Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Stephen Churchman a Louise Hughes,

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

Y Cynghorydd Gareth Thomas (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 a 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0244/08/LL)

 

Y Cynghorydd Annwen Daniels (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2, 5.3 a 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0066/03/AC, C20/0067/03/AC a C20/0079/03/AC

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 257 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 2il o Orffennaf 2020 fel rhai cywir  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cadarnhawyd bod y cofnod yn gofnod priodol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 2il o Orffennaf 2020.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

6.

Cais Rhif C20/0244/08/LL Tir Ger Compownd Pennau Selio Garth, Minffordd, Penrhyndeudraeth, pdf eicon PDF 702 KB

Mae'r datblygiad canlynol wedi'i leoli o fewn ffiniau Awdurdod Cynllunio Lleol Cyngor Gwynedd: 1) Codi adeilad pen twnnel y Gorllewin (gan gynnwys y compownd adeiladu cysylltiedig) yn Garth ynghyd a thrac mynediad parhaol Mae'r datblygiad canlynol wedi'i leoli o fewn ffiniau Awdurdod Cynllunio Lleol Parc Cenedlaethol Eryri: 2) Codi adeilad pen twnnel dwyreiniol (gan gynnwys y compownd adeiladu cysylltiedig), compownd selio pen a mynediad parhaol yn Cilfor 3) Compownd selio pen newydd ar ochr ddwyreiniol Aber Dwyryd i gysylltu'r ceblau tanddaearol â'r llinell uwchben Nid oes angen caniatâd cynllunio ffurfiol ar gyfer y datblygiad canlynol: Byddai'r cynigion hyn yn galluogi adeiladu twnnel tanddaearol i gynnwys ceblau trydan a chael gwared ar 10 peilon presennol a llinellau uwchben cysylltiedig ar draws Aber Dwyryd Mae'r cais yn croesi'r ffin rhwng Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri ac felly efallai y byddwch yn derbyn ymgynghoriad gan y ddau awdurdod mewn perthynas â'r datblygiad sydd wedi'i leoli o fewn ei ffiniau.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD Caniatáu gydag amodau:

 

1. 5 mlynedd

2. Unol â’r cynlluniau a’r asesiadau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais

3. Lliw ffens

3. Priffyrdd

4. Cefnffyrdd

5. Amodau CNC

6. Dŵr Cymru

7. Oriau gwaith – ac amodau eraill Gwarchod y Cyhoedd

8. Bioamrywiaeth

9. Archeolegol

10. CEMP

11. Cynllun rheoli tirweddu a monitro

 

Nodiadau

Priffyrdd

Dŵr Cymru

 

Dylai'r holl weithrediadau sy'n cynnwys gwaredu, trin neu adfer deilliannau twnnel gael eu cyflawni yn unol â hierarchaeth gwastraff ac amcanion y cynllun rheoli gwastraff amlinellol. Cysylltwch â Gwasanaeth Cynllunio Gwynedd a Chyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â gofynion y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol neu statws cynllunio unrhyw gyfleuster rheoli gwastraff neu safle arall a nodwyd ar gyfer derbyn, trin neu waredu unrhyw ddeilliant gwastraff.

Cofnod:

Mae'r datblygiad canlynol wedi'i leoli o fewn ffiniau Awdurdod Cynllunio Lleol Cyngor Gwynedd: 1) Codi adeilad pen twnnel y Gorllewin (gan gynnwys y compownd adeiladu cysylltiedig) yn Garth ynghyd a thrac mynediad parhaol. Mae'r datblygiad canlynol wedi'i leoli o fewn ffiniau Awdurdod Cynllunio Lleol Parc Cenedlaethol Eryri: 2) Codi adeilad pen twnnel dwyreiniol (gan gynnwys y compownd adeiladu cysylltiedig), compownd selio pen a mynediad parhaol yn Cilfor: 3) Compownd selio pen newydd ar ochr ddwyreiniol Aber Dwyryd i gysylltu'r ceblau tanddaearol â'r llinell uwchben. Nid oes angen caniatâd cynllunio ffurfiol ar gyfer y datblygiad canlynol: Byddai'r cynigion hyn yn galluogi adeiladu twnnel tanddaearol i gynnwys ceblau trydan a chael gwared ar 10 peilon presennol a llinellau uwchben cysylltiedig ar draws Aber Dwyryd.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd yn ymwneud a phrosiect sydd, ers rhai blynyddoedd bellach, wedi cynnwys mewnbwn sylweddol gan swyddogion y Cyngor  a rhanddeiliaid i’r prosiect  a gyfeiriwyd ato fel Prosiect Darpariaeth Effaith Weledol (VIP). Adroddwyd bod y cynllun yn cael ei arwain gan y Grid Cenedlaethol sydd wedi ymgynghori’n helaeth gyda’r gymuned leol.

 

Pwrpas y cynllun yw lliniaru’r effaith weledol mae seilwaith trydan presennol yn ei gael mewn tirwedd warchodedig o gwmpas y Ddwyryd drwy dynnu peilonau trydan i lawr rhwng Minffordd a Chilfor a thanddaearu’r gwifrau trydan am bellter o 3.5 km. Ategwyd bod cais cynllunio wedi ei gyflwyno i Awdurdod Cynllunio Cyngor Gwynedd ac i Awdurdod Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri er mwyn galluogi i’r ddau awdurdod wneud penderfyniadau ar y cais sydd yn berthnasol i’w hardaloedd. Tynnwyd sylw at baragraffau 1.17 - 1.23 yn yr adroddiad sydd yn rhoi disgrifiad bras o’r datblygiadau sydd yn destun cais o fewn y ddau Awdurdod ac at baragraffau 1.24 i 1.30 sydd, oherwydd natur eang a chymhleth y cynllun yn cyfeirio'r gofynion hynny sydd tu allan i faes cynllunio. Nodwyd bod Pwyllgor Cynllunio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri eisoes wedi caniatáu

 

Eglurwyd bod y bwriad yn golygu codi adeilad pen twnnel y Gorllewin (gan gynnwys y compownd adeiladu cysylltiedig) ynghyd a thrac mynediad parhaol. Er bod yr adeilad yn eithaf sylweddol, mae’n cymharu gydag adeilad amaethyddol o ran maint, uchder a dyluniad. Ategwyd bod Asesiad Gweledol a Thirwedd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais sydd yn cynnwys manylion tirwedd ac effaith weledol gan gynnwys montage ffotograffig

 

Ar sail y wybodaeth a’r cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais, ystyriwyd bod effeithiau hir dymor y bwriad yn dderbyniol o ran dyluniad, graddfa, deunyddiau, tirweddu ac effaith ar y dirwedd ac yn cydymffurfio a gofynion polisïau PCYFF 2, 3 a 4, AMG 2 a 3 o’r CDLl a NCT 12: Dylunio. Derbyniwyd y byddai’r cynllun yn ei gyfanrwydd yn achosi anhwylustod, sŵn, dirgryniad, llwch a thraffig yn ystod y gwaith dros dro o dwnelu ac adeiladu’r adeilad pen twnnel. Byddai’r elfennau hyn, sydd ddim yn faterion cynllunio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif: C20/0066/03/AC Chwarel yr Oakley, Blaenau Ffestiniog LL41 3ND. pdf eicon PDF 412 KB

Cais o dan Adran 73 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C01M/0014/03/MW i barhau gweithredu busnes sefydledig am 20 mlynedd ychwanegol hyd at 31 Ionawr 2040

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Annwen Daniels

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio C01M/0014/03/MW, i ganiatáu parhau i ddefnyddio'r ardal tir ategol i storio deunyddiau crai: 

 

           Rhoddir caniatâd drwy hyn am gyfnod cyfyngedig hyd at 31ain Ionawr 2040, a phan ddaw'r cyfnod i ben bydd holl adeiladau, cyfarpar, peiriannau ac offer wedi cael eu symud a bydd y safle wedyn yn cael ei adfer yn unol â'r cynllun adfer a dderbyniwyd ar - 14eg Ebrill 2020.

           Yn ychwanegol at amrywio Amod 1 o'r caniatâd, dylai'r ardal storio deunydd crai, llawr caled a'r sied storio gael amodau sy'n ategol i brif ddefnydd y safle fel gwaith mwynau sy'n prosesu gwastraff llechi i gynhyrchu cynhyrchion llechi gronynnog a phowdrau.   Byddai hyn yn sicrhau bod y safle yn parhau i weithredu yn unol â'r allbwn diwygiedig o ddosbarthu dim mwy na 9 llwyth ar unrhyw ddiwrnod gwaith (dydd Llun i ddydd Gwener) a dim mwy na 2 lwyth ar unrhyw ddydd Sadwrn, dydd Sul, Gŵyl y Banc neu Wyliau Cyhoeddus.

           Er budd cysondeb a'r gallu i orfodi, dylai'r gyfres ganlynol o reoliadau rheoleiddio a osodwyd ar y caniatâd perthynol (C03M/0010/03/MW), sy'n ymwneud â sŵn ac ansawdd aer hefyd gael eu dyblygu;

           Monitro sŵn yn flynyddol (oni bai y cytunwyd fel arall yn ysgrifenedig)

           Cyfyngu lefel sŵn yn ystod y dydd i 50db

           Cyfyngu lefel sŵn yn ystod y nos i 40db

           Ni fydd unrhyw loriau yn cael eu hanfon o'r safle ac ni fydd unrhyw ddeunyddiau crai yn dod i'r safle y tu allan i 07.00 awr a 22.00 awr.

 

           Nodyn i'r ymgeisydd gyda chyngor statudol Network Rail a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi ei atodi i'r hysbysiad penderfyniad.

 

           Nodyn i'r ymgeisydd i annog gweithredwr y safle i ddarparu arwyddion dwyieithog ble fo'n bosib i wella delwedd ddwyieithog y cwmni.

 

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C01M/0014/03/MW i barhau gweithredu busnes sefydledig am 20 mlynedd ychwanegol hyd at 31 Ionawr 2040

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

a)    Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais gan nodi ei fod yn un o 3 cais cynllunio i newid amodau ar ganiatâd cynllunio a  gweithrediad sydd eisoes yn bodoli ar safle Chwarel yr Oakley er mwyn ymestyn oes y gwaith mwynau i sicrhau bod gweithrediad y felin yn parhau. Nodwyd mai cais ydoedd i geisio amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio a roddwyd yn 2001, i barhau i ddefnyddio’r ardal storio ategol, sied a llawr caled am 20 mlynedd ychwanegol.

Amlygwyd bod yr holl bolisïau perthnasol wedi eu hystyried ac nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi eu derbyn. Nodwyd bod y felin wedi gweithredu heb achosi niwsans gormodol o dan delerau’r amodau presennol am nifer o flynyddoedd a bod materion sŵn a llwch wedi hen sefydlu. Er hynny, nodwyd bod Uned Gwarchod y Cyhoedd wedi datgan yr angen i ddiweddaru’r amodau sŵn a llwch ar y safle. Adroddwyd bod Cynllun Adfer wedi ei gynnwys gyda’r cais ac yn cydymffurfio gyda Pholisi MWYN 3 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn a Pholisi MWYN 9. Mae'r cynllun adfer yn cynnwys creu tirffurf fydd yn ail-greu ac efelychu nodweddion naturiol y ddaear a nodweddion draenio.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:-

     Ei bod yn gefnogol i’r cynllun

     Bod angen gwarchod Afon Bowydd rhag llygredd

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

 ch)   Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

         Caniatáu y cais yn hwb i’r economi leol

         Croesawu bod y bwriad yn sicrhau gwaith am 20 mlynedd bellach

         Awgrym i gynnwys amod i warchod Afon Bowydd rhag llygredd

 

d)    Mewn ymateb i’r awgrym i gynnwys amod i warchod Afon Bowydd rhag llygredd / dwr budr mynegodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff mai Cyfoeth Naturiol Cymru sydd â thrwydded orchwyl dros y gwaith a bod modd adolygu’r amodau / diweddaru’r gweithdrefnau ar sut i ddelio gyda gwaddod.

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio C01M/0014/03/MW, i ganiatáu parhau i ddefnyddio'r ardal tir ategol i storio deunyddiau crai: 

 

           Rhoddir caniatâd drwy hyn am gyfnod cyfyngedig hyd at 31ain Ionawr 2040, a phan ddaw'r cyfnod i ben bydd holl adeiladau, cyfarpar, peiriannau ac offer wedi cael eu symud a bydd y safle wedyn yn cael ei adfer yn unol â'r cynllun adfer a dderbyniwyd ar - 14eg Ebrill 2020.

 

           Yn ychwanegol at amrywio Amod 1 o'r caniatâd, dylai'r ardal storio deunydd crai, llawr caled a'r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C20/0067/03/AC Chwarel yr Oakley, Blaenau Ffestiniog LL41 3ND. pdf eicon PDF 494 KB

Cais o dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C03M/0010/03/MW i barhau gweithredu busnes sefydledig am 20 mlynedd ychwanegol hyd at 31 Ionawr 2040

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Annwen Daniels

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio C03M/0010/03/MW, i ganiatáu parhau i ddefnyddio'r gwaith prosesu llechi. 

 

           Rhoddir caniatâd drwy hyn am gyfnod cyfyngedig hyd at 31ain Ionawr 2040, a phan ddaw'r cyfnod i ben bydd holl adeiladau, cyfarpar, peiriannau ac offer wedi cael eu symud a bydd y safle wedyn yn cael ei adfer yn unol â'r cynllun adfer a dderbyniwyd ar - Mawrth 2020.

           Bydd y datblygiad yn ddarostyngedig i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol C03M/0010/03/MW i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, gwarchod yr amgylchedd dŵr, oriau gweithredu, allbwn, cydymffurfio â chynlluniau'r cais, adolygu gweithrediadau ac adfer ond yn benodol; 

           Cyfyngu lefel sŵn yn ystod y dydd i 50db

           Cyfyngu lefel sŵn yn ystod y nos i 40db

           Cau gwaith y malwr sylfaenol i lawr dros nos

           Holl ddrysau/caeadau i gael eu cadw wedi eu cau dros nos

           Ni cheir ailgychwyn y gwaith ar ôl 22.00 awr (pe byddai'r gwaith yn torri i lawr dros nos ni fydd yn ail ddechrau tan y diwrnod canlynol)

           Ni weithredir y malwr allanol rhwng 07.00 awr a 22.00 awr.

           Ni fydd unrhyw loriau yn cael eu llwytho y tu allan i 07.00 awr a 22.00 awr.

           Bydd y cynnyrch gaiff ei orffen dros nos yn cael ei storio yn y prif adeilad tan y diwrnod canlynol

 

           Nodyn i'r ymgeisydd gyda chyngor statudol Network Rail a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi ei atodi i'r hysbysiad penderfyniad.

 

           Nodyn i'r ymgeisydd i annog gweithredwr y safle i ddarparu arwyddion dwyieithog ble fo'n bosib i wella delwedd ddwyieithog y cwmni.

 

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C03M/0010/03/MW i barhau gweithredu busnes sefydledig am 20 mlynedd ychwanegol hyd at 31 Ionawr 2040

           

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

a)    Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais gan egluro bod y cais yn un ar gyfer amrywio amodau a osodwyd ar y caniatâd gwreiddiol a gymeradwywyd yn 1990 i ddatblygu tir heb gydymffurfio gydag amodau i ganiatáu parhau i weithredu safle'r gwaith o 07.00 awr i 19.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener (h.y. gweithredu am 24 awr) ynghyd â chynnydd mewn allbwn o 6 i 9 llwyth o ddeunydd fesul diwrnod gwaith. Roedd y caniatâd hefyd yn caniatáu newid i'r cyfyngiadau ar allyriadau sŵn yn ddarostyngedig i amodau sydd yn gofyn bod y gweithredwr yn gweithredu cynllun monitro sŵn.

 

Nodwyd na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau i’r cais arwahan i un llythyr oedd yn nodi pryder bod allyriadau o’r gwaith yn cynnwys nwyon sydd yn effeithio ar iechyd a llesiant trigolion cyfagos. O ganlyniad, amlygwyd bod Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn mynnu bod yr amodau i reoli sŵn, llwch ac ati yn parhau ar y safle. Ystyriwyd y gall y safle weithredu heb achosi niwsans gormodol i fwynderau’r ardal dan delerau’r amodau sŵn ac ansawdd aer perthnasol.

 

Mae'n annhebygol y bydd unrhyw newid amlwg yn amodau gweithio'r safle na newid i effaith weledol y gwaith ac ni fydd y datblygiad yn tynnu oddi wrth nodweddion cadarnhaol y dirwedd na'r elfennau hynny sy'n cyfrannu at gymeriad unigryw'r dirwedd hanesyddol na'r cais Safle Treftadaeth y Byd. Bydd gwastraff llechi yn cael ei brosesu a’i drin i gynhyrchu ffelt to ac nid yw cyflenwi deunydd i'r gwaith prosesu yn holl ddibynnol ar y mwynau wrth gefn sydd yn y domen lechi. Mae'r cynllun adfer yn cynnwys trin y ddaear agored wedi i'r gweithrediadau ddod i ben.

 

O ran sicrhau cyflenwad amgen o ddeunyddiau, bydd egwyddorion mwyngloddio mwynau eilaidd yn dderbyniol ac o ran angen leol, mae'r datblygiad yn cydymffurfio â’r holl bolisiau perthnasol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:-

     Ei bod yn gefnogol i’r cynllun

     Bod angen gwarchod Afon Bowydd rhag llygredd

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

                       Byddai caniatáu y cais yn hwb i’r economi leol

                       Croesawu bod y bwriad yn sicrhau gwaith am 20 mlynedd pellach

 

ch)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio C03M/0010/03/MW, i ganiatáu parhau i ddefnyddio'r gwaith prosesu llechi. 

·         Rhoddir caniatâd drwy hyn am gyfnod cyfyngedig hyd at 31ain Ionawr 2040, a phan ddaw'r cyfnod i ben bydd holl adeiladau, cyfarpar,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C20/0079/03/AC Chwarel Oakley Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog LL41 3ND. pdf eicon PDF 482 KB

Cais o dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C10M/0103/03/MW i barhau gweithredu busnes sefydledig am 20 mlynedd ychwanegol hyd at 31 Ionawr 2040

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Annwen Daniels

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio C10M/0103/03/MW, i adlewyrchu'r tunelli o fwynau wrth gefn sydd ar gael yn ardal y cais:

 

           Daw'r gwaith o echdynnu gwastraff a'r gweithrediadau ategol i ben erbyn 31/12/2025. Erbyn y dyddiad hwnnw, bydd yr holl beiriannau, adeiladau a strwythurau sy'n perthyn i, neu wedi eu lleoli o ganlyniad i'r caniatâd cynllunio hwn yn cael eu tynnu erbyn y dyddiad hwnnw.  Bydd gwaith adfer y safle wedi ei gwblhau erbyn 31/12/2027.

 

           Bydd y datblygiad yn ddarostyngedig i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol C10M/0103/03/MW i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, gwarchod yr amgylchedd dŵr, oriau gweithredu, allbwn, cydymffurfio â chynlluniau'r cais, tirffurf arfaethedig, mesurau lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau a gwaith adfer dilyniadol.

 

           Nodyn i'r ymgeisydd gyda chyngor statudol Network Rail a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi ei atodi i'r hysbysiad penderfyniad.

 

           Nodyn i'r ymgeisydd i annog gweithredwr y safle i ddarparu arwyddion dwyieithog ble fo'n bosib i wella delwedd ddwyieithog y cwmni.

 

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 o'r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amrywio amod 1 ar ganiatâd cynllunio C10M/0103/03/MW i barhau gweithredu busnes sefydledig am 20 mlynedd ychwanegol hyd at 31 Ionawr 2040

           

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

a)    Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i barhau i echdynnu mwynau o’r tomenni llechi am 20 mlynedd ychwanegol.

 

Adroddwyd nad yw cyflenwi deunydd i'r gwaith prosesu yn holl ddibynnol ar y mwynau wrth gefn sydd yn y domen lechi, ac fe ragwelir y bydd yn parhau am tua 5 mlynedd arall.  Er mwyn peidio ag oedi gyda gweithredu cynllun adfer i arwynebau'r tomenni sydd wedi eu tarfu, ystyriwyd cymeradwyo caniatâd am 5 mlynedd arall.  Bydd  unrhyw newid i Amod 1 o ganiatâd cynllunio C10M/0103/03/MW yn adlewyrchu'r tunelli o fwynau wrth gefn sydd ar gael yn ardal y cais. Yn dilyn trafodaethau gyda’r ymgeisydd, cytunwyd y byddai caniatâd 5 mlynedd yn rhoi amser digonol i symud gweddill y domen lechi.

 

Byddai'r gwaith o dynnu'r tomenni yn amodol i gynllun graddol o echdynnu gyda'r posibilrwydd o welliant mwy cadarnhaol yn yr hirdymor unwaith fo'r ardaloedd adfer wedi ymdoddi i'r bryniau cyfagos a'r llystyfiant naturiol. Ystyriwyd y gall y safle weithredu heb achosi niwsans gormodol i fwynderau’r ardal dan delerau'r amodau cyfredol i dynnu a phrosesu llechi. 

 

Cefnogwyd yr elfen o ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu / hailddefnyddio i roi llai o bwysau ar adnoddau sylfaenol.  O ran sicrhau cyflenwad amgen o ddeunyddiau, bydd egwyddorion mwyngloddio mwynau eilaidd yn dderbyniol ac o ran angen leol, roedd y datblygiad yn cydymffurfio a’r polisïau perthnasol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a fydd y tipiau yn diflannu, nodwyd bydd y tipiau yn cael eu graddio gyda’r deunydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cynllun adfer.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:-

       Ei bod yn gefnogol i’r cynllun

       Bod angen gwarchod Afon Bowydd rhag llygredd

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

PENDERFYNWYD: Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 1 ar ganiatâd cynllunio C10M/0103/03/MW, i adlewyrchu'r tunelli o fwynau wrth gefn sydd ar gael yn ardal y cais:

 

·         Daw'r gwaith o echdynnu gwastraff a'r gweithrediadau ategol i ben erbyn 31/12/2025. Erbyn y dyddiad hwnnw, bydd yr holl beiriannau, adeiladau a strwythurau sy'n perthyn i, neu wedi eu lleoli o ganlyniad i'r caniatâd cynllunio hwn yn cael eu tynnu erbyn y dyddiad hwnnw.  Bydd gwaith adfer y safle wedi ei gwblhau erbyn 31/12/2027.

 

·         Bydd y datblygiad yn ddarostyngedig i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol C10M/0103/03/MW i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, gwarchod yr amgylchedd dŵr, oriau gweithredu, allbwn, cydymffurfio â chynlluniau'r cais, tirffurf arfaethedig, mesurau lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau a gwaith adfer dilyniadol.

 

·         Nodyn i'r ymgeisydd gyda  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.