skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Owain Williams

 

Amlygodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Elwyn Edwards, mai dyma ei gyfarfod olaf fel Cadeirydd y Pwyllgor a diolchodd i’r Aelodau a’r swyddogion am eu cydweithrediad a’u cefnogaeth dros y cyfnod. Dymunodd yn dda i’r Cadeirydd dilynol.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)    Y Cynghorydd Gruffydd Williams (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0102/33/LL) oherwydd ei fod yn fab i berchennog Parc Carafanau llai na 6 milltir o’r safle.

 

Y Cynghorydd Keith Jones (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0250/11/LL) oherwydd mai ef oedd yr ymgeisydd.

 

Roedd yr aelodau o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais

 

b)    Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

Y Cynghorydd  Eric Merfyn Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0324/17/DT)

 

Y Cynghorydd Gareth Griffith  (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 4.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0222/20/LL)

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

PENDERFYNWYD

 

5.

Cais Rhif - C20/0324/17/DT - Y Borth, 30 Cae Sarn, Y Groeslon, Caernarfon, Gwynedd, LL54 7TW pdf eicon PDF 295 KB

Estyniad blaen, ochr a cefn.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Eric M Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD Caniatáu gydag amodau:

 

  1. Dechrau gwaith o fewn 5 mlynedd.
  2. Unol a chynlluniau

Cofnod:

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod y safle o fewn perchnogaeth perthynas agos i Swyddog yn yr Adran Cynllunio

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel porth blaen, modurdy to fflat ochr, a lolfa haul gefn ar gyfer codi estyniad unllawr to fflat ar drychiad ochr a chefn ty par sydd wedi ei leoli o fewn ystâd o dai preswyl a ffin datblygu pentref Groeslon.

 

Adroddwyd na fyddai’r bwriad yn cael effaith negyddol ar edrychiad y na’r ardal yn gyffredinol gan y bydd yn debyg i’r hyn sydd yn bodoli yn barod. Ni ystyriwyd y byddai’r bwriad chwaith yn cael effaith negyddol sylweddol ar fwynderau trigolion cyfagos. Er cynnydd yn y nifer y llofftydd, amlygwyd bod cadarnhad wedi ei dderbyn yn nodi bod digon o le parcio i wasanaethu’r eiddo ar dir preifat o flaen y .

 

Wedi pwyso a mesur y bwriad yng nghyd-destun  y polisïau perthnasol, ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:-

·         Bod yr eiddo o fewn stad o dai cymysg ac o safon

·         Bod y disgrifiad a’r asesiad a gyflwynwyd yn fanwl a chywir

·         Yn gefnogol i’r cais

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

d)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelod:

·         Bod estyniadau eraill wedi ei caniatáu yn y stad

 

PENDERFYNWYD: Caniatáu y cais

 

Amodau:

 

1.    Dechrau gwaith o fewn 5 mlynedd.

2.    Unol a chynlluniau

 

6.

Cais Rhif C20/0222/20/LL - Swn Y Mor, Caernarfon, LL55 1UE pdf eicon PDF 384 KB

Dymchwel stablau presennol a chodi stablau newydd ynghyd â chodi adeilad ysgol farchogaeth dan do, manege a seilwaith cysylltiol (gan gynnwys ad-drefnu'r trefniadau mynediad a pharcio)

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Griffith

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:-

 

Amodau

1.            5 mlynedd

2.            Yn unol â’r cynlluniau.

3.            Materion tirlunio.

4.            Cyflwyno cynllun goleuo ar gyfer yr adeiladau a’r ardaloedd tu allan i gynnwys math ac amser byddent ymlaen.

5.            Cydymffurfio ag argymhellion mesurau lliniaru’r Adroddiad Ecolegol

6.            Cyflwyno mesurau lliniaru archeolegol

7.            Cyflwyno manylion arwyddion dwyieithog o fewn y safle.

8.            Cwblhau llecynnau parcio cyn i’r datblygiad gael ei ddefnyddio at unrhyw       ddiben.

 

Nodyn yn tynnu sylw’r ymgeisydd i ofynion System Draenio Cynaliadwy (SuUDS)

 

Cofnod:

  Ymhelaethodd Y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer dymchwel y stablau presennol a chodi stablau newydd yn eu lle ynghyd a chodi adeilad ysgol farchogaeth dan do, milodfa marchogaeth a seilwaith cysylltiol ar safle ger glannau'r Fenai yn Llanfair Is Gaer sydd i'r gogledd o Gaernarfon ac i'r de o'r Felinheli gerllaw Plas Menai.

 

   Nodwyd bod yr adroddiad yn un helaeth a’r cais yn disgyn o dan ddiffiniad ‘major’. Ategwyd bod yr ymgeisydd ar asiant wedi cymryd y camau perthnasol i gyflwyno’r cais. Adroddwyd bod egwyddor y datblygiad wedi ei seilio ym Mholisi  PCYff 1 a  CYF6 o’r Cynllun Datblygu Lleol a bod y rhain wedi eu trafod yn fanwl yn yr adroddiad.

 

Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli mewn llecyn sy’n sensitif o safbwynt y dirwedd gyda dynodiadau statudol nepell o’r safle ei hun. Nodwyd bod y sensitifrwydd yma wedi ei gydnabod yn y ddogfen Asesiad Effaith Gweledol a Thirweddol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd i gefnogi’r cais, gyda’r ddogfen yn argymell mesurau lliniaru er mwyn lleihau effaith y datblygiad ar y dirwedd. Mae’r asesiad yn trafod gosodiad, maint a graddfa, dyluniad ac edrychiad y bwriad gyda phob ymdrech wedi ei wneud gan yr ymgeisydd i liniaru'r effaith weledol. Ystyriwyd bod y bwriad felly yn dderbyniol ar sail ei ardrawiad o fewn y tirlun a’i ardrawiad ar ddynodiadau tirwedd statudol a hanesyddol cyfagos a bod yr asesiad yn un llawn.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, amlygwyd ar wahân i eiddo’r ymgeisydd, bod yr anheddau preswyl cyfagos wedi eu lleoli oddeutu 150m i’r dwyrain o’r safle, gan gynnwys Plas Menai. Ni ystyriwyd  felly y byddai effaith andwyol ar fwynderau eiddo nac ymwelwyr i Blas Menai. Fel rhan o’r ymgynghoriad statudol ymgynghorwyd gyda’r Adran Trafnidiaeth ac fe dderbyniwyd cadarnhad nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r bwriad yn  ddarostyngedig i gynnwys amodau a nodiadau cynllunio perthnasol

 

Tynnwyd sylw at faterion cynaladwyedd a materion ieithyddol a bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth am arwyddion a chyflogaeth yn lleol ynghyd a buddion economaidd. Ategwyd bod y materion bioamrywiaeth ac archeolegol hefyd yn dderbyniol.

 

O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn unol gyda pholisïau lleol a chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater cynllunio perthnasol arall yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi. Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau.

 

a)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

·           Y plant wedi dangos diddordeb mawr yn y maes neidio ceffylau ac yn cystadlu ar lefel genedlaethol gyda Thimau Cymru ynghyd a phobl eraill o Wynedd sydd yn cystadlu ar lefel uchel.

·           Dim lleoliad pwrpasol ar gyfer ymarfer a chystadlu ac felly gorfod teithio o leiaf dwy awr  i gyrraedd canolfan

·           Y bwriad yw y bydd yr adeilad wedi ei gladdu yn y tir ac felly’n lleihau'r effaith ar y dirwedd ar amgylchedd

·           Lleoliad yn agos i’r A55 gyda mynedfa  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C20/0102/33/LL - Plas yng Ngheidio, Ceidio, Pwllheli pdf eicon PDF 239 KB

Ymestyn safle carafanau teithiol presennol i dir gerllaw trwy greu mynediad newydd o'r safle gwersylla presennol, symud lleoliad un garafán deithiol ac ychwanegu 8 carafán deithiol newydd.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio penderfynu’r cais er mwyn ei mwyn galluogi’r ymgeisydd i gyflwyno rhagor o wybodaeth i gefnogi’r cais

 

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

           

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod yr ymgeisydd yn gwneud cais i’r Pwyllgor ohirio penderfynu’r cais er mwyn ei galluogi i gyflwyno rhagor o wybodaeth i gefnogi’r cais ( er na fyddai hyn yn debygol o newid yr argymhelliad)

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio y cais

 

c)    Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelod:

·           Bydd gohirio y cais yn gyfle i’r ymgeisydd baratoi tystiolaeth bellach

 

PENDERFYNWYD gohirio y cais fel bod modd i’r ymgeisydd gyflwyno rhagor o wybodaeth i gefnogi’r cais.

 

8.

Cais Rhif C20/0250/11/LL - Mostyn Arms, Mostyn Arms, 27 Stryd Ambrose, Bangor, Gwynedd, LL57 1BH pdf eicon PDF 240 KB

Newid defnydd llawr gwaelod o dafarndy i fflat breswyl

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Keith Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:

1.            5 mlynedd.

2.            Yn unol â'r cynlluniau a'r wybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais.

 

Cofnod:

a)    Ymhelaethodd Y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi bod y cais yn gais llawn  ar gyfer newid defnydd y tafarndy (Defnydd Dosbarth A3) sydd ar y llawr gwaelod i fflat breswyl (Defnydd Dosbarth C3) yn ardal Hirael i'r gogledd o ganol y ddinas. Eglurwyd bod yr ardal yn ardal breswyl gyda dwysedd poblogaeth uchel. Nodwyd bod yr egwyddor wedi ei asesu yn llawn a bod swyddogion yn ystyried bod y dystiolaeth oedd wedi ei gyflwyno am hyfywedd marchnata a defnydd cymunedol arall yn dderbyniol mewn egwyddor.

 

Yn dilyn cwblhau asesiad llawn o’r bwriad, ystyriwyd y byddai'r bwriad i newid defnydd tafarndy i fflat breswyl 2 ystafell wely yn dderbyniol ar sail lleoliad, graddfa, dwysedd, defnydd, diogelwch ffyrdd, mwynderau gweledol ynghyd a mwynderau preswyl. Nodwyd hefy fod y bwriad yn cydymffurfio yn llawn gyda pholisïau a chyngor cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol.

 

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr ymgeisydd y pwyntiau canlynol:-

·           Wedi ceisio gwerthu'r dafarn ers 2 flynedd ond heb lwyddiant

·           Dim y dewis delfrydol, ond opsiwn i’w ystyried i’r dyfodol

·           Trosiant y busnes wedi lleihau yn arw dros y blynyddoedd diwethaf - dim yn rhagweld y sefyllfa yn gwella dim ond yn cynnal y lle ar hyn o bryd 

·           Gorfod ystyried iechyd a lles ei wraig ag yntau

 

c)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

 ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan     aelodau:

·                Cydymdeimlo gyda’r sefyllfa - sefyllfa anodd iawn, ond parhau gyda gobaith y bydd rhywun yn prynu’r dafarn

·                Tafarn wedi bodoli ar y safle ers dros can mlynedd

·                Trist bod y diwylliant tafarn yn prinhau fel hwb cymunedol

·                Tafarndai eraill ar gael yn yr ardal

·                Newid mewn ymddygiad cymdeithasol

·                Y cynlluniau yn daclus a derbyniol ar asesiad yn un cywir

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais

yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol:

 

               1.       5 mlynedd.

               2.       Yn unol â'r cynlluniau a'r wybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais.