Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Anwen J. Davies, Trevor Edwards ac E. Selwyn Griffiths.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

4.

ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL pdf eicon PDF 98 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gohiriwyd trafod yr adroddiad yma yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor ar 1 Rhagfyr, 2015, oherwydd swmp y wybodaeth i alluogi’r aelodau i roi sylw priodol i’r adroddiad.

 

         Gosododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y cyd-destun, gan nodi y sefydlir trefn fwy trylwyr i alluogi’r Pwyllgor i fodloni ei hun bod y camau gweithredu i ymateb i gynigion gwella adroddiadau archwilwyr allanol wedi eu gweithredu.

 

Nodwyd y cyflwynir adroddiad o ran archwiliadau allanol bob 6 mis i’r Pwyllgor. Eglurwyd mai’r bwriad o dan y drefn newydd yw ystyried pob cynnig/argymhelliad yn unigol a pan fo’r Pwyllgor yn fodlon fod cynnig/argymhelliad wedi ei gwblhau neu nad yw bellach yn berthnasol gellir ei dynnu o’r rhestr.

 

Mewn ymateb i bryderon aelodau o ran cael sicrwydd gwirioneddol bod y camau gweithredu i gynigion gwella wedi eu gweithredu, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg bod rhaid ymddiried yng ngwaith y Penaethiaid Adran a’r swyddogion ond os yw’r Pwyllgor o’r farn bod angen eglurhad pellach gellir galw Aelodau Cabinet neu swyddogion gerbron.

 

Nododd y Prif Weithredwr mai rôl y Pwyllgor fel y rhai oedd yn gyfrifol am lywodraethu oedd cadw trac ar y camau gweithredu gan benderfynu os yw’n fodlon eu bod wedi eu cwblhau neu gyda’r cynnydd hyd yn hyn ac nid ail-wneud gwaith y Pwyllgorau Craffu.

 

Tywysodd y Rheolwr Cynllunio Strategol a Pherfformiad yr aelodau drwy’r atodiad a oedd yn nodi’r arolygiadau a gynhaliwyd gan archwilwyr allanol yn ystod y tair blynedd diwethaf ynghyd a’u cynigion ar gyfer gwella, y cynlluniau gweithredu i ymateb i’r cynigion gan yr archwilwyr ynghyd â’r cynnydd hyd yn hyn. Rhoddwyd sylw yn benodol i’r argymhellion lle nodwyd eu bod wedi eu cwblhau.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod rhai sylwadau yn hirfaith felly gofynnir am wybodaeth fwy cryno ar gyfer y dyfodol gan gyfeirio at brosiect yng nghynllun strategol y Cyngor pan fo’n berthnasol e.e. Arolwg Estyn;

·         Y dylid ystyried cynnwys dolenni i’r adroddiadau yn y tabl;

·         Tudalen 15 1.2.1 4i. Sicrhau bod gwasanaeth yn hybu annibyniaeth i bobl hyn - angen derbyn cadarnhad mai ond yng nghyswllt teleofal y cwblhawyd y gwaith;

·         Tudalen 20 1.2.2 ii. Cynllunio strategol gyda BIPBC yn y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) angen derbyn cadarnhad bod monitro’r gwasanaeth therapiwtig ar gyfer plant/pobl ifanc sy’n cael eu lleoli tu allan i ardal yr awdurdod yn digwydd;

·         Bod angen eglurdeb o ran arweinydd/cyfrifoldeb lle na nodir;

·         Tudalen 21 1.2.2 iii. Ymwybyddiaeth a defnydd o wasanaethau eiriolaeth – y dylid derbyn mwy o wybodaeth gan nad yw’r sylwadau yn cadarnhau bod cysondeb yn ansawdd y cynlluniau gofal;

·         Tudalen 23 1.2.2 iia. Cyfleoedd i fanteisio ar ofal iechyd a llety ar gyfer plant sy’n derbyn gofal (Llety) - y dylid derbyn cadarnhad o ran bwriadau'r Adran Plant a Theuluoedd yng nghyswllt ymateb i’r diffyg amrediad lleoliadau sydd ar gael i rai  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

TREFNIADAU CRAFFU'R CYNGOR pdf eicon PDF 232 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni yr adroddiad gan nodi yn dilyn trafod y mater yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 1 Rhagfyr, 2015, y derbyniwyd fersiwn derfynol o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) a oedd wedi ei gynnwys fel Atodiad 1.

 

         Tywysodd yr aelodau drwy Atodiad 2 a oedd yn nodi’r argymhellion gyda rhai ystyriaethau i’r Pwyllgor ei ystyried wrth lunio cynllun gweithredu i ymateb i’r argymhellion gan dynnu sylw y gofynnir i’r Pwyllgor ethol aelodau ar Is-grŵp a fyddai’n cynnwys yn ogystal aelodau o’r Fforwm Craffu a’r Dirprwy Arweinydd. Eglurwyd y byddai’r Is-grŵp yn llunio argymhellion i’w hystyried cyn i’r Cyngor gychwyn ar ei flwyddyn newydd yn Mai 2016.

 

         Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

·        Bod craffu yn ei ffurf bresennol yn aneffeithiol;

·        Bod rhai aelodau ers newid i’r drefn Gabinet yn amharod i gymryd rhan mewn craffu a’r angen i ddelio â hyn;

·        Un gwendid yn y drefn bresennol yw bod gormod o eitemau yn cael eu hystyried oherwydd ni herir pam ystyrir mater yn ddigonol ac o ganlyniad lleihad yn ansawdd y craffu;

·        Ei fod yn anodd cadw momentwm gwaith ymchwiliadau craffu;

·        Bod angen sicrwydd o ran pwrpas craffu;

·        Y gall craffu ychwanegu gwerth i’r broses os ail-lunnir y drefn graffu;

·        Bod hyfforddi aelodau yn holl bwysig;

·        Y dylid ystyried sefydlu trefn lle bod Pwyllgor Craffu yn gallu dethol o holl aelodau’r Cyngor (heblaw Aelodau Cabinet) o ran eu harbenigedd i gymryd rhan mewn ymchwiliad craffu;

·        Croesawir yr argymhellion.

 

         PENDERFYNWYD:

(i)     Cymeradwyo’r pwyntiau gweithredu’r drafft;

(ii)    Ethol y Cadeirydd, Is-gadeirydd a’r Cynghorydd John Wyn Williams ar yr Is-grŵp.