skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd  Berwyn Parry Jones

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)       Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr eitemau canlynol am y rhesymau a nodir:

 

·            Y Cynghorydd Gruffydd Williams yn eitem 5.8 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/0722/41/LL oherwydd bod ei gymar yn berchen ar dir hefo caniatâd i godi 18 o dai yn Chwilog

 

Roedd yr aelod o’r farn eu bod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

(b)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Aeron M. Jones, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (cais cynllunio rhif C14/0386/24/LL); 5.6 (cais cynllunio C18/1125/17/LL) a 5.7 (cais cynllunio C18/1126/17/LL) ar y rhaglen

·        Y Cynghorydd Peter Garlick (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C16/1412/19/LL)

·        Y Cynghorydd Huw Gruffydd Wyn Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0084/11/LL)

·        Y Cynghorydd Charles Wyn Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0942/23/LL)

·        Y Cynghorydd Elfed Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0977/18/LL)

·        Y Cynghorwyr Dilwyn Lloyd ac Edgar Owen (oedd yn aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.6 (cais cynllunio C18/1125/17/LL) a 5.7 (cais cynllunio C18/1126/17/LL) ar y rhaglen

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 139 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 14 Ionawr 2019 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Ionawr  2019, fel rhai cywir, yn ddarostyngedig i gywiro pwynt bwled 2: paragraff b; eitem 6 sydd yn nodi, ‘bod tir ar y safle yn gyswllt at Lwybr yr Arfordir’ i ‘bod y lon sydd yn cael ei defnyddio ger y safle yn gyswllt at Lwybr yr Arfordir’.

 

 

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau

 

PENDERFYNWYD

6.

Cais Rhif C14/0386/24/LL Tir yng nghefn Tan y Celyn, Swn y Mor a Talardd, Llanwnda, Caernarfon pdf eicon PDF 162 KB

Adnewyddu caniatad rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stâd (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adnewyddu caniatâd rhif C08A/0568/24/LL a C09A/0532/24/LL ar gyfer codi 24 tŷ, yn cynnwys 12 tŷ fforddiadwy, newidiadau i’r fynedfa bresennol a chreu lonydd stad (cynllun diwygiedig i’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol).

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais     yng      nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd Ionawr 2018 er mwyn trafod pryderon yr Aelodau gyda’r    ymgeisydd, oedd yn ymwneud â lleoliad y llecyn   agored o fewn  y safle. Yn ychwanegol,        ymgynghorwyd ymhellach gyda          Rheilffordd Eryri, Wales and West Utilities (nwy) ynghyd â’r   Uned Rheolaeth          Adeiladu ar sail addasrwydd lleoli’r llecyn agored yn y safle bwriadedig.      Derbyniwyd barn Ymgynghorydd Iechyd a Diogelwch y Cyngor o ran sicrwydd diogelwch.       Nodwyd bod y cais yn parhau            i gynnwys 24 tŷ gyda 12     o’r tai yn rhai fforddiadwy ac     amlygwyd bod yr angen am dai wedi ei         gadarnhau.

 

          Amlygwyd pryder am y pellteroedd rhwng y tai, a chyfeiriwyd at   ymateb  ym          mharagraffau 5.9 i 5.11 o’r adroddiad. O safbwynt tai fforddiadwy, er mai         landlord cofrestredig fydd yn rheoli datblygiad, bydd angen sicrhau y byddai’r           12 tŷ yn fforddiadwy am byth ac felly             angen amod priodol i hyn. Nodwyd bod y             bwriad yn un anarferol, ond y datblygiad yn cynnwys cymysgedd addas o dai       fydd yn diwallu'r angen am dai gwahanol yn yr ardal.       Ategwyd bod datblygiad         o’r fath yn un i’w groesau.

 

          Adroddwyd, mewn ymateb i’r prif bryder, sef lleoliad y llecyn agored, cynhaliwyd                 trafodaethau           pellach gyda’r ymgeisydd. Ategwyd bod swyddogion wedi ail             ymgynghori gyda Rheilffordd Eryri, Wales and West Utilities (nwy) ynghyd a’r     Uned   Rheolaeth Adeiladu ac Ymgynghorydd          Iechyd a Diogelwch y                Cyngor ac roedd yr ymatebion yn parhau i gadarnhau bod y            datblygiad yn           cydymffurfio gyda holl ofynion y cyrff ac nad oedd ganddynt wrthwynebiad i leoliad y llecyn agored. Ategwyd mai anodd felly fyddai gwrthod y cais oherwydd    bod y   dystiolaeth yn groes i hyn. Nodwyd bod apêl wedi ei     gyflwyno          gan yr ymgeisydd  ar sail diffyg penderfyniad gan y Pwyllgor, ac felly tynnwyd           sylw mai cyfnod byr oedd          gan y   Pwyllgor i wneud penderfyniad er mwyn       osgoi apêl (hyn yn unol â threfniadau’r     Arolygaeth Cynllunio).

 

          Roedd y swyddogion yn parhau i ystyried  bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt    polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Nad oedd yn anghytuno gyda’r egwyddor bod angen tai ar y safle, ond nid yn ei ffurf bresennol. Lleoliad y llecyn chwarae yn achosi pryder

·         Yr ymgeisydd wedi cael cyfle i addasu'r cynlluniau yn unol â sylwadau a phryderon y Pwyllgor ar gymuned leol ond wedi dewis anwybyddu hyn

·         Bod y llecyn agored wedi ei leoli ger y rheilffordd ac er bod yr asiant yn nodi y byddai codi ffens atal dringo, byddai plant yn darganfod ffordd o fynd drosodd neu o amgylch;

·         Bod y llecyn agored gerllaw is-orsaf nwy  - y lleoliad yn peryglu diogelwch plant

·         Bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C16/1412/19/LL Ty Glan Menai, Ffordd Yr Aber, Caernarfon pdf eicon PDF 149 KB

Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu gwesty 12 lloft (3 llawr) gyda mannau parcio, tanc trin carthion a newidiadau i'r fynedfa bresennol, bwriedir i'r tŷ haf a'r porth-dy presennol fod yn ddefnydd atodol i'r gwesty arfaethedig 

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter A Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu gwesty 12 llofft (3 llawr) gyda mannau            parcio, tanc trin          carthion a newidiadau i'r fynedfa bresennol, bwriedir i'r tŷ haf a'r porthdy presennol fod        yn ddefnydd atodol i'r gwesty arfaethedig

 

         Roedd yr aelodau wedi ymweld â’r safle

        

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau y cafodd ei ohirio ym Mhwyllgor mis Ionawr er mwyn caniatáu hawl i drydydd parti siarad yn y Pwyllgor.

 

          Wrth ystyried egwyddor y datblygiad, tynnwyd sylw at yr Hanes Cynllunio ac yn benodol i wrthodiad i gais C10A/0556/19/LL oherwydd ei debygrwydd i’r cais gerbron. Apeliwyd yn erbyn y gwrthodiad ac fe ganiatawyd ar apêl ym mis Ionawr 2012. Amlygwyd mai'r unig wahaniaeth rhwng y ddau gais oedd presenoldeb pwll nofio yn yr un a ganiatawyd ar apêl yn 2012. Nodwyd bod yr Arolygwr Cynllunio wedi caniatáu costau yn erbyn yr ACLl oherwydd iddynt ymddwyn yn afresymol wrth ddod i benderfyniad i wrthod y cais gan fod y polisïau cyfredol yn cefnogi’r fath datblygiad.

 

          Amlygwyd bod y polisïau a restrwyd yn yr adroddiad ar y cyfan yn gyson gydag amcanion a gofynion polisïau’r Cynllun Datblygu Unedol oedd mewn grym pan benderfynwyd yr apêl. Yn dilyn mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol, ategwyd bod y polisïau perthnasol yn adlewyrchu ei gilydd, ac nad oedd dim newid sylfaenol yn y math o bolisïau a ddefnyddiwyd 2012. Wrth ystyried penderfyniad yr apêl, ystyriwyd bod y cais yn cydymffurfio gyda pholisïau a chyngor cynllunio cyfredol oedd yn parhau i fod yn gefnogol i’r egwyddor o leoli llety gwyliau newydd o ansawdd uchel yng nghefn gwlad gan ddefnyddio safle addas a ddatblygwyd o’r blaen sydd yn hygyrch i fathau gwahanol o gymudo. Nodwyd nad oedd gan yr Arolygwr Cynllunio, yn ei benderfyniad i’r apêl, wrthwynebiad i’r edrychiad, gosodiad na graddfa’r bwriad a bod y cynllun wedi cael sêl bendith Comisiwn Dylunio Cymru.

 

          Mewn ymateb i’r ymgynghoriad statudol nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad ar sail diogelwch ffyrdd a chyfleusterau parcio yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau perthnasol. Nodwyd hefyd nad oedd materion yn ymwneud a thrafnidiaeth yn achosi pryder i’r Arolygwr Cynllunio ac felly nid oedd newid yma.

         

          Yng nghyd-destun llifogydd cyflwynwyd cais Adroddiad Mynediad (ar sail perygl llifogydd) gan fod rhannau o’r ffordd sirol gyfochrog sydd yn gwasanaethu’r safle wedi ei leoli o fewn Parth Llifogydd C2. Mewn ymateb i’r adroddiad, mynegwyd bod Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cadarnhau, o fewn cyd-destun y cyngor a gynhwysir o fewn y ddogfen NCT15: Datblygiad a Risg Llifogydd, bod yr ymgeisydd wedi bodloni eu pryderon ynglŷn â pherygl llifogydd. Ychwanegwyd bod CNC yn fodlon bod y gwesty a’r llecynnau parcio yn uwch na’r amlinelliad llifogydd eithriadol ac felly bod y bwriad yn dderbyniol ar sail perygl llifogydd.

 

          Cyfeiriwyd at bolisi TWR2 sydd yn nodi y gall gwestai o ansawdd uchel ddod a buddion economaidd sylweddol i ardal y cynllun. Nodwyd bod y polisi yn anelu i gefnogi’r egwyddor o ddarparu llety gwyliau o ansawdd uchel mewn lleoliadau cynaliadwy. Ymhelaethwyd bod dogfen Cynllunio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C18/0084/11/LL Hen Iard Gychod Dickies, Beach Road, Bangor pdf eicon PDF 308 KB

Cais llawn ar gyfer gwaith peirianyddol, gan gynnwys torri a llenwi, er mwyn cyflawni arglawdd rip-rap wedi'i ehangu ar llain ogleddol datblygiad rhan II, yn ogystal a gwaith pellach i atgyfnerthu'r hen llenni dur o amgylch mur y doc

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Huw Gruffydd Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cais llawn ar gyfer y gwaith peirianyddol, gan gynnwys torri a llenwi, i gyflwyno arglawdd rip-       rap estynedig ar barsel datblygu gogleddol Cam II, yn ogystal â gwaith pellach i atgyfnerthu'r             hen lenni dur o amgylch wal y doc

 

Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau bod dau gais blaenorol wedi bod ar y safle i godi lefel  tir er mwyn ei ddatblygu ymhellach. Roedd rhain yn cynnwys darparu cerrig o gwmpas y safle a rip rap      (amddiffynfa môr). Bwriad y cais cyfredol oedd ymestyn y rip rap yn ymhellach ynghyd â           gosod llenni dur o gwmpas y cei - elfennau mwyaf ymwthiol y cais.

 

          Yn dilyn cyflwyniad asesiadau dirgryniad a sŵn ymgynghorwyd gydag Uned Gwarchod y   Cyhoedd, Cyngor Gwynedd. Daethpwyd i’r casgliad i argymell caniatáu y cais gydag            amodau           penodol monitro sŵn yn ystod y gwaith ynghyd â monitro tirgryniad; ac oherwydd   agosatrwydd tai i’r safle, cyfyngu oriau gwaith i 4 awr y dydd a dim ond dwy awr mewn un     lleoliad penodol.

 

          Yn dilyn asesiad o dan Ddeddf Cynefinoedd 2017, gan fod rhan o'r traeth o flaen y safle yn            cael ei effeithio gan y gwaith, ni ystyriwyd y byddai effaith ar ardaloedd cadwraeth        rhyngwladol Traeth Lafan ac Afon Menai. Er hynny, amlygwyd y byddai mesuriadau lliniaru    wrth osod llenni dur  i beidio gweithio 2 awr cyn ac awr a hanner ar ôl llanw uchel.

 

          Ynglŷn â materion gosod y llenni dur, amlygwyd gan fod waliau'r doc yn dirywio buasai’n    orfodol gwneud gwaith arbed i’r dyfodol. Gyda thai o fewn 25m i’r gosodiad, tynnwyd  sylw'r         ymgeisydd at dechnegau llai ymwthiol o osod llenni dur i mewn i’r ddaear  gan gynnig techneg   silent sheet piling’. Er bod yr ymgeisydd yn fodlon mabwysiadu'r dechneg yma            mynegwyd yr angen am sicrwydd o fesuriadau lluniau pellach ac felly byddai gofyn am         amodau ychwanegol i’r ymgeisydd gadarnhau, cyn dechrau’r gwaith i egluro'r union             dechneg a’r fethodoleg fyddai yn cael ei defnyddio i osod  y llenni. Byddai hefyd angen cadarnhau cynllun monitro dirgryniad, safle’r gwaith ynghyd â’r math o offer fydd yn cael ei           ddefnyddio.       

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd, oedd yn cynrychioli trigolion y bae a thai cyfagos, y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod cais blaenorol wedi ei wrthod oherwydd presenoldeb llysiau’r dial. Angen tystiolaeth bod y planhigyn wedi ei ddifa. Yr un yw’r broblem gyda’r safle yma ac felly angen sicrhau nad oes llysiau dial ar y safle cyn dechrau.

·         Bod y cartref agosaf oddeutu 20m i’r safle

·         Derbyn bod yr ymgeisydd wedi cytuno i newid ei ddull o weithio ond nid yw’r adroddiad yn adlewyrchu dulliau gweithio. Nid yw’r ystadegau yn gywir ac felly angen cais o’r newydd

·         Nid oes gan yr ymgeisydd unrhyw ymrwymiad i ddymuniadau trigolion cyfagos. Ffydd ac ymddiriedaeth yn yr ymgeisydd yn wael, nid ydynt yn cadw at eu gair ac felly angen amodau llym i reoli’r sefyllfa

 

( c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C18/0942/23/LL Tir Cae'r Eglwys, Ffordd Llanberis, Llanrug, Caernarfon pdf eicon PDF 126 KB

Codi 7 byngalo ar wahan (gan gynnwys uned fforddiadwy), 2 byngalo par, mynedfa newydd a gwaith cysylltiedig (cynllun diwygiedig i'r hyn a thynnwyd yn ôl o dan cais rhif C18/0132/23/LL

 

AELOD LLEOL Cynghorydd Charles Wyn Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Codi 7 byngalo (gan gynnwys uned fforddiadwy), 2 dŷ deulawr, mynedfa newydd    a          gwaith cysylltiedig (cynllun diwygiedig i'r hyn a thynnwyd yn ôl o dan          gais rhif           C18/0132/23/LL

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi 7 tŷ unllawr i gynnwys un tŷ fforddiadwy a thŷ dwylawr marchnad agored ynghyd a chreu mynediad newydd, ffordd stad, llecynnau parcio, rhodfeydd a seilwaith cysylltiedig. Nodwyd y byddai’r safle yn cael ei wasanaethu oddi ar ffordd sirol dosbarth 1 sydd yn cynnwys culfan bws gerllaw.

 

         Amlygwyd bod Datganiad Dylunio a Mynediad wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd fel rhan o’r cais. Tynnwyd sylw at yr ymatebion a nodwyd nad oedd ymateb wedi ei dderbyn gan y cyhoedd. Nodwyd hefyd bod gwybodaeth pris y tŷ fforddiadwy wedi ei dderbyn ers ysgrifennu’r adroddiad. Ategwyd bod cadarnhad wedi ei dderbyn bod carthffos gyhoeddus yn rhedeg o dan lecyn tir gwag oedd ar y safle ac na fydd modd adeiladu drosto. Y bwriad yw, cynnig y tir i’r feddygfa gyfagos neu i’r Cyngor Cymuned ar ddiwedd y gwaith datblygu,

 

         Lleolir y safle o fewn ffin datblygu canolfan wasanaeth lleol Llanrug yn ogystal â’i fod wedi ei ddynodi yn bwrpasol ar gyfer datblygiad tai. Er bod y safle yn gallu ymgymryd â 10 tŷ eglurwyd oherwydd amgylchiadau eithriadol yn ymwneud a diogelu'r garthffos gyhoeddus sy’n croesi’r safle mai 9 tŷ sydd yn briodol.

 

         Penderfynwyd gohirio’r cais blaenorol er mwyn derbyn tystiolaeth bellach am yr angen o’r math o dai yng nghymuned Llanrug. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno datganiad cymysgedd tai oedd yn ymateb i’r angen lleol  ac y byddai codi tai un llawr ar y safle yn rhyddhau tai deulawr 3/4/5 llofft yn y pentref ar gyfer teuluoedd a’r dymuniad i fyw’n lleol.

 

         Adroddwyd bod y bwriad yn golygu creu mynedfa safonol oddi ar y ffordd sirol dosbarth 1 cyfagos ynghyd ag ymestyn llwybr troed presennol i mewn i’r safle. Eglurwyd bod y cynllun diweddaraf yn ganlyniad o drafodaethau rhwng yr ymgeisydd, yr Aelod Lleol a’r Uned Drafnidiaeth ac o ganlyniad wedi sicrhau diogelwch ffyrdd ar sail gwelededd a’r nifer o dai byddai’r fynedfa yn ei wasanaethu.

 

         Eglurwyd bod data Lleoliad Ysgolion Cynradd Gwynedd yn cadarnhau bod digon o gapasiti o fewn Ysgol Gynradd Llanrug i allu ymdopi gyda’r niferoedd o blant a all ddeillio o’r datblygiad hwn ac i’r perwyl hynny ni fyddai angen cyfraniad addysgol gan yr ymgeisydd.

        

         Ystyriwyd bod y bwriad cyfredol yn dderbyniol a’i fod yn bodloni gofynion y polisïau perthnasol.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·       Bod nifer o drafodaethau wedi eu cynnal yn lleol

·       Bod y cais gerbron yn ymateb i ofynion y gymuned leol

·       Derbyn bod yr ymgeisydd yn fodlon cynnal trafodaethau am y llecyn gwag ar ôl i’r                      gwasanaethau gael eu gosod

·       Croesawu bod yr ymgeisydd wedi ystyried cymysgedd tai addas yn ôl yr angen sydd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C18/0977/18/LL Tir ger Maes Gwylfa, Clwt y Bont, Deiniolen, Caernarfon pdf eicon PDF 167 KB

Datblygiad preswyl ar gyfer 9 tŷ fforddiadwy a mynedfeydd newydd

 

AELOD LLEOL Cynghorydd Elfed Wyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datblygiad preswyl ar gyfer 9 tŷ fforddiadwy a mynedfeydd newydd

 

          Roedd yr aelodau wedi ymweld â’r safle

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi 9 tŷ fforddiadwy ar safle tir glas llethrog sydd yn ymylu â ffin datblygu pentref Deiniolen

         Byddai’r datblygiad yn cynnwys chwe uned dwy lofft, dwy uned tair llofft ynghyd â byngalo 5 llofft wedi ei lunio i gwrdd ag anghenion penodol teulu lleol.

 

         Nodwyd y bwriad o ddarparu 9 tŷ fforddiadwy ar y safle (100%) ac amlygwyd bod Uned Strategol Tai’r Cyngor wedi cadarnhau bod y nifer hwn o dai ynghyd a natur y tai yn cyfarch anghenion yr ardal. Ategwyd mai Landlord Cymdeithasol Cofrestredig fyddai’r darparu’r tai ac ymddengys bod y gofrestr anghenion tai cyfredol (Hydref 2018) yn dangos angen yn y gymuned am unedau 2 a 3 stafell wely gyda 33 ymgeisydd ar y rhestr aros am y math hwn o unedau.

 

         Cyfeiriwyd at bolisi TAI 16 (Safleoedd Eithrio) sydd yn nodi bod yn rhaid i ddatblygiadau sydd union gerllaw ffiniau datblygu fod yn 100% o dai fforddiadwy. Nodir hefyd yn y polisi bod rhaid dangos na ellir cyflenwi tai fforddiadwy mewn cyfnod rhesymol o amser ar safle marchnad agored o fewn y ffin datblygu lle mae angen am dai fforddiadwy. Amlygwyd na chafodd unedau tai fforddiadwy eu hadeiladu yn Neiniolen rhwng 2011 a 2018 ac er bod dau safle wedi eu cymeradwyo lle mae elfen o dai fforddiadwy wedi’u cynnwys nid yw’r gwaith adeiladu wedi dechrau ar yr un o’r cynigion hyd yma. Cyfeiriwyd at eglurhad gan yr asiant, oedd wedi ei nodi dan baragraff 5.6 yn yr adroddiad, yn egluro pam na allent ddarparu’r tai.

 

         Cyfeiriwyd at sylw gan wrthwynebwyr y dylid ystyried fforddiadwyedd y tai presennol sydd ar gael o fewn y ffin datblygu cyn dod i benderfyniad ar y cais gerbron. Fodd bynnag wedi ystyried mai tai marchnad agored yw’r tai sydd ar werth o fewn y ffin, ni fyddent yn cwrdd â’r un angen a’r tai a fwriedir, megis tai cymdeithasol ar rent wedi ei dylunio i safon Gofynion Ansawdd Datblygu (DQR). Gan fod y cynllun yn union gerllaw ffin datblygu, ystyriwyd bod y datblygiad yn cyfarch galw lleol am dai cymdeithasol ar rent a bod hyn wedi ei gadarnhau gan Uned Strategol Tai’r Cyngor. Ystyriwyd bod y cynllun yn cwrdd gyda gofynion Polisïau TAI 8 a TAI 16 y Cynllun Datblygu Lleol ac y byddai yn cyfrannu tuag ar gwrdd â’r targed a’i gosodir gan Polisi PS18.

 

         Amlygwyd bod agweddau eraill o’r bwriad yn dderbyniol ac er bod cyn ddryswch wedi bod ymysg y gymuned leol am asesiad gwrthdrawiad traffig, amlygwyd mai asesiad mewnol oedd wedi ei weithredu ac nid un ar gyfer dibenion y cais. Ategwyd nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i’r bwriad.

 

         Yng nghyd-destun materion draenio, derbyniwyd ymateb gan yr Uned Draenio Tir/Ymgynghoriaeth Gwynedd oedd yn cwestiynu rhai elfennau o’r Strategaeth Ddraenio cyn rhoi barn bendant ar y cynllun. Nodwyd bod y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C18/1125/17/LL Chwarel Moel Tryfan, Rhosgadfan, Caernarfon pdf eicon PDF 184 KB

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 10 ar ganiatâd cynllunio C18/0125/17/MW i ganiatáu 5 llwyth HGV y dydd, o Ddydd Llun i Dydd Gwener, gyda dim symudiadau HGV ar y Sadwrn

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Dilwyn Lloyd, Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones a’r Cynghorydd  Edgar Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 10 ar ganiatâd cynllunio C18/0125/17/MW i             ganiatáu          5 llwyth HGV y dydd, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, gyda dim symudiadau HGV ar y         Sadwrn.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff yr ar gefndir y cais, gan nodi bod y gweithredwr yn cynnig amrywio’r amod perthnasol ar bob caniatâd presennol ar y safle i waredu’r cyfleuster ar gyfer mynediad i gerbydau HGV ar ddyddiau Sadwrn ac yn ei dro caniatáu un symudiad ychwanegol y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddai hyn yn arwain at gyfanswm o 21 cerbyd HGV yn cael mynediad i’r safle bob wythnos fyddai yn cynrychioli cynnydd o un symudiad ychwanegol yr wythnos yn unig.

 

         Amlygwyd mai prif fuddion y cynnig fyddai atal cerbydau rhag teithio drwy Benyffridd, Rhosgadfan a Rhostryfan ar ddyddiau Sadwrn, pan ei bod yn debygol y bydd mwy o drigolion yn parcio ar y ffordd a mwy o draffig lleol.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelodau lleol (nad oedd / ac oedd yn aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Ers sefydlu Grŵp Cyswllt dros dair blynedd yn ôl, cydweithio da wedi bod gyda gweithredwr y chwarel a’r gymuned leol. Drwy gynnal trafodaethau, problemau a phryderon yn cael eu datrys.

·         Y cais yn cynnig gwelliannau i’r drefn bresennol. Hyn i’w groesawu

·         Cefnogol i’r cais

 

(c)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

(ch)   Wrth drafod y cais, nododd un o’r aelodau bod y cwmni yn cael ei reoli yn dda , yn gwneud          gwaith da yn lleol ac yn cyflogi yn lleol.

 

         PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn amodol ar yr addasiad a ganlyn i amodau 4 a 10            o gais cynllunio C18/0125/17/MW:

 

4.    Ac eithrio mewn argyfwng fel bod modd parhau i weithio yn ddiogel yn y chwarel (ac fe roddir gwybod am hyn i'r Awdurdod Cynllunio Mwynau cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosib), neu oni bai bod yr Awdurdod Cynllunio Mwynau wedi dod i gytundeb i'r gwrthwyneb yn ysgrifenedig:-

i)    ni ellir ymgymryd â gweithrediadau sy'n gysylltiedig â gwaredu deunydd o ddyddodion gweithio mwynau, gwaredu priddoedd a gorlwyth, gwaith adfer, gwasanaethu, cynnal a chadw a phrofi offer sefydlog a symudol ac eithrio yn ystod yr amseroedd a ganlyn:

·         07.30awr i 18.00awr ddydd Llun i ddydd Gwener a 07.30awr i 13.00awr ar ddydd Sadwrn,

ii)   Ni fydd gwaith mathru a sgrinio'n digwydd ac eithrio yn ystod yr oriau a ganlyn:

·           10.00 i 15.00 awr, ddydd Llun i ddydd Gwener.

iii)  Ni fydd cerbydau HGV yn mynd i mewn nac allan o'r safle ac eithrio rhwng yr amseroedd a ganlyn: 

·                 08.00awr i 16.00awr o ddydd Llun i ddydd Gwener 

iv) Ni fydd unrhyw weithrediadau ac eithrio'r rhai sy'n ymwneud â monitro brys neu amgylcheddol neu bwmpio dŵr yn digwydd ar y safle ar ddyddiau Sul neu ar wyliau Cyhoeddus neu wyliau Banc.

 

10.     Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio mwynau ymlaen llaw, ni fydd yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

Cais Rhif C18/1126/17/LL Chwareol Moel Tryfan, Rhosgadfan, Caernarfon pdf eicon PDF 185 KB

Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 6 ar ganiatâd cynllunio C16/0063/17/MW i ganiatáu 5 llwyth HGV y dydd, o Ddydd Llun i Dydd Gwener, gyda dim symudiadau HGV ar y Sadwrn

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Dilwyn Lloyd, Cynghorydd Aeron Maldwyn Jones a’r Cynghorydd  Edgar Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Cais o dan Adran 73 i amrywio amod 6 ar ganiatâd cynllunio C16/0063/17/MW i ganiatáu 5 llwyth HGV y dydd, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, gyda dim symudiadau HGV ar y Sadwrn

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff yr ar gefndir y cais, gan nodi bod y gweithredwr yn cynnig amrywio’r amod perthnasol ar bob caniatâd presennol ar y safle i waredu’r cyfleuster ar gyfer mynediad i gerbydau HGV ar ddyddiau Sadwrn ac yn ei dro caniatáu un symudiad ychwanegol y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Byddai hyn yn arwain at gyfanswm o 21 cerbyd HGV yn cael mynediad i’r safle bob wythnos fyddai yn cynrychioli cynnydd o un symudiad ychwanegol yr wythnos yn unig.

 

(b)     Amlygodd yr aelodau lleol eu bod yn gefnogol i’r cais

 

(c)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

         PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn amodol ar yr addasiad a ganlyn i amodau 6 ac 11  o gais cynllunio C16/0063/17/MW:

 

6.    Ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio mwynau ymlaen llaw, ni fydd yr allbwn, yn unigol neu ar y cyd ag unrhyw ganiatâd cynllunio mwynau presennol arall yn y safle, yn fwy na'r gyfradd uchaf o ddim mwy na phum llwyth HGV y dydd, ddydd Llun i ddydd Gwener, a dim symudiadau HGV ar ddydd Sadwrn. Rhaid gofalu y bydd ffigyrau allbwn o’r safle dros unrhyw gyfnod penodedig ar gael i’r awdurdod cynllunio lleol, ar gais, o fewn 21 diwrnod.

 

11.     Ac eithrio mewn argyfwng fel bod modd parhau i weithio yn ddiogel yn y chwarel (ac fe roddir gwybod am hyn i'r Awdurdod Cynllunio Mwynau cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosib), neu oni bai bod yr Awdurdod Cynllunio Mwynau wedi dod i gytundeb i'r gwrthwyneb yn ysgrifenedig:-

i)      ni ellir ymgymryd â gweithrediadau sy'n gysylltiedig â gwaredu deunydd o ddyddodion gweithio mwynau, gwaredu priddoedd a gorlwyth, gwaith adfer, gwasanaethu, cynnal a chadw a phrofi offer sefydlog a symudol ac eithrio yn ystod yr amseroedd a ganlyn:

·             07.30awr i 18.00awr ddydd Llun i ddydd Gwener a 07.30awr i 13.00awr ar ddydd Sadwrn,

ii)     Ni fydd gwaith mathru a sgrinio'n digwydd ac eithrio yn ystod yr oriau a ganlyn:

·           10.00 i 15.00 awr, ddydd Llun i ddydd Gwener.

iii)   Ni fydd cerbydau HGV yn mynd i mewn nac allan o'r safle ac eithrio rhwng yr amseroedd a ganlyn: 

·           08.00awr i 16.00awr o ddydd Llun i ddydd Gwener 

iv)   ni fydd unrhyw weithrediadau ac eithrio'r rhai sy'n ymwneud â monitro brys neu amgylcheddol neu bwmpio dŵr yn digwydd ar y safle ar ddyddiau Sul neu ar wyliau Cyhoeddus neu wyliau Banc.

 

Y datblygiad i fod yn destun yr un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio          blaenorol a roddwyd C16/0063/17/MW i reoli sŵn, llwch, dirgryniad, hydroleg,       gwarchod yr amgylchedd dŵr, trefn y gweithrediadau, cydymffurfio â chynlluniau'r      cais, archeoleg, lliniaru ecolegol, adolygu gweithrediadau ac adfer dilyniadol.

 

 

13.

Cais Rhif C18/0722/41/LL Fferm Afonwen, Chwilog, Pwllheli, Gwynedd pdf eicon PDF 100 KB

Cais ar gyfer darparu safle ar gyfer 15 uned teithiol gan gynnwys ystafell hamdden a toiledau

 

AELOD LLEOL Cynghorydd Aled Lloyd Evans

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais ar gyfer darparu safle ar gyfer 15 uned deithiol gan gynnwys ystafell hamdden a thoiledau

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer creu maes carafanau teithiol. Eglurwyd bod y bwriad yn cynnwys creu safle annibynnol ar gyfer lleol 15 o garafanau teithiol ynghyd a phlannu coed cynhenid draenen ddu, wen a chelyn gyda ffens goed er mwyn darparu ffin rhwng y silwair a phit silwair.

 

         Nodwyd bod y safle yn sefyll yng nghefn gwlad agored ac o fewn ffiniau fferm bresennol gydag unedau gwyliau. Adroddwyd bod sied amaethyddol gyda chyfleusterau presennol yn ochri gyda’r safle  gyda bwriad o ddefnyddio’r adeilad i ddarparu cyfleusterau toiledau a chawodydd. Amlygwyd bod y safle wedi ei guddio gan wrych a choed ar y ffin rhyngddo a’r briffordd fydd yn sicrhau bod y safle wedi ei guddio yn eithaf da o’r dirwedd ehangach. Eglurwyd  bod y cynlluniau a gyflwynwyd fel rhan o’r cais yn cynnwys tirlunio ychwanegol ar hyd terfyn deheuol y safle sydd yn gwahanu'r safle o’r pit silwair gerllaw.  Nodwyd bod y cynlluniau hyn yn cynnwys mesurau lliniaru ar gyfer y datblygiad arfaethedig fyddai’n atgyfnerthu’r tirweddu presennol. Ystyriwyd bod dyluniad, gosodiad ac edrychiad y bwriad yn dderbyniol ac na fyddai’n peri newid sylweddol i ansawdd gweledol y dirwedd.

 

         O safbwynt agosatrwydd at y rhwydwaith ffyrdd, amlygwyd bod gan y safle fynediad uniongyrchol i ffordd ddosbarth 1 A497 gyda gwelliannau diweddar wedi bod i’r fynedfa yn sgil cynllun gwella'r ffordd. Ni ystyriwyd y byddai angen gwneud addasiad pellach i’r fynedfa er gwasanaethu’r bwriad ac ategwyd bod yr Uned Drafnidiaeth wedi cadarnhau na fyddai ‘n achosi effaith andwyol o ran diogelwch ffyrdd.

 

         Tynnwyd sylw at ymatebion yr ymgynghoriad yn yr adroddiad ac amlygwyd na dderbyniwyd ymatebion gan y cyhoedd. Mewn ymateb i’r gwrthwynebiad a dderbyniwyd gan Cyngor Cymuned fod gormod o safleoedd o fewn ardal gyfyng nodwyd bod paragraff 6.3.81 yn dilyn polisi TWR 5 o fewn y Cynllun Datblygu Lleol yn gofyn sicrhau na fydd gormodedd o unedau teithio o fewn un ardal yn ychwanegu at broblemau gwasanaethu na niweidio cymeriad neu adnoddau naturiol, yr ardal. Gan fod y safle wedi ei leoli tu allan i’r AHNE ni ystyriwyd na fyddai yn ychwanegu at broblem gwasanaethu nac yn niweidio cymeriad yr ardal ac felly'r bwriad yn dderbyniol.

 

(b)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

(c)     Wrth drafod y cais, amlygodd un o’r aelodau bod Cyngor Cymuned / Tref wedi gwrthod y cais ar sail gormodedd

 

         PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn unol â’r argymhelliad

 

1.                Cychwyn o fewn 5 mlynedd.

2.                Unol â chynlluniau a gyflwynwyd.

3.                Nifer o unedau ar y safle ar unrhyw un adeg i’w cyfyngu i 15.

4.                Cyfyngu tymor i rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref.

5.                Defnydd gwyliau yn unig.

6.                Cadw cofrestr.

7.                Dim storio carafanau teithiol ar y safle.

8.                Cyflawni’r cynllun tirlunio.

9.                Gosod y tanc septig yn weithredol cyn defnyddio’r safle

10.             Rhaid gosod yr unedau yn unol â chynllun 1515/03 (diwygiad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.

14.

Cais Rhif C18/1055/41/LL Bryn Hyfryd, Chwilog, Pwllheli pdf eicon PDF 101 KB

Newid amod 2 of C14/0113/41/AM i ymestyn amser cyflwyno materion a gadwyd yn nol

 

AELOD LLEOL Cynghorydd Aled Lloyd Evans

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

        

Newid amod 2 of C14/0113/41/AM i ymestyn amser cyflwyno materion a gadwyd yn ôl.

 

(a)     Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i newid amod er mwyn ymestyn y cyfnod amser i gyflwyno manylion a gadwyd yn ôl ar  gais amlinellol i godi 21 o dai (gan gynnwys 7 ty fforddiadwy) ar safle ar gyrion pentref Chwilog.

 

         Tynnwyd sylw at ymatebion yr ymgynghoriad yn yr adroddiad ac amlygwyd na dderbyniwyd ymatebion gan y cyhoedd. Cyfeiriwyd at y ffurflen sylwadau ychwanegol lle nodwyd bod y Cyngor Cymuned wedi cadarnhau nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r bwriad.

        

         Gan mai cais i newid amod 2 o ganiatâd amlinellol oedd gerbron er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i gyflwyno materion a gadwyd yn ôl, nid oedd unrhyw newid i’r cynllun, nac i’r cynllun a ganiatawyd yn flaenorol. Ategwyd bod y bwriad eisoes wedi ei dderbyn ond bod angen ystyried os yw’r amgylchiadau neu’r sefyllfa yn nhermau cydymffurfio a’r polisiau cynllunio wedi newid ers caniatáu’r cais yn wreiddiol.

 

         Amlygwyd bod y cais amlinellol wedi ei benderfynu ar sail polisïau Cynllun Datblygu Unedol Gwynedd. Erbyn hyn, nodwyd bod Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn wedi ei fabwysiadau ac felly ystyriwyd bod newid materol wedi bod yn y polisïau ers penderfynu y cais blaenorol. Adroddwyd bod y safle yn parahu i fod wedi ei ddynodi fel safle ar gyfer ei ddatblygu o fewn y cynllun newydd a bod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau cyfredol o ran tai fforddiadwy, materion ieithyddol, trafnidiaeth, bioamrywiaeth a choed, llifogydd, llecynnau agored, cyfleusterau addysgol a mwynderau. Ystyriwyd felly, bod y cais yn parhau yn dderbyniol ac yn cydymffurfio gyda pholisïau lleol a chenedlaethol

 

(b)     Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

         Penderfynwyd caniatáu y cais yn unol â’r argymhelliad, yn ddarostyngedig i’r cytundeb 106 presennol a chyfraniad addysgol

 

            1. Amser

            2. Cyflwyno materion a gadwyd yn ôl o fewn tair blynedd.

            3. Ail-restru holl amodau’r caniatâd blaenorol