skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Simon Glyn a’r Cynghorydd Anwen Davies (Aelod Lleol ar gyfer cais 5.2, 5.3 a 5.4 – a oedd yn datgan buddiant gan ei bod yn berchennog maes carafanau yn yr un ardal)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Y Cynghorydd Owain Williams  yn eitem 5.2 (C21/0645/33/LL), 5.3 (C21/0573/33/LL)   a 5.4 (C21/0665/40/LL) ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn berchen maes carafanau

 

b)    Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn eitem 5.7 (C21/0803/11/LL) ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn aelod o Fwrdd Adra

 

Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau.

 

c)    Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

·         Y Cynghorydd Gareth Griffith (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen (C20/0494/20/LL)

·         Y Cynghorydd Ioan Thomas (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C20/0494/20/LL, 5.5 (C21/0398/14/LL) a 5.6 (C21/0399/14/CR) ar y rhaglen

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 331 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 1af o Dachwedd 2021 fel rhai cywir

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

6.

Cais Rhif C20/0494/20/LL Gwel Y Fenai (cyn safle Ferrodo a Phlas Brereton ), Caernarfon, LL55 1TP pdf eicon PDF 844 KB

Datblygu parc gwyliau a hamdden i gynnwys 173 o borthdai gwyliau; 51 fflatiau gwyliau newydd eu hadeiladu; newid defnydd adeilad i 4 fflat gwyliau; adeiladu canolbwynt hamdden; ad-drefnu ac adnewyddu unedau diwydiannol; darpariaeth ar gyfer gwaith trin dŵr preifat; a meysydd parcio cysylltiedig, tirlunio, mynediad a ffyrdd mynediad mewnol.

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Gareth Wyn Griffith a’r Cynghorydd Ioan Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod – rhesymau

 

  1. Ni ystyrir fod gwybodaeth ddigonol wedi ei chyflwyno fel rhan o’r cais er mwyn sicrhau na fyddai’r bwriad yn cael effaith andwyol ar yr Iaith a Diwylliant Cymreig. Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion polisi PS1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd a Chanllaw Cynllunio Atodol Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy a NCT 20 Cynllunio a’r Gymraeg.

 

  1. Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei chyflwyno fel rhan o’r cais sydd yn nodi sut fod y bwriad yn cydymffurfio gyda Pholisi CYF 5 Defnyddiau Amgen o Safleoedd Cyflogaeth Bresennol, a chan hynny nid yw’r bwriad yn cydymffurfio a gofynion y Polisi ac felly rhaid ystyried y bwriad yn groes i ofynion polisïau CYF 1, CYF 5 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd a Chanllaw Cynllunio Atodol: Newid defnydd cyfleusterau a gwasanaethau Cymunedol, safleoedd cyflogaeth ac unedau manwerthu.

 

  1. Mae’r bwriad wedi ei leoli ar safle arfordirol agored a gweledol sy’n flaenlun i olygfeydd eang o Eryri o AHNE Ynys Môn. Mae’r datblygiad penodol hyn yn disgyn o fewn Ardal Cymeriad y Dirwedd ACD01 (Gwastatir Arfordirol Bangor) ac mae’r Astudiaeth Capasiti a Sensitifrwydd y Dirwedd yn nodi o fewn pob ardal sy’n cyfrannu at osodiad y Parc Cenedlaethol yn nodweddiadol nid oes dim capasiti ar gyfer datblygiadau parc carafanau statig / cabanau gwyliau. Fodd bynnag, y tu allan i’r ardaloedd hyn fe all fod rhywfaint o gapasiti ar gyfer datblygiadau parciau carafanau / cabanau gwyliau bach i fach iawn, wedi'u eu dylunio a'u lleoli'n dda. Mae’r Astudiaeth yn diffinio datblygiadau bach iawn fel rhai hyd at 10 uned a datblygiadau bach fel rhwng 10 - 25 uned. Mae’r wybodaeth ynglŷn â thirlunio bwriedig yn fras ac nid yw’n cynnwys manylion digonol ar gyfer cadarnhau y byddai’n dderbyniol o ran math a graddfa. I’r perwyl hyn ystyrir felly fod y bwriad yn groes i ofynion meini prawf 1i) ac1ii) o bolisi TWR 3, pwynt 3 o bolisi PS14 ynghyd a pholisïau AMG 3 a PCYFF 4 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ac Astudiaeth Capasiti a Sensitifrwydd y Dirwedd yn Ynys Môn, Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri’ (Gillespies, 2014) oherwydd y byddai’r bwriad yn arwain at ormodedd o safleoedd carafanau sefydlog neu wersylla amgen parhaol ac yn cael effaith weledol andwyol ar osodiad AHNE Ynys Môn a’r dirwedd leol.

 

  1. Mae Adran yr Economi a’r Seilwaith Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu bod yn datgan dal gwrthwynebiad (holding objection) er mwyn sicrhau bod modd gael trefniant ble na fydd cerbydau yn ôl-gronni ar y gefnffordd A487 ar adegau prysur ac mae Uned Trafnidiaeth y Cyngor yn pryderu am yr un effaith. I’r perwyl hyn, nid yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi y byddai’r cynllun yn darparu mynedfa ddiogel ar gyfer y bwriad ac felly nid yw’n cydymffurfio a gofynion maen prawf 1iii) o bolisi TWR 3, na pholisïau TRA 1 a 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a  ...  view the full Penderfyniad text for item 6.

Cofnod:

Datblygu parc gwyliau a hamdden i gynnwys 173 o borthdai gwyliau; 51 fflatiau gwyliau newydd eu hadeiladu; newid defnydd adeilad i 4 fflat gwyliau; adeiladu canolbwynt hamdden; ad-drefnu ac adnewyddu unedau diwydiannol; darpariaeth ar gyfer gwaith trin dŵr preifat; a meysydd parcio cysylltiedig, tirlunio, mynediad a ffyrdd mynediad mewnol.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Ymhelaethodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod y cais yn un ar gyfer datblygu parc gwyliau a hamdden. Eglurwyd bod y cais wedi ei rannu’n ddwy ran - yn gynnwys cyn safle ffatri Ferodo a safle Plas Brereton. Nodwyd bod y safleoedd wedi eu lleoli ar lan y Fenai rhwng Caernarfon a’r Felinheli, gyda llwybr beics Lôn Las Menai yn rhedeg drwyddynt gan ffurfio cyswllt presennol ar droed/beic rhwng y ddau safle. Ategwyd bod rhan uchaf y safleoedd yn ffinio gyda’r briffordd A487 sy’n rhedeg o Gaernarfon i’r Felinheli.

 

Adroddwyd bod y safle yn ffinio gyda pharth llifogydd C2 ar lan y Fenai fel y diffinnir ar  fapiau cyngor datblygu mewn cyswllt a NCT 15 Datblygu a Pherygl Llifogydd. Mae'r safle yn rhannol o fewn Safle Bywyd Gwyllt Rhanbarthol Plas Brereton gyda nifer o goed ar y safle wedi eu gwarchod gan Gorchymyn Gwarchod Coed TPO0137: Ferodo, Caernarfon a TPO0078 Bangor Road, Caernarfon. Nodwyd bod dau adeilad Rhestredig Gradd II Plas Tŷ Coch a Bwa Brics Fferm Tŷ Coch wedi eu lleoli 60m i’r de o’r safle gyda Pharc a Gardd Neuadd Llanidan (wedi ei restru gradd II*)  wedi ei lleoli gyferbyn a safle Ferodo, ar Ynys Môn. Lleoli’r safle oddeutu 1km i’r dwyrain o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn gydag Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Y Fenai a Bae Conwy wedi ei leoli yn union i’r Gogledd Ddwyrain o’r safle.

 

Datblygiad safle Plas Brereton yn cynnwys yr isod:

 

·         Dymchwel adeiladau'r hen stablau a coetsdy

·         Trosi Plas Brereton i 4 uned gwyliau (3 un ystafell wely ac un 3 ystafell wely)

·         Gosod 18 caban gwyliau

·         Torri a gwaith coed

·         Defnyddio ffyrdd presennol o fewn y safle a darparu rhai ffyrdd newydd

 

Nodwyd bod adeilad y ‘boathouse’ oedd yn destun newid defnydd ar gyfer caffi wedi ei dynnu allan o’r cais erbyn hyn.

 

Datblygiad safle cyn ffatri Ferodo yn cynnwys yr isod:

 

·      Dymchwel rhan o adeiladau'r ffatri bresennol

·      Adnewyddu adeiladau ar gyfer darparu 9 uned ar gyfer defnydd masnachol (nid yw’r defnydd yn gwbl glir ond deallir y bydd yn disgyn o fewn dosbarthiadau defnydd B1/B2) gyda pharcio cysylltiol

·      Codi adeilad hwb tri llawr newydd sy’n cynnwys 51 uned gwyliau 1 a 2 ystafell wely ynghyd a chyfleusterau hamdden gan gynnwys parc dwr, cyfleusterau bowlio, man chwarae medal i blant, bwyty, caffi, bwyd cyflym, siop a pharth iechyd a lles.

·      Darparu 155 caban gwyliau

·      Torri a gwaith coed

·      Darparu ffyrdd newydd

·      Defnyddio’r maes parcio presennol ar gyfer defnydd cyhoeddus i bobl nad ydynt yn breswylwyr ddefnyddio’r adeilad hwb newydd

 

Tynnwyd sylw at y dogfennau a gyflwynwyd yn cefnogi’r cais

 

Nodwyd fod y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C21/0645/33/LL Bodvel Hall, Lôn Boduan, Efailnewydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6DW pdf eicon PDF 332 KB

Newid defnydd tir amaethyddol i barc carafanau teithiol arfaethedig (40rh llain) gan gynnwys bloc amwynderau, trac mynediad a mynedfa

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio fel bod modd trafod cynlluniau diwygiedig yn ymwneud a’r fynedfa

 

Cofnod:

 

Newid defnydd tir amaethyddol i barc carafanau teithiol arfaethedig (40rh llain) gan gynnwys bloc amwynderau, trac mynediad a mynedfa

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn un ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol, oddeutu 1/3 o gae pori presennol,  i barc carafanau teithiol. Byddai’r gwaith yn cynnwys :

·         40 llain gwair anffurfiol yn mesur o leiaf 8m x 8m

·         Ffordd fynediad 3.6m o led wedi ei greu o gerrig mâl yn ffurfio rhwydwaith unffordd trwy’r safle - fe fyddai hefyd llecyn ar gyfer gwefru ceir trydan.

·         Gofod chwarae diogel yng nghanol y safle.

·         Bloc amwynderau yn darparu toiledau, cawodydd a chyfleusterau golchi - fe fyddai hwn yn adeilad pren gyda tho fflat, 11.4m x 6.8m o arwynebedd llawr a 2.6m o uchder.

·         Creu clawdd newydd ar hyd ffin orllewinol y safle - fe fydd hwn wedi ei ffurfio o 2m o bridd gyda phlanhigion gwrych brodorol wedi eu plannu arno.

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli mewn cefn gwlad agored oddeutu 1.1km i’r gorllewin o glwstwr Llannor fel y'i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd ac Ynys Môn; oddeutu 300m ar hyd ffordd, sy’n rhannol breifat a rhannol ddi-ddosbarth, o briffordd yr A497 sy’n arwain o Bwllheli i Nefyn.

Tynnwyd sylw at sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth oedd yn nodi bod sawl cofnod o adar sydd wedi’i restru o dan adran 7 Deddf yr Amgylchedd (2016) ar neu yn agos at y safle ac awgrymwyd bod yr ymgeisydd yn darparu Asesiad Ecolegol Cychwynnol o’r safle. Amlygwyd pryder hefyd ynghylch effaith gwella’r mynediad i’r safle ar y coed a gwrychoedd gerllaw. Adroddwyd nad oedd gwybodaeth ynghylch y materion hyn wedi eu derbyn  gan yr ymgeisydd fodd bynnag, ystyriwyd, drwy osod amodau ar gyfer sicrhau mesurau lliniaru priodol, y gall y cynnig fod yn dderbyniol o safbwynt ei effaith bioamrywiaeth ac y gellid, yn y pendraw, fodloni gofynion polisi PS 19.

Mewn ymateb i sylwadau gwreiddiol yr Uned Trafnidiaeth, cyflwynwyd cynhigion pellach ar gyfer sicrhau y gellid cael mynediad diogel at y safle. Fodd bynnag, er gwaetha’r gwelliannau a gynigiwyd, roedd yr Uned Trafnidiaeth yn parhau i fod â phryderon â’r cynllun. Ystyriwyd bod y datblygiad yn debygol o ddenu mwy o draffig ar hyd y ffordd gul at y safle ac, er yn cydnabod y bwriad o gyflwyno man pasio ychwanegol ar y ffordd ddi-ddosbarth yn ogystal â chyflwyno marciau ffordd ar ei gyffordd gyda’r ffordd breifat, roedd y pryder ynghylch diffyg gwelededd ar y gyffordd, rhwng y ffordd ddi-ddosbarth a’r A497 yn parhau. Nid oedd y cynigion a wnaethpwyd megis torri’r gwrych ar yr A489 ger y gyffordd i uchder o 1.1m am 100 lath i gyfeiriad Nefyn, yn ddigonol i oroesi problemau diogelwch o ganlyniad i ddiffyg gwelededd ar y ffordd sy’n llawer is na’r safonau delfrydol. Amlygwyd bod y Gwasanaeth bellach wedi derbyn cynllun diwygiedig ar gyfer y gyffordd a bod yr argymhelliad bellach i ohirio’r penderfyniad fel bod modd trafod y cynlluniau hyn gyda’r ymgeisydd.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C21/0573/33/LL Nant, Boduan, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YE pdf eicon PDF 327 KB

Lleoli 5 pod pren ar gyfer gwersylla tymhorol, codi uned gawod / toiledau, gosod gwaith trin carthion domestig a gwaith tirlunio.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio fel bod modd trafod ac asesu’r wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd

 

Cofnod:

Lleoli 5 pod pren ar gyfer gwersylla tymhorol, codi uned gawod / toiledau, gosod gwaith trin carthion domestig a gwaith tirlunio

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei dderbyn gan yr ymgeisydd ynghyd a chais i ohirio’r penderfyniad fel bod modd trafod materion mynedfa ac ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â’r system garthffosiaeth

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd gohirio’r cais

 

PENDERFYNWYD gohirio fel bod modd trafod ac asesu’r wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd

 

9.

Cais Rhif C21/0665/40/LL Gefail Y Bont, Lôn Boduan, Efailnewydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6DN pdf eicon PDF 436 KB

Cais ar gyfer newid defnydd tir i faes carafanau teithiol 19 uned gan gynnwys darparu adeilad toiledau a chawod, trac a lle chwarae o fewn y safle

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen J Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio fel bod modd cynnal trafodaethau pellach gyda'r ymgeisydd

 

Cofnod:

Cais ar gyfer newid defnydd tir i faes carafanau teithiol 19 uned gan gynnwys darparu adeilad toiledau a chawod, trac a lle chwarae o fewn y safle

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer datblygu maes carafanau teithiol newydd. Byddai’r bwriad yn cynnwys defnyddio cae amaethyddol ar gyfer gosod 19 carafán deithiol, adeilad toiledau, gwella mynedfa bresennol a gwaith tirlunio ar hyd clawdd / gwrych presennol. Disgrifiwyd y cae ble bwriedir lleolir y carafanau teithiol fel un gweddol wastad gyda’r unedau wedi ei gosod ar hyd y terfyn gogledd dwyreiniol a de ddwyreiniol y safle.   Eglurwyd bod yr egwyddor o greu safle carafanau teithiol wedi ei selio ym Mholisi TWR5 o’r CDLl lle caniateir y fath ddatblygiadau os gellid cydymffurfio gyda’r meini prawf.

 

Nodwyd bod y cynllun yn dangos bod yr unedau teithiol wedi eu lleoli ar hyd terfyn gogledd dwyreiniol a de ddwyreiniol cae ble mae coed a gwrychoedd yn bodoli ar hyn o bryd; sylweddolir y byddai'r llys dyfiant hwnnw yn creu sgrin er lleihau effaith y bwriad ar y tirlun, fodd bynnag, nid yw llystyfiant o’r fath yn nodwedd barhaol a byddai eu trin, torri neu ladd yn creu safle amlwg iawn o’r ffordd sirol gyfochrog ac yn amharu yn sylweddol ar y tirlun. Sylweddolir bod yr ymgeisydd wedi datgan bodlonrwydd i dewychu a chryfhau'r gwrychoedd presennol drwy blannu ychwanegol. Er hynny, ni ystyriwyd y byddai hynny yn creu mesurau digonol na pharhaol i gyfarfod amcanion y polisi.

 

Yn dilyn derbyn sylwadau cychwynnol gan yr Uned Bioamrywiaeth derbyniwyd asesiad ecolegol rhagarweiniol. Amlygwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth wedi darparu sylwadau pellach yn cadarnhau'r angen am asesiad ecolegol llawn oherwydd effaith cronnus datblygiadau eraill ar y safle a’r gwaith lefelu tir diweddar. Nid oedd yr adroddiad ecolegol yn ymateb i bryderon y Cyngor o ran  effaith ar goed na chyfiawnhau datblygiad o dan PAMG 6 o warchod safleoedd bywyd gwyllt.

 

Ar sail yr asesiad a sylwadau hwyr yr Uned Bioamrywiaeth, ystyriwyd bod y bwriad yn groes i bolisïau’r Cynllun Datblygu Lleol oherwydd effaith weledol y datblygiad, diffyg gwybodaeth er mwyn asesu’r effaith ar fioamrywiaeth a choed a diffyg cyfiawnhad am ddatblygu safle bywyd gwyllt.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·         Bod yr ymgeisydd yn wreiddiol o Swydd Stafford ac wedi symud i Gymru yn Rhagfyr 2020 ar ôl prynu Gefail Y Bont. Wedi treulio blynyddoedd lawer ar wyliau yng Ngogledd Cymru ond erbyn hyn wedi gwneud y penderfyniad i symud yma yn barhaol.

·         Bod datblygiad y safle yn cynnwys cyflogi contractwyr lleol i adeiladu bloc toiledau a chawodydd ynghyd a phlannu coed, codi ffensys ac adeiladu waliau cerrig newydd

·         Bod y datblygiad, os caiff ei gymeradwyo, yn cyflogi 3 aelod staff lleol llawn amser ar gyfer glanhau, cynnal a chadw a derbyn archebion

·         Y safle mewn lleoliad delfrydol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2023.

·         Y safle wedi'i leoli mewn lleoliad gwych, yn ddelfrydol i deuluoedd dreulio amser yn gweld adar,  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C21/0398/14/LL Safle Hen Glwb Ceidwadwyr Caernarfon, 1 Stryd Y Farchnad, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1RT pdf eicon PDF 426 KB

 

Newid defnydd yr adeilad i ddefnydd cymysg o siopau ar y llawr daear a chreu 6 uned gwyliau hunan-gynhaliol ar y lloriau uchod

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu - amodau

  1. Rhaid cychwyn ar y datblygiad y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn dim hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd. 
  2. Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif   D794.06P2, D794.07P2, D794.08P2, D794.09P2, D794.10P2, D794.11P2, D794.12P2, D794.13P2, D794.14P2, D794.15P2, D794.16P2, D794.17P1, D794.18P1, D794.19P1  a  D794.20P1  a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.
  3. Bydd yr unedau gwyliau cael eu defnyddio at ddibenion gwyliau yn unig ac ni fyddant yn cael eu meddiannu fel unig neu brif breswylfa person. Bydd perchenogion/gweithredwyr yr unedau cadw cofrestr, cofnod cyfamserol o enwau holl berchenogion/deiliaid yr unedau ar y safle a chyfeiriadau eu prif gartref a byddant yn sicrhau bod y wybodaeth ar gael ar bob adeg resymol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.
  4. Ni ddylai unrhyw ddatblygiad (yn cynnwys addasiadau strwythurol neu waith dymchwel) gymryd lle heb fod manylion ar gyfer rhaglen cofnodi archeolegol wedi’i gyflwyno a’i gymeradwyo yn ysgrifenedig ymlaen llaw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Dylai ymgymryd â’r datblygiad a’r holl waith archeolegol yn gwbl unol a’r manylion a ganiateir.
  5. Rhaid cyflwyno adroddiad manwl ar y gwaith archeolegol, yn unol ag amod (a), a chyflwynwyd a chytunwyd yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol o fewn 6 mis o gwblhau’r gwaith archeolegol. 
  6. Ni chaniateir i ddŵr wyneb oherwydd cynnydd mewn arwynebedd to'r adeilad neu / neu hwynebau anhydraidd o fewn y cwrtil gysylltu, unai yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i'r gyfundrefn garthffos gyhoeddus.
  7. Rhaid i unrhyw ffenestri amnewidir ar yr adeilad gwreiddiol fod o wneuthuriad pren wedi eu paentio gyda gwydr sengl ac o’r steil a math i gydweddu’r ffenestri presennol.  Rhaid ail defnyddio’r gwydr gwreiddiol os yn bosib.   
  8.  Rhaid cyflwyno manylion y gwydriad eilradd pe bwriedir eu gosod i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w cymeradwyo yn ysgrifenedig cyn eu gosod.
  9. Rhaid i'r ffenestri to fod o fath cadwraethol ac yn llyfn gyda'r to. 
  10. Cyn cychwyn y gwaith a ganiateir yma rhaid cyflwyno manylion lleoliad i osod blychau nythu gwenoliaid du, a’u gymeradwyo yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllun Lleol, a'u darparu ar y safle yn unol â'r manylion a gytunwyd.
  11. Rhaid i unrhyw arwyddion sy’n hysbysebu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle fod yn Gymraeg neu’n ddwyieithog gyda blaenoriaeth i’r Gymraeg.

Nodyn: Datblygwr i drafod posibiliadau cynnig tocyn parcio lleol i ddefnyddwyr yr adeilad gyda'r Gwasanaeth Trafnidiaeth

Cofnod:

Newid defnydd yr adeilad i ddefnydd cymysg o siopau ar y llawr daear a chreu 6 uned gwyliau hunangynhaliol ar y lloriau uchod

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd i newid defnydd adeilad sydd yn gyn clwb cymdeithasol i ddefnydd cymysg o swyddfa ar y llawr daear a 6 uned gwyliau hunangynhaliol ar y lloriau uchod. Bwriedir rhannu’r gofod llawr daear i un siop gydag ystafell i storio, cegin a thoiled i’r staff a'r rhan arall yn swyddfa gyda chegin a thoiled . Bwriedir creu dwy fynedfa newydd i’r ddwy uned newydd.

 

Aseswyd egwyddor y bwriad yn erbyn polisi TWR 2 “Llety gwyliau o’r Cynllun Datblygu Lleol lle caniateir cynigion sydd yn ymwneud a darparu llety gwyliau hunan wasanaeth cyn belled fod y bwriad yn cydymffurfio a chyfres o feini prawf

i.          Yn achos llety sy’n adeilad newydd, bod y datblygiad wedi ei leoli tu mewn i ffin datblygu, neu’n gwneud defnydd o safle addas a ddatblygwyd o’r blaen;

ii.          Bod graddfa’r datblygiad arfaethedig yn briodol gan ystyried y safle, y lleoliad a/neu’r anheddiad dan sylw;

iii.         Na fydd y bwriad yn arwain at golled yn y stoc tai parhaol;

iv.        Nad yw’r datblygiad yn cael ei leoli mewn ardal sy’n ardal breswyl yn bennaf, neu’n peri niwed sylweddol i gymeriad preswyl ardal;

v.         Nad yw’r datblygiad yn arwain at ormodedd o lety o’r fath yn yr ardal.”

 

Wrth ystyried gormodedd llety nodwyd na roddir ystyriaeth ffafriol i geisiadau ar gyfer llety gwyliau hunanwasanaeth pan fo cyfuniad o’r nifer presennol o lety gwyliau ac ail gartrefi o fewn ardal y Cyngor Cymuned/Tref/Dinas yn uwch na 15%. Defnyddiwyd gwybodaeth Treth Cyngor fel  ffynhonnell wybodaeth ac o’r  wybodaeth fwyaf diweddar nodwyd bod cyfuniad o lety gwyliau ac ail gartrefi yng Nghyngor Tref Caernarfon yn 1.31% sydd ymhell o dan y trothwy a nodi’r yn y canllaw. O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor.

 

Yng nghyd-destun adfer adeilad sydd yn adeilad trawiadol o fewn y strydlun ac o fewn muriau’r dref, ystyriwyd y byddai'r gwaith yn welliant sylweddol ac yn cwrdd â gofynion polisi PS 20 ac eraill. Er yn adeilad rhestredig gradd 2, nid oes nodweddion gwreiddiol yn parhau o fewn yr adeilad ac nid oes llawer o ffabrig hanesyddol i’w golli drwy drosi'r adeilad heb law am y ffenestri sydd eisoes yn cael sylw priodol.

 

Amlygwyd nad oedd darpariaeth parcio gyda'r bwriad ac nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad dros y bwriad oherwydd ei leoliad o fewn tref ble mae cyfyngiadau parcio ar y strydoedd eisoes yn bodoli, bod meysydd parcio  o gwmpas y safle ynghyd a chludiant cyhoeddus.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

 

·         Bod y safle yn amlwg o fewn Hen Dref Caernarfon

·         Yn adeilad rhestredig a godwyd tua 1820 fel neuadd farchnad yn wreiddiol ond erbyn hyn mewn perygl o ddirywiad pellach a difrifol

·         Wedi bod yn wag ers ymhell dros ddegawd a bellach mewn cyflwr difrifol iawn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C21/0399/14/CR Safle Hen Glwb Ceidwadwyr, Caernarfon 1 Stryd Y Farchnad, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1RT pdf eicon PDF 338 KB

Addasiadau mewnol ac allanol i drosi'r adeilad yn siopau a defnydd unedau gwyliau

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas

 

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol gyfeirio’r cais at CADW gydag argymhelliad i ganiatáu.

Amodau

  1. Rhaid cychwyn ar y datblygiad y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn dim hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd. 
  2. Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif   D794.06P2, D794.07P2, D794.08P2, D794.09P2, D794.10P2, D794.11P2, D794.12P2, D794.13P2, D794.14P2, D794.15P2, D794.16P2, D794.17P1, D794.18P1, D794.19P1  a  D794.20P1 a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.
  3. Rhaid i unrhyw ffenestri amnewidir ar yr adeilad gwreiddiol fod o wneuthuriad pren wedi eu paentio gyda gwydr sengl ac o’r steil a math i gydweddu’r ffenestri presennol.  Rhaid ail defnyddio’r gwydr gwreiddiol os yn bosib.    
  4. Rhaid cyflwyno manylion y gwydriad eilradd pe bwriedir eu gosod i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w cymeradwyo yn ysgrifenedig cyn eu gosod.
  5. Rhaid i’r ffenestri to fod o fath cadwraethol ac yn llyfn gyda'r to. 
  6. Rhaid i'r holl nwyddau dwr glaw fod o wneuthuriad haearn bwrw.

 

Cofnod:

Addasiadau mewnol ac allanol i drosi'r adeilad yn siopau a defnydd unedau gwyliau

 

a)            Amlygodd y Rheolwr Datblygu bod y cais yn ymwneud a’r un adeilad yn y cais blaenorol ond yn ymateb i elfennau’r gwaith ffisegol sydd angen caniatâd cynllunio. Cyfeiriwyd at baragraff 5.13 o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol y dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol ystyried y materion canlynol:

·         Pwysigrwydd a gradd yr adeilad a’i ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol cynhenid

·         Nodweddion ffisegol yr adeilad sy’n cyfiawnhau ei restru ac yn cyfrannu at ei arwyddocâd, gan gynnwys unrhyw nodweddion pwysig, megis y tu mewn i'r adeilad, a all fod wedi dod i’r amlwg ar ôl i’r adeilad gael ei gynnwys ar y rhestr

·         Cyfraniad cwrtil a lleoliad yr adeilad at ei arwyddocâd, yn ogystal â chyfraniad yr adeilad at yr olygfa leol

·         Effeithiau’r gwaith arfaethedig ar arwyddocâd yr adeilad

·         I ba raddau y byddai’r gwaith yn dod a manteision cymunedol sylweddol, er enghraifft drwy gyfrannu at economi’r ardal neu at wella ei hamgylchedd lleol.

 

Adroddwyd, gyda’r adeilad wedi gweld gymaint o newid dros amser nad oedd nodweddion gwreiddiol yn parhau o fewn yr adeilad ac nad oedd llawer o ffabrig hanesyddol i’w golli drwy drosi'r adeilad, heb law am y ffenestri sydd eisoes yn cael sylw priodol. Nodwyd fod y Gymdeithas Henebion Hynafol a’r Gymdeithas Fictorianaidd yn adlewyrchu hyn yn eu sylwadau.. Nododd y Gymdeithas Fictorianaidd hefyd bryder dros sut y byddai’r llawr newydd ar yr ail lawr yn cael effaith ar y ffenestri presennol, gan y byddai’r llawr yn mynd ar draws y ffenestri. Erbyn hyn, mae’r cynlluniau wedi eu haddasu yn dilyn derbyn y sylwadau a chynnal  trafodaethau ac y byddai’r llawr gyda llethr arno oddi wrth y ffenestr yn lleihau’r effaith gweladwy.

 

Ystyriwyd  y byddai'r gwaith o adfer yr adeilad sydd yn adeilad trawiadol o fewn y strydlun a hefyd o fewn muriau’r dref yn welliant sylweddol  ac yn cwrdd â gofynion y polisiau perthnasol ac yn dderbyniol i'w ganiatáu.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Mai materion cynlluniau rhestredig oedd dan sylw yma

·         Dim llawer o nodweddion penodol ar ôl

·         Ei fod yn derbyn sylwadau’r Gymdeithas Fictorianaidd

·         Y cynllun yn rhoi bywyd newydd i hen adeilad o fewn y dref

 

c)         Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais

 

PENDERFYNWYD Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol gyfeirio’r cais at CADW gydag argymhelliad i ganiatáu.

Amodau

1.         Rhaid cychwyn ar y datblygiad y cyfeirir ato yn y caniatâd hwn dim hwyrach na PHUM mlynedd o ddyddiad y caniatâd. 

2.         Cwblheir y datblygiad a ganiateir drwy hyn yn llwyr unol â'r manylion a ddangosir ar gynllun(iau) rhif   D794.06P2, D794.07P2, D794.08P2, D794.09P2, D794.10P2, D794.11P2, D794.12P2, D794.13P2, D794.14P2, D794.15P2, D794.16P2, D794.17P1, D794.18P1, D794.19P1  a  D794.20P1 a gyflwynwyd i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, ac a gynhwysir yn y ffurflen gais ac mewn unrhyw ddogfennau eraill gyda'r cais, os nad oes amod(au) sy'n ei diwygio wedi ei gynnwys ar y dyfarniad cynllunio hwn.

3.         Rhaid i unrhyw ffenestri amnewidir ar yr adeilad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cais Rhif C21/0803/11/LL Railway Institute Ffordd Euston, Bangor, Gwynedd, LL57 2YP pdf eicon PDF 385 KB

Codi 25 uned fforddiadwy, mynedfa, cyfleusterau parcio, tirlunio a gwaith cysylltiedig

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd R Medwyn Hughes

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau cytundeb o dan adran 106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol ar gyfer darpariaeth llecynnau agored ac i’r amodau isod: -

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.
  3. Cydymffurfio a’r cynllun tirweddu ynghyd a gwaith cynnal a chadw i’r dyfodol.
  4. Amod Dwr Cymru sy’n ymwneud a chyflwyno cynllun dwr aflan ar gyfer y datblygiad.
  5. Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu’r unedau fforddiadwy e.e. cymysgedd, daliadaeth, meini prawf meddiannaeth, amserlen a threfniadau i sicrhau bydd yr unedau yn fforddiadwy yn bresennol ac am byth. 
  6. Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau Gwerthusiad Ecolegol ac Asesiad Effaith Coedyddol.
  7. Cytuno manylion enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad cyn i’r unedau preswyl cael eu meddiannu at unrhyw ddiben ynghyd ac arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad.
  8. Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00-18:00 Llun i Wener; 08:00-13:00 Sadwrn a dim o gwbl ar y Sul a Gŵyl y Banc.
  9. Cyflwyno Cynllun Rheoli Adeiladu Amgylcheddol i gynnwys mesurau lleihau sŵn, llwch a dirgryniad i’w gytuno gyda’r ACLL.
  10. Sicrhau bod dwy ffenestr sy’n hwynebu talcen rhif 11 Ffordd Euston o wydr afloyw yn barhaol.
  11. Amodau perthnasol gan yr Uned Drafnidiaeth.
  12. Cyflwyno dyluniad o ddefnydd paneli solar

Nodyn: Angen cyflwyno cais system ddraenio cynaliadwy i’w gytuno gyda’r Cyngor.

Cofnod:

Codi 25 uned fforddiadwy, mynedfa, cyfleusterau parcio, tirlunio a gwaith cysylltiedig

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)            Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer darparu 25 uned fforddiadwy ar ffurf fflatiau hunangynhaliol, mynedfa newydd, ffurfioli a darparu 13 llecyn parcio, tirlunio a gwaith cysylltiedig ar gyn safle’r Railway Institute ar Ffordd Euston oddi fewn i ffin datblygu Bangor fel y’i cynhwysir yn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017 (CDLL). Nid yw wedi ei ddynodi ar gyfer unrhyw ddefnydd penodol.

 

Cydnabyddi’r Bangor fel Canolfan Gwasanaeth Trefol ym Mholisi TAI1 gyda pholisi PCYFF1 yn cefnogi datblygiadau tai er mwyn cwrdd â Strategaeth y CDLL (Polisi PS17) drwy ddynodiadau tai a safleoedd ar hap addas o fewn y ffin datblygu wedi ei selio ar y ddarpariaeth ddangosol a gynhwysir o fewn y CDLL ei hun. Adroddwyd bod Bangor, trwy gwblhau'r banc tir presennol, yn cyrraedd ei lefel twf dangosol o 969 uned ac mewn amgylchiadau o’r fath bydd ystyriaeth yn cael ei roi i’r unedau sydd wedi eu cwblhau hyd yma o fewn haen y Prif Ganolfannau ble mae diffyg o 371 o unedau. O dan y fath amgylchiadau cyflwynwyd y wybodaeth isod gyda’r cais yn amlinellu sut mae’r bwriad yn cyfarch anghenion y gymuned leol.

 

·         Darpariaeth o 25 uned breswyl 100% fforddiadwy ar safle tir llwyd hygyrch oddi fewn i’r ffin datblygu

·         Er bod ffigyrau capasiti ar gyfer Bangor wedi eu cyrraedd mae’r gymysgedd o unedau a fwriedir eu darparu yma yn seiliedig ar ffigyrau galw am anghenion lleol ar gyfer yr ardal leol ac yn hyblyg eu daliadaeth gan fod y cynllun yn cael ei gyflawni gyda chymorth Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ac o’r safbwynt yma bydd yr holl unedau yn destun lefel rhent cymdeithasol.

·         Fel y dangosir yn y CCA: Cymysgedd tai (2018) bydd galw am unedau 1 a 2 ystafell wely ar rent cymdeithasol yn cynyddu gyda’r galw am unedau 1 ystafell wely yn cynyddu o 13% i 26% a’r galw am unedau dwy ystafell wely yn cynyddu o 32% i 44%. Mae hefyd yn dangos bydd y galw am unedau rhent cymdeithasol 3 ystafell wely yn gostwng o 50% i 23%.

·         Bydd yr unedau yn cael eu dylunio i ofynion Safonau Ansawdd Cartrefi Cymru (2021)

 

Eglurwyd bod y bwriad yn golygu darparu 100% uned breswyl fforddiadwy gyda Pholisi TAI15 yn datgan gan fod Bangor wedi ei leoli tu mewn i ardal pris tai Arfordir Gogledd a De Arfon yn y CDLL, bod darparu 20% o dai fforddiadwy yn hyfyw sy’n gyfystyr a darparu 5 uned fforddiadwy yng nghyswllt y cais hwn. Gan fod y bwriad yn golygu darparu 100% o unedau fforddiadwy, a bod angen ar gyfer y math yma o unedau, roedd y bwriad yn bodloni gofynion Polisi TAI15 o’r CDLL.

 

Ystyriwyd fod safle’r cais yn safle a ddatblygwyd o’r blaen (tir llwyd) yn addas ar gyfer defnydd preswyl mewn ardal sydd yn cynnwys anheddau preswyl o ddwysedd uchel ac sy’n hygyrch i ddulliau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.