Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2026 / 2027

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD:

 

ETHOL MR DEWI LEWIS YN GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2026 - 2027

 

COFNODION:

 

PENDERFYNWYD ethol Dewi Lewis yn gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2026 / 2027

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2026/27, os yw’r angen yn codi.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

 

ETHOL MRS CARYS EDWARDS YN IS-GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2026 - 2027

 

COFNODION:

PENDERFYNWYD ethol Carys Edwards yn ddirprwy gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2026 / 2027

 

3.

YMDDIHEURIADAU

COFNODION:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Huw Rowlands a Wendy Cleaver

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

COFNODION:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

COFNODION:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 201 KB

COFNODION:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 9fed o Orffennaf 2026 fel rhai cywir.

 

7.

GWEITHREDU PENDERFYNIADAU'R PWYLLGOR pdf eicon PDF 236 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

Nodyn:

  • Gwella Trefniadau Casglu Treth Cyngor – angen rhaglennu diweddariad ar y mater ym mlaen raglen y Pwyllgor
  • Bidiau Cyfalaf – cynllun i ymestyn maes parcio Ysgol y Faenol. Cais gan yr Aelod Lleol am y costau ynghlwm â’r llithriad

 

 

COFNODION:

Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Cyfarfod 13-11-2025  - Gwella Trefniadau Casglu Treth Cyngor – ymddengys nad oedd diweddariad ar y mater wedi ei gynnwys ar flaen raglen 2026/2027 y Pwyllgor.

·        Bidiau Cyfalaf – Cynllun Ymestyn Maes Parcio Ysgol y Faenol.

Er yn derbyn bod llithriad yn y cynllun wedi deillio o faterion cyfreithiol cymhleth a chynnydd yn ymwneud â gofynion darpariaeth parcio sylweddol o gymharu â’r cynlluniau gwreiddiol, mynegwyd siom gan yr Aelod Lleol nad oedd costau’r llithriad wedi eu hamlygu. Ategodd mai braf oedd gweld y gwaith yn mynd yn ei flaen, ond roedd yn dymuno gweld y mater yn cael ei gynnwys ar y daflen weithredu hyd nes bod ateb i’r cwestiwn ariannol. Nododd mai bid cyfalaf oedd yma gyda chwmni wedi ei benodi drwy dendr i wneud y gwaith.

 

PENDERFYNWYD

·        Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

Nodyn:

·          Gwella Trefniadau Casglu Treth Cyngor – angen rhaglennu diweddariad ar y mater i flaen raglen 2026/2027 y Pwyllgor

·          Bidiau Cyfalaf – Cynllun Ymestyn Maes Parcio Ysgol y Faenol. Cais gan yr Aelod Lleol am y costau ynghlwm â’r llithriad

 

8.

DIWEDDARIAD AR GYNNYDD Y CYNLLUN YMATEB: CYFIAWNDER TRWY EIN DEWRDER pdf eicon PDF 448 KB

I ystyried adroddiad ar ddiweddariad ar gynnydd y Cynllun Ymateb. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Oherwydd problemau technegol, gohiriwyd y cyfarfod.

Ni chafwyd penderfyniad ar y mater

 

COFNODION:

Yn ystod cyflwyniad yr Arweinydd ac yna sylwadau dilynol gan y Prif Weithredwr, daethpwyd i’r amlwg bod diffyg cysylltiad rhwydwaith gan yr Aelodau a’r Swyddogion oedd yn bresennol yn y cyfarfod. Roedd y diffyg cysylltiad yn ei gwneud hi’n anodd iawn i ddilyn y drafodaeth ac felly gwnaed penderfyniad am 10:45 i gymryd seibiant o hanner awr fel bod modd ceisio datrys y mater.

 

Yn dilyn trafodaeth rhwng y Cadeirydd, y Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro, Pennaeth Cyllid, a Phennaeth Gwasanaethau Corfforaethol, dywedodd y Prif Weithredwr wrth y Pwyllgor mai prin iawn oedd gohirio unrhyw gyfarfod ffurfiol oherwydd materion technegol, ond gyda nifer o eitemau pwysig ar y rhaglen oedd angen sylwadau a chymeradwyaeth lawn y Pwyllgor, penderfynwyd gohirio’r cyfarfod i ddyddiad arall gan nad oedd modd parhau oherwydd problemau technegol. Ategodd pe byddai gwybodaeth am y broblem yn dod i law, byddai yn rhannu’r wybodaeth gyda’r Aelodau.

 

9.

CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2026 A'R ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 113 KB

I ystyried a chymeradwyo’r wybodaeth cyn awdurdodi’r Cadeirydd i ardystio’r llythyr sylwadau a’r datganiad o gyfrifoldebau am y datganiadau o’r cyfrifon

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Oherwydd problemau technegol, gohiriwyd y cyfarfod.

Ni chafwyd penderfyniad ar y mater

 

COFNODION:

Oherwydd problemau technegol, gohiriwyd y cyfarfod.

Ni chafwyd penderfyniad ar y mater

 

10.

CYFRIFON TERFYNOL Y CYD-BWYLLGOR GWE AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAI 2025 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 452 KB

Derbyn a nodi adroddiad Archwiliwr Cyffredinol Cymru, cymeradwyo cyfrifon 2025/26, ac awdurdodi Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i lofnodi’r llythyr sylwadau ar gyfer GwE.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Oherwydd problemau technegol, gohiriwyd y cyfarfod.

Ni chafwyd penderfyniad ar y mater

 

11.

DIWEDDARIAD CHWARTEROL RHEOLAETH TRYSORLYS pdf eicon PDF 213 KB

I dderbyn yr adroddiad er gwybodaeth.

Penderfyniad:

Oherwydd problemau technegol, gohiriwyd y cyfarfod.

Ni chafwyd penderfyniad ar y mater

 

12.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 410 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Ebrill 2026 hyd 20 Medi 2026, sylwebu ar y cynnwys yn ôl dymuniad yr aelodau, a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig sydd eisoes wedi’u cyflwyno i reolwyr y gwasanaethau perthnasol.

Penderfyniad:

Oherwydd problemau technegol, gohiriwyd y cyfarfod.

Ni chafwyd penderfyniad ar y mater

 

13.

ADRODDIAD Y GWEITHGOR GWELLA RHEOLAETHAU pdf eicon PDF 314 KB

I ystyried yr adroddiad yn dilyn cyfarfod a gymhaliwyd Medi’r 1af 2026

 

Penderfyniad:

Oherwydd problemau technegol, gohiriwyd y cyfarfod.

Ni chafwyd penderfyniad ar y mater

 

14.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2026/27 pdf eicon PDF 255 KB

I nodi cynnwys yr adroddiad hwn fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2026/27, cynnig sylwadau a derbyn yr adroddiad.

Penderfyniad:

Oherwydd problemau technegol, gohiriwyd y cyfarfod.

Ni chafwyd penderfyniad ar y mater

 

COFNODION:

Oherwydd problemau technegol, gohiriwyd y cyfarfod.

Ni chafwyd penderfyniad ar y mater

 

15.

STRATEGAETH GWRTH-DWYLL, GWRTH-LWGRWOBRWYO A GWRTH-LYGREDD CYNGOR GWYNEDD A CHYNLLUN YMATEB pdf eicon PDF 135 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad yma fel eglurhad o drefniadau’r Cyngor ar gyfer ymchwilio ac atal twyll a llygredd o fewn y gyfundrefn a chymeradwyo’r Strategaeth Gwrth-dwyll, Gwrth-Lwgrwobrwyo a Gwrth-Lygredd a’r Cynllun Ymateb i Dwyll a Llygredd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Oherwydd problemau technegol, gohiriwyd y cyfarfod.

Ni chafwyd penderfyniad ar y mater

 

16.

BLAEN RAGLEN pdf eicon PDF 134 KB

I ystyried a derbyn y rhaglen waith

Penderfyniad:

Oherwydd problemau technegol, gohiriwyd y cyfarfod.

Ni chafwyd penderfyniad ar y mater