Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Aled Ll Evans, Peredur
Jenkins a Gethin Glyn Williams |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
PROSIECT HUNANWASANAETH Y WEFAN GORFFORAETHOL PDF 257 KB I adrodd ar ddatblygiadau’r
prosiect ers iddo gychwyn yn
2016 Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad i’r Pwyllgor, yn dilyn trafodaeth yn y Gweithgor Craffu (10/05/21),
yn amlinellu’r ymdrechion a fu ers 2016 i gynyddu’r ddarpariaeth ryngweithiol
ar y wefan i geisio sicrhau bod modd cysylltu yn rhwydd gyda’r Cyngor 24 awr
o’r dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Nodwyd bod cynnydd sylweddol yn nifer y
trigolion sydd yn defnyddio’r gwasanaeth sy’n gadarnhaol ac yn cadarnhau gwerth
y buddsoddiad. Ategwyd bod y gwasanaeth yn parhau i ddatblygu a chydweithio
gyda Gwasanaethau ac yn ymgynghori gydag Awdurdodau eraill i geisio gwella’r
ddarpariaeth. Nodwyd posibilrwydd o sefydlu swyddfa wrth gefn i gefnogi’r
ddarpariaeth, ac er nad yw’r prosiect ei hun yn gallu hawlio arbedion
uniongyrchol, mae wedi cynorthwyo i greu arbedion mewn Gwasanaethu ee. Galw Gwynedd i arbed £23,000 trwy
ddatblygu system fewnol. Amlygwyd bod y
pandemig wedi arwain at gyflwyno gwasanaethau ar-lein mewn meysydd lle nad oedd
rhai yn bodoli yn flaenorol a hynny wedi arwain at gynnydd mewn ceisiadau am y
gwasanaethau ar-lein yn gyffredinol. Cyfeiriwyd at ddatblygiadau i’r dyfodol
oedd yn cynnwys sefydlu sgwrs fyw, rhannu manylion mynediad ysgolion,
ffurflenni morwrol ynghyd a cheisiadau pellach i gyflwyno, e.e., rhestr aros Tai,
cyfarpar ailgylchu, slotiau i ymgymerwyr mewn amlosgfa, ceisiadau rhieni maeth.
Ystyriwyd bod hyn i’w groesawu ac yn gosod her arall o flaenoriaethu’r holl
geisiadau mewn modd sydd yn dod â budd i’n cwsmeriaid a’r gwasanaethau dan
sylw. Ategodd yr Aelod Cabinet fod y Cabinet yn llwyr gefnogol i’r prosiect ac
yn ymfalchïo yn y gwaith da sydd yn cael ei wneud. Nododd bod y dewis i
ddefnyddio technoleg i gysylltu 24awr yn fanteisiol a bod Gwynedd yn torri tir
newydd drwy gynnig y gwasanaeth yn ddwyieithog. Diolchwyd am yr adroddiad Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod y gwasanaeth yn
gwneud gwaith gwych – yn sicr y ffordd ymlaen ·
Bod
dyfalbarhad a brwdfrydedd y Tîm i’w longyfarch ·
Bod
angen adolygu’r camau ‘tynnu sylw at dyllau yn y ffordd’ – rhy gymhleth ·
Bod angen sicrhau profiad
da os am gyflwyno ‘sgwrs ar lein’ - rhaid sicrhau bod staff wrth gefn gyda
gwybodaeth gyfredol ac ystyried yn ofalus pa Wasanaethau sydd yn addas i’w
cynnig. Angen osgoi sefyllfa rwystredig ac amhersonol i’r cwsmer. ·
Angen sicrhau bod cod post Powys yn cael ei dderbyn
yn ‘Lle Dwi’n Byw’ - rhai o’r codau post hyn yn berthnasol i drigolion Gwynedd Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag ymateb i adborth gwael ac os oedd patrymau i’r sylwadau
hynny, nodwyd pe byddai’r mater yn un
technegol bydd Tîm y Wefan yn ymdrin â’r mater gyda chefnogaeth y Gwasanaeth
TG. Os mai un o Wasanaethau eraill y Cyngor sydd yn derbyn adborth gwael, yna
mae’r ymateb yn debygol o amrywio o Wasanaeth i Wasanaeth, ond bod pob ymgais
yn cael ei wneud i sicrhau ymateb. O
safbwynt patrwm i sylwadau, nodwyd bod y Tîm Prosiect yn edrych ar feddalwedd
dadansoddi i ymgymryd â’r gwaith yma. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag amserlen ymateb i sylwadau, nodwyd y byddai’r Tîm Prosiect yn gweithio gyda’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
DATGANIAD O'R CYFRIFON 2020/21 PDF 109 KB I dderbyn y datganiad o gyfrifon Statudol (drafft cyn archwiliad) er gwybodaeth Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn a nodi Datganiad o
Gyfrifon y Cyngor (yn amodol a’r archwiliad) ar gyfer 2020 / 21 Cofnod: Cymerodd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyfle i ddiolch
i staff yr Adran Cyllid am eu hymroddiad i
sicrhau bod Datganiad Cyfrifon (drafft) y Cyngor wedi eu cyflwyno
i Archwilio Cymru sef yr
archwilwyr allanol, cyn y dyddiad statudol
(31 Mai 2021). Ategodd y Pennaeth Cyllid ei ddiolch
i’r staff am gyflawni’r gwaith gan ymateb
i amserlen statudol heriol newydd, ynghanol argyfwng Covid19. Diolchwyd hefyd i’r Gwasanaeth
TG am alluogi datblygiadau gweithio o adre. Nododd ei fod
eisoes wedi ardystio’r cyfrifon drafft ac mai ymarfer
da fyddai rhannu’r cyfrifon gyda’r Aelodau er mwyn rhoi
cyfle i holi
/ cyflwyno sylwadau. Bydd y cyfrifon terfynol yn cael
eu cyflwyno i’r Pwyllgor eu
cymeradwyo 14/10/21. O ran y Prif Ddatganiadau a’r Nodiadau, eglurwyd
bod y Datganiad wedi ei gwblhau ar
ffurf safonol CIPFA. Ymddengys yn drwsgl
a thechnegol gymhleth ac amlygwyd bod y ffigyrau pensiwn yn dueddol
o ystumio’r ffigyrau. I ddeall y sefyllfa ychydig yn well cyfeiriwyd at y wybodaeth yn Nodyn 38. Nododd
y Pennaeth Cyllid ei fod ef,
ynghyd a Thrysoryddion eraill ar draws y DU, yn cynnal trafodaethau gyda CIPFA i geisio
dwyn perswâd arnynt i ddiddymu’r
ffigyrau pensiwn sydd yn arwain
at gam argraff ar rai agweddau yn y Datganiad. Ategodd yr Uwch Reolwr
Cyllid bod chwe set o gyfrifon wedi eu
cwblhau ond nad oedd modd iddynt gael eu
harchwilio a’u cymeradwyo tan dymor yr Hydref, gan
fod angen sicrhau bod hawliau’r cyhoedd yn weithredol. Cyfeiriwyd at yr Adroddiad Naratif oedd yn rhoi
gwybodaeth am y Cyfrifon ac
am weledigaeth a blaenoriaethau
Gwynedd, y Strategaeth Ariannol
a’r mesuryddion perfformiad ariannol. Arweiniwyd yr Aelodau drwy’r adroddiad gan fanylu ar
rai o’r elfennau: ·
Datganiad Symudiad mewn Reserfau (tud 22 o’r rhaglen) sydd
yn crynhoi sefyllfa ariannol y Cyngor am
2020/21 - tynnwyd sylw at y
colofnau gwybodaeth ychwanegol: -
colofn 1: balansau cyffredinol
y Cyngor wedi cynyddu £1.8 miliwn yn ystod
y flwyddyn, £7.5 miliwn ar ddiwedd Mawrth
2020 i £9.4 miliwn erbyn diwedd Mawrth
2021 -
colofn 2: yn cyfeirio
at gynnydd o
£20 miliwn yn ystod y flwyddyn yn y cronfeydd, £59 miliwn ar ddiwedd
Mawrth 2020 i £79 miliwn erbyn diwedd
Mawrth 2021 -
colofn 3 - balansau
Ysgolion - cynnydd o £6.4 miliwn o £4.3 miliwn ar ddiwedd Mawrth
2020 i £10.8 miliwn erbyn diwedd Mawrth
2021. Amlygwyd mai’r prif resymau
dros y cynnydd oedd derbyniad grantiau amrywiol sylweddol. ·
Trefniadau newydd ar gyfer eleni, ar
y cyd gyda Chynghorau eraill yn ymwneud â Covid
(tudalen 94) gan gynnwys Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu Atgoffwyd yr Aelodau bod y cyfrifon (drafft) yn amodol ar
Archwiliad gydag adroddiad gan yr
Archwilwyr Allanol (Archwilio Cymru) ynghyd a chyfrifon terfynol yn cael
eu cyflwyno i’r Pwyllgor eu
cymeradwyo 14/10/21. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â grantiau yn cael eu derbyn at ddibenion pwrpasol ac o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2020/21 PDF 316 KB I dderbyn yr adroddiad er gwybodaeth Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar
wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor
2020/21, yn erbyn y strategaeth a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn 5/3/20. Nodwyd bod gweithgaredd benthyca’r Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd
yn wreiddiol, a derbyniwyd £422,000 o log ar fuddsoddiadau a oedd yn uwch na’r
£400,000 yn y gyllideb. Cadarnhawyd nad
oedd unrhyw fethiant i ad-dalu
gan y sefydliadau roedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda nhw. Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un heriol gyda chyfraddau llog yn
gostwng, cyfyngiadau ar ble i fuddsoddi arian ynghyd a symiau sylweddol yn cael
eu prosesu gyda’r Cyngor yn gweinyddu dros £100 miliwn o grantiau Covid 19 i fusnesau. Er hynny, roedd y Cyngor wedi llwyddo i sicrhau bod y
buddsoddiadau yn ddiogel ac wedi cyrraedd y targed incwm buddsoddi. Tynnwyd sylw at y fantolen ynghyd a manylder y gweithgareddau benthyca gan amlygu bod y benthyciadau wedi parhau o fewn y strategaeth o gadw’r costau benthyca yn isel. Ni wnaethpwyd
unrhyw fenthyciadau tymor hir yn
y flwyddyn ac ni wnaed llawer o ddefnydd o fenthyciadau tymor byr oherwydd
bod lefelau’r arian wedi bod yn uchel
o gymharu â diwedd y flwyddyn ariannol ddiwethaf lle cymerwyd
benthyciadau tymor byr oherwydd ansicrwydd
sefyllfa Covid 19. Adroddwyd, yng nghyd-destun buddsoddiadau, bod y Cyngor wedi parhau i fuddsoddi gyda Banciau, Cronfeydd Marchnad Arian, a Chronfeydd wedi’i pwlio, ond bod cynnydd mewn defnyddio Awdurdodau Lleol gan
fod y cyfleoedd gyda’r banciau a’r sefydliadau tebyg yn gyfyngedig iawn, a
chyfraddau marchnad arian yn isel iawn. Ategwyd bod y dychweliadau wedi bod yn isel iawn, ond bod y
cronfeydd wedi’i pwlio wedi achub y sefyllfa gan eu
bod wedi bownsio yn ôl ar ôl cwymp diwedd flwyddyn ariannol 2019/20. Amlygwyd
bod gwerth y buddsoddiadau wedi codi £0.6 miliwn yn y flwyddyn, gyda chyfradd
5.13% wedi cyfrannu at yr incwm llog gan sicrhau nad oedd diffyg yn erbyn y
gyllideb. Yng nghyd-destun adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion adroddwyd bod cydymffurfio llawn wedi digwydd
ar wahân i’r datguddiad cyfraddau llog. Amlygwyd bod y datguddiad yma yna dangos
effaith refeniw un flwyddyn o gynnydd o 1% mewn cyfraddau llog gan amlygu
effaith difrifol y mae’r pandemig wedi ei gael
ar enillion buddsoddiadau o gymharu ar hyn a ragwelwyd
ddechrau Mawrth 2020 pan osodwyd lefel y cyfyngiad - cyn pandemig Covid
19. Ategwyd
bod dychweliadau ar y cronfeydd wedi’i pwlio wedi adfer
y gollyngiad llog. Diolchwyd am yr adroddiad. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Er balchder o dderbyn grantiau, Cyngor Gwynedd wedi gwneud y penderfyniad o ddefnyddio eu cyllid
fel bod effeithiau covid 19 ar drigolion
Cyngor yn lleihau ·
Bod
angen cywiro tabl Crynodeb Rheolaeth Trysorlys (tud
100 o’r rhaglen) i amlygu £’000 yn lle £m Mewn ymateb i sylw yn yr adroddiad ‘bod hyd buddsoddiad a nifer y sefydliadau sydd i adneuo arian gyda nhw wedi ei leihau yn seiliedig ar y cyngor a gafwyd gan Arlingclose ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
TREFNIADAU GWRTH DWYLL, GWRTH LYGREDIGAETH A GWRTH LWGRWOBRWYO PDF 442 KB I ddiweddaru’r Pwyllgor am drefniadau atal twyll ac atal llygredd y Cyngor, a’r cynnydd ar y rhaglen waith tair blynedd Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth fel diweddariad ar y camau y mae’r Cyngor yn eu cymryd
yn y maes gwrth-dwyll a gwrthlygredd Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol (Refeniw a Risg) yn diweddaru’r
Pwyllgor ar drefniadau atal twyll ac atal llygredd
y Cyngor ynghyd a chynnydd ar raglen Strategaeth
Gwrth-dwyll, Gwrthlygredd a
Gwrth Lwgrwobrwyo Cyngor Gwynedd 2019 - 2022 a fabwysiadwyd gan y Pwyllgor 14 /02/2019. Nodwyd bod
y Strategaeth yn cynnwys wyth o weithrediadau y dylid eu cyflwyno yn
ystod y tair blynedd er mwyn
cryfhau trefniadau gwrth-dwyll y Cyngor o fewn yr adnoddau sydd
ar gael.
Ategwyd y byddai gwaith yn dechrau dros
yr Haf ar lunio rhaglen waith ar gyfer 2022/25. Amlygwyd nad oedd
swyddogion y Cyngor yn ymchwilio i honiadau
o dwyll yn ei erbyn ar
hyn o bryd. Adroddwyd nad oedd gweithdai
penodol wedi eu cynnal i
adnabod risgiau newydd, ond bod Rheolwr Archwilio Mewnol wedi cyfarfod
gyda phob Pennaeth Adran i drafod agweddau
o risg fyddai angen eu cynnwys
yng Nghynllun Archwilio Mewnol 2021/22. Un elfen na ellid
gweithredu arni oherwydd sefyllfa barhaus y pandemig oedd cynnal cyfweliadau
twyll yn erbyn y Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor, a fyddai’n arwain at gosb weinyddol neu erlyniad yn
yr achosion mwyaf difrifol. Er ceisio cynllunio
camau pellach nid yw’r sefyllfa
eleni wedi caniatáu datblygiadau yn y maes
yma. Tynnwyd sylw at y Fenter Twyll Cenedlaethol (NFI) sydd yn cynnal
ymarfer paru data sydd yn helpu
cyrff cyhoeddus i ganfod ac atal
twyll a gordaliadau o’r pwrs cyhoeddus.
Bydd y gwaith paru data yn cael
ei wneud bob dwy flynedd gydag
ymarferiad llawn yn digwydd yn
fuan. Mae data
eisoes wedi ei ddarparu i
Archwilio Cymru er mwyn iddynt
gyflawni'r gwaith ac mae canlyniadau’r
gwaith hwnnw yn dechrau cael
ei wirio gan Archwilio Mewnol
(sydd wedi clustnodi 40 diwrnod ar gyfer cyflawni’r
dasg yng nghynllun 2021/22). Bydd y Pwyllgor yn derbyn
diweddariad ar y gwaith ac unrhyw achosion sydd yn
dod i’r
amlwg wrth i'r gwaith fynd
yn ei flaen. Ategwyd bod y Fenter Twyll Cenedlaethol
hefyd yn gymorth i adolygu’r
taliadau grantiau a wnaed i Fusnesau
Gwynedd yn ystod y cyfnodau clo. Bu 5 cynllun grant yn ystod 2020/21 a dosbarthwyd dros £106m o arian
grant. Nodwyd bod arwyddion
cynnar yn awgrymu nad
oes ceisiadau twyllodrus wedi dod i’r amlwg
trwy’r ymarferiad NFI a bod
hyn yn cadarnhau
bod trefniadau cadarn yn eu lle
o fewn y Gwasanaeth Trethi oedd yn
gweinyddu’r grantiau. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD Derbyn y wybodaeth fel
diweddariad ar y camau y mae’r Cyngor yn eu cymryd yn y maes gwrth-dwyll a
gwrthlygredd |