Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Aled Ll. Evans, Dilwyn Morgan, John Pughe Roberts, Gethin Glyn Williams a John Wyn Williams.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 298 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016, fel rhai cywir.

5.

DATGANIAD O GYFRIFON 2015/16 pdf eicon PDF 73 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, y datganiadau ariannol statudol (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2015/16.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid. Tynnwyd sylw mai cyfrifon drafft heb eu harchwilio a gyflwynir yma er gwybodaeth, gyda’r fersiwn terfynol i’w gyflwyno er cymeradwyaeth y Pwyllgor yng nghyfarfod 29 Medi 2016. Manylwyd ar eu cynnwys ac ymatebwyd i ymholiadau cyffredinol yr aelodau. Adroddwyd bod cyfrifon 2013/14 wedi derbyn oddeutu 800 o ymweliadau ar y wefan a bod nifer o ymweliadau yng nghyswllt cyfrifon 2014/15 wedi cynyddu i oddeutu 900. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed rhagolygon o ran grantiau yn dilyn penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd yn dilyn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin, nododd y Pennaeth Cyllid bod Pennaeth Adran Economi a Chymuned yn edrych ar y mater o ran grantiau o Ewrop ac mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd na ellir rhagweld beth ddigwyddith o ganlyniad i’r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd a bod nifer o ffactorau yn effeithio ar yr economi.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod, nododd yr Uwch Reolwr Cyllid bod y tîm o gwmni Deloitte, oedd yn cynnal yr archwiliad ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn cyd-weithio’n dda efo’r swyddogion Cyllid.

 

Diolchwyd i holl staff y Cyngor sydd ynghlwm â pharatoi’r cyfrifon am eu gwaith caled a manwl.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2015/16.

 

6.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2015/16 pdf eicon PDF 202 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, adroddiad y Rheolwr Buddsoddi ar ganlyniadau gwir weithgarwch benthyg a buddsoddi’r Cyngor yn y flwyddyn ariannol hyd at 31 Mawrth 2016.

 

Cofnod:

Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi ar wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor yn ystod 2015/16, yn erbyn y strategaeth a sefydlwyd am y flwyddyn ariannol honno. Manylwyd ar y cefndir economaidd, y gofyn benthyca a rheoli dyledion, gweithgarwch buddsoddi a chydymffurfiaeth â’r dangosyddion darbodus.

 

Tynnwyd sylw bod angen cywiro paragraff cyntaf yr adroddiad yn y fersiwn Gymraeg i nodi fod cyfanswm y llog a dderbyniwyd ar fuddsoddiadau yn llai na’r amcan ffigwr gwreiddiol yn y gyllideb.

 

Adroddwyd bod y Cyngor wedi adennill 98% o’i fuddsoddiadau ym manc Heritable a rhagwelir derbyn dosraniadau pellach. Nodwyd yn gyson â’r hyn adroddwyd ers 2008, fe ddylid adennill y swm llawn, ond nid yw’r amseriad wedi ei gadarnhau gan ei fod yn ddibynnol ar ganlyniad achos llys sy’n parhau.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Buddsoddi bu gweithgarwch benthyca’r Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn parthed llog ar fenthyciadau hanesyddol, nododd y Pennaeth Cyllid yr asesir y sefyllfa o ran benthyciadau hanesyddol yn barhaus. Eglurodd bod premiwm (cosb) adbryniant yn gallu bod yn fwy na’r buddiant o’u terfynu, a bod y benthyciadau hŷn gyda llog uwch yn dod i ben yn raddol. Tynnodd y Rheolwr Buddsoddi sylw mai 5.4% oedd cyfradd cyfartaledd llog benthyciadau’r Cyngor erbyn hyn, gan fod rhai o’r benthyciadau hanesyddol wedi eu had-dalu.

 

Holodd aelod os derbyniwyd llog ar yr arian ym Manc Heritable, ynteu ond yr arian a fuddsoddwyd. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Buddsoddi y gwnaed hawliad am y llog perthnasol i’r cyfnod dyledus cyn i’r banc fethdalu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth.

7.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL 1/4/16 - 30/6/16 pdf eicon PDF 536 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod. Nodwyd bod 14 adroddiad am archwiliadau o’r cynllun gweithredol wedi ei gwblhau, 1 archwiliad o gynllun archwilio 2015/16 a 4 archwiliad dilyniant.

                        

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol.

 

Cyfeiriodd aelod at archwiliadau diogelwch gwybodaeth mewn ysgolion cynradd gan nodi bod 4 pwynt bwled yr un fath ar gyfer yr ysgolion â'i fod yn rhagdybio bod hyn yn wir ar gyfer bob ysgol yng Ngwynedd. Nododd ei siomedigaeth nad oedd y camau wedi eu cymryd yn barod gan yr Adran Addysg.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod y dylai ysgolion ddefnyddio llarpiwr yn hytrach na defnyddio sachau dinistrio data, nododd y Rheolwr Archwilio ei fod yn fater i’r ysgol unigol benderfynu ar y ffordd ymlaen ond mi fyddai o bosib yn well defnyddio llarpiwr.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Ebrill 2016 i 30 Mehefin 2016 a chefnogi’r argymhellion a gyflwynwyd eisoes i reolwyr y gwasanaethau perthnasol er gweithrediad.

8.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2016/17 pdf eicon PDF 389 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio ar y cynnydd ar Gynllun Archwilio Mewnol 2016/17.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau cynllun archwilio mewnol 2016/17.

 

Adroddwyd bod yr Uned Archwilio Mewnol wedi rhagori targed chwarter 1 gyda 14 adroddiad terfynol wedi ei rhyddhau, sef 17.5% o archwiliadau’r cynllun o gymharu â’r targed o 8%.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan aelod, nododd y Rheolwr Archwilio y cynhelir archwiliad ar drefniadau’r Uned Iechyd Anifeiliaid o fewn y Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd ar gais y Pennaeth Rheoleiddio i edrych os gellir cynnal y gwasanaeth a ddarperir yn bresennol yn dilyn lleihad yn y gyllideb. Pwysleisiodd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg mai ymgymryd ag adolygiad o’r trefniadau o fewn yr Adran Rheoleiddio y byddai Archwilio Mewnol yn ei wneud, nid cynnal profion iechyd anifeiliaid.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2016/17.