skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2019 - 2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Penderfynwyd: Ail ethol y Cynghorydd Elwyn Edwards yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is Gadeirydd ar gyfer 2019 - 2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Penderfynwyd: Ethol y Cynghorydd Eric Merfyn Jones yn Is Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Menna Baines a’r Cynghorydd Peter Garlick

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(a)     Datganodd yr aelod canlynol fuddiant personol, yn yr eitem ganlynol am y rheswm a nodir:

 

·       Y Cynghorydd Edgar Owen yn eitem 7.2 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C19/0169/19/AM oherwydd bod gwraig ei fab yn gweithio i’r ymgeisydd

 

Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais

 

(b)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Edgar Owen (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 7.1  ar y rhaglen, (cais cynllunio C18/0993/26/LL)

·        Y Cynghorydd Elin Walker Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.5 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0328/11/LL)

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 164 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 29 Ebrill 2019 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Ebrill 2019, fel rhai cywir.

 

 

7.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

8.

Cais Rhif C18/0993/26/LL - Tir ger Hen Gapel, Ffordd Waunfawr, Caeathro, Caernarfon pdf eicon PDF 136 KB

Diwygio amod rhif 1 o ganiatad cynllunio C09A/0412/26/LL er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau'r gwaith am 5 mlynedd ychwanegol

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Edgar Wyn Owen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Diwygio amod rhif 1 o ganiatâd cynllunio C09A/0412/26/LL er mwyn ymestyn yr amser a roddwyd i ddechrau'r gwaith am 5 mlynedd ychwanegol

 

(a)       Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan atgoffa’r aelodau fod y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor 29.4.19 er mwyn caniatáu i’r Swyddogion Cynllunio ystyried sylwadau hwyr yr Uned Iaith.

 

Amlygwyd bod y cais yn ei gyfanrwydd wedi ei leoli oddi fewn i ffin datblygu Caeathro fel y’i cynhwysir yn y CDLl mewn man gweddol amlwg yng nghanol y pentref. Nodwyd nad oedd dyluniad, edrychiadau, deunyddiau, cynllun na ffurf y tai wedi newid ers i’r cais blaenorol gael ei ganiatáu yn 2014 ac felly ystyriwyd fod y bwriad yn parhau i fod yn dderbyniol.

 

Adroddwyd bod y datblygiad yn cynnwys 4 tŷ fforddiadwy sydd yn gyfystyr a 33%. Gan nad oedd prisiad swyddogol er mwyn sefydlu pris marchnad agored y tai wedi ei dderbyn nodwyd y byddai angen i’r datblygwr gytuno ar y pris gyda’r Adran Cynllunio er mwyn pennu disgownt priodol ar gyfer y tai fforddiadwy. Amlygwyd y gellid gwneud hynny drwy amod priodol fyddai yn sicrhau tai fforddiadwy.

 

Wrth ystyried materion darpariaeth addysgol rhagwelwyd y byddai cyfanswm o 15 disgybl ysgol gynradd yn deillio o’r cais yma ar gyfer 12 tŷ, ynghyd â datblygiad arall gan yr ymgeisydd ym Mhontnewydd am 29 o dai. Amlygwyd bod Ysgol Bontnewydd, sef  yr ysgol ddalgylch, gyda chapasiti ar gyfer 182 disgybl (167 ar hyn o bryd). O ganlyniad, ni fyddai angen cyfraniad ariannol ar gyfer darpariaeth addysgol gan na fydd derbyn 15 disgybl ychwanegol yn mynd tu hwnt i’r capasiti.

 

Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt egwyddor, lleoliad, graddfa, dwysedd, mwynderau gweledol / preswyl, diogelwch ffyrdd a materion isadeiledd ac yn unol â’r polisïau perthnasol.

         

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·           Bod y cais eisoes wedi cael ei adnabod  fel un addas ac wedi ei ganiatáu yn 2014

·           Ei fod wedi ei leoli o fewn y Cynllun Datblygu

·           Oherwydd cyfnod heriol yn y maes adeiladu nid oedd y datblygwr wedi gallu gweithredu o fewn y cyfnod ac felly yn gwneud cais am estyniad amser

·           Nad oedd dim addasiadau i’r cais gwreiddiol

·           Y byddai’r datblygwr yn defnyddio contractwyr lleol a deunyddiau lleol

 

(c)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·            Bod angen tai yng Nghaeathro

·            Ei fod yn gefnogol i’r datblygiad

 

(ch)   Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

(d)       Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phryderon llifogydd ar y safle, amlygwyd bod y Swyddogion Cynllunio wedi ymgynghori gyda Dŵr Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru oedd yn fodlon gyda’r mesurau lliniaru a’r amodau perthnasol oedd wedi ei cynnig

 

(dd)  Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r angen statudol i ddarparu safle chwarae saff ac nad oedd mynegi bod gerddi preifat y tai newydd yn ymateb digonol i hynny, amlygwyd bod y Swyddogion Cynllunio wedi ymgynghori gyda’r swyddogion perthnasol oedd yn cadarnhau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C19/0169/19/AM - Gypsy Wood, Bontnewydd pdf eicon PDF 110 KB

Cais amlinellol ar gyfer codi annedd menter wledig

 

AELOD LLEOL: Cynhgorydd Peter Garlick

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais amlinellol ar gyfer codi annedd menter wledig

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

(a)          Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio ar alw’r Aelod Lleol. Eglurwyd bod y penderfyniad wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio 29.04.2019 er mwyn asesu cynnwys llythyr hwyr a dderbyniwyd gan gyfreithiwr perchennog y tir. Roedd y llythyr yn nodi bod perchnogion y tir am drosglwyddo’r busnes i’r ymgeiswyr a gwerthu’r rhan o dir y bwriedir adeiladu’r tŷ oedd yn destun y cais i’r ymgeiswyr.

 

Adroddwyd bod safle’r cais wedi ei leoli oddeutu 250m i ffwrdd o ffin ddatblygu pentref Bontnewydd, ac yn nhermau’r Cynllun Datblygu Lleol, roedd wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored. Yn sgil yr angen i gynnal a gwarchod cefn gwlad roedd angen cyfiawnhad arbennig iawn dros ganiatáu adeiladu tai newydd yno. Nodwyd bod Polisi PS17 o’r Cynllun Datblygu Lleol yn datgan mai dim ond datblygiadau tai a oedd yn cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy, fyddai’n cael eu caniatáu yng nghefn gwlad agored.

 

Tynnwyd sylw bod paragraff 4.3.1 o’r NCT6 yn nodi mai un o’r ychydig sefyllfaoedd lle gellid cyfiawnhau datblygiad preswyl newydd ar ei ben ei hun yng nghefn gwlad agored oedd pan fo angen llety i alluogi gweithwyr menter wledig i fyw yn eu man gwaith neu’n agos ato. Ymhelaethwyd bod yr angen hanfodol am lety yn dibynnu ar anghenion y fenter wledig dan sylw, ac nad ar ddewis nac amgylchiadau personol yr ymgeisydd.

         

Nodwyd, petai’r sefyllfa perchnogaeth tir a’r busnes yn newid yn swyddogol yn y dyfodol yna byddai’n ofynnol ail-asesu’r bwriad yn ei gyfanrwydd yn erbyn y rhannau perthnasol o NCT 6. Adroddwyd ei bod yn gynamserol ac amhriodol i asesu sefyllfa i’r dyfodol gan nad oedd sicrwydd bod hyn am ddigwydd. Pe byddai sefyllfa’r berchnogaeth yn newid yn swyddogol yn y dyfodol yna byddai’n ofynnol i’r ymgeiswyr ddarparu’r wybodaeth briodol ar gyfer ail-asesu’r cais yn ei gyfanrwydd.

 

Tynnwyd sylw at baragraff 4.11 o’r NCT 6 sydd yn nodi bod rhaid darparu tystiolaeth nad oes unrhyw annedd/anheddai neu adeiladau eraill y gellid eu haddasu i fodloni’r angen. Os oes annedd/anheddau ar y fenter yn bodoli yn barod yna byddai angen dangos pam na ellid defnyddio’r rhain i ddiwallu anghenion y fenter ar gyfer gweithiwr preswyl, a pham na ellid aildrefnu trefniadau llafur neu breswyl er mwyn sicrhau bod y llety presennol yn diwallu anghenion y fenter heb fod angen annedd arall.

 

Ystyriwyd bod y bwriad o godi annedd menter wledig yng nghyswllt y busnes ar y safle yn groes i ofynion polisïau PCYFF 1 a PS17 o’r CDLl ynghyd â pharagraffau 4.2.36 - 37 o Bolisi Cynllun Cymru, rhan 4.3.1 o NCT 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy a rhan 2.13 o Arweiniad Ymarferol NCT 6.

 

Mynegodd yr Uwch Gyfreithiwr mai’r tir sydd wedi ei drosglwyddo i’r ymgeisydd ac nid y busnes, a gydag addasiadau wythnosol yn dod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C19/0087/25/R3 - Ysgol y Faenol, Penrhos Road, Penrhosgarnedd pdf eicon PDF 117 KB

Dymchwel Canolfan Penrhosgarnedd ac adeiladau canolfan cymundeol newydd ac ehangu Ysgol y Faenol, ffordd mynediad newydd ynghyd â maes parcio

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Menna Baines

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel Canolfan Penrhosgarnedd ac adeiladau canolfan cymunedol newydd ac ehangu Ysgol y Faenol, ffordd mynediad newydd ynghyd a maes parcio

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

Roedd yr aelodau wedi ymweld â’r safle

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer ail drefnu a chyfuno safleoedd Ysgol y Faenol a’r Ganolfan Gymunedol ym Mhenrhosgarnedd. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn ardal anheddol gyda’r rhan fwyaf ohono o fewn ffin ddatblygu Canolfan Isranbarthol Bangor fel y caiff ei ddiffinio gan Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.  Amlygwyd bod y bwriad yn cynnwys y nodweddion canlynol :

 

·      dymchwel y ganolfan gymunedol bresennol

·      creu maes parcio ar safle’r ganolfan gymunedolfe fydd prif fynedfa gerbydol yr ysgol yn symud i fynedfa’r maes parcio ac fe fydd 60 gofod parcio a 7 man gollwng yno

·      creu ffordd gyswllt yn arwain o’r maes parcio at safle presennol yr ysgol (fe fyddai hwn y tu allan i ffin ddatblygu’r ddinas) – bydd pedwar gofod parcio ar gyfer yr anabl ger yr adeilad

·      cau'r brif fynedfa ar gyfer cerddwyr ac agor un newydd 55m i’r gorllewin

·      dymchwel adeiladau allanol i’r cefn o’r ysgol

·      codi estyniadau i’r adeilad presennol gan gynnwys gofod ychwanegol ar gyfer canolfan gymunedol newydd.

 

Adroddwyd bod Polisi ISA 2 o’r CDLL yn gefnogol i ddarparu cyfleusterau cymunedol newydd ac ystyriwyd  bod y cynnig yn cwrdd â holl feini prawf y polisi hwnnw. Er i ôl troed yr adeilad newydd fod rhyw draean yn fwy na’r adeiladau presennol, ystyriwyd bod y dyluniad yn welliant pensaernïol ar yr adeiladau di-nod presennol. Oherwydd natur drefol y safle, ni ystyriwyd y byddai’r bwriad yn debygol o achosi effeithiau andwyol annerbyniol hirdymor i drigolion gerllaw na’r gymuned yn gyffredinol, er yn anorfod, bydd peth cynnydd mewn sŵn ac aflonyddwch.  Ategwyd y byddai modd rheoli unrhyw effeithiau niweidiol drwy osod amodau priodol ar y datblygiad.

 

Mewn ymateb i sylwadau hwyr gan Chwaraeon Cymru awgrymwyd mai ymarfer desg oedd wedi ei weithredu gan Chwaraeon Cymru ac nad oeddynt yn gyfarwydd â’r safle. Ategwyd bod y bwriad yn gwella’r adnoddau, yn welliant sylweddol i’r llecyn chwarae ac yn dderbyniol o ran mwynderau gweledol.

 

(a)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

(b)    Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â diffyg ymateb gan rai asiantaethau ac a ddylid bwrw  ymlaen heb eu sylwadau, adroddwyd bod y sefyllfa o beidio derbyn sylwadau yn eithaf cyffredin a’r tebygolrwydd yw y byddai ymateb neu sylw wedi ei dderbyn petai pryderon gan yr asiantaethau hyn. Nid oedd gan y Rheolwr Cynllunio farn ar yr awgrym bod rhai o’r asiantaethau hynyn  methu ag ymateb oherwydd pwysau gwaith.

 

(ch)   Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pharchu'r amod archeolegol, nododd y Rheolwr Cynllunio bod yr ymgeisydd yn ymwybodol o’r amod yma.

 

(c)       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C19/0149/46/LL - Congl y Cae, Llangwnadl, Pwllheli pdf eicon PDF 148 KB

Dymchwel adeilad allanol a chodi estyniad unllawr ar y tŷ ac addasu adeilad allanol yn 2 uned wyliau

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Simon Glyn

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel adeilad allanol a chodi estyniad unllawr ar y tŷ ac addasu adeilad allanol yn 2 uned wyliau

 

(a)      Yn dilyn penderfyniad apêl Tynpwll Cottage, Lon-ty'n-pwll, Nefyn, Pwllheli, (C18/0023/42/LL), awgrymwyd i’r Pwyllgor ohirio penderfyniad ar gais Congl y Cae er mwyn i’r Swyddogion Cynllunio gael cyfle i fynd i’r afael a chyd-destun yr apêl.

 

(b)      Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais

 

PENDERFYNWYD gohirio y cais er mwyn i’r Swyddogion Cynllunio gael cyfle i ystyried cyd-destun apêl cais rhif (C18/0023/42/LL)

 

12.

Cais Rhif C19/0328/11/LL - 33, Bryn Eithinog, Bangor pdf eicon PDF 106 KB

Estyniadau yn y cefn ac yn nhu blaen yr eiddo

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Estyniadau yn y cefn ac yn nhu blaen yr eiddo

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

(a)  Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer ymestyn y tŷ deulawr presennol yn y cefn ac yn y blaen.  Byddai’r estyniad cefn yn estyniad deulawr a’r estyniad blaen yn cael ei godi uwchben y modurdy presennol gydag edrychiadau allanol yr estyniadau yn cyd-weddu gyda edrychiadau presennol y tŷ deulawr.

 

O ran egwyddor y datblygiad, amlygwyd bod Polisi PCYFF2 o’r CDLL yn datgan y byddai cynigion yn cael eu gwrthod os byddai’r datblygiad yn cael effaith sylweddol ar iechyd, diogelwch neu fwynderau meddianwyr eiddo lleol. Amlygwyd bod Polisi PCYFF3 yn datgan y byddai cynigion yn cael eu caniatáu, gan gynnwys estyniadau a newidiadau i adeiladau a strwythurau presennol, os ydynt yn cydymffurfio â nifer o feini prawf sy’n cynnwys bod y cynnig yn ychwanegu neu yn gwella cymeriad y safle, yr adeilad neu’r ardal o ran y gosodiad, yr ymddangosiad, y raddfa ac yr uchder. Ystyriwyd bod y bwriad i ymestyn yr eiddo preswyl yn dderbyniol mewn egwyddor ac na fyddai gosodiad, ffurf, deunyddiau, graddfa a dyluniad yr estyniadau yn creu strwythurau anghydnaws na gormesol yn y rhan yma o’r strydlun.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl nodwyd bod anheddau preswyl a’u gerddi preifat wedi eu lleoli i’r gorllewin (31 Bryn Eithinog) ac i’r gogledd (26 Lon y Bryn) gyferbyn a safle’r cais. Adroddwyd bod gwrthwynebiad gan breswyliwr rhif 31 Bryn Eithinog wedi ei dderbyn ar sail:-

 

·         Colli golau drwy greu strwythurau gormesol.

·         Colli preifatrwydd a gor-edrych i eiddo a adnabyddir fel 31 Bryn Eithinog.

·         Creu trafnidiaeth ychwanegol.

·         Amharu ar gymeriad yr ardal.

 

Mewn ymateb i’r gwrthwynebiad o golli preifatrwydd a gor-edrych eglurwyd bod yr  estyniadau wedi eu dylunio i osgoi unrhyw or-edrych uniongyrchol i mewn i eiddo cyfagos (31 Bryn Eithinog a 26 Lon y Bryn yn y cyswllt yma), ac felly, ystyriwyd na fyddai’r bwriad fel y’i cyflwynwyd yn golygu gor-edrych a cholli preifatrwydd i breswylwyr cyfagos.

 

Mewn ymateb i’r gwrthwynebiad o greu trafnidiaeth ychwanegol, eglurwyd bod yr  eiddo eisoes yn dŷ 4 llofft ac nad oedd bwriad i ymestyn  niferoedd y llofftydd o fewn y tŷ. O ganlyniad, nid oedd y Swyddogion Cynllunio yn rhagweld y byddai cynnydd yn nhrafnidiaeth i mewn ac allan o’r safle. Ategwyd nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth bryderon ynglŷn â diogelwch ffyrdd na gofynion parcio ac felly'r bwriad yn dderbyniol ar sail gofynion Polisi TRA2 a TRA4 o’r CDLL.

 

Mewn ymateb i’r gwrthwynebiad o amharu ar gymeriad yr ardal, adroddwyd bod yr ardal gyfagos yn cynnwys casgliad amrywiol o wahanol fathau o anheddau preswyl ar sail edrychiadau, graddfa, ffurf a dyluniadau gyda nifer ohonynt eisoes wedi eu hymestyn a’u newid yn y gorffennol.  O gwblhau’r asesiad, ystyriwyd na fyddai’r estyniadau yn creu strwythurau gormesol nac anghydnaws yn y rhan yma o’r strydlun.

 

Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod sylwadau wedi eu cyflwyno yn ystod y cyfnod ymgynghori  nad oeddynt yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12.