skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Dilwyn Lloyd; y Cynghorydd Steve Collings (Aelod Lleol)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Y Cynghorydd Eirwyn Williams yn eitem 5.2 (C21/1051/35/DT) ar y rhaglen oherwydd mai ef oedd yr ymgeisydd

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais

 

b)    Datganodd yr aelodau canlynol eu  bod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·         Y Cynghorydd Eirwyn Williams (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C21/1136/35/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Elfed Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C19/1194/18/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Glyn Daniels (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 (C21/0922/03/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Aled Wyn Jones  (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 (C22/0078/37/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Keith Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 (C21/0959/11/LL) ar y rhaglen, ar ran yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Steve Collings

·         Y Cynghorydd Simon Glyn (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.7 (C21/0734/46/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Berwyn Parry Jones (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 (C21/0931/23/LL) ar y rhaglen

·         Y Cynghorydd Dafydd Meurig (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.9 (C22/0134/16/LL) ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 378 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21ain o Fawrth 2022 fel rhai cywir

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

 

 

6.

Cais Rhif C21/1136/35/LL Tir gyferbyn a North Terrace, Criccieth, LL52 0BA pdf eicon PDF 539 KB

Adeiladu 23 annedd, creu mynedfa newydd o Ffordd Caernarfon, ffordd ystad mewnol, pwll gwanhad dwr wyneb a gwaith cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Caniatáu yn ddarostyngedig i gytundeb 106 yn clymu 7 o’r tai fel rhai fforddiadwy a gwneud cyfraniad ariannol tuag at lecynnau chwarae ac i amodau:

 

1.           5 mlynedd

2.           Yn unol â’r dogfennau/cynlluniau a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.           Llechi naturiol.

4.           Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer y tai i’w cytuno gyda’r ACLL.

5.           Amodau Priffyrdd - lleiniau gwelededd, cwblhau ffordd ystâd, cwblhau llefydd parcio

6.           Cwblhau tirlunio yn unol gyda’r manylion a gyflwynwyd.

7.           Tynnu hawliau datblygu cyffredinol ar gyfer dosbarthiadau A-E ar gyfer y tai fforddiadwy.

8.           Amod i sicrhau arwyddion ac enwau Cymraeg i’r tai.

9.           Sicrhau stribyn cynnal a chadw gerllaw’r Afon Cwrt.

10.        Cydymffurfio gyda’r adroddiad ecolegol.

11.        Unol gyda’r asesiad coed.

12.        Amod archeolegol.

13.        Oriau gwaith cyfnod adeiladu.

14.        Cyflwyno a chytuno datganiad dull adeiladu.

15.        Gwydr afloyw yn y ffenestr llawr 1af ar dalcen de ddwyrain llain 3 i fod yn afloyw.

 

Nodiadau Dwr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, SUDS, Datblygiad Mawr

 

Cofnod:

Adeiladu 23 annedd, creu mynedfa newydd o Ffordd Caernarfon, ffordd ystâd fewnol, pwll gwanhad dwr wyneb a gwaith cysylltiol

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer 16 o dai annedd marchnad agored a 7 fforddiadwy.  Byddai’r tai ar y safle yn gymysgedd o rhai deulawr a tri llawr, yn fathau amrywiol fel a ganlyn: -

 

Math A a B tai 4 ystafell wely gyda modurdy

Math C - tai 3 ystafell wely gyda modurdy – y tai yn amrywio o ran eu cynlluniau mewnol a gweddau allanol.

Math D - tai 2 lawr 2 a 3 ystafell wely gyda (a heb) fodurdy cyfagos

Math E ac F - 7 uned fforddiadwy yn darparu cymysgedd o 2 a 3 ystafell wely.

 

Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yn rhannol y tu mewn a tu allan i’r ffin datblygu gyda’r tir ble bwriedir lleoli’r tai wedi ei leoli oddi fewn i ffin ddatblygu Criccieth, a’r ardal parth tirweddu a phwll gwanhau dŵr wyneb yn gorwedd y tu allan i’r ffin. Ategwyd bod rhan o’r safle sydd o fewn y ffin ddatblygu wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer tai yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) - safle T41. Ystyriwyd yr egwyddor o ddatblygu’r unedau preswyl yn erbyn gofynion Polisi TAI 2 CDLl. Mynegwyd bod y safle wedi ei adnabod fel un ar gyfer 34 o unedau, ond y cais yn gofyn am adeiladu 23 o dai ar y safle (sydd yn is na’r unedau amcangyfrifiedig ar gyfer y safle ym Mholisi TAI 2). 

 

Amlygwyd bod y Datganiad Cynllunio, Dylunio a Mynediad a gyflwynwyd gyda’r cais yn nodi bod safle T41 wedi bod yn destun asesiad manwl o gyfyngiadau oedd yn cynnwys yr  angen i gadw cliriad o 7 medr bob ochr i gwrs dŵr Afon Cwrt sy’n rhedeg ar draws y safle.  Yn ychwanegol, nodwyd na ellid datblygu rhan o’r safle oherwydd presenoldeb cylfat sy’n rhedeg ar hyd ac yn gyfochrog â gerddi cefn tai Teras y Gogledd ynghyd a chael gofod clirio bob ochr i ddraen dŵr wyneb o Afon Cwrt i’r pwll gwanhau arfaethedig rhwng Bryn Cleddau a Llain 3.

 

Yn unol â Pholisi ISA 5, disgwylir i gynigion ar gyfer 10 neu fwy mewn ardaloedd ble na all llecynnau agored presennol fodloni anghenion y datblygiad tai arfaethedig, gynnig darpariaeth addas o fannau agored yn unol â safonau meincod Fields in Trust (FiT). Eglurwyd bod y wybodaeth gyfredol a dderbyniwyd gan yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn dangos bod diffyg llecynnau chwarae gyda chyfarpar offer i blant yn lleol fel rhan o’r bwriad ac felly, bydd angen gwneud cyfraniad ariannol ar gyfer cyfarfod a’r diffyg darpariaeth. Derbyniwyd cadarnhad gan yr ymgeisydd yn datgan y byddai’n fodlon gwneud cyfraniad o £4848.66 a gellid sicrhau hynny drwy gytundeb cyfreithiol 106.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd y byddai’r bwriad yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C21/1051/35/DT Cil Y Castell, Lôn Parc, Criccieth, Gwynedd, LL52 0EG pdf eicon PDF 410 KB

 

Codi uchder to y tŷ er darparu ystafelloedd llawr cyntaf yng ngofod y to

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod

 

  1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd.
  2. Unol â’r cynlluniau
  3. Llechi i gydweddu
  4. Gorffeniad
  5. Bioamrywiaeth -  Unol ac argymhellion yr Adroddiad Rhywogaethau Gwarchodedig

 

Nodyn:  Tynnu sylw at amodau a sylwadau  Dŵr Cymru

 

Cofnod:

Codi uchder to'r er darparu ystafelloedd llawr cyntaf yng ngofod y to

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd ar gyfer codi uchder to byngalo er mwyn darparu ystafelloedd llawr cyntaf yng ngofod y to yn eiddo Cil y Castell, Criccieth. Eglurwyd y byddai’r llawr cyntaf arfaethedig yn cynnwys tair ystafell wely, en-suite a chwpwrdd - yn 1.5 medr yn uwch na’r gwreiddiol.

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor gan mai Aelod Lleol Criccieth yw perchennog yr eiddo, gyda’i ferch yn meddiannu’r eiddo

Saif yr eiddo sengl mewn ardal breswyl adeiledig yng Nghriccieth. Nodwyd bod blaen y yn edrych dros ffordd gyhoeddus a bloc toiledau ac na fyddai goblygiadau ar fwynderau o osod dwy ffenestr llawr cyntaf ac un ffenestr do yn y prif wyneb. Yn yr un modd, ni ystyriwyd y byddai goblygiadau ar fwynderau o osod ffenestri llawr cyntaf i’r cefn ychwaith, gan mai gardd sy’n union i gefn y llain. Mewn sefyllfa adeiledig dwysedd uchel o’r fath rhaid derbyn fod goredrych yn anorfod, ond oherwydd pellter, lleoliad llwybrau a gwrychoedd terfyn uchel, ni ystyriwyd y byddai’r ychwanegiadau arfaethedig yn gwaethygu na chael effaith andwyol sylweddol ar unrhyw un o’r tai preswyl cyfagos

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan Aelod:

·    Bod uchder ychwanegol o 1.5m yn dderbyniol

 

PENDERFYNWYD Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau isod

 

1.         Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.         Unol â’r cynlluniau

3.         Llechi i gydweddu

4.         Gorffeniad

5.         Bioamrywiaeth -  Unol ac argymhellion yr Adroddiad Rhywogaethau Gwarchodedig

 

Nodyn:  Tynnu sylw at amodau a sylwadau  Dŵr Cymru

 

8.

Casi Rhif C19/1194/18/LL Capel Ebeneser, Stryd Fawr, Deiniolen, Caernarfon, Gwynedd, LL55 3HU pdf eicon PDF 467 KB

Addasu'r capel i 7 uned breswyl gan gynnwys uned fforddiadwy ynghyd a mynediad newydd a llecynnau parcio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elfed Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:-

  1. 5 mlynedd.
  2. Yn unol â’r cynlluniau a dogfennau a gyflwynwyd gyda’r cais.
  3. Amodau priffyrdd.
  4. Cyflwyno cynllun tirlunio/plannu coed.
  5. Amodau mesurau lliniaru bioamrywiaeth a gwella bioamrywiaeth.
  6. Cytuno manylion parthed enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ag arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle.
  7. Sicrhau cynllun/trefniant ar gyfer yr uned fforddiadwy.
  8. Angen arolwg ffotograffig o’r adeilad yn unol â gofynion Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd.
  9. Deunyddiau yn unol â sylwadau CADW

 

Cofnod:

Addasu'r capel i 7 uned breswyl gan gynnwys uned fforddiadwy ynghyd a mynediad newydd a llecynnau parcio

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer addasu ysgoldy a chapel segur i 7 fflat breswyl, creu mynediad newydd i gerbydau ynghyd a darparu llecynnau parcio o fewn cwrtil y safle sydd gyferbyn a'r Stryd Fawr yn Neiniolen.

 

Adroddwyd bod y cais wedi ei gyflwyno yn wreiddiol i’r Pwyllgor Cynllunio ar 01.11.21 gydag argymhelliad gan y Pwyllgor i ohirio’r cais fel bod modd derbyn gwybodaeth ychwanegol ynglŷn a’r isod:

·           Cadarnhad byddai’r fynwent yn cael ei gwarchod.

·           Mwy o fanylion draenio tir gyda sicrhad na fydd y cylfat yn achosi problemau ar y safle nac yn lleol.

·           Cadarnhad am yr angen am fflatiau yn Neiniolen e.e faint sydd ar y rhestr aros?

·           Sut bydd yr ymgeisydd yn sicrhau bydd y datblygiad yn cael ei feddiannu gan bobl leol?

 

Mewn ymateb i’r pryderon uchod, cyflwynwyd y wybodaeth isod gan ymgeisydd.

 

Y fynwent - asiant yr ymgeisydd wedi cadarnhau bydd y fynwent yn cael ei ddiogelu drwy osod ffens diogelwch math Harris yn ystod y gwaith adeiladu. Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd y ffens yn cael ei dynnu lawr a chynllun rheoli yn cael ei ddarparu ar gyfer torri’r gwair a gwaith cynnal a chadw cyffredinol fydd yn cynnwys glanhau’r cerrig coffa.

 

Manylion draenio - cyflwynwyd cynlluniau’n dangos lleoliad a rhediad y cwlfert.  Wrth ystyried rhediad a gosodiad y cwlfert mewn perthynas â’r adeiladwaith presennol, ni fydd y bwriad cyfredol yn amharu ar y cwlfert mewn unrhyw fodd. Tynnwyd sylw at sylwadau diweddaraf yr Uned Dwr ac Amgylchedd sy’n datgan nad oeddynt yn rhagweld unrhyw effaith tebygol ar y cwrs dwr sy’n rhedeg drwy’r safle yn dilyn derbyn gwybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd.

 

Yr angen am fflatiau yn Neiniolen - derbyniwyd gwybodaeth pellach gan gwmni gwerthwyr tai lleol cymwysedig yn datgan bod gwir angen am y math yma o unedau preswyl yn Neiniolen gyda 30 ymholiad ar gyfartaledd ar gyfer pob uned fforddiadwy i’w rhentu ac sydd wedi cael eu cymhwyso ar gyfer fforddiadwyaeth. Nodwyd bod ganddynt hefyd 62 o ymgeiswyr ar eu rhestr sydd yn edrych ar eiddo yn nalgylch Deiniolen sydd yn gymysg o brynwyr tai cyntaf a rhai sydd yn edrych am unedau llai. Ategwyd bod y cwmni gwerthwyr tai wedi ymgymryd ag asesiad o gyflwr cyfredol y farchnad dai lleol yn Neiniolen a’r cylch ac wedi cynnig ffigyrau sy’n parhau i gadarnhau (yn dilyn ymgynghoriad gyda’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd) y byddai prisiau rhentu a phrisiau perchnogion preswyl/owner occupier yr unedau yn fforddiadwy yn ôl y fformiwla o fewn Canllaw Cynllunio Atodol: Tai Fforddiadwy.

 

Meddiannaeth y fflatiau ar gyfer bobl leol - y cwmni gwerthwyr tai yn cadarnhau y byddent yn hysbysebu’r fflatiau gan ddefnyddio llyfrynnau a hysbysebion dwyieithog ynghyd a gosod graddfa amser i bobl leol gael y cyfle cyntaf i rentu/prynu’r fflatiau cyn eu bod yn mynd ar y farchnad agored.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C21/0922/03/LL Cyn Woolworths, 30 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, LL41 3AE pdf eicon PDF 472 KB

Cais i ddymchwel siop presennol a chodi 1 siop, 3 tŷ marchnad agored ac 1 tŷ fforddiadwy ynghŷd â mynediad gerbydol newydd a darpariaeth parcio (Ail-gyflwyniad)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Glyn Daniels

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Rheolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn cynllun diwygiedig yn dangos ffenestr do yn gegin uned 1 ar lefel uwch fel y trafodwyd yn baragraff 5.13 ac yn unol â’r amodau isod:

  1. 5 mlynedd
  2. Unol â’r cynlluniau
  3. Llechi
  4. Cytuno gorffeniad allanol
  5. Ffenestr llawr cyntaf ar ochr ddwyreiniol Uned 1 i o fod o wydr afloyw ac o ddyluniad ‘top hung’ i rwystro gwelededd.
  6. Ni ddylai gosodiad y ffenestri to ar ddrychiad dwyreiniol yr unedau fod dim is na 1.7          medr o lefel llawr mewnol.
  7. Cyflwyno a chytuno cynllun tai fforddiadwy a threfniant i roli’r fforddiadwyedd i’r dyfodol. 
  8. Cyn cychwyn ar unrhyw waith ar y safle, rhaid cyflwyno a derbyn cymeradwyaeth y ACLl mewn ymgynghoriaeth gyda Llywodraeth Cymru Ddatganiad Dull o’r gwaith a fwriedir ei ymgymryd ar gefnffordd yr A470.  
  9. Cyn cychwyn ar unrhyw waith ar y safle, rhaid cyflwyno a derbyn cymeradwyaeth y ACLl a ymgynghoriaeth gyda Llywodraeth Cymru Gynllun Rheoli Traffig.
  10. Rhaid cwblhau’r fynedfa i'r ffordd sirol a’r llecynnau parcio cyn preswylio yn yr unedau preswyl.
  11. Rhaid gosod bocsys adar y to yn unol ag argymhellion rhan 8 o asesiad Ecolegol Cychwynnol, Cambrian Ecology.
  12. System Ddraenio Cynaliadwy (SUDS).
  13. Rhaid rhoddi enwau Cymraeg ar yr unedau sy’n ffurfio rhan o’r datblygiad.
  14. Codi wal derfyn 2.1m o uchder yn lle 1.8

 

                                          i.    Nodiadau:

                                        ii.    Tynnu sylw at nodiadau Trafnidiaeth Cynulliad

                                       iii.    Angen trwyddedau Ffyrdd perthnasol, cynllun rheol traffig ac arwyddion Cymraeg

                                       iv.    Nodiadau Ffyrdd

                                        v.    Nodyn Dŵr Cymru

                                       vi.    Nodyn Wâl Gyfunol

 

Cofnod:

Cais i ddymchwel siop bresennol a chodi 1 siop, 3 tŷ marchnad agored ac 1 tŷ fforddiadwy ynghyd â mynediad cerbydol newydd a darpariaeth parcio (Ail-gyflwyniad)

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 04/04/22  i weld natur a chyfyngiadau’r safle

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio y byddai’r datblygiad wedi ei rannu yn ddau ran, gydag un adeilad yn wynebu’r Stryd Fawr a’r adeilad arall yn wynebu Stryd Glynllifon. Byddai’r adeilad blaen wedi ei rannu yn ardal siop (A1) gyda fflat (2 ystafell wely) uwchben y siop a thŷ (1 ystafell wely) deulawr cyfochrog a chefn y siop a gardd iddo. Byddai’r ail adeilad yn cynnwys dwy uned breswyl (1 ystafell wely) fyddai’n ymestyn dros dri llawr gyda gerddi mwynderol a darpariaeth parcio'r un.

 

Cyflwynwyd y cais i'r Pwyllgor Cynllunio ar gais yr Aelod Lleol

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Canolfan Wasanaeth Lleol Blaenau Ffestiniog ac o fewn dynodiad Canol Tref. Nodwyd bod yr uned fanwerthu wag (sylweddol ei maint) wedi ei farchnata am gyfnod hir heb lawer o ddiddordeb. Ategwyd bod galw rhesymol am unedau bychain ac ystyriwyd gan na fyddai’r bwriad yn colli uned fanwerthu bod y cynnig yn cwrdd ag egwyddorion polisi MAN 1 a PS 15 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Adroddwyd bod Blaenau Ffestiniog wedi ei adnabod fel Canolfan Gwasanaeth Trefol a’r safle o fewn ffin datblygu’r ganolfan. Ategwyd bod angen am ragor o dai newydd a bod y bwriad yn cynnig un uned fforddiadwy sydd yn cwrdd â pholisi TAI 15 a pholisi TAI8 Cymysgedd Priodol o Dai

 

Yng nghyd-destun materion gweledol ystyriwyd y byddair datblygiad yn debygol o ymdoddi i’w gyd-destun trefol gan gadw ffurfiau a phatrwm datblygu traddodiadol a defnyddio deunyddiau addas i’r lleoliad. Byddai’r bwriad yn gwneud defnydd cadarnhaol o safle adeilad helaeth sydd wedi sefyll yn segur am gyfnod hir. Ystyriwyd fod y bwriad yn cwrdd â gofynion polisïau PS 5 a PCYFF 3 y CDLl.

 

Amlygwyd y byddai’r bwriad yn cynnwys dau lecyn parcio ar gyfer dwy uned ar Ffordd Glynllifon. Er nad yw’n cynnig darpariaeth parcio unigol ar gyfer pob uned, ystyriwyd hyn yn rhesymol ar gyfer lleoliad canol dref, gyda chyfleon parcio ar strydoedd cyfagos ac o fewn meysydd parcio cyhoeddus. Nodwyd bod y lleoliad yn hygyrch i’r Stryd Fawr ble ceir mynediad hwylus i drafnidiaeth gyhoeddus ac y dylid rhoi blaenoriaeth i ddatblygu safleoedd hygyrch a chynaliadwy gan nad yw pawb yn berchen ar gerbyd. Ynglŷn â phryderon a dderbyniwyd ynglŷn â  materion ffyrdd a pharcio’r cyffiniau, ystyriwyd bod dwysedd trafnidiaeth y siop flaenorol megis y lorïau danfon a pharcio staff wedi cynhyrchu symudiadau traffig trwm. Gellid dadlau y byddai’r symudiadau traffig dau gar yn peri llawer llai o aflonyddwch na loriau danfon a symudiadau cwsmeriaid a staff y defnydd blaenorol.

 

Adroddwyd y  rhoddir blaenoriaeth i ddatblygu safleoedd sydd wedi eu datblygu o’r blaen, ac ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cyflawni hynny gan wella ansawdd gweledol safle amlwg ar y Stryd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C21/0668/43/LL Tir ger Uwch y Don, Bwlch Gwynt, Pistyll, Pwllheli, LL53 6LP pdf eicon PDF 339 KB

Adeiladu tŷ fforddiadwy 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Aled Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais gyda chytundeb 106

 

Amodau:

5 mlynedd, yn unol â’r cynlluniau, draenio tir, tirweddu,  deunyddiau a gorffeniadau, enw Cymraeg.

 

Cofnod:

Adeiladu tŷ fforddiadwy 

 

a)            Cyflwynodd y Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd ei adroddiad yn dilyn cyfeirio penderfyniad Pwyllgor 21-3-22 i gyfnod o gnoi cil.  Gohiriwyd penderfynu’r cais er galluogi'r ymgeisydd i brofi ei fod mewn angen ac yn gymwys am dŷ fforddiadwy. Pwrpas adrodd yn ôl i’r Pwyllgor oedd amlygu’r materion polisi cynllunio, risgiau posib a’r opsiynau posib i’r Pwyllgor cyn iddynt ddod i benderfyniad terfynol ar y cais.

 

Amlygwyd bod yr ymgeiswyr wedi e‘u hail asesu ar sail gwybodaeth ariannol newydd cynhwysfawr a ddaeth i law, oedd yn cynnwys Prisiad Llyfr Coch, prisiad eu tŷ presennol a gwybodaeth am eu morgais ac ecwiti tebygol. Derbyniwyd copi o ymateb Tai Teg gan yr ymgeisydd yn cadarnhau eu bod wedi asesu’r cais yn erbyn eu meini prawf. Gwrthodwyd ei cais oherwydd ystyriwyd bod eu heiddo presennol yn addas ar gyfer maint y teulu, yn fforddiadwy ac nad oedd unrhyw anghenion penodol ganddynt. O ganlyniad, nid oedd yr angen am dŷ fforddiadwy wedi cael ei brofi yn llawn a bod rheswm gwrthod yr ACLl, ‘Nid yw’r ymgeiswyr wedi profi angen am dŷ fforddiadwy, felly mae’r bwriad yn groes i faen prawf 1 a 7 o Bolisi TAI 6, Tai 15 a PS 17 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ac i ofynion y Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy (2019)’, yn parhau i sefyll.

 

Gwerthfawrogwyd bod yr ymgeisydd yn profi problemau gwrthgymdeithasol yn eu heiddo presennol ac yn dymuno symud, fodd bynnag, yn unol ag asesiad Tai Teg, roedd tŷ presennol yr ymgeiswyr o faint a phris fforddiadwy ac yn addas i’w pwrpas. Ystyriwyd hyn yn ‘ddymuniad’ gan yr ymgeiswyr yn hytrach nac ‘angen’ ac nad oedd materion personol rhwng cymdogion yn faterion cynllunio perthnasol. Ni ddylai’r pwyllgor roi pwysau ar hyn wrth ystyried y cais.

 

Yng nghyd-destun fforddiadwyedd y tŷ arfaethedig nodwyd mai £315,00 oedd pris marchnad agored y tŷ. Adroddwyd nad oedd yr Uned Strategol Tai wedi ymateb i gadarnhau’r elfen fforddiadwyedd na chanran disgownt tebygol fyddai’n rhesymol ar gyfer eiddo newydd sengl canolradd, ond awgrymwyd disgownt o oddeutu 50% i ddod a’r pris yn fforddiadwy ar gyfer eiddo canolradd i £157,000. Cyfeiriwyd at gynnydd mewn prisiau tai a phryder y gall pris yr eiddo / tir gynyddu yn sylweddol yn y dyfodol i lefel lle gellid dadlau na fyddai’r eiddo yn fforddiadwy beth bynnag fyddai’r lefel disgownt, a phosibilrwydd o dderbyn cais i godi’r cytundeb 106. Ategwyd bod y CDLl ond yn cefnogi cynigion am unedau fforddiadwy ble gellid sicrhau eu bod yn aros yn fforddiadwy am byth, ond gyda’r bwriad arfaethedig, mewn lleoliad o’r fath gyda golygfeydd arfordirol all ddylanwadu ar bris y tŷ i’r dyfodol, ni ellid bod yn sicr y byddai’r tŷ yn parhau’n fforddiadwy i’r dyfodol.

 

Amlygwyd y risgiau i’r Cyngor o ganiatáu’r cais ynghyd ag opsiynau i’r Pwyllgor. Roedd y swyddogion yn nodi’n glir fod rhinweddau’r cais wedi cael ei asesu yn drylwyr gan swyddogion y Cyngor oedd yn argymell yn gadarn fod y cais yn cael ei wrthod gan nad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C21/0959/11/LL 290 - 294 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd, LL57 1UL pdf eicon PDF 479 KB

Codi adeilad newydd ar gyfer 6 uned breswyl, newid defnydd y llawr gwaelod i wagle hyblyg Defnydd Dosbarth A1, A2, A3 a/neu B1 ynghyd ac addasu'r lloriau uwchben i 18 fflat gyda newidiadau ac estyniadau cysylltiedig.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Steve Collings

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu'r hawl i’r Rheolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn dilyn asesiad o’r angen am ddarpariaeth o dai fforddiadwy (a sicrhau trwy unai amod neu gytundeb 106 os oes angen darpariaeth ffurfiol) ac yn ddarostyngedig i gytundeb 106 i sicrhau cyfraniad ariannol tuag at lecynnau agored.

 

Amodau:

 

5 mlynedd, yn unol â’r cynlluniau, amodau sŵn, sustemau echdynnu, Dwr Cymru, deunyddiau a gorffeniadau, enw Cymraeg i’r datblygiad ac unedau.

 

Cofnod:

Codi adeilad newydd ar gyfer 6 uned breswyl, newid defnydd y llawr gwaelod i wagle hyblyg Defnydd Dosbarth A1, A2, A3 a/neu B1 ynghyd ac addasu'r lloriau uwchben i 18 fflat gyda newidiadau ac estyniadau cysylltiedig.

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)            Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn cynnwys yr elfennau isod:

·         Codi adeilad newydd 3 llawr yng nghefn y safle ar gyfer 6 fflat breswyl 2 lofft

·         Newid defnydd llawr cyntaf y cyn-siop i ddefnyddiau hyblyg fel siop a hwb

·         Mân newidiadau i edrychiadau presennol blaen y siop.

·         Darparu 18 fflat uwchben y siop bresennol ar 2 lawr i gynnwys 16 uned 1 llofft a 2 uned 2 lofft  

·         Ymestyn ac addasu cefn yr adeilad presennol er mwyn darparu rhai o’r unedau preswyl a balconïau.

·         Darparu 5 llecyn parcio car

·         Defnyddio rhodfa breifat yng nghefn yr eiddo

·         Lleoli storfeydd storio biniau yng nghefn yr adeilad presennol.

·         Lleoli llecyn amwynder bach/teras yng nghefn yr adeilad presennol ynghyd a thirweddu meddal a chaled.

 

Eglurwyd bod yr adeilad a’r safle wedi eu lleoli oddi fewn i ganol y ddinas ac oddi fewn i ffin datblygu fel y’i cynhwysir yn y CDLl ac ystyriwyd yr egwyddor o ddatblygu’r safle yn erbyn Polisi PCYFF 1 a Pholisi TAI 1 o’r CDLl. Nodwyd bod yr adeilad o fewn prif ardal manwerthu’r ddinas ac wedi ei amgylchynu gan gymysgedd o ddefnyddiau preswyl ar ffurf fflatiau, masnachol ynghyd a maes parcio cyhoeddus. Daeth defnydd y siop flaenorol i ben ym Medi 2020.

 

Yng nghyd-destun lefel cyflenwad dangosol tai i Fangor dros gyfnod y Cynllun, amlygwyd bod y ddarpariaeth yn Ebrill 2021, 9 uned yn uwch na’r lefel cyflenwad dangosol ar gyfer safleoedd ar hap ym Mangor ac y byddai’r bwriad cyfredol hwn yn mynd uwchben lefel twf dangosol Bangor. O ganlyniad, rhaid adolygu unrhyw gyfiawnhad a gyflwynwyd gyda’r cais yn amlinellu sut bydd y bwriad arfaethedig yn cyfarch anghenion y gymuned leol. Mewn ymateb i’r gofyniad, cyflwynodd yr ymgeisydd Ddatganiad Dylunio, Mynediad a Chynllunio (diwygiedig) ynghyd a gwybodaeth/datganiadau ychwanegol oedd yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

 

·         Yr ymgeisydd yw’r darparwr llety rhentu mwyaf ym Mangor a gwelir prinder sylweddol ar gyfer fflatiau stiwdio 1 - 2 llofft

·         Bydd y cais yn llenwi’r gwagle rhwng llety myfyrwyr a phrynwyr tŷ cyntaf.

·         Bod yr ymgeisydd yn bwriadu cwblhau rhan gyntaf o’r datblygiad o fewn 12 mis a chwblhau’r adeilad ar wahân o fewn 24 mis (yn wahanol i ddatblygiadau eraill sydd wedi derbyn caniatâd ond heb eu dechrau)

·         Er bod y ffigwr dangosol ar gyfer tai ym Mangor eisoes wedi ei gyrraedd, ni ragwelwyd bydd bob tŷ o fewn safleoedd yn y banc tir ar hap ynghyd a’r safleoedd hynny sydd wedi eu dynodi ym Mangor yn debygol o ddatblygu.

·         Pe byddai’r cais yn derbyn caniatâd cynllunio ynghyd a’r dynodiadau tai o fewn y banc tir yn cael eu gwireddu, byddai’r ffigwr cronnus o dai ddim ond yn cyfateb i 3.4% o gynnydd yn y ffigwr dangosol o fewn y CDLl ar gyfer Bangor.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cais Rhif C21/0734/46/LL Tyddyn Isaf, Tudweiliog, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8PB pdf eicon PDF 340 KB

Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain, codi adeilad newydd i gynnwys cawodydd/toiledau, holl lleiniau caled cysylltiedig, ail wynebu a mynediad

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Simon Glyn

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cais llawn i newid defnydd tir amaethyddol er mwyn creu safle carafanau ar gyfer 32 llain, codi adeilad newydd i gynnwys cawodydd/toiledau, holl leiniau caled cysylltiedig, ail wynebu a mynediad

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)            Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y safle wedi ei leoli y tu allan i unrhyw ffin ddatblygu mewn safle agored yng nghefn gwlad - y safle a'r ardal gyfagos o fewn dynodiad Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn yn ogystal â Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.

 

Eglurwyd, gan mai safle ar gyfer carafanau teithiol oedd testun y cais mai polisi TWR 5 y CDLl oedd y polisi perthnasol a oedd yn gosod cyfres o feini prawf ar gyfer caniatáu datblygiadau o’r fath. Nodwyd bod  maen prawf 1 polisi TWR 5 yn datgan y dylai unrhyw ddatblygiad carafanau teithiol newydd fod o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad ac y dylai fod wedi’i guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellid cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd i’r dirwedd mewn modd nad yw’n peri niwed sylweddol i’w hansawdd weledol.

 

Ystyriwyd bod y bwriad arfaethedig wedi ei leoli mewn safle sy’n eithaf gwastad o fewn y dirwedd, o fewn cae sydd wedi ei amgylchynu gan gloddiau a gwrychoedd sefydledig gyda chyfres o adeiladau allanol ynghlwm a’r anheddiad fyddai’n rhannol guddio’r safle o’r gogledd. Er hynny, nodwyd bod y safle’n hollol agored tuag at y llwybr arfordir.

 

Cydnabuwyd fod bwriad i atgyfnerthu sgrinio’r safle trwy wella ac ychwanegu at y gwrychoedd presennol yn ogystal â chreu clawdd gyda choed cynhenid ar ei hyd, ond amlygwyd bod y polisi yn gofyn i safleoedd fod wedi’i guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd a / neu mewn lle gellid cydweddu’r unedau teithiol yn hawdd i’r dirwedd. Fel y mae, ystyriwyd nad oedd y safle wedi cael ei guddio’n dda gan nodweddion presennol y dirwedd ac na fyddai’r hawdd ei gydweddu mewn i’r dirwedd. Disgrifiwyd y safle fel un mewn lle agored wrth yr arfordir ac wrth ymweld â’r ardal leol mae’n amlwg mai ychydig o rywogaethau sy’n tyfu’n llwyddiannus yn yr ardal yma oherwydd gwynt y môr.

 

Ystyriwyd y byddai’r cloddiau presennol ac arfaethedig yn sgrinio rhannau isaf yr unedau, ond oherwydd uchder cerbydau a charafanau teithiol byddai’r safle yn weladwy yn y dirwedd ehangach - annhebygol fydd y tirweddu yn cuddio’r safle yn ei gyfanrwydd heb effaith sylweddol niweidiol i’r dirwedd. Oherwydd hyn, amlygwyd pryder sylweddol ynglŷn â llwyddiant y cynllun tirweddu ynghyd a’r amser sylweddol i’w sefydlu - o ganlyniad ystyriwyd y byddai effaith weledol y safle yn niweidiol i’r dirwedd yn y cyfnod tyfu a all fodoli am flynyddoedd.

 

Adroddwyd bod amryw o safleoedd teithiol eraill yn yr ardal i’w gweld o sawl man cyhoeddus dros y cloddiau a’r gwrychoedd presennol ac amlygwyd pryder y byddai’r   datblygiad yma yn cyfrannu at effaith cronnus datblygiadau carafanau teithiol sydd eisoes yn cael effaith negyddol ar y dirwedd. O ganlyniad, ni ystyriwyd fod y bwriad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.

13.

Cais Rhif C21/0931/23/LL Plas Tirion, Llanrug, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4PY pdf eicon PDF 503 KB

Codi estyniad at uned ddofednod presennol er mwyn cynnwys 16,000 o ieir ychwanegol (ar gyfer cynhyrchu wyau rhydd) ynghyd â gwaith cysylltiol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Berwyn Parry Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Caniatáu yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

  1. 5 mlynedd
  2. Yn unol â’r cynlluniau
  3. Lliw gwyrdd tywyll i edrychiad allanol yr uned
  4. Defnydd amaethyddol o’r adeilad yn unig
  5. Amod gwarchod y cyhoedd yn ymwneud a chyfyngu ar lefelau sŵn o’r ffaniau rheoli tymheredd ynghyd a crynodiad gronynnau.
  6. Cwblhau cynllun tirlunio yn unol â’r manylion a gyflwynwyd gyda’r cais a’r cyfnod ar gyfer cyflawni hyn.

 

Cofnod:

Codi estyniad at uned ddofednod presennol er mwyn cynnwys 16,000 o ieir ychwanegol (ar gyfer cynhyrchu wyau rhydd) ynghyd â gwaith cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y cais yn gais llawn ar gyfer codi estyniad i uned amaethyddol i gadw ieir sy’n cynhyrchu wyau maes a gwaith cysylltiedig ar Fferm Plas Tirion, Llanrug. Disgrifiwyd Plas Tirion fel daliad amaethyddol sy’n cynnwys 521 acer o dir gyda chyfanswm o 200 o wartheg bîff, a dofednod  - byddai’r uned arfaethedig yn cyflwyno 16,000 o ieir ychwanegol i’r fenter gan greu cyfanswm o 48,000 o ieir.

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli tu allan i unrhyw ffin datblygu fel y diffinnir gan y CDLl ac felly yn safle cefn gwlad agored. Adroddwyd nad oes polisi penodol yn y CDLl yn ymwneud a datblygiadau amaethyddol, felly’r brif ystyriaeth oedd Polisi Cynllunio Cymru (PCC) a Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy.

 

Amlygwyd y byddai’r sied arfaethedig ynghlwm i’r sied ieir presennol, gyda’r estyniad yn llai o faint a graddfa ond o’r un dyluniad a'r sied bresennol. Ystyriwyd fod y sied yn rhesymol angenrheidiol ar gyfer diben amaethyddiaeth i ehangu’r busnes ac nad oedd amheuaeth bod ei leoliad cefn gwlad yn hanfodol o fewn iard y fferm sefydledig. Nodwyd fod y  bwriad yn cyd-fynd a polisi PCYFF 1 ac egwyddorion PCC a TAN 6 cyn belled nad oedd unrhyw effeithiau annerbyniol yn sgil y bwriad.

 

Yng nghyd-destun materion gweledol ystyriwyd nad oedd bwriad y datblygiad yn anarferol yng nghefn gwlad ac felly yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi CYF 6, PCYFF 3 a PCYFF 4 o’r CDLl.  

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, er bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad nepell o ddaliad amaethyddol gweithredol, nodwyd bod anheddau preswyl wedi eu lleoli yn nalgylch y safle ei hun. Lleolir yr anheddau a adnabyddir fel Plas Tirion a Phlas Tirion Lodge oddeutu 240m i’r gogledd o safle’r cais gydag anheddau/tyddynnod eraill wedi eu lleoli dros 400m o safle’r cais. Bydd y bwriad yn golygu defnyddio 6 ffan echdynnu (ar ben y 10 ffan echdynnu bresennol) ar do’r adeilad er mwyn rheoli tymheredd oddi fewn i’r uned ei hun. Gan ystyried lefelau sŵn y ffaniau ynghyd a chanlyniadau’r Asesiad Sŵn a gyflwynwyd gyda’r cais roedd Uned Gwarchod y Cyhoedd yn argymell cynnwys amod yn sicrhau fod yr unedau ffan yn cynnwys lefelau sŵn trydydd wythfed. 

 

Ategwyd y byddai’r uned weithredu system aml-reng sydd yn galluogi i’r tail i ddisgyn i lawr i’r cludfelt yn gweithredu unwaith bob 5-7 diwrnod er mwyn gwaredu’r tail. Bydd hyn  yn golygu mai ychydig iawn o dail fydd yn cael ei storio o fewn yr uned ac felly yn lleihau gweithgaredd pla.  Ynghyd â’r cynnydd bwriededig yn y nifer o ieir ar y safle, er mwyn cydymffurfio gyda gofynion newydd Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol (Cymru) 2021 lle nodi’r angen i ddaliadau amaethyddol gynnwys adeiladau neu ardaloedd ychwanegol i storio tail dan  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.

14.

Cais Rhif C22/0134/16/LL Plot C1, Parc Bryn Cegin, Llandygái, Bangor, LL57 4BG pdf eicon PDF 453 KB

Datblygiad cyfleuster tanwydd Bio - nwy naturiol wedi ei gywasgu ar gyfer cerbydau gan gynnwys pympiau tanwydd, cwmpownd cyfarpar offer, creu mynedfeydd newydd, tirlunio a datblygiad cysylltiedig

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gohirio er mwyn cynnal ymweliad safle

 

Cofnod:

Datblygiad cyfleuster tanwydd Bio - nwy naturiol wedi ei gywasgu ar gyfer cerbydau gan gynnwys pympiau tanwydd, compownd cyfarpar offer, creu mynedfeydd newydd, tirlunio a datblygiad cysylltiedig.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu byddai’r cyfleuster yn gwasanaethu gweithredwyr logisteg a dosbarthu ac yn gweithredu 24 awr y dydd, heb staff, gyda gyrwyr yn actifadu'r pympiau trwy ffob awtomatig.

 

Eglurwyd bod y safle’n gorchuddio arwynebedd o tua 0.7ha ac yn golygu datblygu llain wag o fewn Stad Ddiwydiannol Parc Bryn Cegin sydd wedi’i ddynodi a’i warchod o fewn y CDLl  fel Safle Cyflogaeth Strategol a Ddiogelir Rhanbarthol. Nodwyd bod defnydd y bwriad yn disgyn o dan dosbarth defnydd unigryw, ac o ystyried fod nifer o blotiau gwag ar y safle, mai darpariaeth ar gyfer trafnidiaeth busnes fydd y bwriad ac na fydd y cyfleuster ar agor i'r cyhoedd,  bod yr egwyddor o leoli’r orsaf ym Mharc Bryn Cegin yn dderbyniol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol y bwriad gerbron yn golygu darparu cyfarpar ar gyfer galluogi loriau HGV i godi tanwydd nwy o bympiau tanwydd cyffredinol  - ystyriwyd fod y bwriad yn cydymffurfio a gofynion polisïau PCYFF 2, 3 a 4 ynghyd ac PS20 ac AT1 o’r CDLl o ran effaith weledol.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl eglurwyd bod y safle yn ffinio a chefnau 3 tŷ preswyl  - 1 i 3 Rhos Isaf. Cydnabuwyd fod y tai ar lefel uwch a bod bwriad i lefelu safle’r cais fel bod wal gynnal rhyngddo a’r tai ynghyd a ffens acwstig ar ei ben. Amlygywd bod asesiad sŵn a chynllun goleuo wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais yn nodi,

·         Bydd y pympiau yn cael eu goleuo yn ystod oriau tywyll, ond dim ond yn ystod cyfnodau o waith bydd goleuadau’r compownd yn cael eu defnyddio.

·         Bydd effaith y golau yn lleiafrifol oherwydd eu bod wedi eu canoli ar ardaloedd penodol (o dan y pympiau yn bennaf). Bod triniaeth ffin bwriedig (ffens a thir-weddu) ynghyd a graddfa a lleoli’r goleuadau yn golygu na fydd y gorlif golau yn mynd heibio ffiniau’r safle - bydd y gorlif hynny yn llai na golau lleuad.

·         Bod asesiad sŵn wedi ei wneud i ofynion BS4142/BS8233/Meini Prawf WHO ac yn ystyried  sŵn gweithgareddau o ganlyniad i loriau ar y blaengwrt ynghyd a’r holl gyfarpar ar y safle

·         Bod canlyniadau’r asesiadau yn dangos na ddisgwylir i effeithiau sŵn gweithredol yr orsaf ail-lenwi â thanwydd gael unrhyw effaith andwyol sylweddol, (er yn dibynnu ar y cyd-destun).

 

Nodwyd bod Uned Gwarchod y Cyhoedd yn pwysleisio’r angen i weithredu mesurau lliniaru sŵn ac os gellid gweithredu mesurau lliniaru pellach i ostwng y lefel gradd ymhellach, fe'i cynghorwyd i wneud hynny fel nad yw’r safle yn cynyddu'r lefel sŵn cefndir presennol ac felly yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau PCYFF 2 a 3 o ran mwynderau cyffredinol a phreswyl.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad nodwyd bod y safle yn elwa o bwynt mynediad annibynnol trwy ffordd fynediad i'r gorllewin o'r plot.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14.