Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Cofnod: a)
Y Cynghorydd Gruffydd Williams (sydd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif
C19/0733/41/LC) oherwydd bod ei gariad hefo safle adeiladu yn Chwilog Y Cynghorydd Simon Glyn (sydd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C19/1127/46/DT)
oherwydd ei fod yn frawd i’r ymgeisydd Roedd yr aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a
gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau. b)
Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: · Y Cynghorydd Jason
Wayne Parry (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 5.1 ar y
rhaglen (cais cynllunio C19/0524/14/R3) · Y Cynghorydd
Eirwyn Williams (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 5.2 ar y rhaglen
(cais cynllunio C19/0890/35/MG) |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr
Lousie Hughes a Dilwyn Lloyd |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 13
Ionawr 2020 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 o
Ionawr 2020, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C19/0524/14/R3 Tir Canolfan Segontiwm, Pendalar, Caernarfon PDF 166 KB Cais llawn i godi 4 uned byw hunan gynhaliol a chreu ffordd fynediad ynghyd ag adnoddau cysylltiol AELOD LLEOL: CYNGHORYDD JASON WAYNE PARRY Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i godi
4 uned byw hunan gynhaliol i’w defnyddio fel llety dros dro ar gyfer unigolion
bregus; creu ffordd fynediad ynghyd ag adnoddau cysylltiol Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a
dderbyniwyd a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan
nodi bod y datblygiad arfaethedig wedi
ei leoli ar ran o gyn safle Canolfan Segontiwm o fewn ffiniau datblygu tref
Caernarfon sydd wedi ei ddynodi yn y Cynllun Datblygu Lleol fel Canolfan
Gwasanaeth Trefol. Amlygwyd mai defnydd olaf y safle oedd Ysgol Pendalar a
Chanolfan Segontiwm (Canolfan dydd i oedolion gydag anawsterau dysgu). Nodwyd
bod defnydd o’r safle wedi dod i ben ers rhai blynyddoedd gyda’r holl adeiladau
wedi eu dymchwel gan adael dim ond lloriau concrid mewn lle. Eglurwyd bod y
bwriad yn ymwneud a chodi 4 uned / pod byw sydd wedi eu cynllunio a’u darparu
er mwyn cyrraedd anghenion unigolion bregus. Ategwyd mai llety dros dro yw’r
unedau fyddai’n cynorthwyo defnyddwyr i sefydlogi eu bywydau a symud ymlaen i
lety mwy parhaol. Nodwyd y byddai’r podiau ym mherchnogaeth y Cyngor ac yn cael
eu rheoli ar gyfer llety tymor byr drwy’r Cyngor mewn partneriaeth â landlord
cymdeithasol cofrestredig. Ystyriwyd bod
maint (unllawr cymharol fychan), lleoliad, edrychiadau a gorffeniadau allanol
yr unedau yn dderbyniol ac wedi eu dylunio i bwrpas penodol ac na fyddent yn
achosi effaith andwyol gweledol. Ystyriwyd bod y pellter rhwng yr adeiladau
newydd â’r ffin â chefnau tai Llys Talar yn dderbyniol ac ni fyddai’n creu
effaith andwyol sylweddol ar fwynderau trigolion cyfagos. Cydnabuwyd bod
sylwadau wedi ei derbyn gan drigolion o Ffordd Cwstenin, Ffordd Llanbeblig a
Stryd y Faenol ar ffurf deiseb yn pryderu am effaith y datblygiad ar eu
mwynderau a’r ardal yn gyffredinol. Yng nghyd-destun
materion priffyrdd, adroddwyd bod bwriad cynnal gwelliannau i’r ffordd gan gynnwys lledu’r ffordd bresennol a
chreu llwybr cerdded ynghyd a chreu man troi i mewn at yr unedau. Ategwyd bod y
safle mewn lleoliad hygyrch, oddeutu 400 - 500m o ganol y dref tra bod y
gosodiad a’r dyluniad yn sicrhau mynediad i ystod eang o ddefnyddwyr. Nid oedd
gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad. Yng nghyd-destun
materion archeolegol, nodwyd bod y safle wedi ei leoli ger safle Caer Rufeinig
Segontiwm sydd yn heneb gofrestredig. Amlygwyd bod trafodaethau wedi ei cynnal
ynglŷn ag effaith y datblygiad arfaethedig ar yr heneb gofrestredig. O
ganlyniad i sylwadau a phryderon a godwyd gan CADW a Gwasanaeth Cynllunio
Archeolegol Gwynedd, ail ymgynghorwyd yn llawn gyda’r cyrff arbenigol a derbyniwyd
ymatebion gydag amodau i’w hystyried. Wedi ystyried yr
holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a
chenedlaethol yn ogystal â’r holl sylwadau a dderbyniwyd , ystyriwyd y bwriad
yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a gofynion polisïau perthnasol. b) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau canlynol:- · Bod diffyg ymgynghori gyda thrigolion lleol - deiseb wedi ei llofnodi yn mynegi gwrthwynebiad. Dim digon o sylw at y ddeiseb yn yr adroddiad (5.15 - brawddeg yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C19/0890/35/MG Station Bakery, Stryd Fawr, Criccieth PDF 90 KB Cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer dymchwel adeiladau presennol a chodi 7 uned preswyl fel a ganiatawyd yn amlinellol o dan gyferinod C17/0912/35/AM AELOD LLEOL: CYNGHORYDD EIRWYN WILLIAMS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais materion a
gadwyd yn ôl ar gyfer dymchwel adeiladau presennol a chodi 7 uned breswyl fel y
caniatawyd yn amlinellol o dan gyfeirnod C17/0912/35/AM a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y
cais gan nodi bod y cais gerbron ar gyfer asesu dyluniad a thirweddu’r unedau
yn unig gan fod yr egwyddor ynghyd â’r materion yn ymwneud gyda mynedfa,
llunwedd a graddfa eisoes wedi eu caniatáu o dan y cais amlinellol.
Pwysleisiwyd bod 2 allan o’r 7 uned breswyl yn unedau fforddiadwy. Nodwyd fod
gwaith mewn cyswllt a’r datblygiad gerbron wedi cychwyn ar y safle, a bod yr
adeiladau presennol eisoes wedi dymchwel, ond nad oes caniatâd cynllunio llawn
yn bodoli ar y safle ar hyn o bryd ac felly mae’r gwaith wedi dod i ben am y
tro. Yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus, derbyniwyd sylwadau
ynglŷn ag uchder yr adeiladau. Esboniwyd bod y raddfa eisoes wedi ei
ganiatáu o dan y caniatâd amlinellol, ac mae’r cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan
o’r cais gerbron yn cydymffurfio â’r hyn a ganiatawyd o dan y cais amlinellol.
Nodwyd bod y cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais gerbron yn cadarnhau fod
graddfa ac uchder yr anheddau yn parhau yn unol â’r hyn a ganiatawyd o dan y
caniatâd amlinellol, ac yn cadarnhau lefelau llawr gorffenedig sy’n rhyddhau
amod 13 o’r caniatâd amlinellol hefyd. Mae’r cynllun bloc yn cadarnhau’r
gorffeniad caled a meddal o ran tirweddu sy’n rhyddhau’r elfen materion a
gadwyd yn ôl yn amod 3 o’r caniatâd amlinellol yn ogystal â gofyniad amod 14
sy’n gofyn am gynllun tirlunio. Nodwyd bod y dyluniad bwriedig yn syml ac mai’r
bwriad yw gorffen yr anheddau gyda tho llechi a’r waliau allanol wedi eu rendro
yn lliwiau gwyn a llwyd. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd.
Amlygwyd nad yw safle’r cais yn cynnwys y llwybr cyhoeddus sy’n rhedeg heibio
ochr y safle. Mae’r safle, sydd i gyd o fewn ffin ddatblygu Criccieth, wedi ei
leoli o fewn ardal gyda nodweddion dyluniadol amrywiol sy’n cynnwys cymysg o
anheddau amrywiol ac adeiladau masnachol. Mae’r dyluniad, gorffeniad a’r
tirweddu bwriedig yn syml a nodwyd ei fod yn cydweddu â’r ardal ac yn
dderbyniol o ran effaith weledol. Eglurwyd na fyddai’r bwriad gerbron yn cael
effaith andwyol ar fwynderau cyffredinol na phreifatrwydd y trigolion cyfagos. Cadarnhawyd fod y materion a gadwyd yn ôl ar ganiatâd
amlinellol i ddymchwel yr eiddo blaenorol a chodi 7 uned breswyl o dan
gyfeirnod C17/0912/35/AM yn dderbyniol ac yn unol â’r polisïau cynllunio. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
Aelod Lleol nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r cais. c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r
argymhelliad. ch) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan yr aelodau: ·
bod y cais amlinellol wedi cael caniatâd beth
bynnag a doedd dim gwrthwynebiadau i’r materion a gadwyd yn ôl. ·
Cymeradwywyd bod 2 allan o’r 7 uned yn unedau
preswyl fforddiadwy. PENDERFYNWYD caniatáu y cais gan nodi fod amodau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais i newid amod 1 o C14/0061/41/AM ac amod 1 o C18/0249/41/MG er mwyn ymestyn cyfnod cychwyn y gwaith, newid gosodiad a dyluniad y tai bwriedig ynghyd â’r cyfran o unedau fforddiadwy yn y cytundeb 106 cysylltiol AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD ALED EVANS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais i newid amod
1 o C14/0061/41/AM ac amod 1 o C18/0249/41/MG er mwyn ymestyn
cyfnod cychwyn y gwaith, newid gosodiad
a dyluniad y tai bwriedig ynghyd â’r gyfran o unedau
fforddiadwy yn y cytundeb 106 cysylltiol a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan egluro bod y cais yn gais
llawn ar gyfer newid amod
1 o ganiatâd cynllunio C14/0061/41/AM
ac amod 1 o ganiatâd
C18/0249/41/MG er mwyn ymestyn cyfnod cychwyn gwaith, newid gosodiad a dyluniad y tai bwriedig ynghyd a’r gyfran
o unedau fforddiadwy yn y Cytundeb 106 cysylltiol. Eglurwyd
bod y caniatâd amlinellol a
chaniatâd materion a gadwyd yn ôl
eisoes wedi eu rhoi o dan
gyfeirnodau C14/0061/41/AM ac C18/0249/41/MG ar gyfer codi
15 tŷ preswyl i gynnwys 5 uned
fforddiadwy. Nodwyd bod y cais gerbron yn
golygu newid gosodiad a dyluniad y tai ynghyd a lleihau’r
gyfran o dai fforddiadwy o 5 i 2. Eglurwyd bod egwyddor y bwriad wedi ei dderbyn
a’i sefydlu eisoes drwy’r caniatâd
cynllunio amlinellol a materion a gadwyd yn ôl sydd
eisoes wedi eu caniatáu ar
y safle. Nodwyd bod y caniatadau hyn sydd wedi
eu penderfynu yn unol â’r
Cynllun Datblygu Unedol ar y pryd
a’r polisïau eraill perthnasol, yn parhau ar
y safle ac yn sefydlu egwyddor y bwriad gerbron. Mae hyn yn ystyriaeth faterol
cynllunio. Tynnwyd sylw at yr angen i ystyried
os yw’r amgylchiadau
neu’r sefyllfa bolisi cynllunio wedi newid ers
caniatáu’r ceisiadau yma yn wreiddiol,
ac asesu’r newidiadau yn erbyn y polisïau
cyfredol. Erbyn hyn, mae
Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn wedi ei fabwysiadu, ac felly mae newid materol
wedi bod yn y polisïau ers penderfynu
egwyddor y cais amlinellol blaenorol. Amlygwyd, o dan y Cynllun Datblygu
Lleol, mae’r canran o dai
fforddiadwy yn llai na’r hyn
oedd yn ofynnol
o dan y Cynllun Datblygu Unedol. Er bod y caniatadau blaenorol yn darparu
5 uned fforddiadwy, mae’r bwriad i
ddarparu 2 uned erbyn hyn yn
cydymffurfio â gofynion y polisi cynllunio cyfredol (TAI 15). Eglurwyd bod yr unedau fforddiadwy
wedi eu lleoli
o fewn canol y safle ac yn dai 2 llofft sy’n cydymffurfio â’r angen yn
yr ardal am dai fforddiadwy ac wedi ei gadarnhau
gan Uned Strategol Tai. Nodwyd bod y bwriad yn cynnig
cymysgedd priodol o 11 tŷ 3 llofft (rhai gydag a heb
fodurdy cysylltiol a maint gerddi gwahanol),
dau dŷ
2 lofft (fforddiadwy) a dau dŷ 4 llofft.
Ategwyd bod hyn yn cynnig mwy
o amrywiaeth o’i gymharu â’r cynllun
blaenorol oedd yn cynnig 11 tŷ
3 llofft, 3 tŷ 4 llofft ac un byngalo
2 lofft. Derbyniwyd cadarnhad gan yr asiant
bod y cymysgedd bwriedig yn seiliedig ar
Asesiad Angen Tai
Gwynedd. Nodwyd bod materion mwynderau gweledol, mwynderau cyffredinol a phreswyl a materion trafnidiaeth yn dderbyniol. Ategwyd nad oedd newid yn y cais i faterion llecynnau agored o werth adloniadol na ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C19/1045/18/LL Rhyd Y Galen, Ffordd Bethel, Bethel, Caernarfon PDF 112 KB Lleoli 18 unedau gwyliau teithiol, lleoli cwt bugail symudol ar gyfer cyfleusterau ymolchi i'r unedau teithiol, creu ffyrdd ynghyd a gwelliannau amgylcheddol gan gynnwys creu llwybrau troed a thirlunio AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD SION JONES Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Lleoli 18 unedau
gwyliau teithiol, lleoli cwt bugail symudol ar gyfer cyfleusterau ymolchi i'r
unedau teithiol, creu ffyrdd ynghyd a gwelliannau amgylcheddol gan gynnwys creu
llwybrau troed a thirlunio a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio
ar gefndir y cais gan nodi bod yr hawl cynllunio presennol yn caniatáu lleoli
63 carafán deithiol, 6 o fodiau gwersylla a 2 lain ar gyfer unedau a fyddai yn
cyrraedd yn hwyr yn y safle. Eglurwyd bod y cais gerbron yn gais llawn ar gyfer
ymestyn y safle carafanau teithiol presennol i leoli 18 uned deithiol
(carafanau, carafanau modur, pebyll a phebyll trelar) ychwanegol. Esboniwyd
bydd yr unedau teithiol yn cael eu symud i safle storio o fewn y maes carafanau
presennol tu allan i’r tymor gwyliau. Pwysleisiwyd
bod y safle wedi ei leoli mewn cae sy’n weddol guddiedig oherwydd presenoldeb
coed a gwrychoedd ar hyd ei derfynau. Mae gorweddiad y dirwedd ynghyd a
thirlunio presennol ar y terfynau hefyd yn creu safle sy’n guddiedig o fannau
cyhoeddus. Mae’r cynllun a gyflwynwyd gyda’r cais yn dangos bwriad i gryfhau’r
gwrychoedd presennol drwy blannu ychwanegol a byddai hynny yn lleihau unrhyw
effaith ar y tirlun, a nodwyd na fyddai’r bwriad yn amharu’n andwyol ar gymeriad
a naws cefn gwlad y tirlun lleol. Nodwyd hefyd nad yw’r safle na’r ardal
gyfagos wedi eu cydnabod na’u dynodi fel tirlun o unrhyw ddiddordeb arbennig,
ac felly nad oes cymaint o bwyslais ar warchod y tirlun. Pwysleisiwyd bod y
safle caeedig yn golygu nad yw’r safle’n weladwy o dŷ’r cymydog agosaf ac
na fyddai’r cais gerbron yn cael effaith niweidiol sylweddol ychwanegol ar
fwynderau’r tai yn y cyffiniau. Eglurwyd bod y
safle wedi ei wasanaethu gan fynedfa bresennol i ffordd sirol dosbarth 2 ac nid
oes bwriad i altro’r fynedfa. Nodwyd nad oes gan yr uned drafnidiaeth bryderon
ynglŷn ag effaith y bwriad ar unrhyw ffordd neu ffordd arfaethedig a gan
ystyried graddfa’r datblygiad nid oes disgwyl y bydd cynnydd sylweddol mewn
lefel trafnidiaeth. Pwysleisiwyd bod y bwriad yn dderbyniol o ran materion
diogelwch ffyrdd. Eglurwyd bod y
bwriad yn cydymffurfio gyda holl ofynion y polisïau perthnasol ac yn dderbyniol
ar sail ei leoliad, gosodiad, graddfa a’i effaith ar fwynderau gweledol yr
ardal leol. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y
cais yn unol â’r argymhelliad. c)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau: ·
bod diffiniad carafanau “teithiol” yn aneglur oherwydd
eu bod i bob pwrpas yn garafanau statig heb law am y ffaith eu bod yn cael eu
symud yn y gaeaf i’w storio. ·
Nodwyd, gan gyfeirio at yr hanes cynllunio
perthnasol o fewn y cais, bod y safle hwn yn y gorffennol wedi ymestyn o 35 i
50 o garafanau teithiol ac mae’n parhau i ymestyn. Mynegwyd pryder am y llanast
sydd yn gallu cael ei greu yng nghefn gwlad heb rwystr ar faint nac edrychiad
carafanau a meysydd carafanau. · Mewn ymateb i sylw’r aelod am y tarmac, nododd y Rheolwr Cynllunio mai’r argymhelliad fydd lliw meddalach na tharmac cyffredin. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
Cais Rhif C19/1127/46/DT Tan Y Bwlch, Garn Fadryn, Pwllheli PDF 84 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Adeiladu anecs anheddol a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y
cais gan nodi bod y cais yn un ar gyfer dymchwel
adeilad allanol presennol a chodi adeilad unllawr yn
ei le i’w ddefnyddio fel “anecs” anheddol yn
gysylltiedig â’r prif dŷ. Nodwyd
bod y safle wedi ei leoli o fewn gardd tŷ “Tan y Bwlch” sy’n eiddo ar
wahân ger pentrefan Garn Fadryn, tu allan i unrhyw
ffin datblygu fel y'i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac
Ynys Môn. Saif o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
ddynodedig. Eglurwyd bod y cais gerbron y Pwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i
Aelod o’r Cyngor. Ystyriwyd bod y dyluniad a'r deunyddiau arfaethedig yn dderbyniol ac na
fyddant yn amharu ar gymeriad
ac edrychiad yr ardal. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:- ·
Nad oedd yr anecs yn
amharu dim ar y tirwedd ·
Yr adeilad yn gweddu yn well na’r un presennol
– yn well i’r amgylchedd c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu
y cais ch) Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â materion gorfodaeth i atal
y tŷ rhag dod yn dŷ
gwyliau i’r dyfodol, amlygwyd bod amod wedi ei
gynnwys yn nodi mai defnydd
anheddol sydd yn gysylltiedig ar tŷ yn
unig. PENDERFYNWYD caniatáu y cais Amodau : 1.
5 mlynedd 2.
Datblygiad yn cydymffurfio
gyda chynlluniau a gymeradwywyd 3.
Defnydd anheddol yn gysylltiedig â’r tŷ yn
unig Nodiadau : Dŵr Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru |