Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: a)
Y Cynghorydd Gethin Glyn
Williams yn eitem 5 ar y rhaglen,
oherwydd bod aelod o’r teulu yn gyflogedig gan y Cyngor Roedd yr Aelod o’r farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth b) Y Cynghorydd W Gareth Roberts yn eitem 5 ar
y rhaglen, oherwydd bod aelod o’r teulu yn gyflogedig gan y Cyngor Roedd yr Aelod o’r farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan
y Cynghorwyr Aled Ll Evans a Selwyn Griffiths |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y
cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 18 Tachwedd 2021 fel rhai cywir |
|
PENDERFYNIAD CABINET 18/01/2022 EITEM 6 - DATHLU DYDD GWYL DEWI PDF 369 KB Penderfyniad wedi ei alw i mewn i’w graffu yn unol ag Adran
7.25 o Gyfansoddiad y Cyngor Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn penderfyniad y
Cabinet 18-01-2022 Cofnod: Amlygodd y Swyddog Monitro bod gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu,
yn ei rôl craffu materion corfforaethol, yr hawl i alw penderfyniad Cabinet i
mewn i’w adolygu ynghyd a derbyn mwy o wybodaeth sydd yn berthnasol i
agweddau’r penderfyniad hwnnw. Gwahoddwyd y Cynghorydd Nia Jeffreys (Aelod Cabinet Cefnogaeth
Gorfforaethol) i gyflwyno’r wybodaeth ac egluro cefndir y penderfyniad. Atgoffwyd yr Aelodau bod y Cyngor Llawn ar y 7 Hydref 2021 wedi
penderfynu yn unfrydol ofyn i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl Dewi fel
diwrnod swyddogol o wyliau i’w gweithlu.
Yng nghyfarfod y Cabinet 18 Ionawr 2022, penderfynwyd dynodi Dydd
Gŵyl Dewi yn ddiwrnod o wyliau ychwanegol
i staff y Cyngor. Amlygodd fod cais wedi ei dderbyn am fwy o wybodaeth
am y gost (oddeutu £200k) i weithredu’r penderfyniad a hefyd sylw, fod modd defnyddio’r
arian i bwrpas arall er budd trigolion
Gwynedd. Eglurodd yr Aelod Cabinet nad oedd cost i ddiwrnod ychwanegol o wyliau
ar y 1af o Fawrth 2022 i’r staff sy’n gweithio mewn swyddfa neu gartref - y
diwrnod yn cael ei ychwanegu i’w hawl blynyddol. Byddai cost uniongyrchol yn
gysylltiedig â staff maes gofal a staff casglu gwastraff fydd yn derbyn diwrnod
ychwanegol i’w gymryd eto. Ar gyfer hyn, bydd angen talu cyfar
(cost ychwanegol o oddeutu £45k (Gofal) a £30k (Priffyrdd a Bwrdeistrefol).
Adroddwyd bod cymhorthyddion dysgu a staff ategol
ysgolion yr hawl i ddiwrnod ychwanegol, ond yn gorfod gweithio o fewn tymor
ysgol - bydd y rhain yn derbyn addasiadau i’w cyflogau (cost oddeutu £90k).
Gydag amodau gwaith Athrawon yn cael ei benderfynu yn genedlaethol, nid oedd
modd eu cynnwys yn y penderfyniad. Eglurwyd mai tanwariant o natur gorfforaethol fyddai’n talu’r costau -
arian fyddai’n arferol yn trosglwyddo i gronfa wrth gefn ac nid arian a delir o
wasanaethau unigol. Bydd yn daliad un tro, heb effaith ar gyllideb 2022/23. Amcangyfrifiad o uchafswm yw £200k. Ni fydd yr arian yn
cael ei ryddhau i’r adrannau hyd nes bydd y gwariant wedi digwydd. Diolchwyd i’r swyddogion am ymateb i’r penderfyniad drwy weithredu a
chynnal trafodaethau gyda’r Undebau i sicrhau bod y dyhead yn cael ei wireddu.
Pwysleisiwyd bod y Cabinet wedi ymateb mewn ewyllys da i benderfyniad unfrydol
y Cyngor Llawn. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Cefnogi dathlu Dydd Gŵyl
Dewi, ond angen ei wneud yn ddiwrnod o wyliau cenedlaethol i bawb ·
Bod ymateb y cyhoedd wedi bod
yn eithaf negyddol ·
Amseriad y penderfyniad yn
achosi pryder - mewn cyfnod o gynnydd mewn trethi, a chostau byw, o ble mae’r
arian wedi dod? ·
Cytuno gyda’r cysyniad ond y
cyfnod yn anghywir ·
Angen pwyso eto ar Lywodraeth
i ail ystyried ei wneud yn wyliau swyddogol ·
Nad oedd gwybodaeth
ynglŷn â chost diwrnod ychwanegol o wyliau wedi ei gyflwyno na’i drafod yn
y Cyngor Llawn - a fyddai canlyniad y bleidlais yn wahanol? ·
Cynigion mewn Cyngor Llawn
allan o reolaeth - angen ystyried beth sy’n gyfreithiol. · Bod £200k yn swm sylweddol – dim ymgynghori wedi ei wneud gyda staff ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYLLIDEB REFENIW 2021/22 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2021 PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid yn manylu ar yr adolygiad
diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2021/22, a’r rhagolygon tuag at
ddiwedd y flwyddyn ariannol. Nodwyd bod effaith ariannol Covid19 wedi bod yn sylweddol i’r Cyngor
- yn gyfuniad o gostau ychwanegol,
colledion incwm (gwerth dros £20 miliwn yn 2020/21 ac yn £10 miliwn hyd yma
eleni). Ategwyd bod ceisiadau i adhawlio yn cael ei gwneud yn fisol o gronfa
caledi Llywodraeth Cymru. Yn dilyn cymryd camau i lunio rhaglen ddiwygiedig o arbedion ar gyfer
2021/22 drwy ddileu, llithro ac ail broffilio cynlluniau arbedion yn
Ionawr 2021, eglurwyd bod oediad mewn gwireddu arbedion yn parhau mewn rhai
meysydd, a’r oediad hynny yn ffactor amlwg o
ganlyniad i’r argyfwng. Tynnwyd sylw at dalfyriad o sefyllfa derfynol yr
holl adrannau ynghyd a manylion pellach
ynglŷn â’r prif faterion a’r meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol,
ynghyd ag argymhellion. ·
Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant - rhagwelwyd
gorwariant o bron i £1 miliwn eleni
(£995k) gyda methiant i gyflawni arbedion
gwerth £855k yn ffactor amlwg o’r
gorwariant. Prif feysydd gorwariant - gwasanaethau pobl hŷn, anableddau dysgu a gofal cymunedol
gydag effaith Covid yn parhau
i gael ardrawiad
sylweddol ar yr Adran. Eto eleni
gyda gwerth dros £3 miliwn eisoes wedi ei
hawlio gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau ychwanegol am y cyfnod. Caniatawyd dros £1.6 miliwn o fidiau ar gyfer
pwysau cynyddol ar gyllideb 2021/22 ar ddechrau’r flwyddyn
ariannol. ·
Adran Plant a Theuluoedd
- dyrannwyd £1.8 miliwn o arian ychwanegol i'r Adran Plant a Theuluoedd yng nghylch cyllideb 2021/22 ar gyfer cwrdd
â'r pwysau cynyddol, ynghyd â dileu gwerth £1.1 miliwn o gynlluniau arbedion nad oedd
yn gwireddu. O ganlyniad, rhagolygon ariannol ar hyn
o bryd yn addawol iawn. ·
Adran Priffyrdd
a Bwrdeistrefol – bod problemau
gorwariant yn y maes casglu a gwaredu
gwastraff yn parhau ynghyd a thrafferthion gwireddu arbedion mewn nifer
o feysydd (gwerth £666k).
Yr adran hefyd wedi wynebu costau
ychwanegol yn ymwneud â Covid, ond yn ffyddiog
bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i
ddigolledu am weddill y flwyddyn. ·
Corfforaethol - rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb
2021/22 yn gyfrifol am gynnyrch treth ychwanegol ac yn cyfrannu at danwariant ar Ostyngiadau Treth Cyngor - y pwysau ar nifer o gyllidebau
ddim cymaint â’r hyn a ragwelwyd
eleni. Ategwyd bod sefyllfa ariannol y Cyngor yn cael ei fantoli o ganlyniad i
danwariant ar gyllidebau Corfforaethol a hefyd gan danwariant gan fwyafrif o’r
adrannau. Diolchwyd am yr adroddiad. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Pennaeth Priffyrdd
a Bwrdeistrefol wedi bod gerbron y Gweithgor Gwella Rheolaethau i drafod gwella
cydymffurfiaeth â’r rheolaethau a /neu gyflwyno rheolaethau newydd i leihau’r risgiau
mae’r gwasanaeth yn agored iddynt
- a yw hyn wedi ei gwblhau? · A yw’n bosib dadansoddi problemau gorwariant fel bod modd gweld beth yw rhagolygon gorwariant tymor hir (e.e., cynnydd mewn costau fflyd, costau trin mwy o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
RHAGLEN GYFALAF 2021/22 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2021 PDF 103 KB I dderbyn y wybodaeth, ystyried y risgiau ynglŷn â’r Rhaglen Gyfalaf, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid o raglen gyfalaf
ddiwygiedig (sefyllfa diwedd Tachwedd 2021) a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu
perthnasol. Tynnwyd sylw at effaith argyfwng Covid19 ar y rhaglen gyfalaf gan
amlygu mai dim ond 37% o’r gyllideb oedd wedi ei wario hyd at ddiwedd Tachwedd
2021 o’i gymharu â 31% dros yr un cyfnod flwyddyn yn ôl a 51% ddwy flynedd yn
ôl (2019/20, cyn amhariad Covid19). Ategwyd bod dadansoddiad fesul Adran o’r
rhaglen gyfalaf £127.7 miliwn am y 3 blynedd 2021/22 - 2023/24 wedi ei gynnwys
yn yr adroddiad. Cyfeiriwyd at y ffynonellau i ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £3.7
miliwn ers yr adolygiad diwethaf ac ategwyd mai’r prif gasgliadau oedd bod y
Cyngor gyda chynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £52.1 miliwn eleni,
gyda £27.4 miliwn ohono, sef 53%, wedi’i ariannu trwy ddenu grantiau penodol. Eglurwyd bod £22.1 miliwn o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o
2021/22 i 2022/23 a 2023/24, gyda’r prif gynlluniau yn cynnwys: ·
£6.2 miliwn Cynlluniau Strategaeth Tai ·
£5.8 miliwn Cynlluniau Atal Llifogydd ·
£5.4 miliwn Cynlluniau Ysgolion Ganrif 21 ac Eraill
(unfed ganrif ar hugain) Tynnwyd sylw at y prif gynlluniau ynghyd a rhestr grantiau ychwanegol y
llwyddodd y Cyngor eu denu ers yr adolygiad diwethaf oedd yn cynnwys: ·
£2.3 miliwn Grant Cynnal a Chadw Ysgolion ·
£1.4 miliwn Grant Llywodraeth Cymru tuag at Atal
Llifogydd ·
£0.4 miliwn Grant Cronfa Symbyliad Economaidd ·
£0.3 miliwn Grant Gofal Plant Ysgol Treferthyr. Yng nghyfarfod o’r Cabinet (18 Ionawr 2022) penderfynwyd derbyn yr adroddiad a
chymeradwyo’r holl argymhellion. Diolchwyd am yr adroddiad Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod yr adroddiad yn adlewyrchu newyddion da ·
Llongyfarch y staff hynny sydd yn chwilio ac yn
llwyddo i ddenu arian ychwanegol - y swm sylweddol iawn ac yn fuddsoddiad yng nghymwysterau’r Cyngor Mewn ymateb i
gwestiwn am gynlluniau 2022/23 sydd wedi eu hail broffilio ers y gyllideb wreiddiol (a bod y
ffigwr yr un fath o flwyddyn i flwyddyn) ac a yw goblygiadau costau / prisiau
yn codi wedi ei adeiladu mewn i’r cynllun neu lithriad tebygol, nodwyd bod
chwyddiant ar ei lefel uchaf ers blynyddoedd maith ac felly, tra bod swm
penodol yn y gyllideb ar gyfer eitemau cyfalaf, mae'n cyfyngu pa mor bell all
yr arian fynd. Cyfeiriwyd at drafodaeth yn y Cabinet yn Hydref 2021 ar
adolygiad cyllideb gyfalaf ddiwedd Awst lle nododd y Prif Weithredwr bod
penderfyniad bwriadol wedi ei wneud i geisio llithro rhai cynlluniau cyfalaf
gan aros i sefyllfa prisiau, megis coed, sefydlogi. Ategwyd bod adlewyrchiad
o’r llithriadau wedi eu cynnwys yn y ffigyrau. PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r risgiau perthnasol yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor
a’i Adrannau ·
Derbyn
penderfyniad y Cabinet 18/01/2022 |
|
TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 103 KB I dderbyn y wybodaeth, ystyried risgiau cyffredinol sy’n
deillio o’r llithriadau, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt y
sefyllfa arbedion Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Croesawyd Mr Dewi Morgan i’r cyfarfod yn ei rôl newydd fel Pennaeth Cyllid Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid a nodwyd ers
2015/16, fel rhan o strategaeth ariannol y Cyngor, bod gwerth £35m o arbedion
wedi eu cymeradwyo i’w gwireddu ar gyfer y cyfnod 2015/16 - 2021/22. Adroddwyd,
wrth gyfeirio at y cynlluniau arbedion am y cyfnod o’r flwyddyn ariannol
2015/16 hyd at y flwyddyn ariannol 2020/21 lle ymddengys bod 96%, sef dros £32
miliwn o’r £34 miliwn o arbedion, wedi eu gwireddu. Y prif gynlluniau sydd eto
i’w cyflawni yw cynlluniau gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Ategodd y Pennaeth Cyllid, gydag Adrannau’r Cyngor wedi canolbwyntio ar
ymateb i’r argyfwng ers Ebrill 2020 bod effaith Covid19 wedi cyfrannu at
lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i
ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd. Adroddwyd bod 45% o arbedion 2021/22, y flwyddyn ariannol gyfredol, wedi
eu gwireddu sydd o werth £436k, allan o gyfanswm o £967k. Ategwyd mai’r
adrannau sydd gyda’r gwerth uchaf o ran cynlluniau eto i’w cyflawni yw’r Adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Cydnabuwyd bod gwireddu gwerth £32.8m o arbedion (allan o gyfanswm o £35
miliwn) ers Ebrill 2015 wedi bod yn heriol ac er bod cynlluniau arbedion gwerth
£1m, sydd wedi eu hoedi yn symud yn eu blaen, ystyriwyd bod rhai risgiau i
gyflawni gwerth £0.8m o gynlluniau. Yng nghyd -destun cynlluniau ariannol 2022/23 adroddwyd bod adolygiad diweddar o’r
cynlluniau arbedion sydd wedi eu rhaglennu ar gyfer 2022/23 wedi ei weithredu gan y Prif Weithredwr,
Cyfarwyddwr Corfforaethol a Swyddogion Cyllid. Amlygwyd bod rhaid cydnabod fod y sefyllfa bellach wedi newid
cymaint fel na ellid cyflawni dau gynllun arbedion gwerth £489,750 - Cynllun
‘Adolygiad Dechrau i’r Diwedd’ gwerth £279,750 yn yr Adran Plant a Theuluoedd
a’r Cynllun ‘Trosglwyddo Meysydd chwarae i eraill’ gan yr Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol. Yng nghyfarfod y Cabinet
18 Ionawr 2022, penderfynwyd dileu’r ddau gynllun yma o’r gyllideb ac
ail-broffilio rhai cynlluniau arbedion (gwerth £1,290,250) i 2023/24 a
blynyddoedd dilynol. Nodwyd mai £595,000
oedd gwerth arbedion y cynlluniau sy’n weddill i’w tynnu o gyllideb 2022/23. Diolchwyd am yr adroddiad. PENDERFYNIAD: ·
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
risgiau perthnasol yng nghyswllt y trosolwg arbedion ·
Derbyn penderfyniad
y Cabinet 18/01/2022 |
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL PDF 461 KB Ystyried yr
adroddiad, sylwebu ar y cynnwys a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi’u
cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar
waith archwilio mewnol am y cyfnod o 1
Tachwedd 2021 hyd 30 Ionawr 2022. Amlygwyd bod 7 o archwiliadau’r cynllun
gweithredol wedi eu cwblhau ynghyd ag un archwiliad grant. Cyfeiriwyd at bob archwiliad yn ei dro - nid
oedd unrhyw fater yn codi Diolchwyd am yr adroddiad. PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr adroddiad ·
Cefnogi gweithrediadau sydd eisoes wedi
eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2021/22 PDF 449 KB Diweddaru’r Pwyllgor
ar y cynnydd yn erbyn Cynllun Archwilio Mewnol 2021/22 Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r
Pwyllgor ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau Cynllun Archwilio Mewnol 2021/22.
Cyfeiriwyd at statws y gwaith ynghyd a’r amser a dreuliwyd ar bob archwiliad.
Amlygwyd, hyd at ddiwedd Ionawr 2022 bod 45.24%, allan o’r 42 archwiliad unigol
sydd yn y cynllun, bod 19 wedi ei ryddhau yn derfynol. Adroddwyd bod 14 archwiliad wedi eu canslo a hynny oherwydd cyfeirio
staff o’r Uned i gynorthwyo gyda’r Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu a
chynorthwyo’r Gwasanaeth Budd dal i
ddelio gyda thaliadau Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf a Thaliadau Cymorth
Hunan-ynysu. Nodwyd bod bwriad cyflwyno Cynllun Archwilio
2022/23 i’r Pwyllgor nesaf Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD: ·
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun
Archwilio 2021/22 |
|
I ystyried y gyllideb y bwriedir ei argymell gan y Cabinet
i’r Cyngor i’w graffu gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor
wedi derbyn cynnydd grant drafft o 8.8%, sy’n cyfateb i werth £18.1m mewn
ariannu allanol (cyfartaledd ledled Cymru yn 9.4%) ar gyfer 2022/23 sy’n
welliant arwyddocaol ar yr hyn a dderbyniwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Er derbyn setliad rhesymol eleni, adroddwyd y
byddai nifer o ffactorau yn creu pwysau gwariant ychwanegol ar wasanaethau’r
Cyngor yn 2022/23. Yn ogystal â chyfarch
graddfa chwyddiant uwch nag y bu ers sawl blwyddyn, bod cyfle i ymdrin â
phwysau gwario ehangach gan gynnwys mynd i’r afael â chostau parhaus sy’n
deillio o’r argyfwng Covid-19, a dileu neu ohirio cynlluniau arbedion nad yw’n
ymarferol i’w gwireddu yn 2022/23. Ceisir penderfyniad y Cabinet yn ei gyfarfod 15/02/22 i argymell i’r
Cyngor Llawn 3/03/22 sefydlu cyllideb o £295.2m ar gyfer 2022/23 i’w ariannu
drwy Grant Llywodraeth o £213.2m, £82m o incwm o’r Dreth Cyngor (gyda chynnydd
o 2.95%) a sefydlu rhaglen gyfalaf o £59m
yn 2022/23. Eglurwyd bod Gofynion Gwario Ychwanegol wedi eu hystyried yn y gyllideb
(cyfanswm o £20.2m) gan amlygu pedwar
pennawd o gynnydd yn arbennig. ·
Chwyddiant Cyflogau o £8.5m – y gyllideb yn neilltuo amcan gynnydd yng
nghytundeb tâl 2022/23 o 4% ar gyfer yr holl weithlu ynghyd a chynnydd o 1.25% mewn cyfraniadau Yswiriant
Gwladol fydd yn weithredol o Ebrill 2022. ·
Chwyddiant Arall o £4m - Swm sy’n cynnwys effaith y ‘cyflog byw’ ar
gostau a ffioedd taladwy i gyflenwyr preifat ynghyd â chynnydd chwyddiant ar
gyllidebau tanwydd ac ynni a chynnydd prisiau yn dilyn ail-dendro. ·
Pwysau ar
Wasanaethau o £6.7m - argymhell cymeradwyo bidiau gwerth £6.7m am adnoddau
parhaol ychwanegol a gyflwynwyd gan adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod
ar eu gwasanaethau. Yn ychwanegol i’r
bidiau parhaol, argymhellwyd cymeradwyo bidiau ‘un-tro’ gwerth £6.2m i’w
ariannu o’r Gronfa Trawsnewid. Nodwyd bod y bidiau a gyflwynwyd wedi eu herio’n
drylwyr gan y Tîm Arweinyddiaeth cyn eu hargymell i’w cymeradwyo gan y Cabinet. ·
Pwysau Covid-19 o
£1.4m. Ers Ebrill 2020, mae Llywodraeth
Cymru wedi digolledu awdurdodau lleol am gostau ychwanegol a cholled incwm o
ganlyniad i’r pandemig allan o’r Gronfa Caledi (cyfanswm y cymorth gan y
Llywodraeth oddeutu £20m yn 2020/21, ac oddeutu £14.4m yn ystod 2021/22). Fodd
bynnag, mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru wedi datgan yn ddiamwys y
byddai’r cymorth hwn yn dod i ben 31 Mawrth 2022 a bydd angen i’r awdurdodau
lleol ariannu unrhyw gostau ychwanegol / colled incwm yn sgil Covid-19 wedi
hynny. Nodwyd, er bod £1.4m wedi ei ddarparu er mwyn sefydlu cronfa
gorfforaethol, i ddygymod â’r sefyllfa, nid oedd y Pennaeth Cyllid yn rhagweld y byddai’n ddigonol ynddo’i hun i
ymdrin â’r pwysau, ond amlygodd bod cronfeydd eraill ar gael i gynorthwyo. Ategwyd bod Cronfa Adfer Covid wedi ei
sefydlu wrth gau cyfrifon 2020/21 i’r perwyl hyn, a gellid gwneud defnydd o’r
Gronfa Strategaeth Ariannol pe byddai angen. Yng nghyd-destun y cynlluniau arbedion, nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi gwireddu dros £32.8m o gynlluniau arbedion ers 2015/16. O ganlyniad i’r hyblygrwydd mae’r setliad yn ei gynnig, nodwyd y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |
|
STRATEGAETH GYFALAF 2022/23 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYG) PDF 544 KB I dderbyn y wybodaeth, ystyried unrhyw risgiau sy’n codi
o’r strategaeth cyn iddi gael
ei chyflwyno i’r Cyngor llawn ei derbyn. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi
yn rhoi trosolwg
ar weithgareddau Cyfalaf a rheolaeth trysorlys y Cyngor. Atgoffwyd yr
Aelodau eu bod wedi derbyn cyflwyniad gan yr ymgynghorwyr ariannol, Arlingclose a oedd yn egluro’r
manylder tu ôl i’r strategaeth
mewn modd dealladwy a chynhwysfawr. Cyfeiriwyd at y gweithgareddau cyfalaf a thynnwyd sylw bod y Cyngor yn bwriadu gwneud gwariant cyfalaf o £64.1miliwn yn 22/23 gyda'r prif gynlluniau wedi ei rhestru
yn yr adroddiad ynghyd a’r ffynonellau
ariannu. Nodwyd mai’r adnoddau allanol yn bennaf
yw Llywodraeth Cymru ac adnoddau ein hunain
yw’r cronfeydd. Daw gweddill o’r arian trwy
fenthyciad fydd yn cael ei
dalu nôl dros nifer o flynyddoedd,
fel arfer o adnoddau refeniw neu o incwm gwerthiant asedau sydd yn
gyson gyda gweithred y blynyddoedd blaenorol. Golygai hyn y bydd y dangosydd
- Gofyn Cyllido Cyfalaf y Cyngor, yn £176.6 miliwn erbyn diwedd
blwyddyn ariannol 22/23, sef y lefel y dylai
benthyg tymor hir y cyngor aros
odd itano. Yng nghyd-destun y Strategaeth Fenthyca, amlygwyd yn ddiweddar
nad oes gofyn
benthyca tymor hir wedi bod, dim ond tymor byr
ar gost isel
dros ddiwedd y flwyddyn ariannol. Ategwyd y bydd hyn am barhau gyda
dim benthyca tymor hir yn cael
ei ragweld ar
gyfer gweithgareddau Cyngor
Gwynedd, a bod dyled y Cyngor yn
aros o dan y Gofyn Cyllido Cyfalaf. Cyfeiriwyd at un newid i’r meincnod
ymrwymiad lle cyflwynwyd effaith benthyca Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r angen i fenthyg
yn y dyfodol. Nodwyd y byddai’n debygol bydd y Cydbwyllgor yn symud i’r Cyd
Bwyllgor Corfforedig cyn gweld angen
benthyg. O ganlyniad, bydd y Cyngor yn disgwyl i’w fenthyciadau
fod yn uwch
na’i feincnod ymrwymiad oherwydd bod gan y Cyngor lefel uchel o reserfau. Yng nghyd-destun strategaeth buddsoddi, polisi'r Cyngor yw blaenoriaethu diogelwch a hylifedd dros gynnyrch
i sicrhau bod arian ar gael
i dalu am wasanaethau’r Cyngor. Nodwyd bod
£10m yn cael ei gadw i
sicrhau hylifedd parhaus ac o ystyried y cyfnod ansicr a’r
dychweliadau isel presennol, ystyriwyd bod cadw hylifedd a diogelwch yn flaenoriaeth. Cyfeiriwyd at y rheolaeth risg a llywodraethu ynghyd â manylder ymrwymiadau tymor hir y Cyngor e.e., unioni diffyg
y Gronfa Bensiwn, ac effaith o’r costau
ariannu i’r llif arian. Cadarnhawyd
hefyd bod y wybodaeth a sgiliau perthnasol gan y swyddogion ac mai Arlingclose fydd yn parhau
i ddarparu gwasanaeth ymgynghorwyr ariannol i’r Cyngor am y blynyddoedd nesaf. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD: ·
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r wybodaeth a’r risgiau perthnasol ·
Cefnogi bwriad
yr Aelod Cabinet Cyllid i gyflwyno’r Strategaeth i’r Cyngor Llawn am gymeradwyaeth |
|
GWEITHIO I'R DYFODOL A'R GEFNOGAETH LLESIANT MEDDYLIOL PDF 354 KB Cyflwyno trosolwg o’r cynlluniau ar gyfer
gweithio i'r dyfodol a nodi’r gefnogaeth a gynigir i
staff yng nghyswllt llesiant meddyliol. Gwahoddir y Pwyllgor Archwilio a
Llywodraethu i ystyried y wybodaeth a
gyflwynir Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol mewn ymateb i
gais gan aelodau’r Pwyllgor i dderbyn gwybodaeth am gynlluniau’r Cyngor yng
nghyswllt trefniadau gweithio i’r dyfodol a hefyd y ddarpariaeth ar gyfer
cefnogi llesiant meddyliol staff.
Adroddwyd y byddai’r weledigaeth ar gyfer gweithio i’r dyfodol yn cael
ei chyflwyno’n ffurfiol i gyfarfod o’r Cabinet ar y 15 o Chwefror 2022. Adroddwyd bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal i drin a thrafod
materion lles, trefniadau gwaith ac o adeiladu
ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau. Cyfeiriwyd at y prif yrwyr ar gyfer
mabwysiadu trefniadau gweithio newydd ac at rai o’r egwyddorion oedd yn sylfaen
ar gyfer trefniadau gweithio’n hyblyg. Pwysleisiwyd, petai amgylchiadau’r swydd
yn caniatáu, bydd unrhyw drefniadau gweithio yn hyblyg yn wirfoddol i aelodau
staff. Amlygwyd bod staff yn cael eu hannog i drafod eu sefyllfa yn rheolaidd
gyda’u rheolwyr llinell gyda llesiant staff yn ganolog i’r trefniadau newydd.
Yn dilyn cynnal ymgynghoriad gyda staff ac mewn ymateb i’r weledigaeth o
weithio i’r dyfodol, nodwyd bod addasiadau ar waith i swyddfeydd er mwyn
hwyluso’r drefn newydd o weithio, i
adolygu amodau gwaith a pholisïau cyflogaeth ac o ddarparu rhaglen hyfforddiant
fyddai’n cynnwys sgiliau arwain a chynnal timau hybrid. Nodwyd bod y weledigaeth yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i
ddatblygu strategaeth weithio o bell, gyda’r nod o alluogi 30% o weithlu Cymru
i weithio yn agos / neu o’u cartrefi. Ategwyd bod y gefnogaeth a ddarperir ar
gyfer llesiant ac iechyd staff gan y Cyngor yn cael ei gydnabod ar “Lefel Aur”
Safon Iechyd Corfforaethol Llywodraeth Cymru. Diolchwyd am yr adroddiad. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Gweithlu wedi
gorfod ymdopi gyda chostau gwres,
trydan a ffôn dros gyfnod y pandemig
- angen ystyried cyfraniadau treth incwm i’r dyfodol ·
Cyngor newydd mis Mai – sicrhau
cysylltiad wyneb yn wyneb a’r
gallu i gyd-drafod ·
Yng nghyd-destun lles staff, anodd adnabod problemau o weithio o adre ·
Cymeradwyo’r weledigaeth a’r pwyslais ar
hyblygrwydd ·
Rhagweld cyfleoedd
i weithwyr o Dde'r Sir i geisio
am swyddi ‘canolog’ ·
Angen sicrhau
bod yr elfen o weithio mewn tîm yn
cael ei gynnal ·
Cais i sicrhau bod prentisiaid yn cael cyfleoedd
priodol o ddatblygu eu cymeriadau o gydweithio fel tîm Mewn ymateb i sylw bod angen cwblhau gwaith sylweddol i wneud y
swyddfeydd yn ddiogel, nodwyd mai'r Adran Tai Ac Eiddo sy’n arwain ar y gwaith
ond eu bod megis dechrau adnabod yr angen ynghyd a siâp y swyddfeydd. Nodwyd
bod un swyddfa eisoes wedi ei haddasu a dyma fydd y templed ar gyfer eraill. Yng nghyd-destun treth incwm, nodwyd bod staff wedi cael eu hysbysu o reoliadau HMRC a chanran wedi manteisio ar gymorth / lwfans treth am weithio o adre. Yng nghyd-destun costau teithio a chyfeiriad yn yr adroddiad, ‘bydd gan bob aelod o staff safle gwaith corfforaethol enwebedig o hyd, a gallent hawlio treuliau teithio a chynhaliaeth ohoni, ac felly ni fydd newid i’r polisi presennol ar hawlio costau teithio’, nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gydag ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. |
|
ADRODDIADAU ARCHWILIO CYMRU PDF 210 KB Rhoi diweddariad
i’r pwyllgor ar raglen waith
Chwarter 3 Archwilio Cymru
ac adroddiadau sydd wedi eu cyhoeddi
yn ddiweddar Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd pedwar adroddiad gan Archwilio Cymru yn
rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar raglen waith Chwarter 3 Archwilio Cymru ynghyd
ag adroddiadau oedd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar. Croesawyd Jeremy Evans
(Archwilio Cymru) i gyflwyno’r adroddiadau. 1. Diweddariad Chwarterol - Chwarter 3 (hyd at 31ain Rhagfyr 2021) Diweddariad chwarterol
bellach yn rhan o’r drefn
y Pwyllgor o dderbyn gwybodaeth am y gwaith sydd yn cael
ei wneud yn lleol, rhanbarthol
a chenedlaethol. Derbyniwyd y wybodaeth 2. Comisiynu Lleoliadau mewn Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn Nodwyd bod yr adroddiad yn nodi
canfyddiadau adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol o drefniadau ar gyfer
comisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal
ledled Gogledd Cymru. Gwnaed y gwaith fel rhan o raglen
statudol gwaith archwilio lleol ym mhob un o’r
awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru ac ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cyflwynwyd
y canfyddiadau ynghyd ag argymhellion ar gyfer cryfhau’r dull o gomisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal
a threfniadau cysylltiedig ar gyfer gweithio
mewn partneriaeth ar draws Gogledd Cymru. Ar y cyfan canfu bod partneriaid yn gweithio’n unigol ac ar y cyd i
ddarparu lleoliadau addas ond hefyd
yn cario risgiau sylweddol. Un o’r risgiau a
amlygwyd oedd strwythur y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol (BPRh) - er yn
dod â phartneriaid ynghyd i ‘feddwl
yn rhanbarthol’, y strwythur, a bennwyd i raddau helaeth
gan Lywodraeth Cymru, yn helaeth a chymhleth,
a bod angen cryfhau’r llinellau atebolrwydd. Mewn ymateb, gwnaed sylw bod yr adroddiad yn amlygu gwendid
polisi Llywodraeth Caerdydd sydd yn
gorfodi gweithio yn rhanbarthol gan greu strwythur
sy’n llesteirio’r Cyngor rhag gweithio yn
effeithiol. Cyfeiriwyd at waith gan y Cyngor, sy’n cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sefydlu model gofal cartref newydd yng Ngwynedd fydd
yn helpu pobl i fyw
eu bywydau mor llawn â phosib
yn eu cymuned.
Bydd y model newydd yn gwella'r ffordd
mae'r gwasanaeth gofal cartref yn
cael ei drefnu
a'i ddarparu yng Ngwynedd, drwy
gadw’r trefniadau mor lleol â phosib.
A yw hon yn
drefn y dylid ei mabwysiadu ar
draws y Gogledd? Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â sut mae craffu Strategaeth
Comisiynu lleoliadau Gogledd Cymru ac os yw’n gyfrifoldeb ar y Pwyllgor Archwilio
a Llywodraethu o fewn pob Cyngor unigol neu yn ehangach, nodwyd
bod angen strwythur cadarn ac atebolrwydd clir - awgrym i
edrych ar strwythur Bwrdd Uchelgais Economaidd neu esiamplau eraill da a’i hargymell i’r
BPRh. Diolchodd Morwena Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol) am yr adroddiad gan nodi nad oedd y maes yn un hawdd i’w ddatgymalu gyda sawl trafodaeth wedi ei chynnal ynglŷn â gweithredu polisi Llywodraeth Cymru. Amlygodd bwysigrwydd darparu lleoliadau nyrsio a phreswyl mor lleol â phosib i’r mwyafrif, fel bod teulu a ffrindiau yn gefnogol i’r ddarpariaeth, ond derbyn yr angen i gydweithio yn rhanbarthol i ddarparu gofal arbenigol. Ategwyd nad datrysiad gan un rhanbarth sydd yma. Rhaid cydweithio gyda chynghorau cysylltiol, ee, Ceredigion, Conwy ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14. |