Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Aled Ll. Evans, Dilwyn Morgan, John Pughe Roberts, Gethin Glyn Williams a John Wyn Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016, fel rhai cywir. |
|
DATGANIAD O GYFRIFON 2015/16 PDF 73 KB Cyflwyno, er gwybodaeth, y datganiadau ariannol statudol (yn amodol
ar archwiliad) ar gyfer 2015/16. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid.
Tynnwyd sylw mai cyfrifon drafft heb eu harchwilio a gyflwynir yma er
gwybodaeth, gyda’r fersiwn terfynol i’w gyflwyno er cymeradwyaeth y Pwyllgor
yng nghyfarfod 29 Medi 2016. Manylwyd ar eu cynnwys ac ymatebwyd i ymholiadau
cyffredinol yr aelodau. Adroddwyd bod cyfrifon 2013/14 wedi derbyn oddeutu 800
o ymweliadau ar y wefan a bod nifer o ymweliadau yng nghyswllt cyfrifon 2014/15
wedi cynyddu i oddeutu 900. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed rhagolygon o ran grantiau yn dilyn
penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn y
refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin, nododd y Pennaeth Cyllid bod Pennaeth
Adran Economi a Chymuned yn edrych ar y mater o ran grantiau o Ewrop ac mewn
trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd na ellir rhagweld beth ddigwyddith o ganlyniad i’r penderfyniad i adael yr Undeb
Ewropeaidd a bod nifer o ffactorau yn effeithio ar yr economi. Mewn ymateb i sylw gan aelod, nododd yr Uwch Reolwr Cyllid bod y tîm o
gwmni Deloitte, oedd yn cynnal yr archwiliad ar ran
Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn cyd-weithio’n dda efo’r swyddogion Cyllid. Diolchwyd i holl staff y Cyngor sydd ynghlwm â pharatoi’r cyfrifon am eu
gwaith caled a manwl. PENDERFYNWYD derbyn a nodi Datganiad
o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar
archwiliad) am 2015/16. |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2015/16 PDF 202 KB Cyflwyno, er gwybodaeth, adroddiad y Rheolwr Buddsoddi ar ganlyniadau
gwir weithgarwch benthyg a buddsoddi’r Cyngor yn y flwyddyn
ariannol hyd at 31 Mawrth 2016. Cofnod: Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi ar wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor yn ystod
2015/16, yn erbyn y strategaeth a sefydlwyd am y flwyddyn ariannol honno. Manylwyd ar y cefndir economaidd, y gofyn benthyca a rheoli dyledion, gweithgarwch buddsoddi a chydymffurfiaeth â’r dangosyddion darbodus. Tynnwyd sylw bod angen cywiro paragraff cyntaf yr adroddiad
yn y fersiwn Gymraeg i nodi
fod cyfanswm y llog a dderbyniwyd ar fuddsoddiadau yn llai na’r
amcan ffigwr gwreiddiol yn y gyllideb. Adroddwyd
bod y Cyngor wedi adennill 98% o’i fuddsoddiadau ym manc Heritable a rhagwelir derbyn dosraniadau pellach. Nodwyd yn gyson â’r
hyn adroddwyd ers 2008, fe
ddylid adennill y swm llawn, ond
nid yw’r amseriad wedi ei
gadarnhau gan ei fod yn
ddibynnol ar ganlyniad achos llys sy’n parhau. Cadarnhaodd y Rheolwr
Buddsoddi bu gweithgarwch benthyca’r Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd. Mewn ymateb i gwestiwn
parthed llog ar fenthyciadau hanesyddol, nododd y Pennaeth Cyllid yr asesir y sefyllfa
o ran benthyciadau hanesyddol
yn barhaus. Eglurodd bod premiwm (cosb) adbryniant yn gallu bod yn
fwy na’r buddiant o’u terfynu,
a bod y benthyciadau hŷn
gyda llog uwch yn dod i ben yn raddol. Tynnodd y Rheolwr
Buddsoddi sylw mai 5.4% oedd cyfradd
cyfartaledd llog benthyciadau’r Cyngor erbyn hyn, gan
fod rhai o’r benthyciadau hanesyddol wedi eu had-dalu. Holodd aelod os derbyniwyd
llog ar yr
arian ym
Manc Heritable, ynteu ond yr arian
a fuddsoddwyd. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Buddsoddi y gwnaed hawliad am y llog perthnasol i’r cyfnod dyledus
cyn i’r banc fethdalu. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth. |
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL 1/4/16 - 30/6/16 PDF 536 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith
Archwilio Mewnol am y cyfnod. Nodwyd bod 14 adroddiad am archwiliadau o’r cynllun gweithredol wedi ei gwblhau,
1 archwiliad o gynllun archwilio 2015/16 a 4 archwiliad dilyniant. Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol. Cyfeiriodd aelod at archwiliadau diogelwch gwybodaeth mewn ysgolion cynradd
gan nodi bod 4 pwynt bwled yr
un fath ar
gyfer yr ysgolion â'i fod
yn rhagdybio bod hyn yn wir
ar gyfer bob ysgol yng Ngwynedd.
Nododd ei siomedigaeth nad
oedd y camau wedi eu cymryd
yn barod gan yr Adran
Addysg. Mewn ymateb i sylw
gan aelod y dylai ysgolion ddefnyddio llarpiwr yn hytrach na defnyddio sachau dinistrio data, nododd y Rheolwr Archwilio ei fod
yn fater i’r ysgol unigol
benderfynu ar y ffordd ymlaen ond
mi fyddai o bosib yn well defnyddio llarpiwr. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Ebrill 2016 i 30 Mehefin 2016 a chefnogi’r argymhellion a gyflwynwyd eisoes i reolwyr y gwasanaethau perthnasol er gweithrediad. |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2016/17 PDF 389 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr
Archwilio ar y cynnydd ar Gynllun
Archwilio Mewnol 2016/17. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y
Rheolwr Archwilio yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau
cynllun archwilio mewnol 2016/17. Adroddwyd bod yr Uned
Archwilio Mewnol wedi rhagori targed chwarter 1 gyda 14 adroddiad terfynol wedi
ei rhyddhau, sef 17.5% o archwiliadau’r cynllun o gymharu â’r
targed o 8%. Mewn ymateb i ymholiad gan aelod, nododd y Rheolwr Archwilio y cynhelir
archwiliad ar drefniadau’r Uned Iechyd Anifeiliaid o fewn y Gwasanaeth Gwarchod
y Cyhoedd ar gais y Pennaeth Rheoleiddio i edrych os gellir
cynnal y gwasanaeth a ddarperir yn bresennol yn dilyn lleihad yn y gyllideb.
Pwysleisiodd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg mai ymgymryd ag adolygiad o’r
trefniadau o fewn yr Adran Rheoleiddio y byddai Archwilio Mewnol yn ei wneud,
nid cynnal profion iechyd anifeiliaid. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2016/17. |