skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Linda A Wyn Jones a’r Cynghorydd Annwen Daniels (Aelodau Lleol)

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Cofnod:

a)    Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir:

 

Y Cynghorydd Gareth M Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0898/42/DT)

 

Y Cynghorydd Eirwyn Williams (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C18/0698/35/LL)

 

Y Cynghorydd Simon Glyn (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0746/46/LL)

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 334 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 1af o Chwefror 2021 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 1af o Chwefror 2021 fel rhai cywir

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

 

6.

Cais Rhif C20/0898/42/DT Ty Pen Lôn Las, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6BG pdf eicon PDF 313 KB

Estyniadau a newidiadau i dŷ presennol.

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth M Jones

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu y cais

 

Amodau:

                       

  1. 5 mlynedd
  2. Unol a’r cynlluniau diwygiedig
  3. Manylion deunyddiau’r waliau a’r toeau i’w cytuno
  4. NI CHANIATEIR DEFNYDDIO UNRHYW DO FFLAT A GRËIR FEL RHAN O’R DATBLYGIAD HWN FEL BALCONI NEU DERAS

 

            Nodyn – Dŵr Cymru

 

Cofnod:

Estyniadau a newidiadau i dŷ presennol.

         Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)    Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais gan nodi bod sawl elfen i’r cais ar gyfer estyniadau ac addasiadau i deulawr presennol oedd yn cynnwys :

·         Codi estyniad llawr cyntaf ar flaen yr annedd

·         Newid estyniad llawr gwaelod ar flaen / ochr yr eiddo i gael to gyda “hip” yn hytrach na tho gyda thalcen

·         Dymchwel y simdde

·         Codi estyniad llawr cyntaf ar gefn yr eiddo

·         Amnewid dau estyniad unllawr cefn to brig presennol gydag estyniad to fflat - fe fyddai’r estyniad newydd yn ymestyn 1.2m ymhellach i’r cefn na’r estyniad presennol

 

Fe drafodwyd y cais hwn yn y Pwyllgor Cynllunio ar 21/12/2020. Gohiriwyd gwneud penderfyniad fel bod modd derbyn rhagor o wybodaeth ynghylch effaith posib y balconi a oedd yn rhan o’r cynllun gwreiddiol. Eglurwyd bod y balconi erbyn hyn wedi ei dynnu o’r cynlluniau a body  bwriad bellach yn cynnwys gosod to fflat tyfiant byw. Ategwyd y byddai wal sgrinio yn cael ei hadeiladu i ymateb i bryderon goredrych. Cynhaliwyd ail ymgynghoriad, ond ni dderbyniwyd sylwadau pellach.

 

Ystyriwyd bod y cais cynllunio yn cwrdd gyda gofynion polisi cynllunio lleol a chenedlaethol.

b)    Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol y pwyntiau canlynol:

·         Mai’r balconi oedd y pryder mwyaf yn y cynlluniau gwreiddiolcroesawu bod y balconi wedi ei ddiddymu o’r cynlluniau diwygiedig

·         Gobaith na fydd y  to fflat  tyfiant byw yn cael ei ddefnyddio fel terasangen pwysleisio bod amod 4 yn allweddol bwysig

 

c)     Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

ch)  Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol gan aelodau:

·         Bod to gwyrdd / to tyfiant byw yn gallu bod yn broblemus

 

         d)   Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chynnal a chadw'r to tyfiant byw, nodwyd bod hyn yn ddibynnol ar yr hadau a bod modd gosod amod i gadarnhau’r defnydd

 

          PENDERFYNWYD: caniatáu y cais

 

          Amodau:

                       

1.    5 mlynedd

2.    Unol a’r cynlluniau diwygiedig

3.    Manylion deunyddiau’r waliau a’r toeau i’w cytuno

4.    NI CHANIATEIR DEFNYDDIO UNRHYW DO FFLAT A GRËIR FEL RHAN O’R DATBLYGIAD HWN FEL BALCONI NEU DERAS

 

            NodynDŵr Cymru

 

7.

Cais Rhif C18/0698/35/LL Cartref Gofal The Pines, Ffordd Penpaled, Criccieth, Gwynedd, LL52 0DE pdf eicon PDF 401 KB

Cais i estynnu'r adeilad cartref nyrsio a maes parcio ynghyd a chadarnhau lleoliad presennol uned biomass

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu

 

Amodau:

 

  1. 5 mlynedd
  2. Unol a’r cynlluniau ac adroddiadau
  3. Llechi
  4. Gorffeniad allanol
  5. Amodau dwr Cymru
  6. Cytuno manylion a lleoliad uned(au) awyru allanol cyn eu gosod
  7. Ni chaniateir ffenestri sy’n agor ar yr estyniad sy’n destun y caniatâd yma
  8. Amod sŵn - cyfraddiad sŵn 25 rhwng 2300 - 0700 ac 35 ar unrhyw adeg arall
  9. Amodau archeolegol
  10. Tirweddu
  11. Cynllun gwastraff
  12. Parcio i’w gwblhau yn unol gyda’r manylion a gymeradwyir ac yn gwbl weithredol cyn dod a’r adeilad i ddefnydd
  13. Math o biomas boiler / ffliw
  14. Cynllun gwastraff i’w weithredu yn unol â’r manylion cymeradwyedig

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod y safle wedi ei leoli mewn lleoliad canolog o fewn Tref Cricieth gyda’r adeilad presennol eisoes wedi ei ymestyn yn sylweddol ac yn cael ei ddefnyddio fel cartref nyrsio. Eglurwyd bod y prif estyniad bwriedig yn mesur 28m wrth 16m ar ei fwyaf, 7.9m o uchder i’r crib a 5m o uchder i’r bondo; wedi ei leoli ar ran o’r safle sy’n is na’r briffordd a’r rhan blaen yr adeilad. Byddai’n darparu 11 ystafell wely ynghyd ac ystafelloedd staff/nyrs cysylltiol ar y llawr gwaelod a 9 ystafell ychwanegol ar y llawr cyntaf ynghyd a derbynfa ac ystafelloedd eraill cysylltiol. Ategwyd bod y bwriad hefyd yn golygu ymestyn y maes parcio presennol i ran o dir gwyrdd sydd wedi ei leoli drws nesaf i’r safle i ddarparu 14 llecyn parcio ynghyd a llecyn ar gyfer yr anabl. Y bwriad yw cadw gweddill y tir gwyrdd ar gyfer bywyd gwyllt.

 

Tra bod Polisi TAI 11 yn ymwneud a cheisiadau ar gyfer datblygu Cartrefi Gofal preswyl /ychwanegol / arbenigol o’r newydd, ystyriwyd egwyddorion a meini prawf y Polisi gyda’r cais. Eglurwyd bod maen prawf (1) o’r Polisi yn cyfeirio tuag at y ffaith fod y bwriad wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Canolfan Isranbarthol, Trefol neu Leol. Nodwyd bod Cricieth wedi ei adnabod fel Canolfan Wasanaeth Lleol yn y Cynllun. Yn ogystal, mae maen prawf (4) yn cyfeirio at yr angen i sicrhau na fydd y bwriad yn arwain at orddarpariaeth o lety gofal o gymharu ag anghenion yr ardal leol. Adroddwyd bod  Gwasanaeth Cymdeithasol Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau bod prinder cartrefi yng Ngwynedd sy’n gallu darparu gofal nyrsio, yn benodol gofal nyrsio dementia. Ategwyd , fel comisiynwyr, eu bod yn falch o weld cartref sydd yn cynnig y math yma o ofal ac yn un sydd yn edrych i ddatblygu a chynyddu capasiti i’r dyfodol.

 

Yng nghyd-destun yr ardal agored, nodwyd bod pwysigrwydd i’r ardal agored yma yng nghanol tref Criccieth, a’r golygfeydd allan dros y safle tua’r arfordir, wedi ei amlygu ym mhenderfyniadau cynllunio ar /ger y safle yn y gorffennol. Mynegwyd bod yr ardal wedi ei gwarchod fel llecyn agored o dan y Cynllun Datblygu Unedol ond nad oedd ganddo'r un warchodaeth ffurfiol o dan y Cynllun Datblygu Lleol cyfredol. Eglurwyd bod y term ‘man agored’, a gynhwysir ym mholisi ISA 4, yn cynnwys mannau gwyrdd amwynder, rhandiroedd, parciau a gerddi cyhoeddus, cyfleusterau chwaraeon awyr agored a darpariaeth chwarae i blant a phobl ifanc fel y disgrifir o fewn Nodyn Cyngor Technegol 16: Chwaraeon, Hamdden a Mannau Agored. Ystyriwyd  bod yr ardal agored yma yn fan gwyrdd amwynder a bod gofynion polisi ISA 4 yn berthnasol i’r bwriad. Ategwyd bod y polisi yn gwrthod cynigion fyddai’n arwain at golli llecynnau agored presennol oni bai fod y bwriad yn cydymffurfio gyda’r meini prawf. Nodwyd bod yr ‘ardal agored’ dan sylw yn dir preifat ac nad oedd mynediad i’r cyhoedd iddo.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, cyffredinol a  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C19/0746/46/LL Trefgraig Isaf, Rhydlios, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8LR pdf eicon PDF 317 KB

Gosod 10 carafan symudol a 4 pabell

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Simon Glyn

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Gohirio er mwyn ail-ymgynghori ac ail-asesu cynlluniau diwygiedig

 

Cofnod:

Gosod 10 carafán symudol a 4 pabell

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod cynlluniau diwygiedig wedi ei cyflwyno. Gofynnwyd am ohiriad i’r penderfyniad er mwyn ail-ymgynghori ac ail-asesu cynlluniau diwygiedig.

 

b)    Cynigwyd ac eiliwyd i ohirio’r cais

           

PENDERFYNWYD: Gohirio er mwyn ail-ymgynghori ac ail-asesu cynlluniau diwygiedig

 

 

 

9.

Cais Rhif C20/0757/03/AC Nant Y Mynydd Cae Clyd, Cae Clyd, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd, LL41 4AU pdf eicon PDF 343 KB

Cais i ddiwygio amodau 2 a 13 o ganiatâd cynllunio C14/0248/03/LL yn ymwneud a gosodiad y safle a dyluniad tai

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Linda Ann W Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

  1. 5 mlynedd
  2. Yn unol â’r cynlluniau
  3. Llechi fel deunydd to
  4. Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer yr adeiladau i’w cytuno gyda’r ACLL
  5. Amodau Priffyrdd ar gyfer parcio/mynedfa
  6. Tirlunio meddal a chaled.
  7. Cytuno manylion parthed enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle.
  8. Tynnu hawliau datblygu cyffredinol yr unedau fforddiadwy.
  9. Cyflwyno cynllun draenio cynhwysfawr ar gyfer y safle
  10. Materion trefn gwaith/amser gweithio
  11. Amod blychau bywyd gwyllt

 

Nodiadau

 

  1. NODYN: Rhaid dylunio ac adeiladu'r ffordd/ffyrdd stadau a'r fynedfa'n unol ac 'Arweiniad Cymru Gyfan' (mae copïau o'r ddogfen hon ar gael i ddylunio ffyrdd a datblygiadau stadau gan yr Adran Priffyrdd a Pheirianneg).

 

  1. NODYN: Cyfarwyddir yr ymgeisydd i ysgrifennu i'r Rheolwr Gwaith Stryd i gael hawl o dan Adran 171/184 o'r Ddeddf Priffyrdd 1980, i gario unrhyw waith allan o fewn y palmant / ymyl glas sydd yn angenrheidiol i adeiladu'r fynedfa.

 

  1. Tynnir sylw'r ymgeisydd i lythyr Dwr Cymru ddyddiedig 23/10/20 a'r angen i sicrhau bod y datblygiad yn cydymffurfio â'r cyngor a gynhwysir ynddo. Mae’r llythyr i’w weld o dan gyfeirnod y cais yma ar dudalennau dilyn a darganfod ar safle we’r Cyngor

 

 

 

  1. Oherwydd maint a natur y datblygiad bydd angen darparu cais i’r Corff Cymeradwy Systemau Draenio Cynaliadwy i’w gymeradwyo cyn dechrau’r gwaith adeiladu.  Rhaid i’r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan Gyngor Gwynedd yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy cyn y bydd gwaith adeiladu’n dechrau.

 

  1. NODYN: Cyfarwyddir i’r ymgeisydd arwyddo Cytundeb 38 Deddf Priffyrdd 1980 gyda’r Cyngor os yw’n bwriadu’r ffordd gael ei  mabwysiadu

 

  1.  NODYN: Tynnir sylw'r ymgeisydd at ofynion cytundeb 106 ynghlwm a chaniatâd cynllunio C14/0248/03/LL a’r angen i sicrhau fod y datblygiad yn gwbl unol a manylion y cytundeb cyfreithiol yma.

 

  1. Nodyn Bioamrywiaeth

 

Cofnod:

Cais i ddiwygio amodau 2 a 13 o ganiatâd cynllunio C14/0248/03/LL yn ymwneud a gosodiad y safle a dyluniad tai

 

            Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)    Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais llawn ydoedd ar gyfer newid amod 2 (cydymffurfio gyda chynlluniau) ac amod 13 (cwblhau’r lôn stad yn unol â’r cynlluniau) o ganiatâd cynllunio C14/0248/03/LL. Amlygwyd bod y safle wedi ei leoli yn ardal Manod o Flaenau Ffestiniog ac oddi mewn i’r ffin datblygu fel y’i cynhwysir yn y CDLl.

 

Byddai’r cais presennol yn newid rhai o agweddau’r cais blaenorol a ganiatawyd sef addasu gosodiad a dyluniad 3 o’r tai marchnad agored a rhan o’r ffordd stad. Nid oes bwriad i newid y nifer, y math na’r cymysgedd tai i’r hyn sydd eisoes wedi ei ganiatáu ag sy’n parhau yn fyw.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, mwynderau cyffredinol  a phreswyl, amlygwyd bod y cais yn golygu newidiadau i edrychiadau’r tai marchnad agored yn unig ar sail dyluniad. Nodwyd bod y dyluniad yn parhau i fod yn un cyfoes a bod hynny yn cael ei wneud drwy addasu rhai nodweddion ar yr edrychiad blaen. Ategwyd, yn ogystal bydd  yr eiddo ar blot 5 yn cael ei osod rhywfaint yn ôl o fewn y safle a bod y tai ar blotiau 3 a 4 yn newid gosodiad a ffurf. Ystyriwyd bod yr addasiadau hyn yn dderbyniol gan nad yw’n sylweddol wahanol i'r hyn a ganiatawyd yn flaenorol ac na fyddai'n arwain at fwy o effaith na'r hyn sydd wedi ei gymeradwyo. Ystyriwyd na fydd y bwriad yn creu strwythurau anghydnaws o fewn yr ardal leol ac y byddai’r tai yn eistedd yn gyfforddus yn y tirlun.

 

O ganlyniad, ystyriwyd  bod y bwriad yn dderbyniol ar sail gofynion polisi PCYFF 3 o’r CDLl, gofynion polisi NCT 12: Dylunio, ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais

 

c)     Mewn ymateb i gwestiwn, nodwyd nad oedd sylwadau wedi eu derbyn gan y Cyngor Cymuned / Tref

 

PENDERFYNWYD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1.         5 mlynedd

2.         Yn unol â’r cynlluniau

3.         Llechi fel deunydd to

4.         Samplau o’r deunyddiau a’r lliwiau ar gyfer yr adeiladau i’w cytuno gyda’r ACLL

5.         Amodau Priffyrdd ar gyfer parcio/mynedfa

6.         Tirlunio meddal a chaled.

7.         Cytuno manylion parthed enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad o fewn ac oddi allan y safle.

8.         Tynnu hawliau datblygu cyffredinol yr unedau fforddiadwy.

9.         Cyflwyno cynllun draenio cynhwysfawr ar gyfer y safle

10.       Materion trefn gwaith/amser gweithio

11.       Amod blychau bywyd gwyllt

 

Nodiadau

 

1.         NODYN: Rhaid dylunio ac adeiladu'r ffordd/ffyrdd stadau a'r fynedfa'n unol ac 'Arweiniad Cymru Gyfan' (mae copïau o'r ddogfen  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

Cais Rhif C20/0979/03/RA Tomen Sbwriel 557m o Quarry Tours Ltd, Ceudyllau Llechi Llechwedd 115m o Ffordd Ddienw, Bodafon, Blaenau Ffestiniog, LL41 3NB pdf eicon PDF 499 KB

Cais o dan A.73 i diddymu amod 2 (cyfyngiad amser) ac amrywio amod 3 (cynlluniau wedi eu diweddaru ar gyfer symud deunydd, adfer ac ôl-ofal y safle) ar ganiatad cynllunio C99M/0105/03/MW ar gyfer symud deunydd o ddyddodion gweithio mwynau

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Annwen Daniels

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Dirprwyo'r hawl i Bennaeth Cynorthwyol yr Adran i gymeradwyo'r cais, yn ddarostyngedig i'r newid isod i Amod 2 a 3 ar ganiatâd cynllunio C99M/0105/03/MW, i adlewyrchu'r tunelli o fwynau wrth gefn sydd ar gael yn ardal y cais:

 

Daw'r gwaith o echdynnu gwastraff a'r gweithrediadau ategol i ben erbyn 31/12/2058. Erbyn y dyddiad hwnnw, bydd yr holl beiriannau, adeiladau a strwythurau sy'n perthyn i, neu wedi eu lleoli o ganlyniad i'r caniatâd cynllunio hwn yn cael eu tynnu erbyn y dyddiad hwnnw.  Bydd gwaith adfer y safle wedi ei gwblhau erbyn 31/12/2060.

 

Oni bai bod angen hynny gan amod cynllunio neu gytundeb ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol, bydd y datblygiad yn cael ei gwblhau yn unol â manylion Lluniadau'r cais yn unig, Cyfeirnod ’19-404-D-002, 19-404-D-002’ a gwybodaeth ategol sydd wedi'i chofrestru â'r awdurdod ar 27 Tachwedd 2020, Strategaeth Adfer ac Ôl-ofal a gofrestrwyd ar 29 Rhagfyr 2020, a'r Datganiad Achos Cynllunio a gofrestrwyd ar 21 Ionawr 2021 ac unrhyw fanylion eraill o'r fath a gaiff eu cymeradwyo'n ysgrifenedig wedi hynny gan yr awdurdod cynllunio mwynau.

 

Bydd y datblygiad yn ddarostyngedig i'r un atodlen o amodau dan y caniatâd cynllunio blaenorol C99M/0105/03/MW i reoli sŵn, llwch a gwarchod yr amgylchedd dŵr. Fodd bynnag, diweddarwyd yr atodlen amodau gyda chytundeb yr ymgeisydd, fel a ganlyn

 

  1. Oriau gweithredu wedi'u haddasu i 07:00awr - 19:00awr, i adlewyrchu'r cyfyngiadau sŵn yn ystod y dydd yn MTAN1
  2. Bydd larymau bagio dull ymarferol gorau ac/neu 'sŵn gwyn' yn cael eu gosod ar beiriannau symudol a cherbydau a ddefnyddir ar y safle.
  3. Tirffurf arfaethedig, a chynllun adfer graddol i ffafrio prysgwydd Coed Derw Uwchdirol/cymuned arloesol gan gynnwys prysglwyni ymylon rhostir/coetir,

yn unol â'r cynllun adfer ac ôl-ofal a gyflwynwyd

  1. Adolygiad gweithrediadau i gyd-fynd â'r cynigion ôl-ofal a bydd yn cynnwys darpariaeth am gyfarfodydd ôl-ofal blynyddol i drafod gofynion adfer a chynllun rheoli a monitro planhigion ymledol
  2. Gwaith archeolegol i ddilyn yr argymhellion i gofnodi'n briodol yn unol â'r cynllun archwilio archeolegol gwreiddiol, fydd yn cael ei atodi i'r daflen penderfyniad.
  3. Arwyddion llwybr cyhoeddus

 

Nodyn i'r ymgeisydd yn ei gynghori y dylai'r llwybrau cyhoeddus barhau yn agored ac i gysylltu â Hawliau Tramwy Gwynedd pe cyfyd unrhyw broblemau.

 

Ymateb ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru i'w atodi i'r daflen penderfyniad, yn cynghori y dylid cysylltu â hwy yn uniongyrchol mewn perthynas â'r rheolaethau amgylcheddol a gweithredol penodol a'r ddarpariaeth o wasanaeth o fewn eu cylch gwaith.

 

Cofnod:

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr.

 

a)            Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd i ddiwygio amodau ar ganiatâd presennol i ymestyn oes gwaith mwynau a symud deunydd o ddyddodion gweithio mwynau o waith mwynau Maenofferen, Chwarel Llechwedd. Nodwyd bod y Chwarel yn ymestyn dros 8.3 hectar o dir gweithredol ac wedi'i leoli i'r gogledd o Flaenau Ffestiniog ar gefnffordd yr A470 tuag at Foel Bowydd a Ffridd y Bwlch.

 

Eglurwyd, yn dilyn trafodaeth bellach gyda’r ymgeisydd, cytunwyd  bod rhaid,  gydag unrhyw gais am ganiatâd cynllunio adlewyrchu’r tunelledd o ddeunydd sydd ar gael.  Yn seiliedig ar lefel allbwn cyfredol, rhagwelwyd y bydd oddeutu 3.4 miliwn tunnell o lechi ar gael yn sicrhau cronfa wrth gefn o ddeunydd gweithiadwy am hyd at 40 mlynedd. Cytunwyd amrywio cyfyngiad amser yr amodau presennol i sicrhau caniatâd hyd at 2058 gyda dwy flynedd ychwanegol i gwblhau cynllun adfer.

 

Eglurwyd bod y domen wedi ei gweithio ers oddeutu 1999 ac fe’i disgrifwiyd fel un nad oedd yn cynnwys gorlwyth a baw ac felly yn gynnyrch defnyddiol. Amlygwyd bod y cais yn cynnwys cynllun adfer cyfnodol, cynhwysfawr fydd yn sicrhau bod y safle yn cael ei adfer i gyfuniad o brysgwydd Coed Derw Uwchdirol/cymuned arloesol ynghyd a phrysglwyni ymylon rhostir/coetir fydd yn gweithredu fel cymuned fagu. Ategwyd y byddai amcanion allweddol y cynllun adfer yn cyfannu/cydweddu’r safle yn ei amgylchedd; yn gwella bioamrywiaeth a chryfhau patrwm y tirlun gan gyd-fynd â'r amcanion a amlinellwyd yn yr asesiadau cymeriad y tirlun.

 

O ystyried y gweithfeydd o amgylch yr ardal ynghyd a’r gwaith sydd wedi digwydd yno yn barod, ni ystyriwyd y bydd fawr o newid i gymeriad yr ardal o symud y domen yng nghyd-destun mwynderau gweledol. Ni ystyriwyd y bydd effaith andwyol ar y dirwedd, na’r Parc Cenedlaethol nac effaith sylweddol ar Dirwedd Hanesyddol Ffestiniog na lleoliad Safle Treftadaeth y Byd Arfaethedig.

 

Tynnwyd sylw at sylwadau hwyr gan yr Uned HawliauTramwy ynglŷn a Llwybr Cyhoeddus oedd yn mynd drwy’r chwarel. Er nad oedd yr Uned yn gwrthwynebu’r datblygiad mewn egwyddor, roeddynt yn argymell bod angen i’r llwybr gael ei ddiogelu yn ystod ac yn dilyn cwblhau’r datblygiad arfaethedig. Argymhellwyd amod yn nodi y dylid gosod arwyddion diogelwch ger trywydd y llwybr i rybuddio staff sydd yn gweithredu ar y safle o leoliad y llwybr, a hefyd yn rhybuddio defnyddwyr y llwybr o’r ffaith fod traffig y chwarel yn gweithredu ger/ar yr hawl tramwy. Byddai angen cytuno ar gynnwys yr arwyddion hyn yn ysgrifenedig o fewn amser penodol, ei lleoli ar safle a’i chadw mewn cyflwr derbyniol cyn ymgymryd ag unrhyw waith datblygu pellach. 

 

Adroddwyd nad oedd unrhyw faterion polisi cynllunio arwyddocaol i gyfiawnhau gwrthod caniatâd cynllunio gyda’r materion sy’n ymwneud â rheolaethau sŵn, aflonyddwch a llwch eisoes mewn bodolaeth i liniaru yn erbyn effeithiau amgylcheddol posib y datblygiad. Y bwriad yw dyblygu’r amodau hyn. Nodwyd, bod yr ymgeisydd wedi cytuno i gyfyngu ar yr oriau gweithredu presennol o '06:30awr - 20:00awr' i '07:00awr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.