Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr John Pughe
Roberts, Aled Wyn Jones, Huw W Jones a Sion W Jones |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y
cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 14 Hydref 2021 fel rhai
cywir |
|
STRATEGAETH CYLLIDEB 2022/23 PDF 162 KB I ystyried y wybodaeth, risgiau sy’n deillio o’r strategaeth, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad ar gais yr Aelod Cabinet Cyllid yn nodi amserlen,
rhagolygon a risgiau perthnasol yng nghyswllt strategaeth cyllideb y Cyngor i’r
Pwyllgor. Gosodwyd cyd-destun i’r adroddiad gan amlygu i’r Cabinet ystyried yr
adroddiad 28 Medi 2021. Penderfynodd y Cabinet gymeradwyo’r drefn ac amserlen
llunio Cyllideb 2022/23, gan nodi os bydd bwlch cyllido i fantoli cyllideb
2022/23, bydd y Cyngor yn defnyddio cyllidebau a chronfeydd wrth gefn i liniaru
colledion adnoddau yn y tymor byr, a phwyllo cyn adnabod arbedion ychwanegol
fydd angen yn ystod Haf 2022. Hefyd, penderfynodd y Cabinet dderbyn cynnwys yr
adroddiad fel Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor, gan nodi bod cynllunio
ariannol yn hynod heriol. Mynegwyd bod sawl cais eleni am adnoddau ychwanegol o ganlyniad i bwysau
ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor. Nodwyd mai Grant Llywodraeth Cymru yw prif
ffynhonnell ariannol y Cyngor a bod y Llywodraeth wedi nodi eu bwriad i
gyhoeddi setliad drafft 2022/23 ar gyfer awdurdodau
lleol ar 21 Rhagfyr 2021 a’r setliad terfynol ar yr 2il o Fawrth 2022. Eglurwyd bod yr
amserlen yma’n un hynod heriol a bod ansicrwydd ariannol o ganlyniad i’r pandemig. Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet Cyllid bwysigrwydd y seminarau rhithiol ar
y gyllideb i aelodau ym mis Ionawr, a phwysodd ar bawb i bresenoli eu hunain yn
y sesiynau. Nododd y Pennaeth Cyllid, bod cais i isafu unrhyw newid rhwng y setliad
ddrafft a'r setliad grant terfynol, gan mai anodd, o dan yr amgylchiadau
presennol yw cynllunio ar gyfer 2022/23. Ategodd bod niferoedd Covid yn parhau’n uchel yng Ngwynedd ac nad oedd arwydd
clir o pryd fydd y wlad a’r byd yn adfer. Cyfeiriodd at gefnogaeth y Gronfa
Galedi sydd ar hyn o bryd yn ariannu costau sylweddol ychwanegol ym meysydd
digartrefedd, gofal, a phrydau ysgol am ddim, ond amlygodd ei bryder o
ddatganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Lleol na fydd Cronfa Caledi o
Ebrill 2022 ymlaen. O ganlynaid, byddai gallu’r
Cyngor i barhau i gyllido’r gwasanaethau uchod ar lefel uwch yn ddibynnol ar
ddyraniad arian ychwanegol yn y setliad. Cyfeiriwyd at ragdybiaethau oedd yn gosod tri senario - gorau, canolog a
gwaethaf o fewn rheswm. Er yn ragdybiaethau bras, nodwyd bod sefyllfa gyllidol
gadarn y Cyngor a chronfeydd wrth gefn iach yn golygu fod modd defnyddio’r
cronfeydd hyn i liniaru sefyllfa tymor byr. Tynnwyd sylw at yr heriau fydd yn
wynebu’r Cyngor, yn cynnwys adferiad Covid, a
chynnydd chwyddiant mewn cyflogau, yswiriant cenedlaethol, cost tanwydd, ayb. Mynegwyd nad oedd rheswm i addasu’r strategaeth, gan nad oedd
tystiolaeth digonol ar hyn o bryd i wneud hynny Diolchwyd am yr adroddiad Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:- ·
Bod yr argymhelliad i
ddefnyddio cronfeydd wrth gefn i liniaru sefyllfa yn gam positif iawn ar gyfer
y tymor byr. ·
Cydweld gyda defnyddio cronfeydd
wrth gefn fel nad oes toriadau. ·
A oes ystyriaeth goblygiadau i
ffordd newydd o weithio wedi eu hystyried? · Bod trefn gadarn a llwyddiannus o fonitro arbedion - hawdd fyddai defnyddio reserfau - angen rhannu neges gydag adrannau yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2021-22 ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN PDF 426 KB I ystyried yr adroddiad Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a nodi’r
cynnwys Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad yn amlygu gwir weithgarwch Rheolaeth
Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Amlygwyd, yn ystod y
chwe mis rhwng y 1af o Ebrill a 30 Medi 2021 bod gweithgarwch buddsoddi a
benthyca’r Cyngor wedi aros o fewn cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol ac nad
oedd unrhyw fanciau lle'r oedd y Cyngor wedi adnau arian wedi methu ad-dalu.
Ategwyd yr amcangyfrifir bod incwm buddsoddi’r Cyngor yn uwch na’r incwm
disgwyliedig yng nghyllideb 2021/ 22. Cyfeiriwyd at y cyd-destun allanol oedd yn cyfeirio at y cefndir
economaidd, marchnadoedd ariannol ac adolygiad credyd. Yng nghyd -destun
benthyca, amlygwyd y gall awdurdodau lleol fenthyca gan Fwrdd Benthyciadau
Gwaith Cyhoeddus (PWLB) ar yr amod eu bod yn gallu cadarnhau nad ydynt yn
bwriadu prynu ‘asedau buddsoddi yn bennaf ar gyfer cynnyrch’ yn y ddwy flynedd
ariannol gyfredol neu nesaf, gyda chadarnhad o bwrpas gwariant cyfalaf gan y
Swyddog Adran 151. Nid yw’r Awdurdod yn bwriadu prynu unrhyw asedau buddsoddi
yn bennaf ar gyfer cynnyrch o fewn y tair blynedd nesaf ac felly mae’n gallu
cyrchu’r PWLB yn llawn - ystyriwyd benthyca o’r PWLB fel yr opsiwn gorau Eglurwyd bod £10m o fuddsoddiadau’r Cyngor mewn cronfeydd eiddo ac
ecwiti cyfun strategol sydd yn cael eu rheoli yn allanol lle mae diogelwch a
hylifedd tymor byr yn llai o ystyriaeth. Er bod y gwerth cyfalaf cyfun o
£9.243m yn llai na’r buddsoddiad cychwynnol o £10m, gwnaed y buddsoddiadau gan
wybod y byddai gwerthoedd cyfalaf yn ansefydlog ar fisoedd, chwarteri a hyd yn
oed blynyddoedd; ond gyda'r hyder y bydd cyfanswm yr enillion dros gyfnod o
dair i bum mlynedd yn uwch na chyfraddau llog arian parod. O ganlyniad
gwireddir yr amcanion drwy sefydlogrwydd prisiau tymor canolig. Cyfeiriwyd at ddefnydd Swyddfa Rheoli Dyledion fel cerbyd buddsoddi sydd
yn talu ychydig mwy nag eraill ac yn hyblyg, hawdd a diogel i’w ddefnyddio. Er
bod y cyfraddau yn isel a’r rhagolygon yn wan ac ansefydlog, adroddwyd bod y
Cyngor yn buddsoddi cymaint ag y gallent o fewn cyfnod heriol; Cadarnhawyd bod gweithgareddau rheoli trysorlys a gynhaliwyd yn ystod y
cyfnod yn cydymffurfio’n llawn gyda Chod Ymarfer CIPFA a Strategaeth Rheoli
Trysorlys ac yng nghyd-destun hyfforddiant buddsoddi bod swyddogion, yn ystod y
cyfnod, wedi mynychu hyfforddiant buddsoddi gydag Arlingclose
a CIPFA sy’n berthnasol i’w swyddi. Tynnwyd sylw at ddiwygiadau i godau CIPFA
oedd yn cynnwys ·
Cynnwys materion
ESG fel ystyriaeth o fewn Rheolaeth Risgiau TMP 1. ·
Ffocws ychwanegol
ar wybodaeth a sgiliau swyddogion ac aelodau etholedig sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau. Amlygwyd bod Arlingclose yn disgwyl i'r
Gyfradd Banc gynyddu yn Ch2 2022 a hyn oherwydd dymuniad Banc Lloegr i symud o
lefelau argyfwng gymaint ag ofn pwysau chwyddiant. Mae buddsoddwyr wedi cynnwys
sawl cynnydd yn y Gyfradd Banc i 1% erbyn 2024 yn eu prisiadau. Er bod Arlingclose yn credu y bydd y Gyfradd Banc yn codi, ni fydd
mor uchel â disgwyliadau'r marchnadoedd. Nododd y Pennaeth Cyllid bod y perfformiad yn dderbyniol er gwaethaf
cyfraddau llog echrydus o isel. Diolchwyd am yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
ASESIAD CYNALIADWYEDD ARIANNOL PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn amlygu ymatebion Cyngor
Gwynedd i adroddiad gan Archwilio Cymru yng nghyswllt cynaliadwyedd ariannol y
Cyngor. Tynnwyd sylw at bedwar argymhelliad oedd wedi eu cynnwys yn yr
adroddiad. Croesawyd Alan Hughes, Archwilydd Arweiniol o Archwilio Cymru i
gyflwyno’r canfyddiadau. Nodwyd bod gan y Cyngor ddealltwriaeth dda o’i sefyllfa
ariannol, ond bod sawl her ariannol o hyd gan gynnwys parhau i gario drosodd
arbedion heb eu cyflawni sydd yn achosi pwysau ariannol heb ei datys ar
wasanaethau ac y bydd canfod a chyflawni arbedion yn fwy o her yn y dyfodol. Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid at yr ymatebion gan ofyn i’r Pwyllgor
gefnogi’r gweithredu. Diolchwyd am yr adroddiad Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Yn argymhelliad 2 a 3 bod
angen ystyried nad gofynion data cyllidol sydd yma ·
Pwysig i’r Cyngor wneud
defnydd o wybodaeth gefndirol ·
Bod pob penderfyniad ariannol
yn seiliedig ar ddata ·
Pam yr angen i ragweld 3
blynedd i’r dyfodol? Nid oes gan y Llywodraeth gynllun 3 blynedd pam felly
gofyn i’r Cyngor wneud? Derbyn bod posib rhagweld ond ni fyddai sail cadarn i
dafluniadau ·
Nodyn ‘tystiolaeth i ddangos
defnydd o gronfeydd wrth gefn i wella a thrawsnewid gwasanaethau a all yn eu
tro helpu a chynaliadwyedd y Cyngor’ – gofynnwyd i Archwilio Cymru am
enghraifft o sefyllfa – angen gwybodaeth ehangach ·
A’i sylwadau cyffredinol sydd
dan sylw ynteu wendidau mewn adrannau? Cytunwyd gyda’r sylw bod
data yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau buddsoddi ond y gellid
defnyddio data cyfredol hefyd i ddad-fuddsoddi lle
efallai nad oes galw neu wneud pethau yn
wahanol. Ystyriwyd bod £71m wrth gefn yn swm sylweddol all gyfrannu tuag at
raglenni trawsnewidiol fyddai'n gwneud gwasanaeth cynaliadwy Mewn ymateb nododd y
Pennaeth Cyllid bod arian wrth gefn yn cyfrannu at brosiectau newydd e.e.,
strategaeth technoleg gwybodaeth ysgolion, swydd prosiect rheoli hinsawdd,
gwella Galw Gwynedd, ac fe anogir adrannau i gyflwyno cynlluniau ynghyd a
bidiau am arian. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn ag adrannau yn cyflwyno cynlluniau ac os yw’r cynlluniau yn cael eu
gwyntyllu i sicrhau bod yr arian yn mynd i’r lle iawn, nodwyd bod llu o
gynlluniau wedi eu cyflwyno ac y byddai’r Cabinet yn trafod bidiau ym mis Ionawr. Mewn ymateb i
sylw am ragolygon tair blynedd, nododd yr Archwilydd bod gwerth mewn
rhagolygon, er nad oes ffynhonnell ariannol wedi ei gytuno. Awgrymwyd mai data
ariannol sydd yn rhan o’r sgwrs
bresennol, ond y gellid ystyried gwybodaeth gefndirol megis twf yn y galw,
achosion cymhleth neu brisiau marchnad fel enghreifftiau fyddai’n cyfoethogi’r
sgwrs. Nodwyd bod y broses rheoli perfformiad yn cael ei foderneiddio gyda
gosodiad mesurau a dangosyddion, er yn anffodus nid yw’n cael ei wneud gan bob
adran. Ategodd bod cyfeiriad y Cyngor yn galonogol a’i fod yn hyderus yng
ngallu'r Cyngor i weld newidiadau gan ddefnyddio cyd-destun sefyllfaoedd -
byddai hyn yn rhoi'r Cyngor mewn lle da. Mewn ymateb i’r sylwadau nododd yr Aelod Cabinet bod angen ystyried a defnyddio pob math o ddata er ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
ARCHWILIO CYMRU - RHAGLEN WAITH AC AMSERLEN PDF 194 KB I dderbyn diweddariad ar raglen waith Chwarter 2 Archwilio
Cymru Penderfyniad: Derbyn rhaglen
waith Chwarter 2 Archwilio Cymru Cofnod: Cyflwynwyd diweddariad chwarterol (hyd at 30 Medi 2021) o raglen waith
ac amserlen Archwilio Cymru. Trafodwyd y gwaith archwilio ariannol a'r gwaith
archwilio perfformiad lleol gan amlygu y byddai’r Adolygiad o Reoli Perfformiad
yn cael ei gyflwyno yn y flwyddyn newydd. Cyfeiriwyd at adroddiadau
cenedlaethol ac allbynnau eraill a gyhoeddwyd gan Archwilio Cymru ers Ebrill
2021. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelod: ·
Bod yr amserlen ar
gyfer rheoli perfformiad yn dynn iawn os
am gwblhau ym mis Chwefror ·
Er cynnydd
sylweddol mewn mewnlifiad, dim cyfeiriad at y maes yn y rhaglen
waith. Y mater yn creu effaith syfrdanol
ar y Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol - yn enwedig yn
y siroedd tlotaf Mewn ymateb i sylw bod Llywodraeth Cymru bellach yn
cynllunio ymlaen 3 blynedd, a sut byddai hyn yn ymrwymo ac ariannu gofynion
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sydd yn cynllunio ymlaen 50 mlynedd,
nodwyd bod y pum egwyddor gynaliadwy sydd rhaid i gyrff cyhoeddus feddwl amdanynt
wrth weithio yn eu cynorthwyo i gydweithio’n well, osgoi ailadrodd
camgymeriadau’r gorffennol a mynd i’r afael â rhai o’r heriau hirdymor. Ategodd
yr Archwilydd ei fod hefyd yn derbyn y sylw ynglŷn â mewnlifiad ac y
byddai’r mater yn derbyn sylw pan fydd risgiau yn cael eu cloriannu. PENDERFYNIAD: ·
Derbyn rhaglen
waith Chwarter 2 Archwilio Cymru |
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU ( CYMRU) 2021 PDF 255 KB I ystyried yr adroddiad a chytuno ar yr argymhelliad ynglŷn a maint y Pwyllgor i’r dyfodol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro yn diweddaru'r Pwyllgor ar
gynnydd yn y rhaglen waith mewn ymateb i Ddeddfwriaeth sy’n cyflwyno newidiadau
a grymoedd llywodraethiant Llywodraeth Leol yng Nghymru. Atgoffwyd yr Aelodau
bod y Pwyllgor wedi mabwysiadu rhaglen waith (Mai 2021) sy’n ymateb i ddarpariaethau a gofynion
y Ddeddf ac sy’n cyfarch y camau mewn modd amserol a phriodol. Tynnwyd sylw at newidiadau penodol statudol i
swyddogaethau a chyfansoddiad y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu o fewn y Ddeddf
gan gyfeirio at yr atodiad oedd yn amlinellu prif newidiadau i’r
Cyfansoddiad. Adroddwyd, gyda thraean yr
aelodaeth yn Aelodau lleyg, bod hysbyseb i ganfod aeldoau wedi ei chyhoeddi a
bod cyfundrefn gyda phanel penodi mewn lle i argymell i’r Cyngor Llawn fydd yn
cymeradwyo’r penodiadau yn unol a drefn a sefydlwyd Mai 2017. Diolchwyd am yr adroddiad. Yn ystod y drafodaeth ddilynol cafwyd y
cwestiynau a’r ymatebion canlynol: ·
A oes modd i
Gynghorydd sydd yn ymddeol roi ei enw ymlaen fel Aelod Lleyg? Byddai rhaid cael bwlch o 12 mis rhwng ymddeol a
gwneud cais ·
A fydd y
Cadeirydd yn derbyn tal am fod yn Gadeirydd? Bydd Cadeirydd yn derbyn lwfans aelod cyfetholedig
sydd wedi ei osod gan y Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ·
A oes ymateb wedi ei
dderbyn i’r hysbyseb? Dyddiad cau yw Tachwedd 25ain - gwybodaeth wedi ei
rannu gyda’r Aelodau i annog rhywun addas i geisio ·
Pwy fydd
yn penodi’r Aelodau Lleyg? Yn unol â threfn a sefydlwyd yn Mai 2017, bydd y
panel yn cynnwys Cadeirydd y Cyngor, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a’r Aelod
Cabinet Cyllid a fydd wedi eu cynghori gan y Pennaeth Cyllid a’r Swyddog
Monitro. Bydd y ceisiadau yn cael eu hystyried ac argymhelliad yn cael ei
gyflwyno i’r Cyngor llawn. ·
A fydd
Cynghorau ymylol yn chwilio am yr un Aelodau ac a fydd modd i un person fod yn
aelod ar ddau bwyllgor? Derbyniol i Aelodau fod yn aelodau Pwyllgor mewn
mwy nag un Sir ·
Os methu
penodi a fydd ‘sedd wag’ yn cael ei nodi? Er bod penodi efallai yn heriol, os na fydd pob
sedd yn cael ei llenwi, bydd rhaid amlygu sedd wag ·
A yw’r Aelodau Lleyg
yn gorfod bod o Wynedd? Dim rhaid i aelodau fod o Wynedd, ond bod gofyn
iddynt fod a chysylltiad a’r Sir ·
Pwy fydd
yn monitro safon? A fydd balans gwleidyddol yn cael ei ystyried? Bod aelodau lleyg gyda barn annibynnol - bydd angen
i unrhyw fuddiant gael ei gofnodi gyda manylion cofrestru gyda phlaid
wleidyddol ·
A fydd
modd ystyried cynnal cyfarfod anffurfiol i bawb ddod i adnabod ei gilydd cyn
dechrau’r drefn newydd? Hyn heb ei drafod yn swyddogol. Nodwyd ynghyd ag
aelodau lleyg y bydd aelodau newydd posib hefyd ar y Pwyllgor, felly derbyn yr
awgrym i gynnal sgwrs ymlaen llaw yn nodi dyheadau rôl, cyn efallai penodi
Cadeirydd ·
Gydag
Aelod Lleyg i’w benodi fel Cadeirydd ar y Pwyllgor, awgrym i’r panel cyfweld
holi ymgeiswyr os ydynt yn ystyried eu hunain yn addas ar gyfer bod yn
Gadeirydd. Posib holi os ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |