Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Neuadd Dwyfor, Stryd Penlan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5DE

Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Cofnod:

a)    Y Cynghorydd Gruffydd Williams (sydd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C19/0733/41/LC) oherwydd bod ei gariad hefo safle adeiladu yn Chwilog

 

Y Cynghorydd Simon Glyn (sydd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C19/1127/46/DT) oherwydd ei fod yn frawd i’r ymgeisydd

 

Roedd yr aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau.

 

b)    Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·    Y Cynghorydd Jason Wayne Parry  (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 5.1  ar y rhaglen (cais cynllunio C19/0524/14/R3)

 

·    Y Cynghorydd Eirwyn Williams (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 5.2 ar y rhaglen (cais cynllunio C19/0890/35/MG)

 

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Lousie Hughes a Dilwyn Lloyd

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 150 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 13 Ionawr 2020 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 o Ionawr 2020, fel rhai cywir. 

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

6.

Cais Rhif C19/0524/14/R3 Tir Canolfan Segontiwm, Pendalar, Caernarfon pdf eicon PDF 166 KB

Cais llawn i godi 4 uned byw hunan gynhaliol a chreu ffordd fynediad ynghyd ag adnoddau cysylltiol

 

AELOD LLEOL:  CYNGHORYDD JASON WAYNE PARRY

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i godi 4 uned byw hunan gynhaliol i’w defnyddio fel llety dros dro ar gyfer unigolion bregus; creu ffordd fynediad ynghyd ag adnoddau cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y datblygiad  arfaethedig wedi ei leoli ar ran o gyn safle Canolfan Segontiwm o fewn ffiniau datblygu tref Caernarfon sydd wedi ei ddynodi yn y Cynllun Datblygu Lleol fel Canolfan Gwasanaeth Trefol. Amlygwyd mai defnydd olaf y safle oedd Ysgol Pendalar a Chanolfan Segontiwm (Canolfan dydd i oedolion gydag anawsterau dysgu). Nodwyd bod defnydd o’r safle wedi dod i ben ers rhai blynyddoedd gyda’r holl adeiladau wedi eu dymchwel gan adael dim ond lloriau concrid mewn lle.

 

Eglurwyd bod y bwriad yn ymwneud a chodi 4 uned / pod byw sydd wedi eu cynllunio a’u darparu er mwyn cyrraedd anghenion unigolion bregus. Ategwyd mai llety dros dro yw’r unedau fyddai’n cynorthwyo defnyddwyr i sefydlogi eu bywydau a symud ymlaen i lety mwy parhaol. Nodwyd y byddai’r podiau ym mherchnogaeth y Cyngor ac yn cael eu rheoli ar gyfer llety tymor byr drwy’r Cyngor mewn partneriaeth â landlord cymdeithasol cofrestredig.

 

Ystyriwyd bod maint (unllawr cymharol fychan), lleoliad, edrychiadau a gorffeniadau allanol yr unedau yn dderbyniol ac wedi eu dylunio i bwrpas penodol ac na fyddent yn achosi effaith andwyol gweledol. Ystyriwyd bod y pellter rhwng yr adeiladau newydd â’r ffin â chefnau tai Llys Talar yn dderbyniol ac ni fyddai’n creu effaith andwyol sylweddol ar fwynderau trigolion cyfagos. Cydnabuwyd bod sylwadau wedi ei derbyn gan drigolion o Ffordd Cwstenin, Ffordd Llanbeblig a Stryd y Faenol ar ffurf deiseb yn pryderu am effaith y datblygiad ar eu mwynderau a’r ardal yn gyffredinol.

 

Yng nghyd-destun materion priffyrdd, adroddwyd bod bwriad cynnal gwelliannau i’r  ffordd gan gynnwys lledu’r ffordd bresennol a chreu llwybr cerdded ynghyd a chreu man troi i mewn at yr unedau. Ategwyd bod y safle mewn lleoliad hygyrch, oddeutu 400 - 500m o ganol y dref tra bod y gosodiad a’r dyluniad yn sicrhau mynediad i ystod eang o ddefnyddwyr. Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad.

 

Yng nghyd-destun materion archeolegol, nodwyd bod y safle wedi ei leoli ger safle Caer Rufeinig Segontiwm sydd yn heneb gofrestredig. Amlygwyd bod trafodaethau wedi ei cynnal ynglŷn ag effaith y datblygiad arfaethedig ar yr heneb gofrestredig. O ganlyniad i sylwadau a phryderon a godwyd gan CADW a Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd, ail ymgynghorwyd yn llawn gyda’r cyrff arbenigol a derbyniwyd ymatebion gydag amodau i’w hystyried.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â’r holl sylwadau a dderbyniwyd , ystyriwyd y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a gofynion polisïau perthnasol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod diffyg ymgynghori gyda thrigolion lleol - deiseb wedi ei llofnodi  yn mynegi gwrthwynebiad. Dim digon o sylw at y ddeiseb yn yr adroddiad (5.15 - brawddeg yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C19/0890/35/MG Station Bakery, Stryd Fawr, Criccieth pdf eicon PDF 90 KB

Cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer dymchwel adeiladau presennol a chodi 7 uned preswyl fel a ganiatawyd yn amlinellol o dan gyferinod C17/0912/35/AM

 

AELOD LLEOL:  CYNGHORYDD EIRWYN WILLIAMS

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer dymchwel adeiladau presennol a chodi 7 uned breswyl fel y caniatawyd yn amlinellol o dan gyfeirnod C17/0912/35/AM

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y cais gerbron ar gyfer asesu dyluniad a thirweddu’r unedau yn unig gan fod yr egwyddor ynghyd â’r materion yn ymwneud gyda mynedfa, llunwedd a graddfa eisoes wedi eu caniatáu o dan y cais amlinellol. Pwysleisiwyd bod 2 allan o’r 7 uned breswyl yn unedau fforddiadwy. Nodwyd fod gwaith mewn cyswllt a’r datblygiad gerbron wedi cychwyn ar y safle, a bod yr adeiladau presennol eisoes wedi dymchwel, ond nad oes caniatâd cynllunio llawn yn bodoli ar y safle ar hyn o bryd ac felly mae’r gwaith wedi dod i ben am y tro. 

 

Yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus, derbyniwyd sylwadau ynglŷn ag uchder yr adeiladau. Esboniwyd bod y raddfa eisoes wedi ei ganiatáu o dan y caniatâd amlinellol, ac mae’r cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais gerbron yn cydymffurfio â’r hyn a ganiatawyd o dan y cais amlinellol. Nodwyd bod y cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais gerbron yn cadarnhau fod graddfa ac uchder yr anheddau yn parhau yn unol â’r hyn a ganiatawyd o dan y caniatâd amlinellol, ac yn cadarnhau lefelau llawr gorffenedig sy’n rhyddhau amod 13 o’r caniatâd amlinellol hefyd. Mae’r cynllun bloc yn cadarnhau’r gorffeniad caled a meddal o ran tirweddu sy’n rhyddhau’r elfen materion a gadwyd yn ôl yn amod 3 o’r caniatâd amlinellol yn ogystal â gofyniad amod 14 sy’n gofyn am gynllun tirlunio. Nodwyd bod y dyluniad bwriedig yn syml ac mai’r bwriad yw gorffen yr anheddau gyda tho llechi a’r waliau allanol wedi eu rendro yn lliwiau gwyn a llwyd.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd. Amlygwyd nad yw safle’r cais yn cynnwys y llwybr cyhoeddus sy’n rhedeg heibio ochr y safle. Mae’r safle, sydd i gyd o fewn ffin ddatblygu Criccieth, wedi ei leoli o fewn ardal gyda nodweddion dyluniadol amrywiol sy’n cynnwys cymysg o anheddau amrywiol ac adeiladau masnachol. Mae’r dyluniad, gorffeniad a’r tirweddu bwriedig yn syml a nodwyd ei fod yn cydweddu â’r ardal ac yn dderbyniol o ran effaith weledol. Eglurwyd na fyddai’r bwriad gerbron yn cael effaith andwyol ar fwynderau cyffredinol na phreifatrwydd y trigolion cyfagos.

 

Cadarnhawyd fod y materion a gadwyd yn ôl ar ganiatâd amlinellol i ddymchwel yr eiddo blaenorol a chodi 7 uned breswyl o dan gyfeirnod C17/0912/35/AM yn dderbyniol ac yn unol â’r polisïau cynllunio.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r cais.

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r argymhelliad.

 

 ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan yr aelodau:

·         bod y cais amlinellol wedi cael caniatâd beth bynnag a doedd dim gwrthwynebiadau i’r materion a gadwyd yn ôl.

·         Cymeradwywyd bod 2 allan o’r 7 uned yn unedau preswyl fforddiadwy.

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais gan nodi fod amodau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C19/0733/41/LL Tir yng nghefn Gwesty Madryn Arms, Madryn Terrace, Chwilog, Pwllheli pdf eicon PDF 109 KB

Cais i newid amod 1 o C14/0061/41/AM ac amod 1 o C18/0249/41/MG er mwyn ymestyn cyfnod cychwyn y gwaith, newid gosodiad a dyluniad y tai bwriedig ynghyd â’r cyfran o unedau fforddiadwy yn y cytundeb 106 cysylltiol

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD ALED EVANS

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais i newid amod 1 o C14/0061/41/AM ac amod 1 o C18/0249/41/MG er mwyn ymestyn cyfnod cychwyn y gwaith, newid gosodiad a dyluniad y tai bwriedig ynghyd â’r gyfran o unedau fforddiadwy yn y cytundeb 106 cysylltiol

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan egluro bod y cais yn gais llawn ar gyfer newid amod 1 o ganiatâd cynllunio C14/0061/41/AM ac amod 1 o ganiatâd C18/0249/41/MG er mwyn ymestyn cyfnod cychwyn gwaith, newid gosodiad a dyluniad y tai bwriedig ynghyd a’r gyfran o unedau fforddiadwy yn y Cytundeb 106 cysylltiol. Eglurwyd bod y caniatâd amlinellol a chaniatâd materion a gadwyd yn ôl eisoes wedi eu rhoi o dan gyfeirnodau C14/0061/41/AM ac C18/0249/41/MG ar gyfer codi 15 preswyl i gynnwys 5 uned fforddiadwy. Nodwyd bod y cais gerbron yn golygu newid gosodiad a dyluniad y tai ynghyd a lleihau’r gyfran o dai fforddiadwy o 5 i 2.

 

Eglurwyd bod egwyddor y bwriad wedi ei dderbyn a’i sefydlu eisoes drwy’r caniatâd cynllunio amlinellol a materion a gadwyd yn ôl sydd eisoes wedi eu caniatáu ar y safle.  Nodwyd bod y caniatadau hyn sydd wedi eu penderfynu yn unol â’r Cynllun Datblygu Unedol ar y pryd a’r polisïau eraill perthnasol, yn parhau ar y safle ac yn sefydlu egwyddor y bwriad gerbron.  Mae hyn yn ystyriaeth faterol cynllunio.  Tynnwyd sylw at  yr angen i ystyried os yw’r amgylchiadau neu’r sefyllfa bolisi cynllunio wedi newid ers caniatáu’r ceisiadau yma yn wreiddiol, ac asesu’r newidiadau yn erbyn y polisïau cyfredol. Erbyn hyn, mae Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn wedi ei fabwysiadu, ac felly mae newid materol wedi bod yn y polisïau ers penderfynu egwyddor y cais amlinellol blaenorol.

 

Amlygwyd, o dan y Cynllun Datblygu Lleol, mae’r canran o dai fforddiadwy yn llai na’r hyn oedd yn ofynnol o dan y Cynllun Datblygu Unedol. Er bod y caniatadau blaenorol yn darparu 5 uned fforddiadwy, mae’r bwriad i ddarparu 2 uned erbyn hyn yn cydymffurfio â gofynion y polisi cynllunio cyfredol (TAI 15). Eglurwyd bod yr unedau fforddiadwy wedi eu lleoli o fewn canol y safle ac yn dai 2 llofft sy’n cydymffurfio â’r angen yn yr ardal am dai fforddiadwy ac wedi ei gadarnhau gan Uned Strategol Tai. 

 

Nodwyd bod y bwriad yn cynnig cymysgedd priodol o 11 3 llofft (rhai gydag a heb fodurdy cysylltiol a maint gerddi gwahanol), dau 2 lofft (fforddiadwy) a dau 4 llofft. Ategwyd bod hyn yn cynnig mwy o amrywiaeth o’i gymharu â’r cynllun blaenorol oedd yn cynnig 11 3 llofft, 3 4 llofft ac un byngalo 2 lofft.  Derbyniwyd cadarnhad gan yr  asiant bod y cymysgedd bwriedig yn seiliedig ar Asesiad Angen Tai Gwynedd. 

 

Nodwyd bod materion mwynderau gweledol, mwynderau cyffredinol a phreswyl a materion trafnidiaeth yn dderbyniol. Ategwyd nad oedd newid yn y cais i faterion llecynnau agored o werth adloniadol na  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C19/1045/18/LL Rhyd Y Galen, Ffordd Bethel, Bethel, Caernarfon pdf eicon PDF 112 KB

Lleoli 18 unedau gwyliau teithiol, lleoli cwt bugail symudol ar gyfer cyfleusterau ymolchi i'r unedau teithiol, creu ffyrdd ynghyd a gwelliannau amgylcheddol gan gynnwys creu llwybrau troed a thirlunio

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD SION JONES

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Lleoli 18 unedau gwyliau teithiol, lleoli cwt bugail symudol ar gyfer cyfleusterau ymolchi i'r unedau teithiol, creu ffyrdd ynghyd a gwelliannau amgylcheddol gan gynnwys creu llwybrau troed a thirlunio

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod yr hawl cynllunio presennol yn caniatáu lleoli 63 carafán deithiol, 6 o fodiau gwersylla a 2 lain ar gyfer unedau a fyddai yn cyrraedd yn hwyr yn y safle. Eglurwyd bod y cais gerbron yn gais llawn ar gyfer ymestyn y safle carafanau teithiol presennol i leoli 18 uned deithiol (carafanau, carafanau modur, pebyll a phebyll trelar) ychwanegol. Esboniwyd bydd yr unedau teithiol yn cael eu symud i safle storio o fewn y maes carafanau presennol tu allan i’r tymor gwyliau.

Pwysleisiwyd bod y safle wedi ei leoli mewn cae sy’n weddol guddiedig oherwydd presenoldeb coed a gwrychoedd ar hyd ei derfynau. Mae gorweddiad y dirwedd ynghyd a thirlunio presennol ar y terfynau hefyd yn creu safle sy’n guddiedig o fannau cyhoeddus. Mae’r cynllun a gyflwynwyd gyda’r cais yn dangos bwriad i gryfhau’r gwrychoedd presennol drwy blannu ychwanegol a byddai hynny yn lleihau unrhyw effaith ar y tirlun, a nodwyd na fyddai’r bwriad yn amharu’n andwyol ar gymeriad a naws cefn gwlad y tirlun lleol. Nodwyd hefyd nad yw’r safle na’r ardal gyfagos wedi eu cydnabod na’u dynodi fel tirlun o unrhyw ddiddordeb arbennig, ac felly nad oes cymaint o bwyslais ar warchod y tirlun. Pwysleisiwyd bod y safle caeedig yn golygu nad yw’r safle’n weladwy o dŷ’r cymydog agosaf ac na fyddai’r cais gerbron yn cael effaith niweidiol sylweddol ychwanegol ar fwynderau’r tai yn y cyffiniau.

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei wasanaethu gan fynedfa bresennol i ffordd sirol dosbarth 2 ac nid oes bwriad i altro’r fynedfa. Nodwyd nad oes gan yr uned drafnidiaeth bryderon ynglŷn ag effaith y bwriad ar unrhyw ffordd neu ffordd arfaethedig a gan ystyried graddfa’r datblygiad nid oes disgwyl y bydd cynnydd sylweddol mewn lefel trafnidiaeth. Pwysleisiwyd bod y bwriad yn dderbyniol o ran materion diogelwch ffyrdd.

 

Eglurwyd bod y bwriad yn cydymffurfio gyda holl ofynion y polisïau perthnasol ac yn dderbyniol ar sail ei leoliad, gosodiad, graddfa a’i effaith ar fwynderau gweledol yr ardal leol.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol â’r argymhelliad.

 

c)     Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         bod diffiniad carafanau “teithiol” yn aneglur oherwydd eu bod i bob pwrpas yn garafanau statig heb law am y ffaith eu bod yn cael eu symud yn y gaeaf i’w storio.

·         Nodwyd, gan gyfeirio at yr hanes cynllunio perthnasol o fewn y cais, bod y safle hwn yn y gorffennol wedi ymestyn o 35 i 50 o garafanau teithiol ac mae’n parhau i ymestyn. Mynegwyd pryder am y llanast sydd yn gallu cael ei greu yng nghefn gwlad heb rwystr ar faint nac edrychiad carafanau a meysydd carafanau. 

·         Mewn ymateb i sylw’r aelod am y tarmac, nododd y Rheolwr Cynllunio mai’r argymhelliad fydd lliw meddalach na tharmac cyffredin.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C19/1127/46/DT Tan Y Bwlch, Garn Fadryn, Pwllheli pdf eicon PDF 84 KB

Adeiladu anecs anheddol

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD SIMON GLYN

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adeiladu anecs anheddol

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y cais yn un ar gyfer dymchwel adeilad allanol presennol a chodi adeilad unllawr yn ei le i’w ddefnyddio fel “anecs” anheddol yn gysylltiedig â’r prif dŷ.  Nodwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn gardd tŷ “Tan y Bwlch” sy’n eiddo ar wahân ger pentrefan Garn Fadryn, tu allan i unrhyw ffin datblygu fel y'i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn.  Saif  o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig.

 

Eglurwyd bod y cais gerbron y Pwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn perthyn i Aelod o’r Cyngor.

 

Ystyriwyd bod y dyluniad a'r deunyddiau arfaethedig yn dderbyniol ac na fyddant yn amharu ar gymeriad ac edrychiad yr ardal. 

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Nad oedd yr anecs yn amharu dim ar y tirwedd

·         Yr adeilad yn gweddu yn well na’r un presennol – yn well i’r amgylchedd

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

ch)   Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â materion gorfodaeth i atal y rhag dod yn gwyliau i’r dyfodol, amlygwyd bod amod wedi ei gynnwys yn nodi mai defnydd anheddol sydd yn gysylltiedig ar yn unig.

 

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais

 

          Amodau :

1.    5 mlynedd

2.    Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd

3.    Defnydd anheddol yn gysylltiedig â’r yn unig

 

Nodiadau :        Dŵr Cymru

                                    Cyfoeth Naturiol Cymru