skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol a nodi materion protocol.

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

(a)       Datganodd y Cynghorydd Eirwyn Williams fuddiant personol, yn eitem 5.1 ar y rhaglen (cais cynllunio rhif C18/0520/44/LL), oherwydd ei fod yn berchennog gwesty bach.

 

Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a bu iddo bleidleisio.

 

(b)     Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

·        Y Cynghorydd Nia Jeffreys, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0520/44/LL);

·        Y Cynghorydd Dafydd Meurig, (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0556/21/LL).

 

Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny.

3.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

4.

COFNODION pdf eicon PDF 97 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 2 Medi 2019, fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 2 Medi 2019, fel rhai cywir.

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu.

 

Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

5.1

Cais Rhif C18/0520/44/LL - Tŷ Moelwyn, Britannia Terrace, Porthmadog pdf eicon PDF 163 KB

Cais ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol a chodi gwesty gyda tŷ bwyta a bar atodol ynghyd â newidiadau i'r fynedfa, creu llecynnau parcio a thirlunio a darparu lle biniau (cynllun diwygiedig).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Nia Jeffreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

Cais ar gyfer dymchwel yr adeilad presennol a chodi gwesty gyda thŷ bwyta a bar atodol ynghyd â newidiadau i'r fynedfa, creu llecynnau parcio a thirlunio a darparu lle biniau (cynllun diwygiedig).

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y byddai’r gwesty yn 80 ystafell wely dros 3/4 llawr, gyda thŷ bwyta a bar ar y llawr daear ac adnoddau cysylltiol, ynghyd â 56 llecyn parcio a storfa beics. Nododd bod y safle mewn lleoliad amlwg ar gyrion Porthmadog, a bod yr adeilad a oedd yn y gorffennol yn swyddfa treth, yn weladwy wrth fynd dros Y Cob i gyfeiriad Porthmadog. ‘Roedd rhai o’r aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod.

 

Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

Nododd bod egwyddor y datblygiad yn dderbyniol oherwydd bod datblygu ar dir llwyd a darparu llety wedi ei wasanaethu yn cael ei gefnogi gan bolisïau cynllunio lleol a chenedlaethol.

 

Amlygodd bod amrywiaeth o adeiladau yng nghyffiniau’r safle a bod nodweddion hanesyddol i rai adeiladau. Ni ystyriwyd fod unrhyw ffurf bendant yn bodoli o fewn yr ardal gyfagos. Eglurodd bod yr adeilad presennol yn eithaf sylweddol ei faint gyda thri llawr iddo a tho hip llechi, nid oedd unrhyw nodweddion pensaernïol o ddiddordeb yn perthyn iddo. Nododd bod y bwriad yn dangos adeilad wedi ei leoli ymhellach o’r ffordd gyhoeddus gyda’r maes parcio i’r blaen. Ymhelaethodd y byddai’r datblygiad yn ei gyfanrwydd yn creu newid gweledol amlwg ond ni ystyriwyd y byddai’r newid yn un annerbyniol. Roedd yn bwysig nodi bod dynodiadau tirwedd a cadwraethol yn gyfagos i’r safle, ond bod rhaid ystyried cyd-destun y safle ar gyrion tref brysur. Ni ystyriwyd bod y bwriad yn newid sylweddol ar y sefyllfa bresennol a’i fod yn debyg mai lleol yn unig fyddai’r effaith mwyaf. Nododd y credir na fyddai effaith y datblygiad yn un annerbyniol o ystyried natur yr ardal, yr adeilad presennol a natur y datblygiad.

 

Eglurodd bod y safle wedi ei leoli yn agos i dai teras preswyl Tros y Bont (Britannia Terrace a Britannia Place). Nododd nid oedd amheuaeth y byddai newid o’r hyn a oedd yn bodoli ar y safle, ond o ystyried lleoliad, ffurf a maint yr adeilad presennol gyda’r hyn a fwriedir, ni chredir y byddai’r newid yn un annerbyniol.

 

Nododd mai’r materion a oedd yn pryderu trigolion lleol y mwyaf oedd effaith y datblygiad yn lleol oherwydd maint y bwriad a’r hyn a welir fel diffyg darpariaeth parcio o fewn y safle. Amlygodd bod Datganiad Trafnidiaeth wedi ei gyflwyno gyda’r cais yn ogystal â chynlluniau manwl yn dangos llwybrau trafnidiaeth i mewn ac allan o’r safle. Oherwydd y pryderon a amlygwyd, cynhaliwyd asesiad trylwyr o’r bwriad gan yr Uned Drafnidiaeth a derbyniwyd cadarnhad nad oedd gan yr Uned wrthwynebiad i'r bwriad.

 

Tynnodd sylw yn dilyn derbyn Datganiad Ieithyddol bod yr Uned Iaith wedi datgan bod y bwriad yn debygol o gael effaith gadarnhaol ar y dref a’r Iaith Gymraeg. Amlygodd bod y Gwasanaeth Twristiaeth yn nodi bod darpariaeth o’r math  ...  view the full COFNODION text for item 5.1

5.2

Cais Rhif C19/0556/21/LL - Fferm Talybont Uchaf, Tal y Bont, Bangor pdf eicon PDF 121 KB

Newid defnydd adeilad amaethyddol i weithdy mecanig trin peiriannau cychod (Defnydd Dosbarth B1).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

Newid defnydd adeilad amaethyddol i weithdy mecanig trin peiriannau cychod (Defnydd Dosbarth B1).

        

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi ei fod yn gais ôl-weithredol. Eglurodd bod y safle gerllaw adeiladau cyn fferm Tal y Bont Uchaf, a oedd yn cynnwys tŷ sylweddol, anecs ac adeiladau allanol a oedd yn adeilad rhestredig (Gradd II). Nododd bod yr adeilad mewn ardal wledig oddeutu 1.2 km i’r dwyrain o ffin ddatblygu Pentref Lleol Llandygai fel y’i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLl).

 

Nododd bod Polisi Strategol 13 o’r CDLl yn anelu tuag at hwyluso twf economaidd trwy gefnogi sawl agwedd o'r economi leol gan gynnwys cefnogi ffyniant economaidd cymunedau gwledig a hwyluso twf ar raddfa briodol trwy ail-ddefnyddio adeiladau a oedd yn bodoli'n barod mewn ardaloedd gwledig. Eglurodd bod y bwriad yn cwrdd â meini prawf Polisi CYF6 o’r CDLl a oedd yn annog caniatáu ail ddefnyddio ac addasu adeiladau gwledig ar gyfer defnydd busnes.

 

Tynnodd sylw mai’r ddwy prif elfen, a fyddai’n gallu effeithio ar fwynderau cymdogion oedd materion sŵn a thrafnidiaeth. Nododd y cyflwynwyd adroddiad sŵn gyda’r cais a bod yr adroddiad yn dod i’r casgliad nad oedd y gweithdy’n achosi niwed arwyddocaol i fwynderau cymdogion o safbwynt sŵn. Eglurodd bod yr ymgeisydd yn y broses o brynu Fferm Tal y Bont Uchaf a’r adeiladau cysylltiedig â phetai hynny’n digwydd, mater i’r perchennog fyddai rheoli’r sŵn, fel na fyddai’n effeithio ei eiddo ei hun. Argymhellwyd, pe caniateir y cais, y dylid cynnwys amod yn clymu’r caniatâd cynllunio i berchennog / preswylydd Fferm Tal y Bont Uchaf yn unig.

 

Amlygodd nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad, ond y derbyniwyd cryn wrthwynebiad gan y gymuned leol yn honni bod y cynnydd yn y drafnidiaeth eisoes yn niweidiol i ddiogelwch y ffordd a mwynderau lleol. Nododd wrth ystyried defnydd blaenorol y safle at ddefnydd amaethyddol ‘doedd dim i rwystro cerbydau amaethyddol / peirannau sylweddol rhag mynd a dod i’r safle at y diben hwnnw.

 

Nododd bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi tynnu’n ôl eu gwrthwynebiad i’r cais. Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

         

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y busnes yn fusnes arbenigol a oedd yn cyflogi 9 aelod o staff llawn amser;

·         Bod les safle blaenorol y busnes wedi dod i ben, cynhaliwyd trafodaeth gyda swyddogion y Cyngor ag eraill o ran safle amgen addas ond nid oedd un ar gael;

·         Bod y busnes wedi gorfod ail-leoli ar fyr rybudd. Felly, yn anffodus roedd y cais yn gais ôl-weithredol;

·         Bod y teulu bellach yn berchen y safle yn ei gyfanrwydd;

·         Bod y peiriannau’n guddiedig a bod hyn yn bwysig gyda phroblemau lladrata yn y gorffennol;

·         Bod y safle yn gyfleus i Porth Penrhyn ym Mangor, Y Felinheli a Marina Conwy, ac yn  agos at yr A55;

·         Bod  ...  view the full COFNODION text for item 5.2

5.3

Cais Rhif C19/0687/14/LL - Redline Go-Kart Centre, Lôn Cae Ffynnon, Ystâd Ddiwydiannol Cibyn, Caernarfon pdf eicon PDF 102 KB

Cais llawn i newid defnydd adeilad o ddefnydd D2 (canolfan cartio dan do) i ddefnydd B2 (defnydd diwydiannol cyffredinol).

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Jason Parry

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

Cais llawn i newid defnydd adeilad o ddefnydd D2 (canolfan cartio dan do) i ddefnydd B2 (defnydd diwydiannol cyffredinol).

 

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais ar gyfer dod a defnydd yr adeilad yn ôl i ddefnydd busnes o fewn dosbarth defnydd B2, a oedd yn cyd-fynd a’i leoliad yn Ystâd Ddiwydiannol Cibyn, mwy na’r defnydd presennol.

 

          Eglurodd bod Ystâd Ddiwydiannol Cibyn wedi ei benodi fel Safle Strategol Isranbarthol ar gyfer defnyddiau tir o fewn dosbarthiadau defnydd B1, B2 a B8. Roedd y bwriad yn dderbyniol mewn egwyddor.

 

          Amlygodd nad oedd pryderon o safbwynt mwynderau na thrafnidiaeth. Tynnodd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd, gan nodi bod Datganiad Ieithyddol wedi ei gyflwyno a bod yr Uned Iaith yn ystyried y byddai’r effaith yn gadarnhaol ac yn cynnig cyfleon cyflogaeth yn lleol.

 

          Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

           

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Bod y defnydd fel canolfan cartio wedi dod i ben. Byddai’r bwriad yn newid y defnydd busnes yn ôl i ddefnydd busnes B2 gan gydymffurfio â dynodiad Ystâd Ddiwydiannol Cibyn fel safle wedi ei warchod ar gyfer defnydd cyflogaeth;

·         Mai’r ymgeisydd oedd Welcome Furniture, a oedd yn cyflogi 190 o staff eisoes ar safle arall yng Nghibyn, a’r rhan fwyaf ohonynt yn bobl leol. Byddai ehangu’r busnes yn creu hyd at 20 swydd ychwanegol;

·         Ni dderbyniwyd gwrthwynebiad i’r cais ac roedd y Cyngor Tref yn gefnogol i’r cais.

 

(c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.

 

Nododd aelod y byddai’r datblygiad o les i’r ardal gyda chwmni sefydledig yn dod a’r safle yn nôl i ddefnydd.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan aelod os oedd y cwmni blaenorol wedi derbyn arian cyhoeddus a’r swm, nododd yr Uwch Gyfreithiwr y byddai’n pasio’r ymholiad i’r Adran Economi a Chymuned, er ymateb i’r aelod yn uniongyrchol. Pwysleisiodd nad oedd hyn yn berthnasol i’r penderfyniad ar y cais hwn.

 

PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.

 

          Amodau:

1.     Amser

2.     Cydymffurfio gyda’r cynlluniau

3.     Nodyn Dŵr Cymru

 

Nodyn: nid yw’r caniatâd yn caniatáu unrhyw arwyddion na unedau awyru/echdynnu.