Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2015/16. Cofnod: PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd John Pughe
Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor am 2015/16. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am 2015/16. Cofnod: PENDERFYNWYD ail ethol y Cynghorydd Robert J. Wright
yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am 2015/16. Cadeiriwyd eitemau 3 i 5 gan yr
Is-gadeirydd, gan fod y Cadeirydd yn hwyr, wedi i’w siwrne gael ei rwystro
oherwydd damwain ar y ffordd. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Eddie Dogan, Peredur Jenkins (Aelod Cabinet Adnoddau) a Charles Wyn Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2015, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd yr Is-gadeirydd
gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 17 Chwefror 2015, fel rhai cywir. |
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod rhwng 1 Chwefror a 31 Mawrth 2015. Cofnod: Gwaith Archwilio
Mewnol am y cyfnod hyd at 31 Mawrth 2015 Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith
Archwilio Mewnol am y cyfnod rhwng 1 Chwefror 2015 a 31 Mawrth 2015. Wrth gyflwyno’r wybodaeth am y gwaith a gwblhawyd yn ystod
y cyfnod cyfeiriodd y swyddog at - ·
24 o adroddiadau am archwiliadau o’r cynllun gweithredol gyda’r categori barn berthnasol yn cael
ei ddangos. ·
4 Adroddiad
arall (memoranda a.y.b) ·
4 o adolygiadau
grant ·
5 archwiliad
dilyniant Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol ac yn ystod
y drafodaeth cyfeiriwyd at
y materion canlynol – TGCH mewn
Ysgolion Uwchradd Mewn ymateb i sylw
gan aelod parthed newid cyfrineiriau,
nododd y Rheolwr Archwilio bod yr un gorfodaeth ar
swyddogion ac aelodau i newid cyfrinair
ar gyfer mynediad i’r rhwydwaith,
a bod rheolau penodol ar gyfer systemau
eraill. Iechyd a Diogelwch
– Gweithio’n Unig Mewn ymateb i sylw
gan aelod, nododd y Rheolwr Archwilio nad
oedd cwmpas yr archwiliad yn
cynnwys Cynghorwyr ond fod cynnal
archwiliad o’r fath yn rhywbeth
i’w ystyried i’r dyfodol. Nodwyd mai cyfrifoldeb rheolwyr oedd sicrhau
bod staff yn derbyn yr hyfforddiant perthnasol a bod Swyddogion Iechyd a Diogelwch ar gael i gynorthwyo pan gynhelir asesiadau risg. Protocol ar Gyswllt Aelod
– Swyddog Mewn ymateb i sylw
gan aelod parthed yr angen
i Gynghorwyr arwyddo i mewn
ac allan wrth iddynt ymweld ag unrhyw eiddo sy’n
perthyn i’r Cyngor, nododd y Pennaeth Cyllid yr edrychwyd ar
gyflwyno trefn ddigidol o gofrestru i mewn ac allan
efo cerdyn a ddefnyddir i ddefnyddio
argraffwyr ond byddai’n golygu buddsoddiad sylweddol oherwydd y nifer o ddrysau yn yr
adeiladau. Nododd aelod ei fod yn
cael trafferth ar rai adegau i
dderbyn ymateb i ymholiadau gan
y Gwasanaeth Cynllunio. Mewn ymateb cynghorwyd
yr aelod i gysylltu efo’r
Pennaeth Rheoleiddio Dros Dro i
godi’r mater. Ychwanegodd aelod y byddai rhestr o fanylion cyswllt swyddogion ynghyd â’u dyddiau gwaith
o fantais i’r aelodau. Nododd y Pennaeth Cyllid y byddai’n codi’r mater o gysylltu â swyddogion yng nghyfarfod nesaf y Grŵp Rheoli. Cydgyfeiriant Rhwydwaith Nodwyd nad oedd
categori barn wedi ei nodi ar
yr archwiliad hwn gan fod
y cynllun wedi symud yn ei
flaen, ac nad oedd bob amser yn briodol gosod
categori mewn amgylchiadau o’r fath. Gwasanaethau Plant – Comisiynu Gofal Mewn ymateb i sylw gan
aelod, nododd y Rheolwr Archwilio y cynhaliwyd adolygiad cynhwysfawr a bod gwaith ar droed i
ffurfioli trefniadau. Gorfodaeth Parcio Mewn ymateb i sylw
gan aelod parthed oriau gwaith
Swyddogion Gorfodaeth Sifil a threfniadau gweithio’n unig, nodwyd nad
oedd hyn wedi ei gynnwys
yng nghwmpas yr archwiliad. Nododd aelod o ystyried yr her ariannol sydd yn wynebu’r
Cyngor, dylid ystyried ehangu rôl Swyddogion Gorfodaeth Sifil i gynnwys dyletswyddau
megis gorfodaeth baw cŵn a chynllunio. Awgrymodd y Pennaeth Cyllid y gellid rhoi sylw i’r sefyllfa oriau a gweithio’n unig ynghyd â dyletswyddau amgen i’r Swyddogion Gorfodaeth Sifil yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PENNAETH ARCHWILIO MEWNOL 2014/15 Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg a’r Rheolwr Archwilio. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg
a’r Rheolwr Archwilio. Nododd
yr Uwch Reolwr
Refeniw a Risg bod Safonau Archwilio Mewnol yn y Sector Gyhoeddus yn gofyn
iddo gyflwyno barn yn flynyddol ar
fframwaith reolaeth fewnol y Cyngor. Ar sail y gwaith a gwblhawyd yn ystod 2014/15, roedd y swyddog yn fodlon bod gan
Gyngor Gwynedd fframwaith
cadarn o reolaeth fewnol. Adroddwyd bod 87 allan o 91
archwiliad a oedd yng nghynllun archwilio
addasedig terfynol archwilio mewnol wedi eu cwblhau
erbyn 31 Mawrth 2015 sef 95.6% o’r cynllun,
yn erbyn uchelgais perfformiad o 95% ar gyfer 2014/15. Nodwyd
bod y Gweithgor Gwella Rheolaethau, a gyflwynwyd yn ystod 2013/14, wedi parhau gyda’i
waith o gryfhau trefniadau’r Cyngor i ymateb i
adroddiadau archwilio mewnol. Nododd yr Uwch Reolwr Refeniw
a Risg y cafwyd trafodaethau â’r swyddogion perthnasol yn dilyn cyflwyno
cynllun archwilio mewnol drafft ar
gyfer 2015/16 i’r pwyllgor hwn yn
y cyfarfod diwethaf ar 17 Chwefror ac y gwelir y cynllun terfynol fel Atodiad
3 i’r adroddiad. Tynnwyd sylw bod uchelgais 3 o fesurau perfformiad Archwilio Mewnol ar gyfer
2015/16 wedi eu gostwng am y rhesymau canlynol: ·
Gwir ddyddiau archwilio a ddarparwyd i Gyngor
Gwynedd. Nifer yr archwilwyr wedi lleihau o 10 yn 2014/15 i 7 yn 2015/16. Hyn wedi ei
gytuno gan y Cyngor fel rhan
o’r cynlluniau arbedion effeithlonrwydd. ·
Gwir ddyddiau archwilio a ddarparwyd i gwsmeriaid
allanol. Daeth cytundeb gwasanaeth gyda Grŵp Cynefin i ben, ac nid oes sicrwydd
y llwyddir i ennill cytundeb gyda chwsmer allanol
yn ei le. ·
Canran o’r archwiliadau mewnol sydd yn
cyrraedd barn “B” neu well. Wrth i nifer
staff y Cyngor gael
ei dorri, mae’n ddisgwyliedig y bydd rhai rheolaethau
mewnol yn gwanhau. Fodd bynnag,
disgwylir mai gostyngiad dros dro fydd hyn,
cyn y bydd egwyddorion Ffordd Gwynedd yn datblygu o fewn
holl wasanaethau’r Cyngor. Nododd
aelod yng nghyswllt archwiliad ‘Defnydd Ymgynghorwyr’ a gynhelir yn 2015/16, y dylid ystyried sut y penodir ymgynghorwyr,
eu perthynas â swyddogion a sicrhau bod y drefn benodi yn
cydymffurfio â safonau
OJEC. Mewn ymateb i’r sylw, nododd
yr Uwch Reolwr
Refeniw a Risg bod y gwaith wedi ei
gychwyn ac oes oedd gan aelod
unrhyw bryder o ran penodiad ymgynghorydd yna dylent gysylltu
efo’r Rheolwr Archwilio. Mewn ymateb i sylw gan
aelod parthed y nifer o ddyddiau a nodwyd ar gyfer
cynnal yr archwiliad ‘Y Fenter Twyll Genedlaethol’, nododd yr Uwch
Reolwr Refeniw a Risg bod y fenter o gymharu data cyrff cyhoeddus er mwyn
atal twyll yn rhedeg ers
sawl blwyddyn a bod mwy o ymrwymiad amser i Archwilio
Mewnol yn 2015/16 nag mewn blynyddoedd blaenorol gan fod
yr Uned Atal Twyll Budd-dal wedi trosglwyddo i’r Adran Gwaith a Phensiynau
(DWP) ers Tachwedd 2014. Mewn ymateb i sylw yng nghyswllt erthygl yn y Daily Post yn ddiweddar yn nodi bod y Cyngor wedi dileu dyledion o £428,606 ar ôl gordalu £1,748,740 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD AR GYFER 2014/15 Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg. Amlygwyd
newidiadau i sgoriau impact ac effeithiolrwydd rhai
elfennau o’r fframwaith llywodraethu ers 2014 a wnaed gan y Grŵp Asesu
Trefniadau Llywodraethu. Mewn
ymateb i ymholiad gan aelod parthed newid sgôr impact
Cydraddoldeb o 6 i 7 a’i sgôr effeithiolrwydd o 7 i 6, eglurodd yr Uwch Reolwr
Refeniw a Risg fod y sgôr impact wedi cynyddu
oherwydd gall y gyfundrefn toriadau effeithio rai carfannau yn waeth na’i
gilydd. Yn dilyn enghreifftiau o Adolygiadau Barnwrol yn Lloegr oherwydd nad
oedd asesiadau effaith cydraddoldeb wedi eu cynnal wrth dorri gwasanaethau,
roedd y sgôr effeithiolrwydd wedi lleihau gan fod angen sicrhau bod asesiadau
effaith Cydraddoldeb yn cael eu cynnal yn fwy
cyson. Mewn
ymateb i sylw gan aelod parthed y Pwyllgor Archwilio, nodwyd bod y Pwyllgor yn
parhau i ddatblygu ei allu i ymdrin â’r cyfrifoldebau
newydd a ddaeth i’w ran gyda Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a gobeithir y gellir cynyddu ei sgôr blwyddyn nesaf. Nododd
aelod bod angen edrych ar werthoedd y Cyngor ac ystyried y mesurau perfformiad
a’u haddasrwydd. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg fel rhan o
adolygiadau Ffordd Gwynedd, sef rhoi pobl Gwynedd yn ganolog i bob penderfyniad,
ceisir dod i gasgliad os yw’r gwerthoedd yn fyw yng ngweithrediadau’r Cyngor a
bod hyn mae’r Cyngor yn ei wneud yn cyflawni’r prif bwrpas o roi dinasyddion yn
y canol. PENDERFYNWYD: (a) cymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol, yn ymgorffori Datganiad
Rheolaeth Fewnol Cyngor Gwynedd ar gyfer blwyddyn ariannol 2014/15; (b) argymell bod Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr
yn arwyddo’r datganiad.
|
|
CYNLLUN ARCHWILIO 2015 CYNGOR GWYNEDD Cyflwyno adroddiad yr archwiliwr allanol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Amanda Hughes a Huw Lloyd Jones o Swyddfa
Archwilio Cymru (SAC), eglurwyd y cynhwysir eleni manylion Archwiliad Ariannol ynghyd â’r Archwiliad
Perfformiad a gynhelir gan SAC ym mlwyddyn
ariannol 2015/16 yn y cynllun gerbron. Amlygwyd y prif risgiau archwilio
ariannol gan nodi bod nifer o’r risgiau yn
berthnasol i holl Awdurdodau Lleol gyda rhai
yn benodol ar gyfer Cyngor
Gwynedd. Manylwyd ar fanylion
yr Archwiliad Perfformiad, nodwyd yr argymhellir cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor yng
nghyswllt gwaith dilynol a wneir gan SAC i asesu’r
cynnydd a wnaed o ran gweithredu argymhellion o waith blaenorol. Ychwanegwyd yr asesir yn
ogystal ymateb y Cyngor i adroddiadau
cenedlaethol. Nododd
y Pennaeth Cyllid bod nifer o’r risgiau
a amlygwyd ddim yn risgiau
penodol i’r Cyngor hwn ond
yn risgiau cyffredinol yn y cyd-destun Cymreig. Adroddodd yng nghyswllt adroddiadau
cenedlaethol bod y Cyngor yn ceisio ymateb
i’r her, a chyflwynir adroddiad gerbron cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 16 Gorffennaf, parthed archwiliad SAC ‘Ymateb i Bwysau Ariannol
Sylweddol’. Mewn ymateb
i sylwadau gan aelod, nodwyd
mai rôl y Pwyllgor yw argyhoeddi
ei hun bod argymhellion archwiliadau allanol yn derbyn
sylw ac y gweithredir arnynt. Ychwanegwyd yr adroddir ar archwiliadau allanol yn rheolaidd
i’r Pwyllgor. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
TYSTIOLAETH O LYWODRAETHU PRIODOL (ISA 240, ISA 250 ac ISA 550) Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Adroddwyd y derbyniwyd llythyr
gan SAC yn gwneud ymholiadau archwilio safonol yn unol â’r
gofynion a nodwyd o dan Safonau Archwilio
Rhyngwladol (ISA 240, ISA 250 ac ISA 550). Tynnwyd sylw at ymateb drafft i’r llythyr
a luniwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor ynghyd ag uwch
reolaeth yr Adran Gyllid. Tywyswyd yr
aelodau trwy’r ymateb drafft a rhoddwyd cyfle iddynt wneud sylwadau
ar y cynnwys. PENDERFYNWYD cymeradwyo
cynnwys Atodiad A i’w gyflwyno i
Swyddfa Archwilio Cymru.
|
|
CYFRIFON TERFYNOL 2014/15 - ALLDRO REFENIW Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid, gan nodi y cyflwynir yr adroddiad ynghyd â phenderfyniadau perthnasol
cyfarfod 2 Mehefin o’r Cabinet gerbron ar gais y Cadeirydd. Tynnwyd
sylw bod y Cabinet wedi cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol canlynol fel rhan o’u
penderfyniadau: ·
Gan fod y lefel o danwariant caniateir i’w gario ymlaen
wedi’i gyfyngu i (£100k), cadarnhau fod y (£255k) sy’n weddill o’r Adran
Plant i’w ryddhau a’i ail-gylchu ar gyfer delio
gyda diffyg mewn adran arall. ·
Clirio gorwariant yr Adran Oedolion, a'i ariannu drwy:- Ø all gyfeirio tanwariant
(£255k) roedd uwchben y trothwy (£100k); Ø defnyddio (£113k) o falansau cyffredinol. ·
Defnyddio (£235k) pellach o'r
balansau cyffredinol er mwyn clirio’r
diffyg net ar benawdau ‘Corfforaethol’. Nodwyd bod perfformiad 2014/15 yr adrannau unigol
yn dda iawn
mewn adeg o gynilo ariannol. Adroddwyd bod y cyfrifon ar gyfer
blwyddyn ariannol 2014/15 wedi eu cwblhau
a’u hanfon i SAC
a chyflwynir y datganiadau statudol i’r Pwyllgor
yn ei gyfarfod
nesaf. PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau. |
|
ADOLYGIAD O GRONFEYDD Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yng nghyswllt
trosglwyddo arian
o reserfau y Cyngor a chymeradwyo Polisi’r Cyngor ar Gronfeydd
a ystyriwyd gan Gabinet y Cyngor ar 23 Mehefin 2015. Dosbarthwyd Taflen Benderfyniad y Cabinet yn y cyfarfod a ymhelaethwyd
ar ei gynnwys. Tynnwyd sylw
bod gan y Prif Swyddog Cyllid gyfrifoldeb personol statudol (dan Adran
25 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003) i sicrhau
stiwardiaeth briodol o gronfeydd, nodwyd y cynhelir adolygiad parhaus o’u digonolrwydd
a’i defnydd. Nodwyd y cymeradwyodd y Cabinet, oherwydd yr her ariannol sylweddol sy’n wynebu’r Cyngor
yn ystod 2015/16 - 2017/18,
i ildio o amrywiol gronfeydd yn dilyn adolygiad
a throsglwyddo £2,986,685 i’r
Gronfa Ddiswyddo, a
£1,500,000 i’r Gronfa Trawsffurfio / Buddsoddi i Arbed. Mewn ymateb i sylw gan
aelod y byddai balansau cyffredinol y Cyngor yn gostwng
i tua £4m erbyn 31 Mawrth 2016, nododd y Pennaeth Cyllid ni ddylir
defnyddio balansau cyffredinol yn rheolaidd er mwyn
ariannu gwariant parhaus, ond bod yr arfer o bontio
yn arfer da yn wyneb y bwlch
ariannol sylweddol er mwyn cael
amser i ystyried
a blaenoriaethu toriadau yn ystod 2015/16 mewn modd cynhwysol.
Nododd aelod bod angen sicrhau nad oedd lefel y reserfau yn mynd yn
rhy isel, cytunodd y Pennaeth Cyllid gan nodi
y disgwylir i gyllideb 2016/17 beidio dibynnu ar ddefnydd
o falansau. Mewn ymateb i sylw gan aelod
parthed reserfau ysgolion, nodwyd bod y reserfau o dan reolaeth Llywodraethwyr. Ychwanegwyd bod canllawiau pendant mewn lle ar
gyfer ysgolion gyda monitro ac adolygu cyson o’r
sefyllfa a rhoddir pwysau cynyddol gan yr Adran
Addysg ar ysgolion gyda reserfau
rhy uchel i’w defnyddio ar
gyfer addysg y disgyblion. PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt cronfeydd y Cyngor, gan gefnogi’r polisi perthnasol. |
|
CYFRIFON TERFYNOL HARBYRAU GWYNEDD 2014/15 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd yr Uwch Reolwr
Cyllid adroddiad yng nghyswllt cyfrifon
terfynol Harbyrau Gwynedd
am y flwyddyn 2014/15 yn unol â’r gofynion
statudol o dan Ddeddf Harbyrau 1964. Nodwyd yr ystyrir
Harbyrau Gwynedd yn gorff llywodraethol bach, gan fod
trosiant yn is na £2.5m, ac o’r herwydd bod cwblhau ffurflen swyddogol flynyddol ar gyfer
SAC yn cwrdd â’r gofynion statudol. PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r wybodaeth yn yr atodiadau,
sef - ·
Cyfrif Incwm a Gwariant
Refeniw 2014/15; a ·
Ffurflen Swyddogol Flynyddol ar gyfer
Archwiliad 2014/15. |