skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Berwyn Parry Jones, Gareth A. Roberts a Gruffydd Williams

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

·           Y Cynghorydd Elin Walker Jones (sydd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0716/25/LL) oherwydd bod ei gwr yn gyflogai i Goleg Menai a hefyd yn aelod o Gyngor y Coleg.

 

Roedd yr aelod o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 105 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 23.9.19 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Medi   2019, fel rhai cywir. 

 

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

 

6.

Cais Rhif C19/0556/21/LL Fferm Talybont Uchaf, Tal y Bont, Bangor pdf eicon PDF 121 KB

Newid defnydd adeilad amaethyddol i weithdy mecanig trin peiriannau cychod (Defnydd Dosbarth B1)

 

AELOD LLEOL:         CYNGHORYDD DAFYDD MEURIG

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd adeilad amaethyddol i weithdy mecaneg trin peiriannau cychod (Defnydd Dosbarth B1)

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

Roedd yr Aelodau wedi ymweld ar safle

 

a)         Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais yn ymwneud â throsi adeilad amaethyddol presennol yn weithdy trin peiriannau cychod. Nodwyd ei fod yn gais ôl weithredol gan i’r defnydd o’r adeilad eisoes fod wedi dechrau.

 

Eglurwyd bod y bwriad yn cynnwys defnyddio’r adeilad yn bennaf ar gyfer trwsio a rhoi gwasanaeth i beiriannau cychod ynghyd â storio cyfarpar morwrol ar gyfer gwerthiant ar-lein yn bennaf.  Amlygwyd bod y busnes yn cyflogi naw aelod staff llawn amser gyda’r bwriad o wasanaethu hyd at bum cwsmer y diwrnod (a fydd yn mynychu’r safle trwy apwyntiad yn unig).  Fe fyddai pum gofod parcio ar gyfer cwsmeriaid ar y safle, pump yn benodol ar gyfer staff a saith gofod ar wahân ar gyfer parcio cyffredinol.  Fe fyddai hefyd gofod penodol ar gyfer cadw hyd at bedwar cwch ar y safle. Dywed y Datganiad Cynllunio a gyflwynwyd, y disgwylir hyd at bum cludiant nwyddau / cychod i’r safle bob wythnos yn ystod yr haf gyda llai yn y gaeaf.

 

Lleolir y safle gerllaw adeiladau cyn fferm Tal y Bont Uchaf, sy’n cynnwys tŷ sylweddol, anecs ac adeiladau allanol ac sy’n adeilad rhestredig (Gradd II). Mae’r mynediad o’r ffordd gyhoeddus ar hyd trac preifat sydd ag oddeutu 120m ohono’n llwybr cyhoeddus. Mae’r adeilad mewn ardal wledig oddeutu 1.2 km i’r dwyrain o ffin ddatblygu pentref Llandygai.

 

Gohiriwyd gwneud penderfyniad yng nghyfarfod Pwyllgor Cynllunio ar 23/09/19 er caniatáu trefnu ymweliad safle ac er mwyn ymgymryd ag asesiad pellach o effaith mwynderol y drafnidiaeth sy’n defnyddio’r safle ar yr ardal leol.

 

Amlygwyd nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i'r bwriad gan ddatgan na thybiwyd y byddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar unrhyw ffordd. Fodd bynnag, fe nodwyd bod cryn wrthwynebiad wedi dod o’r gymuned leol yn honni bod y cynnydd sydd wedi digwydd yn y drafnidiaeth eisoes yn niweidiol i ddiogelwch y ffordd a mwynderau lleol. (Dyma oedd sail cynnal ymweliad).

 

Wrth ystyried defnydd blaenorol yr adeilad at ddefnydd amaethyddol nodwyd nad oedd dim i rwystro cerbydau / peirannau sylweddol rhag mynd a dod i’r safle at y diben hwnnw.  Yn ogystal, wrth ystyried natur gyfyngedig y safle, ni ystyriwyd bod gofod digonol i ymestyn y busnes y tu hwnt i’w ffiniau presennol ac felly bydd maint y safle ynddo’i hun yn cyfyngu ar faint y drafnidiaeth.

 

Wedi pwyso a mesur y cais a’r cynlluniau diwygiedig yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol ynghyd a’r holl sylwadau a gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu gyda’r amodau perthnasol ac na fyddai niwed annerbyniol yn deillio o’r datblygiad i fwynderau cymdogion na’r ardal ehangach.

 

b)         Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd i’r cais y prif bwyntiau canlynol. Nododd ei fod yn Gadeirydd Cyngor Cymuned, yn cynrychioli preswylwyr y lon  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C19/0398/11/LL Blakemore Cash and Carry, Ffordd Caernarfon, Bangor pdf eicon PDF 183 KB

Cais i ddymchwel adeilad (Dosbarth defnydd B8) a chodi archfarchnad (Dosbarth defnydd A1), creu 113 man parcio, gwaith tirlunio meddal, ail strwythuro mynedfa'r safle, sy'n cynnwys creu cylchfan a newidiadau i drefniant parcio presennol o flaen siop Dunelm, ynghyd â newidiadau i'r fynedfa gwasanaethu

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD GARETH A ROBERTS

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais i ddymchwel adeilad (Dosbarth defnydd B8) a chodi archfarchnad (Dosbarth defnydd A1), creu 113 man parcio, gwaith tirlunio meddal, ail strwythuro mynedfa’r safle, sy’n cynnwys creu cylchfan a newidiadau i drefniant parcio presennol  o flaen siop Dunelm, ynghyd a newidiadau i’r fynedfa gwasanaethu     

 

a)      Cyfeiriwyd at y daflen sylwadau ychwanegol lle nodwyd bod sylwadau ychwanegol wedi eu derbyn gan yr ymgeisydd mewn ymateb i asesiad yr Awdurdod o’r cais. O ystyried bod y sylwadau hyn yn cyfeirio at faterion mewn perthynas â profi’r angen am y datblygiad, awgrymwyd i’r Pwyllgor ohirio’r cais er mwyn caniatáu i’r swyddogion asesu’r sylwadau yn llawn.

 

b)      Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais

 

PENDERFYNWYD gohirio y cais a chynnal ymweliad safle.

 

 

8.

Cais Rhif C19/0716/25/LL Ty Menai and Llwyn Brain, Ffordd Penlan, Parc Menai pdf eicon PDF 189 KB

Newid defnydd adeilad o Ddefnydd Dosbarth B1 (swyddfeydd) i Ddefnydd Dosbarth D1 (sefydliadau di-breswyl) ynghyd â llecynau parcio ychwanegol, llwybrau cerdded, safle bws a rhodfa

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD MENNA BAINES

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Newid defnydd adeilad o Ddefnydd Dosbarth B1 (swyddfeydd) i Ddefnydd Dosbarth D1 (sefydliadau dibreswyl) ynghyd a llecynnau parcio ychwanegol, llwybrau cerdded, safle bws a rhodfa

 

Cyfeiriwyd at y daflen sylwadau ychwanegol lle nodwyd bod asiant yr ymgeisydd wedi gwneud cais i ohirio’r cais er mwyn bod mewn sefyllfa i ymateb i faterion sydd wedi codi yn yr adroddiad i’r Pwyllgor - yn benodol,

 

i)              Ail ddatblygu safle presennol Grŵp Llandrillo-Menai ger Ysgol Friars, Bangor

ii)             Dehongli Polisi ISA3 a CYF5 o’r Cynllun Datblygu Lleol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais

 

Amlygodd Pennaeth Cynorthwyol Cynllunio ac Amgylchedd mai prif ystyriaethau cynllunio y cais dan sylw fyddai’r math o ddefnydd a lleoliad y safle. Awgrymodd hefyd, petai penderfyniad i ohirio byddai’n fuddiol ymweld â’r safle presennol a safle’r cais.

 

 

PENDERFYNWYD gohirio y cais a threfnu ymweliadau i safle presennol Grŵp Llandrillo Menai Penrhosgarnedd a safle’r cais yn Ffordd Penlan, Parc Menai.