Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Rob Triggs |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Cofnod: Derbyniodd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 17 Tachwedd 2022 fel rhai cywir. |
|
CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2022 A'R ARCHWILIAD PERTHNASOL PDF 269 KB Cyflwynir: ·
Datganiad o’r Cyfrifon ôl-Archwiliad; ·
Adroddiad ‘ISA260’ Archwilio
Cymru ·
Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1) I ystyried a chymeradwyo’r wybodaeth cyn awdurdodi’r
Cadeirydd i ardystio’r llythyr Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: a) Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a
chymeradwyo’r Datganiad o’r Cyfrifon 2021/22 (ôl-archwiliad), adroddiad
‘ISA260’ Archwilio Cymru a’r Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1 i adroddiad Archwilio
Cymru), cyn awdurdodi’r Cadeirydd i ardystio’r llythyr yn electroneg. Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid bod y Swyddogion wedi rhyddhau’r cyfrifon
i Archwilio Cymru 13-06-2022 fel bod modd i Archwilio Cymru baratoi adroddiad
er cymeradwyaeth y Pwyllgor. Atgoffwyd yr Aelodau bod cyfrifon amodol wedi eu
cyflwyno i’r Pwyllgor 08-09-2022, ble amlygwyd y prif faterion ar nodiadau
perthnasol. Ategodd y Pennaeth Cyllid bod oediad eleni i dderbyn adroddiad gan
Archwilio Cymru oherwydd mater
technegol yn ymwneud ag isadeiladwaith, oedd yn golygu mai yn Ionawr 2023 roedd cyfrifon terfynol 2021/22
holl Awdurdodau Lleol Cymru yn cael eu cymeradwyo. Diolchodd i’r holl
swyddogion oedd wedi bod yn rhan o’r broses. Arweiniodd y Pennaeth Cyllid
Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau yr Aelodau drwy’r adroddiad gan amlygu bod mân addasiadau i’r un a gyflwynwyd i’r Pwyllgor ym mis Medi 2022.
Tynnwyd sylw at y canlynol: ·
Nodyn 15 -
Eiddo, Offer a Chyfarpar – I gydymffurfio gyda gofynion cenedlaethol, isadeiladwaith wedi
ei dynnu allan o’r prif dabl yn Nodyn 15 ar gyfer y ddwy flynedd ac wedi ei
ychwanegu fel rhan ar wahân ·
Oherwydd chwyddiant uchel, o
gymharu gyda chwyddiant sefydlog isel dros y blynyddoedd diwethaf, bod
goblygiadau ar y prisio, ac felly trefniadau arferol wedi eu haddasu. O
ganlyniad, y prisio yn uwch mewn ymateb i’r chwyddiant uwch. ·
Nodyn
15 Eiddo, Offer a Chyfarpar – bu adolygiad o’r asedau oedd wedi gorffen cael eu
dibrisio, ond yn parhau ar y gofrestr asedau.
Y rhai nad oedd bellach yn weithredol wedi eu dadgydnabod,
ac wedi eu dileu o’r nodyn. ·
Nodyn
19 – Arian a Chyfwerthoedd arian – addasiad i drefn o
ddangos ffigyrau yn ymwneud â’r Gronfa Bensiwn - addasiad ar yr elfen
gorddrafft ac yna addasiad cyfwerth ar y credydwyr (addasiad ar gyfer 2021/22 a
2020/21). ·
Nodyn
30 – Taliadau i Swyddogion – mân addasiadau yn rhannol oherwydd anghysondeb
rhwng cyfarwyddiadau CIPFA a’r Ddeddf (cyfarwyddiadau CIPFA wedi eu dilyn) ·
Nodyn
35 – Prydlesau – cwmni Cynnal wedi dod i
ben diwedd Mawrth 2022, ond yn parhau i ymddangos yn y nodyn – nid oedd bellach
angen ei gynnwys. ·
Nodyn 27 - Dadansoddiad Natur
Gwariant ac Incwm - addasiad technegol
yn ymwneud a chategoreiddio incwm (dim effaith ar y llinell waelod ond yn
hytrach rhwng un is-bennawd a’r llall) Cyfeiriwyd at ddau argymhelliad gan Archwilio
Cymru. 1.
Yn dilyn adolygiad o
gredydwyr tymor byr, bod credydwyr y Cyngor wedi eu gor
ddatgan o £274k yn 31/03/2022. Cafwyd eglurhad mai mater o amseriad oedd yn
gyfrifol am hyn ac er bod y credydwr angen bod yno yn flaenorol, roedd y
sefyllfa wedi newid erbyn diwedd y flwyddyn ariannol a felly dylid fod wedi
dileu’r swm. Gan nad oedd y swm o £274k yn faterol, yr addasiad yn cael ei
weithredu yng nghyfrifon 2022/23. 2. Adolygu ac atgyfnerthu papurau gwaith
ymhellach i ddarparu trywydd archwilio clir. |
|
CYLLIDEB REFENIW 2022/23 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2022 PDF 181 KB I dderbyn y wybodaeth, ystyried
risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chraffu
penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
·
Trosglwyddo £3.188 miliwn o danwariant ar gyllidebau
Corfforaethol i Gronfa Strategaeth Ariannol y Cyngor. ·
Pan yn amserol, ar ddiwedd
y flwyddyn ariannol, defnyddio a)
Balansau
Ysgolion i gyllido costau ychwanegol chwyddiant cyflogau athrawon, cymhorthyddïon, staff gweinyddol a thrydan sydd uwchlaw
lefel y gyllideb yn yr ysgolion b)
Cronfa Premiwm Treth Cyngor i gyllido’r
pwysau ychwanegol yn y maes Digartrefedd c)
Cronfa Trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido heriau ariannol cysylltiedig
sy'n wynebu'r Cyngor. Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r
pwyllgor graffu’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r
Cyngor a’i adrannau, ac ystyried penderfyniadau’r Cabinet 24-01-23. Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun i’r adroddiad drwy
nodi:- ·
Er
nad yw effaith Covid mor sylweddol yn 2022/23 o’i
gymharu â’r ddwy flynedd flaenorol, bod costau ychwanegol, colledion incwm a
llithriad ar gynlluniau arbedion yn parhau mewn rhai meysydd. ·
Bod
rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd yr Adrannau Oedolion, Iechyd a Llesiant,
Plant a Theuluoedd, Addysg, Economi a Chymuned, Priffyrdd a Bwrdeistrefol a
Thai ac Eiddo yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn. ·
Bod
oediad mewn gwireddu Arbedion yn ffactor Ategodd mai adrodd
ar y sefyllfa oedd y swyddogion Cyllid ac mai’r Adrannau eu hunain oedd yn
gyfrifol am eu cyllidebau. b)
Amlygodd
yr Pennaeth
Cyllid Cynorthwyol y canlynol: ·
Y
byddai’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gyda gorwariant o dros £2.2 miliwn
eleni, a hynny yn gyfuniad o nifer o ffactorau, gan gynnwys methiant i wireddu
gwerth £930k o arbedion. ·
Y
byddai’r Adran Addysg gyda gorwariant o £1.6m sydd yn ganlyniad i effaith cost
ychwanegol chwyddiant cyflogau athrawon, cymorthyddion
a staff gweinyddol (£1,031k uwchlaw‘r gyllideb
eleni); a chostau prisau trydan uwch. Ategwyd, o
ystyried fod yr ysgolion eisoes wedi elwa o bron i filiwn o arbedion ynni yn
deillio o Covid a'r cyfnodau clo cysylltiedig,
byddai’n briodol defnyddio balansau ysgolion i
gyllido'r pwysau ychwanegol eleni. ·
Byw’n Iach - bod sgil effaith Covid
yn parhau yn 2022/23 ac yn amharu ar allu’r cwmni i gynhyrchu incwm. O
ganlyniad, cadarnhawyd bod y Cyngor wedi cymeradwyo cefnogaeth ariannol
angenrheidiol i gynnal gwasanaethau drwy ymestyn y cyfnod o sicrwydd a roddwyd
i'r Cwmni hyd at ddiwedd 2022/23, sydd oddeutu £839k eleni. Nodwyd mai prisiau
trydan uwch sydd yn gyfrifol am weddill gorwariant Byw’n Iach. ·
Adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol – bod y tueddiad blynyddol o orwariant yn y maes
bwrdeistrefol yn parhau, gyda’r problemau amlycaf yn y maes casglu gwastraff ac
ailgylchu. Yr adran hefyd yn cael
trafferthion gwireddu arbedion gwerth £608k. ·
Tai
ac Eiddo – goblygiadau newid i ddeddfwriaeth yn ymwneud â Digartrefedd yn golygu
pwysau ariannol sylweddol. Er bod dyraniad o £1.5m o gronfa trefniadau yn sgil covid y Cyngor wedi ei roi i gynorthwyo’r sefyllfa,
rhagwelir gorwariant net o £2.7miliwn eleni. ·
Corfforaethol
- rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2022/23 a newid i ddeddfwriaeth yn
gyfrifol am gynnyrch treth ychwanegol, gyda thai yn trosglwyddo o drethi
annomestig i dreth cyngor ynghyd â lleihad yn y niferoedd sydd yn hawlio
gostyngiad treth cyngor o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Y cynnydd diweddar
mewn cyfraddau llog yn golygu fod y rhagolygon derbyniad llog £1.3 miliwn yn
fwy ffafriol nag a gyllidebwyd amdano. Adroddwyd bwriad o ddefnyddio
cronfeydd wrth gefn y Cyngor a balansau’r Ysgolion i gyllido’r bwlch ariannol o
£7.4 miliwn a ragwelir am 2022/23. O ganlyniad, drwy ddefnyddio cronfeydd penodol, bod balansau cyffredinol wedi eu gwarchod ac ar gael i wynebu
heriau’r dyfodol. c)
Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Chronfa Adfer yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
RHAGLEN GYFALAF 2022/23 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2022 PDF 183 KB I dderbyn y wybodaeth, ystyried y
risgiau ynglŷn â’r Rhaglen Gyfalaf, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: a)
Cyflwynwyd
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid. Prif ddiben yr adroddiad oedd cyflwyno’r
rhaglen gyfalaf (sefyllfa diwedd Tachwedd 2022) a gofyn i’r Pwyllgor ystyried y
ffynonellau ariannu perthnasol a chraffu penderfynaidau’r
Cabinet (24-01-23). Cyfeiriwyd at ddadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf
£140.6 miliwn am y 3 blynedd 2022/23 - 2024/25 ynghyd a’r ffynonellau sydd ar
gael i ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £4.3 miliwn ers yr adolygiad
diwethaf. b)
Ategodd
y Pennaeth
Cyllid Cynorthwyol, ·
bod
y Cyngor gyda chynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £53 miliwn eleni,
gyda £20 miliwn (sef 38%) ohono wedi’i ariannu trwy grantiau penodol. ·
bod
effaith heriau ariannol diweddar yn parhau ar y rhaglen gyfalaf gyda 40% o’r
gyllideb wedi ei wario hyd at ddiwedd Tachwedd 2022 o gymharu gyda 37% dros yr
un cyfnod yn 2021, 31% yn 2020 51% yn
2019/20 cyn amhariad covid ·
bod
£28.7m o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2022/23 i 2023/24 a
2024/25, gyda’r prif gynlluniau yn
cynnwys, £11.4 miliwn Cynlluniau Strategaeth Tai, £5.5 miliwn Cynlluniau
Ysgolion – Cymunedau Dysgu Cynaladwy ac Eraill a £4.1
miliwn Adnewyddu Cerbydau. Tynnwyd sylw at
restr grantiau ychwanegol roedd y Cyngor wedi llwyddo i’w denu oedd yn cynnwys
Grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy - Ysgol Treferthyr,
Grant Cyfalaf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a Grant Llywodraeth Cymru tuag
at Gynlluniau Gwledig - Gwella Mynediad. c)
Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r swyddogion ar
ganfod grantiau ychwanegol. PENDERFYNWYD ·
Derbyn
yr adroddiad ·
Nodi’r
sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau ·
Cytuno
gyda phenderfyniadau’r Cabinet (24-01-23) |
|
TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 181 KB I dderbyn y wybodaeth, ystyried risgiau cyffredinol sy’n
deillio o’r llithriadau, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt y
Trosolwg Arbedion Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: a)
Cyflwynwyd
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r
risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ystyried penderfyniadau’r
Cabinet (24-01-2023) a sylwebu fel bo angen. b)
Ategodd
y Pennaeth
Cyllid Cynorthwyol, ·
Ers 2015/16, bod gwerth £35.4m o arbedion wedi eu
cymeradwyo i’w gwireddu rhwng 2015/16 - 2022/23. Nodwyd fod dros £33.5 miliwn
o’r arbedion yma bellach wedi eu gwireddu sydd yn 95% o’r swm gofynnol dros y
cyfnod. ·
Y prif gynlluniau sydd eto i’w cyflawni yw
cynlluniau gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol. ·
22% o arbedion 2022/23 eisoes wedi eu gwireddu a 2%
pellach ar drac i gyflawni’n amserol. Adrannau sydd gyda’r gwerth uchaf o ran
cynlluniau sydd eto i’w cyflawni yw’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant. ·
Bod gwerth £1.129m o arbedion eisoes wedi eu
cymeradwyo ar gyfer 2023/24 gyda chynlluniau arbedion a thoriadau ychwanegol
dan ystyriaeth ·
Bod gwireddu gwerth £33.5m o arbedion (allan o
£35.4 miliwn) ers Ebrill 2015 wedi bod yn heriol gydag oediad a risgiau i
gyflawni rhai o’r cynlluniau sy’n weddill. Adroddwyd bod y Cabinet wedi derbyn yr holl
argymhellion ynghyd a’r wybodaeth am y cynnydd i wireddu cynlluniau arbedion
2022/23. c) Diolchwyd am yr adroddiad. Nodwyd yr angen i ganolbwyntio ar y
llwyddiant - bod 95% o’r Arbedion wedi
eu gwireddu - y tuedd yw rhoi gormod o
ffocws ar y rhai hynny sydd heb eu gwireddu, sydd efallai'r
rhai anoddach. Mewn ymateb i sylw bod rhai o’r cynlluniau yn rai o
godi costau / ennill incwm yn hytrach na chynlluniau arbedion ar effaith caiff
hynny o ran costau darpariaeth i drigolion sydd efallai, o ganlyniad yn cael
effaith ar y gwasanaeth, nodwyd mai cynlluniau arbedion sy’n cael eu cyflwyno
gan yr Adrannau a hynny mewn ymateb i
ganran sydd yn cael ei gosod. Bydd y cynlluniau hynny yn cael eu hasesu gan
Aelodau ac os bydd codi incwm yn rhan o’r cynllun, bod hynny wedi derbyn
ystyriaeth. Mewn ymateb i gwestiwn ategol, ynglŷn ag asesu’r cynlluniau,
cadarnhawyd bod asesiadau cyfreithiol, cyllidol a chydraddoldeb yn cael ei
weithredu ar gyfer pob cynllun. Mewn ymateb i sylw bod 95% yn ganlyniad derbyniol
iawn, ond i’r dyfodol, anodd fydd canfod arbedion ynghyd sgil effaith toriadau
posib, gwnaed cais am adroddiad yn nodi’r strategaeth sydd tu cefn i’r drefn
toriadau / arbedion o flaenoriaethu a gosod
targedau. Nododd y Pennaeth Cyllid y bydd y Strategaeth Arbedion yn cael
ei gyflwyno i'r Pwyllgor yn y cyfarfod
ar y 9fed o Chwefror. Yn y cyfarfod hwnnw, bydd y cynigion ar gyfer toriadau yn
cael eu cyflwyno am sylwadau gan y Pwyllgor fydd yn eu tro yn cael eu cynnwys
mewn adroddiad i’r Cabinet (14-02-23), fydd o ganlyniad yn cynnig argymhellion
i’r Cyngor Llawn 02-03-23. Ategodd yr Aelod Cabinet bod Cadeiryddion Craffu ac
Arweinwyr y Grwpiau Gwleidyddol i dderbyn cyflwyniad ar gynigion i arbedion a
thoriadau 2023/24 a’r Aelodau Etholedig i dderbyn gwahoddiad i gyflwyniad gan y
Prif Weithredwr. PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr adroddiad · Nodi’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |