skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Eric M. Jones

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Y Cynghorydd Simon Glyn (sydd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C19/0812/39/LL) oherwydd ei fod yn dad i un a gyflogwyd gan y cwmni

 

Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

b)    Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·    Y Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones  (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 5.5  ar y rhaglen (cais cynllunio C19/1028/03/LL)

 

·    Y Cynghorydd Gruffydd Williams (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 5.6 ar y rhaglen (cais cynllunio C20/0022/42/DT)

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 107 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 10.02.2020 fel rhai cywir  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 10fed o Chwefror 2020, fel rhai cywir. 

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau

6.

Cais Rhif C19/0444/11/LL 196-200, Stryd Fawr, Bangor pdf eicon PDF 153 KB

Trosi a newid defnydd rhan cefn o’r cyn siop Debenhams yn 6 uned byw (5 x 1 ystafell wely ac 1 x 2 ystafell wely)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Steve Collings

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Trosi a newid defnydd rhan cefn o’r cyn siop Debenhams yn 6 uned byw (5 x 1 ystafell wely ac 1 x 2 ystafell wely)

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi fe ohiriwyd y cais ym Mhwyllgor Ionawr 2020 er mwyn derbyn gwybodaeth ychwanegol am bris rhent yr unedau byw. Eglurwyd ei fod yn gais llawn ar gyfer newid defnydd rhan cefn o’r adeilad a arferai fod yn safle Debenhams yn 6 uned byw hunangynhaliol ynghyd a man addasiadau i’r adeilad. Nodwyd nad oedd unrhyw bryderon ar sail y mwynderau na materion trafnidiaeth. 

 

Yn dilyn y gohiriad ar y cais er mwyn derbyn gwybodaeth am bris rhent yr unedau fforddiadwy derbyniwyd gwybodaeth bellach gan yr asiant a’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd. Mae Polisi TAI 15 o’r CDLl yn gofyn ceisio sicrhau darpariaeth briodol o dai fforddiadwy yn ardal y Cynllun a’r trothwy ar gyfer tai fforddiadwy ym Mangor yw 20%. Mae’r adroddiad prisiad marchnad agored yn datgan bod pris marchnad agored yr holl unedau yn is na lefel fforddiadwy’r ardal, sef £50,000, ac felly mae’r unedau i gyd yn disgyn o dan ddiffiniad fforddiadwy er mai dim ond 1.2 o unedau fforddiadwy sy’n ofynnol. O ganlyniad, pwysleisiwyd yn yr achos hwn ni fydd angen cytundeb cyfreithiol nac amod cynllunio ar gyfer sicrhau darpariaeth tai fforddiadwy gan y byddent yn fforddiadwy beth bynnag. Esboniwyd bod lleoliad, maint a math yr unedau yn sicrhau bod prisiad y farchnad yn fforddiadwy ac felly mae’r bwriad yn cydymffurfio â’r polisïau perthnasol sef TAI 15 o’r CDLl a’r CCA.

 

Esboniwyd ar sail yr hyn a nodir ym mharagraff 3.3.2 o Ganllaw Cynllunio Atodol ‘Tai Fforddiadwy’ (Ebrill 2019) disgwylir i ddeiliaid dalu 25% neu lai o’u hincwm gros ar rent. Ar sail yr holl wybodaeth o’r adroddiad, 25% o ganolrif incwm Bangor yw £464 y mis. Adroddwyd bod yr asiant wedi cadarnhau y byddai 5 o’r 6 uned a darperir gyda rhent marchnad agored o £400 y mis. Er bod y canolrif incwm yn amrywio rhwng wardiau, eglurwyd bod angen ystyried y bwriad yng nghyswllt canolrif incwm Bangor yn ei gyfanrwydd. Eglurwyd bod datblygiad mewn un man yn gallu cwrdd â’r angen am dai o fewn y ddinas gyfan oherwydd symudiad rhwydd a naturiol rhwng wardiau ac agosrwydd y wardiau at ei gilydd (nodwyd bod ward Pentir wedi ei hepgor o’r ffigyrau ar y sail ei fod yn cynnwys ardaloedd sydd y tu allan i Fangor). Adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi darparu gwybodaeth yn seiliedig ar yr asesiad marchnad dai lleol Môn a Gwynedd sy’n datgan bod angen cyfredol ar gyfer fflatiau 1 a 2 llofft yn yr ardal ac mae hyn yn cael ei ategu gan sylwadau’r Uned Strategol Tai.

 

b)     Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i ganiatáu’r cais gydag amod cynllunio i gyfyngu rhent un o’r unedau i lefel fforddiadwy am  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C19/0995/11/LL 233-235, Stryd Fawr, Bangor pdf eicon PDF 141 KB

Diddymu amod rhif 3 o ganiatad Cynllunio C19/0323/11/LL sy’n cyfyngu 2 uned allan o’r 8 i fod yn unedau fforddiadwy

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Steve Collings

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Diddymu amod rhif 3 o ganiatâd Cynllunio C19/0323/11/LL sy’n cyfyngu 2 uned allan o’r 8 i fod yn unedau fforddiadwy

 

a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi fe ohiriwyd y cais ym Mhwyllgor Ionawr 2020 er mwyn derbyn gwybodaeth ychwanegol am bris rhent yr unedau byw, ac yn benodol yr unedau fforddiadwy sydd i’w darparu fel rhan o’r bwriad. Gosodwyd yr amod yn wreiddiol gan nad oedd gwybodaeth glir a phendant wedi ei gyflwyno (yn benodol prisiad marchnad agored) fel rhan o’r cais blaenorol am y ddarpariaeth fforddiadwy. Yn dilyn y gohiriad ar y cais, derbyniwyd gwybodaeth gan y datblygwr am bris rhent a phris marchnad agored yr unedau byw.  Derbyniwyd hefyd asesiad o werth yr unedau gan gwmni Syrfewyr Siartredig sydd wedi ei selio ar ofynion y Llyfr Coch (2017). Byddai gwerth marchnad agored yr unedau yn amrywio o £45,000 i £60,000 a byddai rhent misol yr unedau i gyd yn amrywio o £425 i £475 gydag unedau 4 a 8 o fewn y datblygiad yn cael eu cynnig ar rent o £425 y mis. Mae Atodiad 4 o’r ddogfen CCA: Tai Fforddiadwy ar gyfer prisiau rhagwelir ar gyfer tai canolradd ar werth yn ward Deiniol ym Mangor (2018) yn cadarnhau bod gwerth tŷ canolradd yn £67,876, sy’n golygu bod yr unedau arfaethedig o fewn cyrraedd i ddeiliad ar gyflog canolig. Mae Uned Strategol Tai y Cyngor hefyd wedi cadarnhau bod prisiad yr unedau preswyl arfaethedig yn is na lefel prisiau fforddiadwy (canolradd) ar gyfer ward Deiniol ym Mangor.

 

Nodwyd yn yr adroddiad fe ymgynghorwyd gyda’r Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd er mwyn cael mwy o wybodaeth am y sefyllfa rent. Cadarnhawyd ganddynt fod paragraff 3.3.2 o Ganllaw Cynllunio Atodol ‘Tai Fforddiadwy’ (Ebrill 2019) yn datgan y disgwylir i ddeiliaid tŷ dalu 25% neu lai o’u hincwm gros ar rent ar gyfer unedau a ddisgrifir fel rhai fforddiadwy. Er bod y canolrif incwm yn amrywio rhwng wardiau, eglurwyd bod angen ystyried y bwriad yng nghyswllt canolrif incwm Bangor yn ei gyfanrwydd. Eglurwyd bod datblygiad mewn un man yn gallu cwrdd â’r angen am dai o fewn y ddinas gyfan oherwydd symudiad rhwydd a naturiol rhwng wardiau ac agosrwydd y wardiau at ei gilydd (nodwyd bod ward Pentir wedi ei hepgor o’r ffigyrau ar y sail ei fod yn cynnwys ardaloedd sydd y tu allan i Fangor). Adroddwyd fod rhent y ddwy uned fforddiadwy sydd wedi eu nodi i fod yn £425 yr un yn fforddiadwy yng nghyd-destun canolrif incwm Bangor ac o ran gofynion y CCA a’r NCT perthnasol.

 

Nodwyd bod prisiau marchnad agored yr unedau wedi eu cyfyngu’n naturiol i bris fforddiadwy oherwydd natur, lleoliad a graddfa’r safle a maint yr unedau eu hunain. Datganwyd pe bai’r wybodaeth yma i gyd wedi ei gyflwyno gyda’r cais gwreiddiol ni fyddai amod o’r fath wedi cael ei osod gan na fyddai’n angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau darpariaeth o unedau fforddiadwy h.y. ar sail eu pris marchnad agored byddent yn fforddiadwy beth bynnag. Byddai lleihau’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C19/0524/14/R3 TIr Canolfan Segontiwm, Caernarfon pdf eicon PDF 177 KB

Cais llawn i godi 4 uned byw hunan gynhaliol a chreu ffordd fynediad ynghyd ag adnoddau cysylltiol

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD JASON W PARRY

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais llawn i godi 4 uned byw hunan gynhaliol a chreu ffordd fynediad ynghyd ag adnoddau cysylltiol

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a’r sylwadau manwl a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd.

 

               Roedd yr aelodau wedi ymweld â’r safle

 

Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan egluro bod y cais wedi ei ohirio yn y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd 10/02/20 oherwydd penderfynwyd yn y cyfarfod hwnnw bod angen cynnal ymweliad safle; derbyn mwy o wybodaeth am y dull o sgrinio’r fynedfa o dai cyfagos; derbyn mwy o wybodaeth am reolaeth y safle a chynnal cyfarfod i drafod egwyddorion y cais gyda’r Aelod Lleol. Eglurwyd bod y bwriad yn ymwneud a chodi 4 uned / pod byw sydd wedi eu cynllunio a’u darparu er mwyn cyrraedd anghenion unigolion bregus. Nodwyd y byddai’r unedau ym mherchnogaeth y Cyngor ac yn cael eu rheoli ar gyfer llety tymor byr drwy’r Cyngor neu Gymdeithas Tai cofrestredig.

 

Amlygwyd bod y datblygiad wedi ei leoli ar ran o gyn safle Canolfan Segontiwm o fewn ffiniau datblygu tref Caernarfon sydd wedi ei ddynodi yn y Cynllun Datblygu Lleol fel Canolfan Gwasanaeth Trefol. Ategwyd bod y safle ger Caer Rufeinig Segontiwm sydd yn heneb gofrestredig a bod trafodaethau wedi ei cynnal gyda CADW a Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd ynglŷn ag effaith y datblygiad arfaethedig ar yr heneb gofrestredig. Nodwyd bod y safle yn un eang ac mewn ymateb i bryderon trigolion lleol o ddefnydd gweddill y safle i’r dyfodol, adroddwyd bod CADW wedi awgrymu fod bwriad i ddynodi gweddill y safle fel heneb gofrestredig fyddai’n debygol o atal datblygiadau pellach.

 

Adroddwyd bod cyfarfod wedi ei gynnal gyda’r Aelod Lleol a bod y cyfarfod hwnnw wedi bod yn un buddiol.

 

Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad ac yng nghyd-destun mwynderau gweledol, cyffredinol a phreswyl ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol o ran dyluniad, maint, graddfa a deunyddiau allanol ac na fydd y bwriad yn debygol o gael effaith andwyol sylweddol annerbyniol ar unrhyw drigolion neu eiddo lleol.

 

Wedi ystyried yr holl faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol yn ogystal â’r holl sylwadau a dderbyniwyd, ystyriwyd y bwriad yn dderbyniol ac yn cydymffurfio a gofynion polisïau perthnasol.

 

a)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

b)    Mewn ymateb i gais o ddarparu ffens bren ychwanegol ar hyd ffin rhan o’r safle a thŷ cyfochrog, nodwyd na ystyriwyd fod hyn yn angenrheidiol ac nad oedd yn wybyddus os oedd perchennog yr eiddo yn dymuno cael ffens soled ar ei ffin. Er hyn, awgrymwyd fod yr ymgeisydd yn cynnal trafodaethau pellach gyda’r perchennog i dderbyn cadarnhad o’u dymuniad ynglŷn â gosod ffens ac i adrodd hyn yn ôl i’r swyddogion cynllunio er mwyn cadarnhau barn y perchennog a llunio amod priodol os oedd angen un.

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:

·           Bod y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C19/0812/39/LL Maes Carafanau The Warren, Lôn Pont Morgan, Abersoch, Pwllheli pdf eicon PDF 122 KB

Ymestyn cyfnod meddiannu gwyliau i fod yn agored drwy’r flwyddyn i bwrpas gwyliau

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD DEWI W ROBERTS

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ymestyn cyfnod meddiannu gwyliau i fod yn agored drwy’r flwyddyn i bwrpas gwyliau

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i ymestyn y cyfnod meddiannu ar y safle carafanau gwyliau sefydlog fel bod tymor gwyliau o 12 mis.  Amlygwyd bod caniatadau presennol y parc yn cyfyngu amser meddiannu’r carafanau i rhwng 1 Mawrth mewn un flwyddyn a 17 Ionawr yn y flwyddyn ganlynol.  Byddai’r bwriad yn cynyddu’r cyfnod meddiannu am ryw 6 wythnos yn y flwyddyn. Pwysleisiwyd nad oedd bwriad ychwanegu at y nifer carafanau sefydlog sydd ar y safle, dim ond ehangu’r cyfnod meddiannu. Ategwyd bod sawl maes carafanau eisoes wedi cael caniatâd i ymestyn y cyfnod meddiannu ac felly bod y cynsail eisoes wedi ei osod.

Nodwyd bod Polisi TWR 4 yn gefnogol i gynigion i ymestyn y tymor gwyliau ar gyfer safleoedd carafanau sefydlog a sialetau presennol os gellid dangos bod y llety yn cael ei ddefnyddio at ddibenion gwyliau yn unig ac nad yw’n dod yn brif neu unig gartref y deilydd.   Adroddwyd bod gan Grŵp Haulfryn fesurau eu hunain yn eu lle i sicrhau fod y carafanau sefydlog yn cael eu defnyddio i bwrpas gwyliau yn unig ac nad yw’r perchennog i ddefnyddio’r garafán fel preswylfa barhaol. Er y mesurau hyn, ystyriwyd os caniateir y cais y byddai’n briodol cynnwys amod bod y carafanau sefydlog at ddefnydd gwyliau yn unig a bod cofrestr yn cael ei gadw o enwau meddianwyr y carafanau, hyd y cyfnod aros a chyfeiriad eu prif gartref. 

Cyfeiriwyd at y ffaith bod Grŵp Haulfryn yn berchen ar bum Parc Gwyliau yng Ngwynedd gan gynnwys Y Warren. Nodwyd bod y parc yn cael ei ystyried yn ased twristiaeth werthfawr i’r ardal ac yn darparu nifer o swyddi yn lleol. Eglurwyd bod galw am lety gwyliau yn ystod hanner tymor ysgol mis Chwefror ac ar gyfer Santes Dwynwen a Gŵyl Sant Ffolant. Ategwyd bod Grŵp Haulfryn yn cynnig gwasanaeth gosod ar ran perchnogion y carafanau i gynorthwyo gydag arosiadau byr yn ystod y flwyddyn.  Ystyriwyd y byddai ymestyn y tymor gwyliau yn annog ymwelwyr i wario yn yr economi leol gan gynorthwyo i gynnal y gymuned leol, diogelu a chreu cyflogaeth leol fyddai’n arwain at fuddsoddiad pellach. Yn bresennol mae 60 o staff rhan amser a 40 llawn amser yn y Warren ac ystyriwyd y byddai hyn yn newid i 80 rhan amser a 55 llawn amser drwy fod yn agored trwy’r flwyddyn.   

Ystyriwyd bod y cais, gydag amodau priodol i sicrhau y defnyddir y carafanau sefydlog ar gyfer gwyliau yn unig ac i gadw cofrestr yn dderbyniol ar sail polisi.  Adroddwyd y byddai modd hefyd gynnwys amodau a argymhellwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar faterion llifogydd.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod galw am lety gwyliau yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C19/1028/03/LL Gwesty Wynnes Arms, Ffordd Manod, Manod, Blaenau Ffestiniog pdf eicon PDF 119 KB

Cais ar gyfer addasu tŷ tafarn yn 5 fflat ynghyd â chodi estyniad cefn a llefydd parcio

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD LINDA A JONES

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cais ar gyfer addasu tŷ tafarn yn 5 fflat ynghyd â chodi estyniad cefn a llefydd parcio

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y cais yn un ar gyfer addasu tafarn i 5 fflat preswyl hunangynhaliol ynghyd a chreu llefydd parcio a mynedfa ar safle Gwesty’r Manod Arms. Amlygwyd bod defnydd tafarn wedi dod i ben ar ddechrau 2017 a bod yr adeilad wedi cau. Ategwyd bod caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd o dy tafarn i swyddfeydd ynghyd a llefydd parcio ar y safle, ond nad oedd hyn wedi ei ddechrau.

 

Cyfeiriwyd at adran 5.1 - 5.7 yn yr adroddiad oedd yn amlinellu bod y datblygiad yn dderbyniol mewn egwyddor a bod yr Uned Strategol Tai yn datgan angen cydnabyddedig am fflatiau 1 a 2 ystafell wely yn y dref.

 

Disgwylid i 10% o’r unedau fod yn fforddiadwy a chyfeiriwyd at wybodaeth a ddaeth gyda’r cais ynghyd a gwybodaeth hwyr a ddaeth i law, yn cadarnhau bod y prisiau marchnad agored a rhent ar gyfer pob uned eisoes yn fforddiadwy i’r ardal ac nad oedd angen cyfyngiad pellach.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, nodwyd bod y safle wedi ei leol o fewn ffin datblygu Blaenau Ffestiniog ac mewn lle amlwg o fewn ardal breswyl a chyhoeddus. Derbyniwyd gwrthwynebiadau yn nodi’r effaith negyddol sylweddol ar ddeiliad tai cyfagos, ond gan ystyried mai defnydd tafarn yw defnydd cyfreithiol yr adeilad, byddai potential i’r dafarn greu mwy o broblemau nag uned breswyl. Ystyriwyd y byddai fflatiau yn addas ac yn y tymor hwy yn fodd o sicrhau cyflwr yr adeilad i’r dyfodol.

 

Yng nghyd-destun materion priffyrdd, amlygwyd bod bwriad creu mynedfa a llefydd parcio newydd ac er nad oedd gan yr Uned Trafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad roeddynt yn argymell cynnwys amodau priodol ar unrhyw ganiatad.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·           Bod y cynlluniau yn cynnwys estyniad newydd fyddai yn gwella golwg yr adeilad

·           Bod defnydd preswyl i’r adeilad yn fwy addas na thafarn

·           Bod lleoliad pwrpasol ar gyfer gosod biniau ysbwriel a storfa beiciau

·           Er bod Cyngor Tref wedi herio’r angen am fflatiau, yr Uned Strategol Tai wedi datgan bod angen cydnabyddedig am fflatiau 1 a 2 stafell wely yn y dref

·           Er nad oes prinder tai yn y dref, mae prinder fflatiau

·           O ran fforddiadwyedd, mae’r prisiau yn isel oherwydd ardal incwm isel

·           Bod gwybodaeth gan ddau gwmni gwerthu tai yn datgan gwerth prynu a rhentu'r fflatiau

 

c)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod trigolion Manod wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu’r cais

·         Bod y tafarn yn ei amser wedi bod yn llwyddiannus iawn ac  y byddai’r gymuned leol wedi dymuno defnyddio’r safle ar gyfer Canolfan i’r pentref

·         Anghytuno gyda’r farn bod angen fflatiau ym Manod - yn dilyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

Cais Rhif C20/0022/42/DT Tan y Mynydd, Mynydd Nefyn, Nefyn, pdf eicon PDF 88 KB

Dymchwel storfa allanol bresennol, addasiadau i'r prif dŷ presennol ac estyniad rhanol unllawr, rhannol deulawr i'r ochr a'r cefn

 

AELOD LLEOL: CYNGHORYDD GRUFFYDD WILLIAMS

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dymchwel storfa allanol bresennol, addasiadau i'r prif presennol ac estyniad rhannol unllawr, rhannol ddeulawr i'r ochr a'r cefn.

 

a)     Adroddwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth yn argymell y dylid cynnal arolwg Rhywogaethau Gwarchodedig (ystlumod ac adar sy’n nythu) cyn caniatáu’r datblygiad. Nodwyd na fyddai’n briodol ystyried y cais heb dderbyn yr arolwg yma oherwydd ei fod yn allweddol er mwyn asesu egwyddor y bwriad. Argymhellwyd i ohirio’r cais er mwyn cael derbyn yr arolwg.  

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais am y rhesymau canlynol:

·         Er mwyn derbyn arolwg Rhywogaethau Gwarchodedig (ystlumod ac adar sy’n nythu).

·         Nododd Aelod bod hefyd angen ymweliad safle oherwydd bod gymaint o ddatblygiadau wedi digwydd yno dros y blynyddoedd.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn derbyn arolwg Rhywogaethau Gwarchodedig (ystlumod ac adar sy’n nythu) a chynnal ymweliad safle.