestredig (Gradd
II). Mae’r mynediad o’r ffordd gyhoeddus ar hyd trac preifat sydd ag oddeutu 120m ohono’n llwybr cyhoeddus. Mae’r adeilad mewn
ardal wledig oddeutu 1.2 km i’r dwyrain o ffin ddatblygu pentref Llandygai. Gohiriwyd gwneud penderfyniad yng nghyfarfod Pwyllgor
Cynllunio ar 23/09/19 er caniatáu trefnu ymweliad safle ac er mwyn ymgymryd ag asesiad pellach o effaith mwynderol y drafnidiaeth sy’n
defnyddio’r safle ar yr ardal leol. Amlygwyd nad oedd gan yr Uned
Drafnidiaeth wrthwynebiad i'r bwriad gan ddatgan na thybiwyd y byddai’r
datblygiad yn cael effaith andwyol ar unrhyw ffordd. Fodd bynnag, fe nodwyd bod cryn wrthwynebiad wedi dod o’r gymuned leol yn
honni bod y cynnydd sydd wedi digwydd yn y drafnidiaeth eisoes yn niweidiol i
ddiogelwch y ffordd a mwynderau lleol. (Dyma oedd sail cynnal ymweliad). Wrth ystyried defnydd blaenorol yr adeilad at ddefnydd
amaethyddol nodwyd nad oedd dim i rwystro cerbydau /
peirannau sylweddol rhag mynd a dod i’r safle at y diben hwnnw. Yn ogystal, wrth ystyried natur gyfyngedig y
safle, ni ystyriwyd bod gofod digonol i ymestyn y
busnes y tu hwnt i’w ffiniau presennol ac felly bydd maint y safle ynddo’i hun
yn cyfyngu ar faint y drafnidiaeth. Wedi pwyso a mesur
y cais a’r cynlluniau diwygiedig yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol ynghyd
a’r holl sylwadau a gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori,
ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu gyda’r amodau perthnasol ac
na fyddai niwed annerbyniol yn deillio o’r datblygiad i
fwynderau cymdogion na’r ardal ehangach. b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau canlynol. Nododd ei fod yn Gadeirydd Cyngor Cymuned, yn cynrychioli preswylwyr y lon ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C19/0398/11/LL Blakemore Cash and Carry, Ffordd Caernarfon, Bangor PDF 183 KB Cais i ddymchwel adeilad (Dosbarth defnydd B8) a chodi archfarchnad (Dosbarth defnydd A1), creu 113 man parcio, gwaith tirlunio meddal, ail strwythuro mynedfa'r safle, sy'n cynnwys creu cylchfan a newidiadau i drefniant parcio presennol o flaen siop Dunelm, ynghyd â newidiadau i'r fynedfa gwasanaethu AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD GARETH A ROBERTS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i ddymchwel adeilad
(Dosbarth defnydd B8) a chodi archfarchnad (Dosbarth defnydd A1), creu 113 man parcio, gwaith tirlunio meddal, ail strwythuro mynedfa’r safle, sy’n cynnwys creu
cylchfan a newidiadau i drefniant parcio
presennol o flaen siop Dunelm, ynghyd a newidiadau i’r fynedfa gwasanaethu a)
Cyfeiriwyd
at y daflen sylwadau ychwanegol lle nodwyd bod sylwadau ychwanegol wedi eu derbyn gan
yr ymgeisydd mewn ymateb i
asesiad yr Awdurdod o’r cais.
O ystyried bod y sylwadau hyn yn cyfeirio
at faterion mewn perthynas â profi’r angen am y datblygiad, awgrymwyd i’r Pwyllgor
ohirio’r cais er mwyn caniatáu
i’r swyddogion asesu’r sylwadau yn llawn. b)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ohirio’r cais PENDERFYNWYD gohirio y cais a chynnal ymweliad safle. |
|
Cais Rhif C19/0716/25/LL Ty Menai and Llwyn Brain, Ffordd Penlan, Parc Menai PDF 189 KB Newid defnydd adeilad o Ddefnydd Dosbarth B1 (swyddfeydd) i Ddefnydd Dosbarth D1 (sefydliadau di-breswyl) ynghyd â llecynau parcio ychwanegol, llwybrau cerdded, safle bws a rhodfa AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD MENNA BAINES Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Newid defnydd adeilad o Ddefnydd Dosbarth B1 (swyddfeydd) i Ddefnydd Dosbarth
D1 (sefydliadau dibreswyl) ynghyd a llecynnau parcio ychwanegol, llwybrau cerdded, safle bws a rhodfa Cyfeiriwyd at y daflen sylwadau ychwanegol lle nodwyd bod asiant yr ymgeisydd wedi
gwneud cais i ohirio’r cais
er mwyn bod mewn sefyllfa i
ymateb i faterion sydd wedi
codi yn yr
adroddiad i’r Pwyllgor - yn benodol, i)
Ail ddatblygu safle presennol Grŵp Llandrillo-Menai ger Ysgol Friars, Bangor ii)
Dehongli Polisi ISA3 a CYF5 o’r Cynllun
Datblygu Lleol. Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio’r
cais Amlygodd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd mai prif ystyriaethau
cynllunio y cais dan sylw fyddai’r
math o ddefnydd a lleoliad
y safle. Awgrymodd hefyd, petai penderfyniad
i ohirio byddai’n fuddiol ymweld â’r safle
presennol a safle’r cais. PENDERFYNWYD gohirio y cais a threfnu ymweliadau i safle presennol
Grŵp Llandrillo Menai Penrhosgarnedd a safle’r cais yn
Ffordd Penlan, Parc Menai. |