skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Louise Hughes a’r Cynghorydd Dilwyn Lloyd

 

Croesawyd y Cynghorydd Cai Larsen fel aelod newydd i’r Pwyllgor

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Y Cynghorydd Owain Williams yn eitem 5.1 (C21/0645/33/LL) ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn berchen maes carafanau, ac yn eitem 5.2 (C21/0411/46/LL) ar y rhaglen oherwydd bod gan ei ferch gysylltiadau gyda Tyddyn Du

b)    Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones yn eitem 5.4 (C21/0446/20/LL) a 5.5 (C21/0445/20/LL) ar y rhaglen, oherwydd ei fod yn ffrind i’r gwrthwynebydd, ac yn eitem 5.9 (C21/0767/14/LL) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn aelod o Fwrdd Adra

c)    Y Cynghorydd Cai Larsen yn eitem 5.9 (C21/0767/14/LL) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn aelod o Fwrdd Adra

 

Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau.

 

d)    Datganodd yr aelodau canlynol eu  bod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·         Y Cynghorydd Simon Glyn (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C21/0411/46/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Gareth Griffith (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 (C21/0446/20/LL) a 5.5 (C21/0445/20/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Glyn Daniels (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 (C21/0922/03/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Cemlyn Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.9 (C21/0767/14/LL) ar y rhaglen

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 320 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 31ain Ionawr 2022 fel rhai cywir  

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 31ain o Ionawr 2022 fel rhai cywir

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

 

6.

Cais Rhif C21/0645/33/LL Bodvel Hall Lôn Boduan, Efailnewydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6DW pdf eicon PDF 338 KB

Newid defnydd tir amaethyddol i barc carafanau teithiol arfaethedig (40rh llain) gan gynnwys bloc amwynderau, trac mynediad a mynedfa

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:

           

 

  1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd
  2. Unol â chynlluniau a gyflwynwyd
  3. Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw un adeg ar y safle hwn i’w cyfyngu i 40
  4. Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref
  5. Defnydd gwyliau yn unig
  6. Cadw cofrestr o ddefnyddwyr
  7. Dim storio carafanau ar y safle y tu allan i'r tymor
  8. Yr holl arwyddion mewnol ac allanol i fod yn Gymraeg yn unig neu yn ddwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r iaith Gymraeg
  9. Rhaid dilyn argymhellion yr Asesiad Ecolegol Cychwynnol
  10. Rhaid cynnal y gwelededd gyda'r A497 i'r safonau a'u dangosir yn y cynlluniau yn barhaus
  11. Amod Dŵr Cymru
  12. Amodau tirlunio

 

  • Nodyn - Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Uned Trwyddedu

 

Cofnod:

Newid defnydd tir amaethyddol i barc carafanau teithiol arfaethedig gan gynnwys bloc amwynderau, trac mynediad a mynedfa

 

a)     Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais ydoedd ar gyfer newid defnydd tir amaethyddol, i barc carafanau teithiol. Byddai’r gwaith yn cynnwys :

·         Gosod 40 llain gwair anffurfiol yn mesur o leiaf 8m x 8m

·         Creu ffordd fynediad 3.6m o led wedi ei greu o gerrig mâl yn ffurfio rhwydwaith unffordd trwy’r safle

·         Adeiladu bloc amwynderau yn darparu toiledau, cawodydd a chyfleusterau golchi.

·         Creu clawdd newydd ar hyd ffin orllewinol y safle

 

Adroddwyd bod y cais wedi ei gyflwyno i  bwyllgor  22 Tachwedd, 2021 pryd y gohiriwyd gwneud penderfyniad er mwyn caniatáu i swyddogion ystyried gwybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd ac i drafod manylion y datblygiad ymhellach gyda’r ymgeisydd.

 

Eglurwyd bod y safle  wedi ei leoli  mewn cefn gwlad agored oddeutu 300m ar hyd ffordd, sy’n rhannol breifat a rhannol ddi-ddosbarth, o briffordd yr A497 sy’n arwain o Bwllheli i Nefyn.

 

Atgoffwyd yr Aelodau am y pryderon a gyfeiriwyd atynt yn y cyfarfod diwethaf, sef diffyg ystyriaeth i  faterion bioamrywiaeth a mynedfa i’r parc carafanau. Mewn ymateb, nodwyd bod gwybodaeth ychwanegol wedi ei gyflwyno:

·         Asesiad Ecolegol Cychwynnol oedd yn cynnwys mesurau i amddiffyn coed hynafol ynghyd a chynllun gwelliannau ecolegol fyddai’n cynnwys plannu gwrych brodorol, tyfu blodau a gosod blychau adar. Nodwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth yn fodlon gyda’r cynigion.

·         Cynllun diwygiedig ar gyfer y gyffordd gyda’r A497 a fyddai’n golygu lledaenu’r llain gwair ger y ffordd,  torri dwy goeden a rheoli uchder y clawdd er mwyn creu gwelededd hyd at 160m i gyfeiriad y gorllewin. Nodwyd bod yr Uned Trafnidiaeth yn fodlon gyda’r cynigion a’r Swyddogion Cynllunio yn derbyn bod y diwygiadau yn goresgyn problemau diogelwch

 

Ystyriwyd bod y cynnig gyda’r wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd, yn cwrdd gyda’r anghenion ar gyfer datblygu safle gwersylla tymhorol newydd fel y’i nodir ym Mholisi TWR 5 y CDLl ac o osod amodau priodol er sicrhau'r gwelliannau angenrheidiol i'r fynedfa briffordd a chamau lliniaru ar gyfer amddiffyn bioamrywiaeth, y byddai'r datblygiad yn cwrdd gyda gofynion y polisïau perthnasol yn y CDLl.

.

b)   Yn manteisio ar ei hawl i siarad, nododd yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

 

·         Ei fod yn dod o deulu ffermio Cymreig gyda gwerthoedd Cymreig.

·         Wedi byw a ffermio yng ngogledd Cymru ers dros 200 mlynedd a'i hun wedi ffermio yn Bodvel am dros 50 mlynedd

·         Yn ystod y cyfnod hwn ei bolisi erioed fu cefnogi gwerthoedd y gymuned leol, y bobl leol eu hunain, busnesau a gwasanaethau lleol

·         Ei fod bob amser wedi cyflogi pobl leol o deuluoedd lleol gan ddweud gyda balchder bod cenedlaethau o’r un teuluoedd lleol wedi bod yn gweithio ar y fferm ac wedi bod yn uniongyrchol gyfrifol am reoli agweddau amaethyddol a gofal anifeiliaid y fferm

·         Ei fod wedi bod yn ymwneud â nifer o fusnesau yn yr ardal sy’n cynnwys bwytai, gwestai  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C21/0411/46/LL Tir Tyddyn Du, Dinas, Pwllheli, LL53 8SU pdf eicon PDF 409 KB

Codi adeilad i gadw cyfarpar a phorthiant amaethyddol gan gynnwys dau stabl a storfa tac.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Simon Glyn

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

  1. Rhaid cychwyn ar y datblygiad dim hwyrach na phum mlynedd o ddyddiad y caniatâd
  2. Cwblheir y datblygiad yn llwyr unol â'r manylion a gyflwynwyd
  3. Rhaid cytuno ar y deunyddiau / lliwiau allanol cyn dechrau'r datblygiad
  4. Rhaid defnyddio'r adeilad ar gyfer pwrpas amaethyddol yn unig

 

Nodyn - Uned Draenio Tir

 

Cofnod:

Codi adeilad i gadw cyfarpar a phorthiant amaethyddol gan gynnwys dwy stabl a storfa tac.

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn gais llawn ar gyfer adeiladu sied amlbwrpas  (Amaethyddol / Ceffylau)  fyddai’n cynnwys dwy stabl a storfa tac ynghyd a man cysgodi defaid, lle cadw peiriannau a phorthiant a storfa llawr cyntaf.  Nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn cefn gwlad agored oddeutu 700m i’r de orllewin o bentref Croeslon Dinas; o fewn yr Ardal Tirwedd Arbennig a ddynodir gan Gynllun Datblygu Lleol ar y cyd Gwynedd a Môn ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli; 180m i’r gorllewin o ffin Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn.

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan fod yr ymgeisydd yn berthynas i aelod etholedig o'r Cyngor.

Gohiriwyd gwneud penderfyniad ar y cais ym mhwyllgor 13 Rhagfyr, 2021 fel bod swyddogion yn cael cyfle i ystyried gwybodaeth hwyr a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd yn rhoi eglurhad pellach ynghylch yr angen am y datblygiad. Roedd hyn yn cynnwys :

·         Nad oedd adeiladau amaethyddol yn sefyll wrth y tŷ (ar dir Tyddyn Du) - rhai o’r adeiladau gwreiddiol erbyn hyn yn eiddo i fferm Tyddyn Gwyn.

·         Bod mynediad i’r cae wrth y tŷ yn anaddas i gerbydau mawr gan iddo groesi ffos a phibellau dŵr; gwifrau cyflenwadau trydan a ffôn yn croesi uwchben yr adwy, sy’n rhwystr i beiriannau gael mynediad i’r cae ger y tŷ

·         Nad oedd angen gwneud llawer o waith i'r tir er mwyn creu safle lefel ar gyfer y datblygiad;  fe ail-gylchir unrhyw bridd a symudir i greu lle gwastad o amgylch yr adeilad

·         Bydd llwyni a choed cynhenid yn cael eu plannu o amgylch yr adeilad.

·         Ni fydd yr adeilad yn effeithio ar fwynderau gweledol unrhyw un o’r cymdogion, adeiladau eraill nac unrhyw anheddle cyfagos

·         Y safle yn guddiedig ac mewn safle diarffordd ac anial; gwrychoedd yn guddfan naturiol i’r adeilad.

Adroddwyd bod trafodaethau pellach ynghyd a chyfarfod safle wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd. Yn sgil hynny fe newidiwyd lleoliad arfaethedig yr adeilad – ei osod ar lefel is na gynigiwyd yn wreiddiol ac yn agosach at y gwrych aeddfed sy'n amgylchynu’r cae.

Yn sgil y newidiadau i'r cynllun ers y Pwyllgor diwethaf, a'r eglurhad pellach a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd ynghylch yr angen am yr adeilad a'r cyfiawnhad am y lleoliad, roedd y swyddogion yn derbyn bod yr angen amaethyddol wedi ei brofi ar gyfer codi adeilad ar y safle  ac felly’r bwriad yn dderbyniol dan egwyddor datblygiad gwledig sylfaenol a pholisi PCYFF1 y CDLl yn benodol. Yn ogystal, oherwydd bod y bwriad bellach wedi ei guddio yn rhannol o welfannau cyhoeddus, derbyniwyd na fyddai’r adeilad yn creu nodwedd ymwthiol yn y dirwedd. Ystyriwyd bod y cais yn dderbyniol dan bolisïau, PCYFF2, PCYFF 3 ac AMG 2 y  CDLl

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd yr Aelod Lleol yn sylwadau canlynol:

·         Bod trafodaethau wedi eu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C21/0831/23/LL Lleifior, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4AN pdf eicon PDF 561 KB

 

Datblygiad Preswyl o 8 annedd (yn cynnwys 4 tŷ fforddiadwy)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Beca Brown

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

CAIS WEDI EI DYNNU YN ÔL

 

Cofnod:

APPLICATION HAD BEEN WITHDRAWN

 

9.

Cais Rhif C21/0446/20/LL Plot 11 Ffordd Caernarfon, Y Felinheli, Gwynedd, LL56 4RZ pdf eicon PDF 446 KB

 

Cais ar gyfer codi tŷ tri llawr tair llofft gyda ardal barcio

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Griffith

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau cynllunio isod:

 

1.         Amser

2.         Yn unol â’r cynlluniau

3.         Llechi

4.         Gorffeniadau allanol.

5.         Mynediad a pharcio

6.         Mesurau Osgoi Rhesymol ar gyfer ymlusgiaid.

7.         Dim clirio llystyfiant yn ystod y cyfnod nythu adar.

8.         Enw Cymraeg i’r tŷ.

 

Cofnod:

Cais ar gyfer codi tŷ tri llawr tair llofft gydag ardal barcio

 

a)    Amlygodd y Swyddog Cynllunio bod bwriad codi annedd tri-llawr yn ei gyfanrwydd gyda dim ond deulawr i'w weld o Ffordd Caernarfon. Eglurwyd bod caniatâd cynllunio byw ar y safle er mwyn codi adeilad pedwar llawr sy’n cynnwys 4 uned breswyl hunan cynhaliol (gyfeirnod C09A/0182/20/LL) – y caniatâd hwn yn fyw (wedi ei gychwyn) gan fod yr eiddo preswyl oedd wedi ei leoli ar y llain yn flaenorol wedi ei ddymchwel. Golygai hyn, fod y 4 uned a ganiatawyd yn flaenorol wedi ei gynnwys yn y banc tir yn barod ac felly bydd lleihad yn y niferoedd o unedau preswyl sy’n cael eu darparu. Ni fydd y bwriad felly yn groes i bolisi TAI 4 ac nid yw’n darparu mwy o unedau na’r ddarpariaeth tai dangosol a osodwyd ar gyfer yr anheddle yn y polisi hwnnw. O ganlyniad, nid oes angen cyfiawnhad arbennig am y datblygiad.

 

Oherwydd natur y llain tir, bydd yr eiddo newydd yn gwbl amlwg o fannau cyhoeddus ac yn ychwanegiad i'r rhes o dai sydd wedi eu codi ar Ffordd Caernarfon. Nodwyd bod y rhan yma o bentref Felinheli yn cynnwys amrywiaeth sylweddol o ran pensaernïaeth, graddfa, dyluniad a gosodiad.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, amlygwyd fod y cynlluniau arfaethedig yn nodi fod wal gefn yr annedd i’w lleoli 2m ymhellach i'r gogledd orllewin na'r adeilad gellid ei godi fel rhan o'r caniatâd byw. Mae'r rhan o'r annedd arfaethedig sy'n ymestyn 2m ymhellach yn cynnwys y balconïau ar y tri llawr ac yn cynnwys to o siâp gwahanol bydd 1m yn uwch na'r adeilad wedi ei ganiatáu.

 

Oherwydd maint yr edrychiad gwag (blank elevation) sy'n ffinio/wynebu eiddo 14, Ffordd Caernarfon, rhaid derbyn fod y bwriad cyfredol yn debygol o greu strwythur fyddai’n cael rhywfaint o effaith gormesol i rannau o ardd breswyl ac estyniad tŷ gwydr yng nghefn yr eiddo yma. Eglurwyd bod yr ardd wedi ei lleoli wrth gefn eiddo 14, Ffordd Caernarfon ac oherwydd topograffi’r safle yn mwynhau lefelau uchel o amwynder preswyl gyda golygfeydd di-baid tuag at y gogledd orllewin. Er gwaethaf hyn, nid yw'r annedd arfaethedig yn sylweddol wahanol i'r adeilad pedwar llawr sy'n destun y caniatâd byw o ran ei ffurf a gosodiad y wal gefn fel sydd yn cael ei ddangos yn glir ar y cynlluniau arfaethedig. Am y rhesymau yma, ni ystyriwyd fod y datblygiad yn debygol o greu niwed i fwynderau preswyl sy'n sylweddol waeth na'r effaith y byddai'n deillio o godi'r adeilad sy'n rhan o ganiatâd byw.

 

Yng nghyd -destun materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd bod ymateb wedi ei dderbyn gan yr Uned Drafnidiaeth yn nodi y dylid diwygio dyluniad y blaengwrt er mwyn cyd-fynd a llinell blaengwrt cais C21/0445/20/LL. Yn dilyn derbyn cynlluniau diwygiedig yn unol ag awgrymiadau'r Uned Drafnidiaeth nid dderbyniwyd gwrthwynebiad pellach i ddyluniad y droedffordd a chadarnhawyd fod agweddau eraill y bwriad (megis darpariaeth parcio) yn dderbyniol. Tynnwyd sylw at y  nifer o amodau a nodiadau ynghylch  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C21/0445/20/LL Plot 11a, Ffordd Caernarfon, Felinheli, LL56 4RZ pdf eicon PDF 368 KB

 

Cais ar gyfer codi tŷ tri llawr tair llofft gyda ardal barcio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Griffith

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol;

 

1.         Amser

2.         Yn unol â’r cynlluniau

3.         Llechi

4.         Gorffeniadau allanol.

5.         Mynediad a pharcio

6.         Mesurau Osgoi Rhesymol ar gyfer ymlusgiaid.

7.         Dim clirio llystyfiant yn ystod y cyfnod nythu adar.

8.         Enw Cymraeg i’r tŷ.

 

 

Cofnod:

Cais ar gyfer codi tŷ tri llawr tair llofft gydag ardal barcio

 

a)    Amlygodd y Swyddog Cynllunio bod y cais yn rhannu'r un dyluniad a chais 5.4 - yn gais llawn ar gyfer codi tŷ tri llawr tair llofft gydag ardal barcio. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu pentref Felinheli (fel y diffinnir yn yr CDLl.) ger ffordd gyhoeddus dosbarth 3 (Ffordd Caernarfon). Ategwyd bod bwriad gan yr ymgeisydd symud i fyw yn barhaol yn yr uned fydd yn cael ei alw yn Heulyn.

 

Eglurwyd bod caniatâd cynllunio byw ar gyfer codi eiddo preswyl tri llawr (Caniatawyd cais ar gyfer codi annedd 3 llawr o dan gyfeirnod C12/0986/20/LL yn ogystal ag ymestyn cyfnod cychwyn y datblygiad o 5 mlynedd ychwanegol o dan gyfeirnod C17/1232/20/LL). Golygai hyn, fod yr uned sydd wedi ei ganiatáu yn gynt, wedi ei gynnwys yn y banc tir yn barod. Wedi ystyried y sefyllfa, nid oes unrhyw newid yn yr unedau preswyl sy’n cael eu darparu ac felly nid yw’r bwriad yn groes i bolisi TAI 4 ac nid yw’n darparu mwy o unedau na’r ddarpariaeth tai dangosol a osodwyd ar gyfer yr anheddle yn y polisi hwnnw. O ganlyniad i hyn, nid oes angen cyfiawnhad arbennig am y datblygiad. I’r perwyl hwn ystyriwyd bod y bwriad diweddaraf hwn yn dderbyniol mewn egwyddor.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, gyda gosodiad y tŷ arfaethedig mewn perthynas ag anheddau cyfagos, ei ddyluniad a'i raddfa  ystyriwyd na fyddai’r bwriad yn amharu'n andwyol ar fwynderau preswyl a chyffredinol trigolion cyfagos ar sail colli preifatrwydd/gor-edrych ac aflonyddwch sŵn - y bwriad felly, yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi PCYFF2 o'r CDLL.

 

Yng nghyd-destun diogelu llecynnau agored  presennol a rheilffyrdd segur cyflwynodd yr asiant gynllun safle diwygiedig er mwyn dengys bod pellter digonol rhwng yr eiddo a'r ardd breswyl ac na fydd y datblygiad yn gorgyffwrdd a'r rheilffordd segur. Yn yr un modd, ni fydd y bwriad yn amharu ar ddefnydd y llecyn agored sydd wedi ei warchod nid yw'n gorgyffwrdd yn sylweddol i yn y llecyn (bydd gardd yr eiddo o fewn terfyn y dynodiad). I'r perwyl hwn ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol gan na fydd yn amharu ar y llecyn agored wedi ei warchod a'r rheilffordd segur a drwy hynny'n cydymffurfio a gofynion polisïau ISA 4 a TRA 3 o'r CDLl.

 

Wedi ystyried yr holl faterion perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â'r cefndir cynllunio, ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol a'i fod yn bodloni gofynion y polisïau perthnasol

 

b)    Nodwyd bod y gwrthwynebydd yn dymuno datgan yr un sylwadau a chais 5.4

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd asiant yr ymgeisydd y sylwadau canlynol:

·           Bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref Felinheli ac yn ffinio gyda Ffordd Caernarfon sy’n rhedeg ar hyn ffin ddeheuol y safle.  Y safle mewn ardal breswyl a’r plot wedi ei leoli ar dir drws nesaf i gais a drafodwyd yn 5.4  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C21/0721/17/AC Chwarel Foel Tryfan, Y Fron, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7RF pdf eicon PDF 521 KB

 

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 10 ar ganiatâd cynllunio C18/1125/17/LL i  cynyddu'r nifer o symudiadau loriau 'HGV' o 5 llwyth y diwrnod i 9 llwyth y diwrnod ar Ddydd Llun i Dydd Gwener, gyda dim symudiadau HGV ar y Sadwrn

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dilwyn Lloyd

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Cymeradwyo yn amodol ar yr addasiad a ganlyn i amod 10 o gais cynllunio C18/0125/17/MW:

 

Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio mwynau ymlaen llaw, ni fydd yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd ag unrhyw ganiatâd cynllunio mwynau presennol arall yn y safle, yn fwy na'r gyfradd uchaf o ddim mwy na naw llwyth HGV y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, a dim symudiadau HGV ar ddydd Sadwrn.  Rhaid gofalu y bydd ffigyrau allbwn o’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael i’r awdurdod cynllunio lleol, ar gais, o fewn 21 diwrnod.

 

Y datblygiad i fod yn destun yr un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol a roddwyd C18/0125/17/MW i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, hydroleg, gwarchod yr amgylchedd dŵr, trefn y gweithrediadau, cydymffurfio â chynlluniau'r cais, archeoleg, lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau ac adfer dilyniadol.

 

 

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 10 ar ganiatâd cynllunio C18/1125/17/LL i  gynyddu'r nifer o symudiadau loriau 'HGV' o 5 llwyth y diwrnod i 9 llwyth y diwrnod ar Ddydd Llun i Ddydd Gwener, gyda dim symudiadau HGV ar y Sadwrn. 

 

a)            Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff bod y cais hwn yn rhan o gais cynllunio  C18/0125/17/MW a gymeradwywyd ar gyfer gwaredu a phrosesu dyddodion gweithio mwynau presennol gydag amodau, ar 6 Medi 2018.

Nodwyd bod dau ganiatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar gyfer y safle ac maent yn ymwneud ag echdynnu a phrosesu mwynau o wahanol ardaloedd o’r chwarel. Er mwyn cywirdeb ac i osgoi amheuaeth yn ymwneud â chyfraddau allbwn, amlygwyd bod chwaer gais, C21/0491/17/LL, yn destun penderfyniad i gynyddu allbwn a chyfnerthu allbwn o waith y chwarel cyfan i gyfanswm o 9 llwyth HGV ar ddyddiau gwaith.

 

O dan Adran 73, Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gall yr Awdurdod Cynllunio Lleol newid neu dynnu amodau ond ni all newid unrhyw ran arall o'r caniatâd. Bydd cais a.73 llwyddiannus yn golygu caniatáu caniatâd cynllunio newydd ac felly’r caniatâd gwreiddiol yn parhau yn gyfan. Wrth benderfynu ar gais a.73, gall yr Awdurdodau Cynllunio Lleol osod amodau y tu hwnt i'r rhai a gynigir yn y cais gwreiddiol (er bod rhaid iddynt fod yn rhai y gellid fod wedi eu gosod ar y caniatâd gwreiddiol). Yn flaenorol, y farn oedd na ddylai'r newidiadau a ganiateir olygu 'newid sylfaenol' o'r bwriad a gynigiwyd yn y cais gwreiddiol.

 

Adroddwyd bod y cais yn ymwneud â chynyddu allbwn o 5 i 9 llwyth ar ddyddiau gwaith ond yn symud yr un faint o ddeunydd gyda chaniatâd o waith y chwarel, ar raddfa gyflymach ac mai prif ystyriaethau’r cais oedd dwyster y broses gynhyrchu a, thrwy hynny, yr effaith ychwanegol ar y briffordd.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth,  ni dderbyniwyd sylwadau anffafriol gan ymgynghorwyr statudol. Nododd yr Adran Briffyrdd y byddai'r cynnydd arfaethedig mewn symudiadau cerbydol yn finimal gan nodi ymhellach bod trefniant gwirfoddol parhaus o lwybro cylchol lle mae’r HGVs yn cyrraedd y safle o Groeslon ac yn cael mynediad drwy Rhostryfan sydd, mewn gwirionedd, yn haneru symudiadau traffig i'r chwarel ac oddi yno cyn ail-ymuno â'r A487. Ategwyd, er na ellid amodi'r trefniant yma, roedd yr ymgeisydd a'r Awdurdod Cynllunio Mwynau yn awyddus iddo barhau - bydd datblygu trefniadau o’r fath yn cael eu trafod yn y Grŵp Cyswllt Cynllunio parhaus sy'n cyfarfod bob blwyddyn i drafod Gweithrediadau'r safle.

 

Nodwyd bod cefnogaeth i'r cais gan Gyngor Cymuned Llandwrog yn ddarostyngedig i symudiadau HGV yn osgoi traffig ysgol yn y bore a'r prynhawn – y trefniant yma yn un gwirfoddol a gaiff ei gytuno a'i ddatblygu drwy'r Grŵp Cyswllt Cynllunio ar gyfer y safle.

 

Wedi ystyried mai un newid bychan fydd i'r cyfyngiadau allbwn presennol, ystyriwyd y cynnig yn dderbyniol mewn egwyddor a'i fod yn cydymffurfio â Pholisi TRA 4 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. Yng nghyd-destun effeithiau mwynderol,   cyfeiriwyd at  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cais Rhif C21/0491/17/AC Chwarel Foel Tryfan, Y Fron, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7RF pdf eicon PDF 438 KB

 

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 6 ar ganiatâd cynllunio C18/1126/17/LL i  cynyddu'r nifer o symudiadau loriau 'HGV' o 5 llwyth y diwrnod i 9 llwyth y diwrnod ar Ddydd Llun i Dydd Gwener, gyda dim symudiadau HGV ar y Sadwrn. 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dilwyn Lloyd

 

Doleni'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Cymeradwyo yn amodol i'r newid a ganlyn i amod 6 o gais cynllunio C18/1126/17/LL:

 

Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio mwynau ymlaen llaw, ni fydd yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd ag unrhyw ganiatâd cynllunio mwynau presennol arall ar y safle, yn fwy na'r gyfradd uchaf o ddim mwy na naw llwyth HGV y dydd, ddydd Llun i ddydd Gwener, a dim symudiadau cerbydau HGV ar ddydd Sadwrn. Rhaid gofalu y bydd ffigyrau allbwn o’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael i’r awdurdod cynllunio lleol, ar gais, o fewn 21 diwrnod.

 

Y datblygiad i fod yn amodol i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol a roddwyd C18/1126/17/LL i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, hydroleg, gwarchod yr amgylchedd dŵr, trefn y gweithrediadau, cydymffurfio â chynlluniau'r cais, archeoleg, lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau ac adfer dilyniadol.

 

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 6 ar ganiatâd cynllunio C18/1126/17/LL i  gynyddu'r nifer o symudiadau loriau 'HGV' o 5 llwyth y diwrnod i 9 llwyth y diwrnod ar Ddydd Llun i Ddydd Gwener, gyda dim symudiadau HGV ar y Sadwrn. 

 

 

a)            Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff y cymeradwywyd cais cynllunio C18/0126/17/MW ar yr 18 Chwefror 2019, yn ddarostyngedig i amodau, i amrywio amod 6 o ganiatâd cynllunio C16/0063/17/MW i ganiatáu pum llwyth HGV y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, heb unrhyw symudiadau HGV ar ddydd Sadwrn.  

 

Nodwyd bod dau ganiatâd cynllunio eisoes yn bodoli ar gyfer y safle yn ymwneud ag echdynnu a phrosesu mwynau o wahanol ardaloedd yn y chwarel. Er mwyn cywirdeb ac i osgoi amheuaeth yn ymwneud â chyfraddau allbwn, mae chwaer gais, C21/0721/17/AC, yn ddarostyngedig i benderfyniad i gynyddu allbwn a chyfnerthu allbwn o'r holl chwarel i gyfanswm o 9 llwyth HGV ar ddyddiau gwaith.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth,  ni dderbyniwyd sylwadau anffafriol gan ymgynghorwyr statudol. Nododd yr Adran Briffyrdd y byddai'r cynnydd arfaethedig mewn symudiadau cerbydol yn finimal gan nodi ymhellach bod trefniant gwirfoddol parhaus o lwybro cylchol lle mae’r HGVs yn cyrraedd y safle o Groeslon ac yn cael mynediad drwy Rostryfan sydd, mewn gwirionedd, yn haneru symudiadau traffig i'r chwarel ac oddi yno cyn ail-ymuno â'r A487. Ategwyd, er na ellid amodi'r trefniant yma, roedd yr ymgeisydd a'r Awdurdod Cynllunio Mwynau yn awyddus iddo barhau - bydd datblygu trefniadau o’r fath yn cael eu trafod yn y Grŵp Cyswllt Cynllunio parhaus sy'n cyfarfod bob blwyddyn i drafod Gweithrediadau'r safle.

 

Ystyriwyd bod yr holl ystyriaethau cynllunio materol wedi cael eu hasesu a bod y bwriad yn gyson gyda Chynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ynghyd â Pholisïau a Chanllawiau Cynllunio Cenedlaethol.  Cyflwynwyd y cais yma dan a.73 sy'n caniatáu i amod 6 o'r caniatâd gael ei amrywio, gan hefyd ganiatáu rheolaeth ddigonol ac ail-osod yr holl amodau eraill sy'n ymwneud â'r effaith ar y dirwedd, archaeoleg ddiwydiannol, treftadaeth, diogelwch amgylcheddol a mwynderol, oriau gwaith, cyfnodedd, adfer, bioamrywiaeth, hawliau tramwy cyhoeddus a safleoedd dynodedig.

 

b)            Cynigiwyd ac eiliwyd caniatau y cais

 

 

PENDERFYNWYD Cymeradwyo yn amodol i'r newid a ganlyn i amod 6 o gais cynllunio C18/1126/17/LL:

 

Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio mwynau ymlaen llaw, ni fydd yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd ag unrhyw ganiatâd cynllunio mwynau presennol arall ar y safle, yn fwy na'r gyfradd uchaf o ddim mwy na naw llwyth HGV y dydd, ddydd Llun i ddydd Gwener, a dim symudiadau cerbydau HGV ar ddydd Sadwrn. Rhaid gofalu y bydd ffigyrau allbwn o’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael i’r awdurdod cynllunio lleol, ar gais, o fewn 21 diwrnod.

 

Y datblygiad i fod yn amodol i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol a roddwyd C18/1126/17/LL i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, hydroleg, gwarchod yr amgylchedd dŵr, trefn y gweithrediadau, cydymffurfio â chynlluniau'r cais, archeoleg, lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau ac  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cais Rhif C21/0922/03/LL Cyn adeilad Woolworths, 30 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, LL41 3AE pdf eicon PDF 473 KB

Cais i ddymchwel siop presennol a chodi 1 siop, 3 tŷ marchnad agored ac 1 tŷ fforddiadwy ynghyd â mynediad gerbydol newydd a darpariaeth parcio (Ail-gyflwyniad)

AELOD LLEOL: Cynghorydd Glyn Daniels

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Cynnal ymweliad safle (yn ddarostyngedig i gynnal asesiad risg fyddai’n ystyried priodoldeb a mesurau diogelwch yng nghyd-destun canllawiau covid 19)

 

Cofnod:

Cais i ddymchwel siop bresennol a chodi 1 siop, 3 tŷ marchnad agored ac 1 tŷ fforddiadwy ynghyd â mynediad cerbydol newydd a darpariaeth parcio (Ail-gyflwyniad) yng nghyn safle Woolworths, Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)            Amlygodd y Rheolwr Cynllunio y byddai’r datblygiad wedi ei rannu yn ddau ran, gydag un adeilad yn wynebu’r Stryd Fawr a’r adeilad arall yn wynebu Stryd Glynllifon. Byddai’r adeilad blaen wedi ei rannu yn ardal siop  (A1) gyda fflat (2 ystafell wely) uwchben y siop a thŷ  (1 ystafell wely) deulawr cyfochrog a chefn y siop a gardd iddo. Byddai’r ail adeilad yn cynnwys dwy uned breswyl (1 ystafell wely) fyddai’n ymestyn dros dri llawr gyda gerddi mwynderol a darpariaeth parcio'r un.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Canolfan Wasanaeth Lleol Blaenau Ffestiniog ac o fewn dynodiad Canol Tref. Nodwyd bod yr uned fanwerthu wag (sylweddol ei maint) wedi ei farchnata am gyfnod hir heb lawer o ddiddordeb. Ategwyd bod galw rhesymol am unedau bychain ac ystyriwyd gan na fyddai’r bwriad yn colli uned fanwerthu bod y cynnig yn cwrdd ag egwyddorion polisi MAN 1 a PS 15 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Adroddwyd hefyd bod Blaenau Ffestiniog wedi ei adnabod fel Canolfan Gwasanaeth Trefol ac mae’r  safle o fewn ffin datblygu’r ganolfan. Ategwyd bod angen am ragor o dai newydd a bod y bwriad yn cynnig un uned fforddiadwy sydd yn cwrdd â pholisi TAI 15 a pholisi TAI8 Cymysgedd Priodol o Dai

 

Yng nghyd-destun materion gweledol ystyriwyd y byddair datblygiad yn debygol o ymdoddi i’w cyd-destun trefol gan gadw ffurfiau a phatrwm datblygu traddodiadol a defnyddio deunyddiau addas i’r lleoliad. Byddai’r bwriad yn gwneud defnydd cadarnhaol o safle adeilad helaeth ddefnyddiwyd o’r blaen sydd wedi sefyll yn segur a dirywio am gyfnod hir. Ystyriwyd felly fod y bwriad yn cwrdd â gofynion polisïau PS 5 a PCYFF 3 y CDLl.

 

Tynnwyd sylw at y pryderon a dderbyniwyd ynglŷn ag effaith y datblygiad ar gymdogion ac eglurwyd bod y cais yn ail gyflwyniad o gais cynllunio C21/0295/03/LL a dynnwyd yn ôl er mwyn ymateb  i bryderon y Swyddogion Cynllunio. Yn dilyn trafodaethau gyda’r ymgeisydd diwygiwyd y cais a’r cynlluniau. Ystyriwyd bo'r effaith wedi ei asesu yn fanwl ac y byddai gosod amodau yn goresgyn y pryderon.

 

Amlygwyd y byddai’r bwriad yn cynnwys dau lecyn parcio ar gyfer dwy uned ar Ffordd Glynllifon. Er nad yw’n cynnig darpariaeth parcio unigol ar gyfer pob uned, ystyriwyd hyn yn rhesymol ar gyfer lleoliad canol dref, gyda chyfleon parcio ar strydoedd cyfagos ac o fewn meysydd parcio cyhoeddus. Nodwyd bod y lleoliad yn hygyrch i’r Stryd Fawr ble ceir mynediad hwylus i drafnidiaeth gyhoeddus ac y dylid rhoi blaenoriaeth i ddatblygu safleoedd hygyrch a chynaliadwy gan nad yw pawb yn berchen ar gerbyd. Ynglŷn â phryderon a dderbyniwyd ynglŷn â  materion ffyrdd a pharcio’r cyffiniau, ystyriwyd bod dwysedd trafnidiaeth y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.

14.

Cais Rhif C21/0767/14/LL Cyn rhandiroedd Cae'r Glyn, Ffordd Bethel, Caernarfon, LL55 1HW pdf eicon PDF 532 KB

 

Adeiladu 17 o dai fforddiadwy, mynedfa, llefydd parcio, tirlunio a gwaith cysylltiol.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo'r hawl i ganiatáu yn ddarostyngedig i lofnodi Cytundeb 106 er mwyn sicrhau cyfraniad ariannol i wella'r ffyrdd / gosod mesurau tawelu traffig a darparu llecynnau agored.

 

Amodau:

  1. Pum mlynedd.
  2. Yn unol â’r cynlluniau a’r dogfennau a gyflwynwyd gyda'r cais.
  3. Llechi naturiol.
  4. Amodau ac priffyrdd.
  5. Cynllun plannu coed.
  6. Amodau mesurau lliniaru bioamrywiaeth i gynnwys cydymffurfio gyda gofynion yr asesiad Ecolegol Rhagarweiniol; darparu Cynllun Atal Llygredd; sicrhau bod y safle yn hydraidd i ddraenogod a chyflwyno cynllun gwelliannau bioamrywiaeth. 
  7. Cyfyngu oriau gweithio rhwng 08:00-18:00 Dydd Llun i Ddydd Gwener, 08:00-13:00 Dydd Sadwrn a ddim o gwbl ar Ddydd Sul a Gŵyl y Banc.
  8. Cytuno ar fanylion parthed enw Cymraeg i'r datblygiad ynghyd ag arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo'r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle.
  9. Tynnu hawliau datblygu o'r tai fforddiadwy.
  10. Sicrhau cynllun/trefniadau ar gyfer darparu'r tai fforddiadwy.
  11. Cyflwyno Cynllun Rheoli Amgylcheddol i gynnwys sŵn, dirgryniad a llwch.
  12. Sicrhau cydymffurfiaeth â Safon Prydeinig rhif BS 5837:2012.
  13. Samplau o'r deunyddiau a'r lliwiau ar gyfer y tai a'r tirlunio caled a meddal.
  14. Sicrhau cyfraniadau ariannol ar gyfer gwelliannau ffyrdd a llecynnau agored.
  15. Gosod ffens ar hyd y terfynau.

 

Cofnod:

Adeiladu 17 o dai fforddiadwy, mynedfa, llefydd parcio, tirlunio a gwaith cysylltiol.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn cael ei gyflwyno i bwyllgor oherwydd byddai'r bwriad yn golygu codi mwy na 5 o dai. Atgoffwyd yr Aelodau bod y cais wedi ei gyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio ar 10/01/22 lle penderfynwyd gohirio'r cais er mwyn i'r Pwyllgor dderbyn gwybodaeth ychwanegol am yr isod:

 

·         Ymateb manylach i ymateb y Cyngor Tref a chadarnhad am y cyfnod pan gynhaliwyd yr Asesiad Trafnidiaeth

·         Cynllun manylach yn dangos mynedfeydd cerddwyr a cherbydau i'r ysgol

·         Ffotograffau / fideo yn dangos y safle mewn perthynas â'r ysgol.

·         Mwy o fanylion am y cyfyngiad cyflymder a'r mesurau tawelu traffig posib.

 

Mewn ymateb i'r gohirio, roedd yr asiant wedi cyflwyno'r wybodaeth ychwanegol isod:

 

·         Copi o’r Archwiliad Diogelwch sydd wedi ei gynnal ac y cyfeirir ato yn yr Asesiad Trafnidiaeth.

·         Datganiad gan Cadarn Consulting, Peirianwyr Priffyrdd arbenigol a gynhaliodd yr asesiad trafnidiaeth mewn ymateb i Bryderon y Pwyllgor a'r Cyngor Tref.

·         Cynllun a manylion am y mynedfeydd i gerbydau a cherddwyr i'r ysgol.

·         Datganiad ychwanegol yng nghyswllt pa mor ddibynadwy yw'r ffigyrau cyfrif traffig a chanfyddiadau'r arolwg cerddwyr a wnaed ar 7 Chwefror 2022

 

Cyfeiriwyd at ymateb i’r pryderon trafnidiaeth ac o’r amser y cynhaliwyd yr arolwg. Nodwyd bod yr asesiad wedi ei gynnal drwy ddefnyddio 'Automated Traffic Counter', a osodwyd ger y safle ar ffordd Bethel am gyfnod o saith diwrnod (dros gyfnodau o 24 awr) rhwng 21/06/21 - 28/06/21.  Mewn ymateb i bryder bod yr asesiad wedi ei gynnal oddi fewn i gyfyngiadau covid cadarnhaodd y wybodaeth ychwanegol a dderbyniwyd gan arbenigwyr priffordd yr ymgeisydd ar adeg yr arolwg traffig, bod yr ysgolion yn agored ac roedd nifer yr achosion covid yn isel.

 

Cyfeiriodd y datganiad at ddata traffig hanesyddol ar gyfer y B4366 o'r Adran Drafnidiaeth (DfT) ddaeth o'r orsaf cyfrif traffig maniwal a leolwyd tua 250m i'r Gorllewin o'r safle arfaethedig, oedd wedi casglu data traffig 10 mlynedd. Roedd y traffig blynyddol cyfartalog cymedr (AADT) o'r data 10 mlynedd gan y DfT i'r ffordd yma wedi ei gyfrif fel 5,389 ( cyfrif AADT o'r data cyfrif traffig awtomatig a gasglwyd yn ystod arolwg Mehefin 2021 wedi ei gynnwys yn yr adroddiad) 

 

Mewn ymateb i bryderon yr aelodau ynghylch amseroedd brig yr ysgol a cherddwyr, fe wnaeth ymgynghorwyr priffyrdd yr ymgeisydd asesiad cerddwyr ar 7 Chwefror 2022. Darganfu’r asesiad fod mwyafrif y disgyblion yn defnyddio'r pafin gorllewinol i gerdded i'r ysgol ond bod 90% yn cael eu gollwng yn yr encilfa ddwyreiniol gan ddefnyddio'r ddarpariaeth croesi ddiogel ar y ffordd. Dylid nodi na fydd y bwriad yn arwain at golli darpariaeth parcio. Darperir parcio o fewn y safle i ddisodli'r ardal a gollir ar yr encilfa.

 

Adroddwyd bod Cyngor Tref Caernarfon yn parhau i bryderu am y cais gan awgrymu gohirio penderfyniad fel bod modd cael mwy o wybodaeth a chais i gyfarfod gyda Swyddogion yr Adran Priffyrdd ar y safle. Nodwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14.