skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

a)       Y Cynghorydd Gethin Glyn Williams yn eitem 5  ar y rhaglen, oherwydd bod aelod o’r teulu yn gyflogedig gan y Cyngor

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth

 

b)     Y Cynghorydd W Gareth Roberts yn eitem 5 ar y rhaglen, oherwydd bod aelod o’r teulu yn gyflogedig gan y Cyngor

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod

 

2.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Aled Ll Evans a  Selwyn Griffiths

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 328 KB

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 18 Tachwedd  2021 fel rhai cywir

 

5.

PENDERFYNIAD CABINET 18/01/2022 EITEM 6 - DATHLU DYDD GWYL DEWI pdf eicon PDF 369 KB

Penderfyniad  wedi ei alw i mewn i’w graffu yn unol ag Adran 7.25 o Gyfansoddiad y Cyngor

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn penderfyniad y Cabinet 18-01-2022

Cofnod:

Amlygodd y Swyddog Monitro bod gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, yn ei rôl craffu materion corfforaethol, yr hawl i alw penderfyniad Cabinet i mewn i’w adolygu ynghyd a derbyn mwy o wybodaeth sydd yn berthnasol i agweddau’r penderfyniad hwnnw.

 

Gwahoddwyd y Cynghorydd Nia Jeffreys (Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol) i gyflwyno’r wybodaeth ac egluro cefndir y penderfyniad.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y Cyngor Llawn ar y 7 Hydref 2021 wedi penderfynu yn unfrydol ofyn i’r Cabinet ystyried dynodi Dydd Gŵyl Dewi fel diwrnod swyddogol o wyliau i’w gweithlu.  Yng nghyfarfod y Cabinet 18 Ionawr 2022, penderfynwyd dynodi Dydd Gŵyl Dewi yn ddiwrnod o wyliau ychwanegol  i staff y Cyngor. Amlygodd fod cais wedi ei dderbyn am fwy o wybodaeth am y gost (oddeutu £200k) i weithredu’r penderfyniad a hefyd sylw, fod modd defnyddio’r arian i bwrpas arall er budd  trigolion Gwynedd.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet nad oedd cost i ddiwrnod ychwanegol o wyliau ar y 1af o Fawrth 2022 i’r staff sy’n gweithio mewn swyddfa neu gartref - y diwrnod yn cael ei ychwanegu i’w hawl blynyddol. Byddai cost uniongyrchol yn gysylltiedig â staff maes gofal a staff casglu gwastraff fydd yn derbyn diwrnod ychwanegol i’w gymryd eto. Ar gyfer hyn, bydd angen talu cyfar (cost ychwanegol o oddeutu £45k (Gofal) a £30k (Priffyrdd a Bwrdeistrefol). Adroddwyd bod cymhorthyddion dysgu a staff ategol ysgolion yr hawl i ddiwrnod ychwanegol, ond yn gorfod gweithio o fewn tymor ysgol - bydd y rhain yn derbyn addasiadau i’w cyflogau (cost oddeutu £90k). Gydag amodau gwaith Athrawon yn cael ei benderfynu yn genedlaethol, nid oedd modd eu cynnwys yn y penderfyniad.

 

Eglurwyd mai tanwariant o natur gorfforaethol fyddai’n talu’r costau - arian fyddai’n arferol yn trosglwyddo i gronfa wrth gefn ac nid arian a delir o wasanaethau unigol. Bydd yn daliad un tro, heb effaith ar gyllideb 2022/23. Amcangyfrifiad o uchafswm yw £200k. Ni fydd yr arian yn cael ei ryddhau i’r adrannau hyd nes bydd y gwariant wedi digwydd.

 

Diolchwyd i’r swyddogion am ymateb i’r penderfyniad drwy weithredu a chynnal trafodaethau gyda’r Undebau i sicrhau bod y dyhead yn cael ei wireddu. Pwysleisiwyd bod y Cabinet wedi ymateb mewn ewyllys da i benderfyniad unfrydol y Cyngor Llawn.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Cefnogi dathlu Dydd Gŵyl Dewi, ond angen ei wneud yn ddiwrnod o wyliau cenedlaethol i bawb

·         Bod ymateb y cyhoedd wedi bod yn eithaf negyddol

·         Amseriad y penderfyniad yn achosi pryder - mewn cyfnod o gynnydd mewn trethi, a chostau byw, o ble mae’r arian wedi dod?

·         Cytuno gyda’r cysyniad ond y cyfnod yn anghywir

·         Angen pwyso eto ar Lywodraeth i ail ystyried ei wneud yn wyliau swyddogol

·         Nad oedd gwybodaeth ynglŷn â chost diwrnod ychwanegol o wyliau wedi ei gyflwyno na’i drafod yn y Cyngor Llawn - a fyddai canlyniad y bleidlais yn wahanol?

·         Cynigion mewn Cyngor Llawn allan o reolaeth - angen ystyried beth sy’n gyfreithiol.

·         Bod £200k yn swm sylweddol – dim ymgynghori wedi ei wneud gyda staff  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYLLIDEB REFENIW 2021/22 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2021 pdf eicon PDF 104 KB

I ystyried y wybodaeth ynghyd a’r risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i Adrannau
  • Derbyn penderfyniad y Cabinet 18/01/2022

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2021/22, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

Nodwyd bod effaith ariannol Covid19 wedi bod yn sylweddol i’r Cyngor -  yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm (gwerth dros £20 miliwn yn 2020/21 ac yn £10 miliwn hyd yma eleni). Ategwyd bod ceisiadau i adhawlio yn cael ei gwneud yn fisol o gronfa caledi Llywodraeth Cymru.

 

Yn dilyn cymryd camau i lunio rhaglen ddiwygiedig o arbedion ar gyfer 2021/22 drwy ddileu, llithro  ac ail broffilio cynlluniau arbedion yn Ionawr 2021, eglurwyd bod oediad mewn gwireddu arbedion yn parhau mewn rhai meysydd, a’r oediad hynny yn ffactor amlwg o  ganlyniad i’r argyfwng. Tynnwyd sylw at dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau  ynghyd a manylion pellach ynglŷn â’r prif faterion a’r meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol, ynghyd ag argymhellion.

 

·         Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant - rhagwelwyd gorwariant o bron i £1 miliwn eleni (£995k)  gyda methiant i gyflawni arbedion gwerth £855k yn ffactor amlwg o’r gorwariant. Prif feysydd gorwariant - gwasanaethau pobl hŷn, anableddau dysgu a gofal cymunedol gydag effaith Covid yn parhau i gael ardrawiad sylweddol ar yr Adran. Eto eleni gyda gwerth dros £3 miliwn eisoes wedi ei hawlio gan Lywodraeth Cymru tuag at y costau ychwanegol am y cyfnod. Caniatawyd dros £1.6 miliwn o fidiau ar gyfer pwysau cynyddol ar gyllideb 2021/22 ar ddechrau’r flwyddyn ariannol.

·         Adran Plant a Theuluoedd - dyrannwyd £1.8 miliwn o arian ychwanegol i'r Adran Plant a Theuluoedd yng nghylch cyllideb 2021/22 ar gyfer cwrdd â'r pwysau cynyddol, ynghyd â dileu gwerth £1.1 miliwn o gynlluniau arbedion nad oedd yn gwireddu. O ganlyniad, rhagolygon ariannol ar hyn o bryd yn addawol iawn. 

·         Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol – bod problemau gorwariant yn y maes casglu a gwaredu gwastraff yn parhau ynghyd a thrafferthion gwireddu arbedion mewn nifer o feysydd (gwerth £666k). Yr adran hefyd wedi wynebu costau ychwanegol yn ymwneud â Covid, ond yn ffyddiog bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddigolledu am weddill y flwyddyn.

·         Corfforaethol - rhagdybiaethau darbodus wrth osod cyllideb 2021/22 yn gyfrifol am gynnyrch treth ychwanegol ac yn cyfrannu at danwariant ar Ostyngiadau Treth Cyngor - y pwysau ar nifer o gyllidebau ddim cymaint â’r hyn a ragwelwyd eleni.

 

Ategwyd bod sefyllfa ariannol y Cyngor yn cael ei fantoli o ganlyniad i danwariant ar gyllidebau Corfforaethol a hefyd gan danwariant gan fwyafrif o’r adrannau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol wedi bod gerbron y Gweithgor Gwella Rheolaethau i drafod gwella cydymffurfiaeth â’r rheolaethau a /neu gyflwyno rheolaethau newydd i leihau’r risgiau mae’r gwasanaeth yn agored iddynt - a yw hyn wedi ei gwblhau?

·         A yw’n bosib dadansoddi problemau gorwariant fel bod modd gweld beth yw rhagolygon gorwariant tymor hir (e.e., cynnydd mewn  costau fflyd, costau trin mwy o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

RHAGLEN GYFALAF 2021/22 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2021 pdf eicon PDF 103 KB

I dderbyn y wybodaeth, ystyried y risgiau ynglŷn â’r Rhaglen Gyfalaf, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r risgiau perthnasol yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor a’i Adrannau
  • Derbyn penderfyniad y Cabinet 18/01/2022

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid o raglen gyfalaf ddiwygiedig (sefyllfa diwedd Tachwedd 2021) a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Tynnwyd sylw at effaith argyfwng Covid19 ar y rhaglen gyfalaf gan amlygu mai dim ond 37% o’r gyllideb oedd wedi ei wario hyd at ddiwedd Tachwedd 2021 o’i gymharu â 31% dros yr un cyfnod flwyddyn yn ôl a 51% ddwy flynedd yn ôl (2019/20, cyn amhariad Covid19). Ategwyd bod dadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf £127.7 miliwn am y 3 blynedd 2021/22 - 2023/24 wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.

 

Cyfeiriwyd at y ffynonellau i ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £3.7 miliwn ers yr adolygiad diwethaf ac ategwyd mai’r prif gasgliadau oedd bod y Cyngor gyda chynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £52.1 miliwn eleni, gyda £27.4 miliwn ohono, sef 53%, wedi’i ariannu trwy ddenu grantiau penodol.

 

Eglurwyd bod £22.1 miliwn o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2021/22 i 2022/23 a 2023/24, gyda’r prif gynlluniau yn cynnwys:

·         £6.2 miliwn Cynlluniau Strategaeth Tai

·         £5.8 miliwn Cynlluniau Atal Llifogydd

·         £5.4 miliwn Cynlluniau Ysgolion Ganrif 21 ac Eraill (unfed ganrif ar hugain)

 

Tynnwyd sylw at y prif gynlluniau ynghyd a rhestr grantiau ychwanegol y llwyddodd y Cyngor eu denu ers yr adolygiad diwethaf oedd yn cynnwys:

·         £2.3 miliwn Grant Cynnal a Chadw Ysgolion

·         £1.4 miliwn Grant Llywodraeth Cymru tuag at Atal Llifogydd

·         £0.4 miliwn Grant Cronfa Symbyliad Economaidd

·         £0.3 miliwn Grant Gofal Plant Ysgol Treferthyr.

 

Yng nghyfarfod o’r Cabinet (18 Ionawr 2022)  penderfynwyd derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r holl argymhellion.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod yr adroddiad yn adlewyrchu newyddion da

·         Llongyfarch y staff hynny sydd yn chwilio ac yn llwyddo i ddenu arian ychwanegol - y swm sylweddol iawn  ac yn fuddsoddiad yng nghymwysterau’r Cyngor

 

Mewn ymateb i gwestiwn am gynlluniau 2022/23 sydd wedi eu hail  broffilio ers y gyllideb wreiddiol (a bod y ffigwr yr un fath o flwyddyn i flwyddyn) ac a yw goblygiadau costau / prisiau yn codi wedi ei adeiladu mewn i’r cynllun neu lithriad tebygol, nodwyd bod chwyddiant ar ei lefel uchaf ers blynyddoedd maith ac felly, tra bod swm penodol yn y gyllideb ar gyfer eitemau cyfalaf, mae'n cyfyngu pa mor bell all yr arian fynd. Cyfeiriwyd at drafodaeth yn y Cabinet yn Hydref 2021 ar adolygiad cyllideb gyfalaf ddiwedd Awst lle nododd y Prif Weithredwr bod penderfyniad bwriadol wedi ei wneud i geisio llithro rhai cynlluniau cyfalaf gan aros i sefyllfa prisiau, megis coed, sefydlogi. Ategwyd bod adlewyrchiad o’r llithriadau wedi eu cynnwys yn y ffigyrau.

 

PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r risgiau perthnasol yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor a’i Adrannau

·         Derbyn penderfyniad y Cabinet 18/01/2022

 

8.

TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 103 KB

I dderbyn y wybodaeth, ystyried risgiau cyffredinol sy’n deillio o’r llithriadau, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt y sefyllfa arbedion

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y trosolwg arbedion
  • Derbyn penderfyniad y Cabinet 18/01/2022

 

Cofnod:

Croesawyd Mr Dewi Morgan i’r cyfarfod yn ei rôl  newydd fel Pennaeth Cyllid

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid a nodwyd ers 2015/16, fel rhan o strategaeth ariannol y Cyngor, bod gwerth £35m o arbedion wedi eu cymeradwyo i’w gwireddu ar gyfer y cyfnod 2015/16 - 2021/22. Adroddwyd, wrth gyfeirio at y cynlluniau arbedion am y cyfnod o’r flwyddyn ariannol 2015/16 hyd at y flwyddyn ariannol 2020/21 lle ymddengys bod 96%, sef dros £32 miliwn o’r £34 miliwn o arbedion, wedi eu gwireddu. Y prif gynlluniau sydd eto i’w cyflawni yw cynlluniau gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol.

 

Ategodd y Pennaeth Cyllid, gydag Adrannau’r Cyngor wedi canolbwyntio ar ymateb i’r argyfwng ers Ebrill 2020 bod effaith Covid19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd.

 

Adroddwyd bod 45% o arbedion 2021/22, y flwyddyn ariannol gyfredol, wedi eu gwireddu sydd o werth £436k, allan o gyfanswm o £967k. Ategwyd mai’r adrannau sydd gyda’r gwerth uchaf o ran cynlluniau eto i’w cyflawni yw’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant.

 

Cydnabuwyd bod gwireddu gwerth £32.8m o arbedion (allan o gyfanswm o £35 miliwn) ers Ebrill 2015 wedi bod yn heriol ac er bod cynlluniau arbedion gwerth £1m, sydd wedi eu hoedi yn symud yn eu blaen, ystyriwyd bod rhai risgiau i gyflawni gwerth £0.8m o gynlluniau.

 

Yng nghyd -destun cynlluniau ariannol 2022/23  adroddwyd bod adolygiad diweddar o’r cynlluniau arbedion sydd wedi eu rhaglennu ar gyfer 2022/23  wedi ei weithredu gan y Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr Corfforaethol a Swyddogion Cyllid. Amlygwyd bod rhaid  cydnabod fod y sefyllfa bellach wedi newid cymaint fel na ellid cyflawni dau gynllun arbedion gwerth £489,750 - Cynllun ‘Adolygiad Dechrau i’r Diwedd’ gwerth £279,750 yn yr Adran Plant a Theuluoedd a’r Cynllun ‘Trosglwyddo Meysydd chwarae i eraill’ gan yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol.  Yng nghyfarfod y Cabinet 18 Ionawr 2022, penderfynwyd dileu’r ddau gynllun yma o’r gyllideb ac ail-broffilio rhai cynlluniau arbedion (gwerth £1,290,250) i 2023/24 a blynyddoedd dilynol.  Nodwyd mai £595,000 oedd gwerth arbedion y cynlluniau sy’n weddill i’w tynnu o gyllideb 2022/23.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

                PENDERFYNIAD:

 

·         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y trosolwg arbedion

·         Derbyn penderfyniad y Cabinet 18/01/2022

 

9.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 461 KB

Ystyried yr adroddiad, sylwebu ar y cynnwys a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi’u cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol

 

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad
  • Cefnogi gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith archwilio mewnol am y cyfnod o 1 Tachwedd 2021 hyd 30 Ionawr 2022. Amlygwyd bod 7 o archwiliadau’r cynllun gweithredol wedi eu cwblhau ynghyd ag un archwiliad grant.

 

Cyfeiriwyd at bob archwiliad yn ei dro - nid oedd unrhyw fater yn codi

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

 PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr adroddiad

·         Cefnogi gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol

 

10.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2021/22 pdf eicon PDF 449 KB

Diweddaru’r Pwyllgor ar y cynnydd yn erbyn Cynllun Archwilio Mewnol 2021/22

 

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Archwilio 2021/22

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau Cynllun Archwilio Mewnol 2021/22. Cyfeiriwyd at statws y gwaith ynghyd a’r amser a dreuliwyd ar bob archwiliad. Amlygwyd, hyd at ddiwedd Ionawr 2022 bod 45.24%, allan o’r 42 archwiliad unigol sydd yn y cynllun, bod 19 wedi ei ryddhau yn derfynol.

 

Adroddwyd bod 14 archwiliad wedi eu canslo a hynny oherwydd cyfeirio staff o’r Uned i gynorthwyo gyda’r Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu a chynorthwyo’r  Gwasanaeth Budd dal i ddelio gyda thaliadau Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf a Thaliadau Cymorth Hunan-ynysu.

 

Nodwyd bod bwriad cyflwyno Cynllun Archwilio 2022/23 i’r Pwyllgor nesaf

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Archwilio 2021/22

 

11.

CYLLIDEB 2022/23 pdf eicon PDF 110 KB

I ystyried y gyllideb y bwriedir ei argymell gan y Cabinet i’r Cyngor i’w graffu gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynnwys
  • Derbyn priodoldeb ariannol y cynigion a’r risgiau perthnasol
  • Cyflwyno sylwadau o’r drafodaeth ar yr opsiynau i’r Cabinet eu hystyried wrth drafod Cyllideb 2022/23 yn eu cyfarfod 18/2/22

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant drafft o 8.8%, sy’n cyfateb i werth £18.1m mewn ariannu allanol (cyfartaledd ledled Cymru yn 9.4%) ar gyfer 2022/23 sy’n welliant arwyddocaol ar yr hyn a dderbyniwyd mewn blynyddoedd blaenorol.  Er derbyn setliad rhesymol eleni, adroddwyd y byddai nifer o ffactorau yn creu pwysau gwariant ychwanegol ar wasanaethau’r Cyngor yn 2022/23.  Yn ogystal â chyfarch graddfa chwyddiant uwch nag y bu ers sawl blwyddyn, bod cyfle i ymdrin â phwysau gwario ehangach gan gynnwys mynd i’r afael â chostau parhaus sy’n deillio o’r argyfwng Covid-19, a dileu neu ohirio cynlluniau arbedion nad yw’n ymarferol i’w gwireddu yn 2022/23.

 

Ceisir penderfyniad y Cabinet yn ei gyfarfod 15/02/22 i argymell i’r Cyngor Llawn 3/03/22 sefydlu cyllideb o £295.2m ar gyfer 2022/23 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £213.2m, £82m o incwm o’r Dreth Cyngor (gyda chynnydd o 2.95%)  a sefydlu rhaglen gyfalaf o £59m yn 2022/23.

 

Eglurwyd bod Gofynion Gwario Ychwanegol wedi eu hystyried yn y gyllideb (cyfanswm o £20.2m)  gan amlygu pedwar pennawd o gynnydd yn arbennig.

·         Chwyddiant Cyflogau o £8.5m – y gyllideb yn neilltuo amcan gynnydd yng nghytundeb tâl 2022/23 o 4% ar gyfer yr holl weithlu ynghyd a  chynnydd o 1.25% mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol fydd yn weithredol o Ebrill 2022.

·         Chwyddiant Arall o £4m - Swm sy’n cynnwys effaith y ‘cyflog byw’ ar gostau a ffioedd taladwy i gyflenwyr preifat ynghyd â chynnydd chwyddiant ar gyllidebau tanwydd ac ynni a chynnydd prisiau yn dilyn ail-dendro.

·         Pwysau ar Wasanaethau o £6.7m - argymhell cymeradwyo bidiau gwerth £6.7m am adnoddau parhaol ychwanegol a gyflwynwyd gan adrannau’r Cyngor i gwrdd â phwysau anorfod ar eu gwasanaethau.  Yn ychwanegol i’r bidiau parhaol, argymhellwyd cymeradwyo bidiau ‘un-tro’ gwerth £6.2m i’w ariannu o’r Gronfa Trawsnewid. Nodwyd bod y bidiau a gyflwynwyd wedi eu herio’n drylwyr gan y Tîm Arweinyddiaeth cyn eu hargymell i’w cymeradwyo gan y Cabinet.

·         Pwysau Covid-19 o £1.4m.  Ers Ebrill 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi digolledu awdurdodau lleol am gostau ychwanegol a cholled incwm o ganlyniad i’r pandemig allan o’r Gronfa Caledi (cyfanswm y cymorth gan y Llywodraeth oddeutu £20m yn 2020/21, ac oddeutu £14.4m yn ystod 2021/22). Fodd bynnag, mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru wedi datgan yn ddiamwys y byddai’r cymorth hwn yn dod i ben 31 Mawrth 2022 a bydd angen i’r awdurdodau lleol ariannu unrhyw gostau ychwanegol / colled incwm yn sgil Covid-19 wedi hynny. Nodwyd, er bod £1.4m wedi ei ddarparu er mwyn sefydlu cronfa gorfforaethol, i ddygymod â’r sefyllfa, nid oedd y Pennaeth Cyllid yn  rhagweld y byddai’n ddigonol ynddo’i hun i ymdrin â’r pwysau, ond amlygodd bod cronfeydd eraill ar gael i gynorthwyo.  Ategwyd bod Cronfa Adfer Covid wedi ei sefydlu wrth gau cyfrifon 2020/21 i’r perwyl hyn, a gellid gwneud defnydd o’r Gronfa Strategaeth Ariannol pe byddai angen.

 

Yng nghyd-destun y cynlluniau arbedion, nodwyd bod Cyngor Gwynedd wedi gwireddu dros £32.8m o gynlluniau arbedion ers 2015/16. O ganlyniad i’r hyblygrwydd mae’r setliad yn ei gynnig, nodwyd y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

STRATEGAETH GYFALAF 2022/23 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYG) pdf eicon PDF 544 KB

I dderbyn y wybodaeth, ystyried unrhyw risgiau sy’n codi o’r strategaeth cyn iddi gael ei chyflwyno i’r Cyngor llawn ei derbyn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad  gan nodi’r wybodaeth a’r risgiau perthnasol
  • Cefnogi bwriad yr Aelod Cabinet Cyllid i gyflwyno’r Strategaeth i’r Cyngor Llawn am gymeradwyaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn rhoi trosolwg ar weithgareddau Cyfalaf a rheolaeth trysorlys y Cyngor. Atgoffwyd yr Aelodau eu bod wedi derbyn cyflwyniad gan yr ymgynghorwyr ariannol, Arlingclose a oedd yn egluro’r manylder tu ôl i’r strategaeth mewn modd dealladwy a chynhwysfawr. Cyfeiriwyd at y gweithgareddau cyfalaf a thynnwyd sylw bod y Cyngor yn bwriadu gwneud gwariant cyfalaf o £64.1miliwn yn 22/23 gyda'r prif gynlluniau wedi ei rhestru yn yr adroddiad ynghyd a’r ffynonellau ariannu. Nodwyd mai’r adnoddau allanol yn bennaf yw Llywodraeth Cymru ac adnoddau ein hunain yw’r cronfeydd.  Daw gweddill o’r arian trwy fenthyciad fydd yn cael ei dalu nôl dros nifer o flynyddoedd, fel arfer o adnoddau refeniw neu o incwm gwerthiant asedau sydd yn gyson gyda gweithred y blynyddoedd blaenorol. Golygai hyn y bydd y dangosydd - Gofyn Cyllido Cyfalaf y Cyngor, yn £176.6 miliwn erbyn diwedd blwyddyn ariannol 22/23, sef y lefel y dylai benthyg tymor hir y cyngor aros odd itano.

 

Yng nghyd-destun y Strategaeth Fenthyca, amlygwyd yn ddiweddar nad oes gofyn benthyca tymor hir wedi bod, dim ond tymor byr ar gost isel dros ddiwedd y flwyddyn ariannol. Ategwyd y bydd hyn am barhau gyda dim benthyca tymor hir yn cael ei ragweld  ar gyfer gweithgareddau Cyngor Gwynedd, a bod dyled y Cyngor yn aros o dan y Gofyn Cyllido Cyfalaf.

 

Cyfeiriwyd at un newid i’r meincnod ymrwymiad lle cyflwynwyd effaith benthyca Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r angen i fenthyg yn y dyfodol. Nodwyd y byddai’n debygol bydd y Cydbwyllgor yn symud i’r Cyd Bwyllgor Corfforedig cyn gweld angen benthyg. O ganlyniad, bydd y Cyngor yn disgwyl i’w fenthyciadau fod yn uwch na’i feincnod ymrwymiad oherwydd bod gan y Cyngor lefel uchel o reserfau. 

 

Yng nghyd-destun strategaeth buddsoddi, polisi'r Cyngor yw blaenoriaethu diogelwch a hylifedd dros gynnyrch i sicrhau bod arian ar gael i dalu am wasanaethau’r Cyngor. Nodwyd bod £10m yn cael ei gadw i sicrhau hylifedd parhaus ac o ystyried y cyfnod ansicr a’r dychweliadau isel presennol, ystyriwyd bod cadw hylifedd a diogelwch yn flaenoriaeth.

 

Cyfeiriwyd at y rheolaeth risg a llywodraethu ynghyd â manylder ymrwymiadau tymor hir y Cyngor e.e., unioni diffyg y Gronfa Bensiwn, ac effaith o’r costau ariannu i’r llif arian. Cadarnhawyd hefyd bod y wybodaeth a sgiliau perthnasol gan y swyddogion ac mai Arlingclose fydd yn parhau i ddarparu gwasanaeth ymgynghorwyr ariannol i’r Cyngor am y blynyddoedd nesaf.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD:

 

·         Derbyn yr adroddiad  gan nodi’r wybodaeth a’r risgiau perthnasol

·         Cefnogi bwriad yr Aelod Cabinet Cyllid i gyflwyno’r Strategaeth i’r Cyngor Llawn am gymeradwyaeth

 

13.

GWEITHIO I'R DYFODOL A'R GEFNOGAETH LLESIANT MEDDYLIOL pdf eicon PDF 354 KB

Cyflwyno trosolwg o’r cynlluniau ar gyfer gweithio i'r dyfodol a nodi’r gefnogaeth a gynigir i staff yng nghyswllt llesiant meddyliol. Gwahoddir y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu i ystyried y wybodaeth a  gyflwynir

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiad gan nodi’r cynlluniau ar gyfer gweithio i’r dyfodol ynghyd a nodi’r gefnogaeth sydd yn cael ei gynnig i staff yng nghyswllt llesiant meddyliol

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol mewn ymateb i gais gan aelodau’r Pwyllgor i dderbyn gwybodaeth am gynlluniau’r Cyngor yng nghyswllt trefniadau gweithio i’r dyfodol a hefyd y ddarpariaeth ar gyfer cefnogi llesiant meddyliol staff.  Adroddwyd y byddai’r weledigaeth ar gyfer gweithio i’r dyfodol yn cael ei chyflwyno’n ffurfiol i gyfarfod o’r Cabinet ar y 15 o Chwefror 2022.

 

Adroddwyd bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal i drin a thrafod materion lles,  trefniadau gwaith ac o adeiladu ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau. Cyfeiriwyd at y prif yrwyr ar gyfer mabwysiadu trefniadau gweithio newydd ac at rai o’r egwyddorion oedd yn sylfaen ar gyfer trefniadau gweithio’n hyblyg. Pwysleisiwyd, petai amgylchiadau’r swydd yn caniatáu, bydd unrhyw drefniadau gweithio yn hyblyg yn wirfoddol i aelodau staff. Amlygwyd bod staff yn cael eu hannog i drafod eu sefyllfa yn rheolaidd gyda’u rheolwyr llinell gyda llesiant staff yn ganolog i’r trefniadau newydd. Yn dilyn cynnal ymgynghoriad gyda staff ac mewn ymateb i’r weledigaeth o weithio i’r dyfodol, nodwyd bod addasiadau ar waith i swyddfeydd er mwyn hwyluso’r drefn newydd  o weithio, i adolygu amodau gwaith a pholisïau cyflogaeth ac o ddarparu rhaglen hyfforddiant fyddai’n cynnwys sgiliau arwain a chynnal timau hybrid.

 

Nodwyd bod y weledigaeth yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth weithio o bell, gyda’r nod o alluogi 30% o weithlu Cymru i weithio yn agos / neu o’u cartrefi. Ategwyd bod y gefnogaeth a ddarperir ar gyfer llesiant ac iechyd staff gan y Cyngor yn cael ei gydnabod ar “Lefel Aur” Safon Iechyd Corfforaethol Llywodraeth Cymru.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Gweithlu wedi gorfod ymdopi gyda chostau gwres, trydan a ffôn dros gyfnod y pandemig - angen ystyried cyfraniadau treth incwm i’r dyfodol

·         Cyngor newydd mis Mai – sicrhau cysylltiad wyneb yn wyneb a’r gallu i gyd-drafod

·         Yng nghyd-destun lles staff, anodd adnabod problemau o weithio o adre

·         Cymeradwyo’r weledigaeth a’r pwyslais ar hyblygrwydd

·         Rhagweld cyfleoedd i weithwyr o Dde'r Sir i geisio am swyddicanolog

·         Angen sicrhau bod yr elfen o weithio mewn tîm yn cael ei gynnal

·         Cais i sicrhau bod prentisiaid yn cael cyfleoedd priodol o ddatblygu eu cymeriadau o gydweithio fel tîm

 

Mewn ymateb i sylw bod angen cwblhau gwaith sylweddol i wneud y swyddfeydd yn ddiogel, nodwyd mai'r Adran Tai Ac Eiddo sy’n arwain ar y gwaith ond eu bod megis dechrau adnabod yr angen ynghyd a siâp y swyddfeydd. Nodwyd bod un swyddfa eisoes wedi ei haddasu a dyma fydd y templed ar gyfer eraill.

 

Yng nghyd-destun treth incwm, nodwyd bod staff wedi cael eu hysbysu o reoliadau HMRC a chanran wedi manteisio ar gymorth / lwfans treth am weithio o adre. Yng nghyd-destun costau teithio a chyfeiriad yn yr adroddiad, ‘bydd gan bob aelod o staff safle gwaith corfforaethol enwebedig o hyd, a gallent hawlio treuliau teithio a chynhaliaeth ohoni, ac felly ni fydd newid i’r polisi presennol ar hawlio costau teithio’, nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gydag  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.

14.

ADRODDIADAU ARCHWILIO CYMRU pdf eicon PDF 210 KB

Rhoi diweddariad i’r pwyllgor ar raglen waith Chwarter 3 Archwilio Cymru ac adroddiadau sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  • Derbyn yr adroddiadau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd pedwar adroddiad gan Archwilio Cymru yn rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar raglen waith Chwarter 3 Archwilio Cymru ynghyd ag adroddiadau oedd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar.

 

Croesawyd Jeremy Evans  (Archwilio Cymru) i gyflwyno’r adroddiadau.

 

1.   Diweddariad Chwarterol - Chwarter 3 (hyd at 31ain Rhagfyr 2021)

 

Diweddariad chwarterol bellach yn rhan o’r drefn y Pwyllgor o dderbyn gwybodaeth am y gwaith sydd yn cael ei wneud yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

 

Derbyniwyd y wybodaeth

 

2.   Comisiynu Lleoliadau mewn Cartrefi Gofal i Bobl Hŷn

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn nodi canfyddiadau adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol o drefniadau ar gyfer comisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal ledled Gogledd Cymru. Gwnaed y gwaith fel rhan o raglen statudol gwaith archwilio lleol ym mhob un o’r awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru ac ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cyflwynwyd y canfyddiadau ynghyd ag argymhellion ar gyfer cryfhau’r dull o gomisiynu lleoliadau mewn cartrefi gofal a threfniadau cysylltiedig ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ar draws Gogledd Cymru.

 

Ar y cyfan canfu bod partneriaid yn gweithio’n unigol ac ar y cyd i ddarparu lleoliadau addas ond hefyd yn cario risgiau sylweddol. Un o’r risgiau a amlygwyd oedd strwythur y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol (BPRh) - er yn dod â phartneriaid ynghyd ifeddwl yn rhanbarthol’, y strwythur, a bennwyd i raddau helaeth gan Lywodraeth Cymru, yn helaeth a chymhleth, a bod angen cryfhau’r llinellau atebolrwydd.

 

Mewn ymateb, gwnaed sylw bod yr adroddiad yn amlygu gwendid polisi Llywodraeth Caerdydd sydd yn gorfodi gweithio yn rhanbarthol gan greu strwythur sy’n llesteirio’r Cyngor rhag gweithio yn effeithiol. Cyfeiriwyd at waith gan y Cyngor, sy’n cydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i sefydlu model gofal cartref newydd yng Ngwynedd fydd yn helpu pobl i fyw eu bywydau mor llawn â phosib yn eu cymuned. Bydd y model newydd yn gwella'r ffordd mae'r gwasanaeth gofal cartref yn cael ei drefnu a'i ddarparu yng Ngwynedd, drwy gadw’r trefniadau mor lleol â phosib. A yw hon yn drefn y dylid ei mabwysiadu ar draws y Gogledd?

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut mae craffu Strategaeth Comisiynu lleoliadau Gogledd Cymru ac os yw’n gyfrifoldeb ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu o fewn pob Cyngor unigol neu yn ehangach, nodwyd bod angen strwythur cadarn ac atebolrwydd clir - awgrym i edrych ar strwythur Bwrdd Uchelgais Economaidd neu esiamplau eraill da a’i hargymell i’r BPRh.

 

Diolchodd Morwena Edwards (Cyfarwyddwr Corfforaethol) am yr adroddiad gan nodi nad oedd y maes yn un hawdd i’w ddatgymalu gyda sawl trafodaeth wedi ei chynnal ynglŷn â gweithredu polisi Llywodraeth Cymru. Amlygodd bwysigrwydd darparu lleoliadau nyrsio a phreswyl mor lleol â phosib i’r mwyafrif, fel bod teulu a ffrindiau yn gefnogol i’r ddarpariaeth, ond derbyn yr angen i  gydweithio yn rhanbarthol i ddarparu gofal arbenigol. Ategwyd nad datrysiad gan un rhanbarth sydd yma. Rhaid cydweithio gyda chynghorau cysylltiol, ee, Ceredigion, Conwy  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14.