skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2017/18.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd R. Medwyn Hughes yn Gadeirydd y Pwyllgor am 2017/18.

 

 

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2017/18.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd John Brynmor Hughes yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am 2017/18.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts a’r Cynghorwyr Anwen Davies, Anne Lloyd Jones, Eryl Jones-Williams, W. Roy Owen a Mair Rowlands (Aelodau Lleol).

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 337 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2017, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2017, fel rhai cywir.

7.

SWYDDOGAETH Y PWYLLGOR ARCHWILIO A LLYWODRAETHU pdf eicon PDF 222 KB

Cyflwyno adroddiad Uwch Reolwr Refeniw a Risg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cyflwyniad gan yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg ar y swyddogaethau i’w cyflawni gan y Pwyllgor. Tynnodd sylw yr adnabyddir y pwyllgor bellach fel y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, nodwyd bod y newid enw yn adlewyrchu esblygiad rôl a swyddogaethau’r pwyllgor ers sefydlu’r Pwyllgor Archwilio yn 1999. Nododd, yn dilyn penderfyniad y Cyngor yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2017, fod gan y pwyllgor swyddogaeth ychwanegol o graffu ar faterion yn ymwneud â gweithrediad mewnol y Cyngor.

 

Tynnodd sylw y cynhelir hyfforddiant i aelodau’r pwyllgor ar gyfrifoldebau’r pwyllgor ar 14 Mehefin. Eglurodd yn ddelfrydol y byddai’r aelodau wedi derbyn hyfforddiant cyn y cyfarfod cyntaf ond nid oedd yn bosib oherwydd yr angen i drefnu’r cyfarfod yma er mwyn i’r Cyngor ymateb yn amserol i’r Comisiwn Ffiniau yng nghyswllt adolygiad o ffiniau etholaethol Gwynedd.

 

Cyflwynodd Drefniadau Gweithredu drafft y Pwyllgor er sylwebaeth a’u mabwysiadu. Rhoddodd fanylion am y Trefniadau Gweithredu drafft newydd sy’n seiliedig ar ofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 a’r Canllawiau Statudol a baratowyd i’w gefnogi. Pwysleisiodd nad oedd y pwyllgor yn bwyllgor craffu yn ôl gofynion y ddeddf ac mai rôl ychwanegol oedd y rôl craffu. Eglurodd bod y pwyllgor yn unol â’r mesur wedi bod yn craffu materion ariannol ond y byddai’r pwyllgor o hyn ymlaen hefyd yn craffu materion yn ymwneud â gweithrediad mewnol y Cyngor megis strategaethau corfforaethol, partneriaethau, ymgysylltu, trawsnewid busnes, trefniadau effeithlonrwydd a’r gweithlu. Nododd y cynhelir gweithdy anffurfiol i aelodau’r pwyllgor, ar ôl cyfarfod ffurfiol y Pwyllgor ar 22 Mehefin, er mwyn adnabod materion craffu ar gyfer y flwyddyn.

 

Nododd aelod ei bod yn falch bod y pwyllgor yma yn ymgymryd â’r rôl craffu ychwanegol gan gymryd trosolwg lefel uchel ar weithrediadau’r Cyngor.

           

Holodd aelod parthed y gofyn ar y pwyllgor i godi ymwybyddiaeth ar draws y Cyngor am faterion sy’n ymwneud â rheoli risgiau, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol er mwyn cyflawni ei rôl yn gyflawn. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg mai un ffordd roedd y pwyllgor yn codi ymwybyddiaeth oedd trwy’r Gweithgor Gwella Rheolaethau, lle galwir swyddogion gerbron os oedd y pwyllgor yn anfodlon gyda trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol neu llywodraethu o fewn adrannau’r Cyngor.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed cadw cysondeb o ran trefniadau paratoi pwyllgorau craffu a threfniadau’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wrth ymgymryd â’r rôl craffu ychwanegol, nododd Rheolwr Aelodau - Gwasanaeth Democrataidd y cynhelir gweithdy i adnabod materion i’w craffu gan y pwyllgor ar gyfer blaenraglen am y flwyddyn yn unol â’r trefniadau ar gyfer y pwyllgorau craffu. Nodwyd bod y drefn o gynnal cyfarfodydd paratoi 5 wythnos cyn cyfarfodydd y pwyllgorau craffu wedi dod i ben ac fe gynhelir cyfarfod i baratoi ar gyfer eitemau i’w craffu yn y cyfarfod dilynol ar derfyn cyfarfod pwyllgor, byddai’r trefniant yma hefyd ar gyfer y pwyllgor yma.

 

Nododd aelod mai sylfaen gweithredu’r pwyllgor ddylai fod trosolwg o ran risg i’r Cyngor yn hytrach na materion unigol. Ategodd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y sylw gan nodi mai trosolwg o  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADOLYGIAD O FFINIAU ETHOLAETHOL GWYNEDD pdf eicon PDF 365 KB

Cyflwyno adroddiad Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol).

 

Aelodau Lleol a effeithir gan y cynigion (nad ydynt yn aelodau o’r Pwyllgor) yn derbyn gwahoddiad: Y Cynghorwyr Cai Larsen, Roy Owen, Jason Parry, Ioan Thomas, Steve Collings, Keith Jones, Nigel Pickavance, Mair Rowlands, Catrin Wager, Glyn Daniels, Linda Ann Jones, Anne Lloyd Jones, Dewi Owen, Mike Stevens, Simon Glyn, Sian Wyn Hughes, W. Gareth Roberts, Gareth Williams, Freya Bentham, Eryl Jones-Williams, Annwen Hughes, Elfed Roberts, Elwyn Jones, Peter Garlick, Edgar Wyn Owen, Craig ab Iago, Dilwyn Lloyd, Eric M. Jones, Owain Williams, Anwen Davies, Elwyn Edwards, Louise Hughes, Beth Lawton a Alwyn Gruffydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) yr adroddiad, gan nodi bod y Cyngor Llawn, yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth, wedi derbyn adroddiad ar yr adolygiad. Eglurodd bod yr amserlen o ran cyflwyno cynigion drafft i’r Comisiwn Ffiniau gan y Cyngor wedi ei ymestyn i ganol mis Mehefin oherwydd y cyfnod etholiadol.

 

Nododd y gofynnir i’r pwyllgor ystyried y cynigion drafft a’r opsiynau posib a nodir yn yr adroddiad gerbron gan argymell i’r Cyngor Llawn, a fyddai’n cyfarfod ar 15 Mehefin,  gynigion gan y Cyngor i’r Comisiwn Ffiniau. Yn ogystal, argymell i’r Cyngor Llawn y dylid pwyso eto ar y Comisiwn Ffiniau i roi sylw i anghenion cynrychiolaeth leol effeithiol ac effaith y boblogaeth oedd ddim ar y gofrestr etholwyr wrth lunio ei gynigion.

 

Tynnodd sylw bod y Comisiwn Ffiniau wedi cynnig mai’r cyfartaledd o etholwyr i bob aelod yng Ngwynedd fyddai 1,243 o etholwyr. Nododd bod pob etholaeth yn wahanol ac nid oedd yn ymarferol glynu yn rhy llym at y ffigwr hynny ym mhob achos. Nod y cynigion drafft oedd caniatáu amrywiaeth o hyd at 25% uwchben neu o dan y nifer hynny, ar sail y math o amrywiaeth yr oedd y Comisiwn wedi ei ganiatáu yn y gorffennol.

 

Nododd mai egwyddor arall oedd wrth wraidd y cynigion gerbron oedd ceisio lleihau’r nifer o etholaethau dau aelod yn y sir. Eglurodd mai barn y Cyngor oedd y dylid cael etholaethau un aelod er mwyn symleiddio atebolrwydd i etholwyr lle mae daearyddiaeth a natur cymunedau yn caniatáu hynny.

 

Adroddodd bod yr opsiynau wedi eu trafod i wahanol raddau gyda’r Aelodau Lleol perthnasol ac fe ymgynghorwyd â’r Cynghorau Cymuned.

 

Tywysodd yr aelodau drwy’r adroddiad gan ofyn iddynt fynegi barn ar y cynigion a gwahoddwyd yr Aelodau Lleol a oedd yn bresennol i gyflwyno sylwadau.

 

Dolbenmaen / Porthmadog (Tremadog)

 

Nodwyd bod y ddwy etholaeth yn rhai, lle ni awgrymir newid ar hyn o bryd, ond y gallai’r Comisiwn Ffiniau ystyried eu newid, os nad eleni, yn sicr erbyn yr adolygiad a fyddai’n digwydd ar ôl etholiadau 2022. Os cyfyd yr angen i newid, yr unig bosibilrwydd y gellid ei ystyried oedd rhannu ward Porthmadog (Tremadog) fel bod rhai o’r wardiau cymunedol yn ymuno ag etholaeth Dolbenmaen ac eraill yn symud i un o ddwy etholaeth arall Porthmadog gan arwain at leihad o 1 sedd. Gofynnwyd i’r aelodau am eu barn o ran argymell newid neu adael y mater i’r Comisiwn.

 

Nododd aelod lleol Dolbenmaen y byddai unrhyw newid a ystyrir yn golygu ychydig iawn o newid o ran niferoedd etholwyr. Byddai ymestyn y ffin tuag at Cwmstradllyn efallai’n balansio’r niferoedd ond byddai ymestyn y ffin i Pwllgoleulas yn golygu gormod o symudiad un ffordd o ran ward Dolbenmaen.

 

Nododd aelod lleol Porthmadog (Tremadog) bod ardal ddaearyddol y ward yn ei ffurf bresennol yn golygu pellter rhwng Penmorfa a’r Wyddfa. ‘Roedd o’r farn bod yr hyn a ystyrir ddim yn rhoi ystyriaeth i’r problemau pragmataidd a oedd yn wynebu pobl wledig a symudiadau cymdeithasol. Nododd os argymhellir newid fe fyddai Pant Glas  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYFRIFON TERFYNOL 2016/17 – ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 119 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid, nododd bod sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2016/17 yn galonogol o fewn yr hinsawdd ariannol heriol. Diolchodd i’r  swyddogion cyllidol am eu gwaith manwl a’u cymorth i’r adrannau.

 

Manylodd Uwch Reolwr Cyllid ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynir i’r Cabinet yn ei gyfarfod yn y prynhawn. Tynnwyd sylw at yr argymhelliad i’r Cabinet:

 

“1.1   Cymeradwyo a nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2016/17.

1.2      Cymeradwyo’r symiau i’w cario 'mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef:

 

ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

(100)

Plant a Theuluoedd

0

Addysg

(48)

Economi a Chymuned

(19)

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

0

Amgylchedd (Rheoleiddio gynt)

(38)

Ymgynghoriaeth Gwynedd

(96)

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(45)

Cyllid

(67)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(56)

 

1.3      Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u egluro yn Atodiad 2) –

 

·         Defnyddio (£46k), sef tanwariant uwchlaw £100k Oedolion, Iechyd a Llesiant i gyfrannu tuag at ddiffyg mewn adran arall.

·         Clirio gorwariant yr Adran Plant a Theuluoedd er mwyn caniatáu iddynt symud ymlaen i wynebu her 2017/18, a'i ariannu drwy ail gyfeirio tanwariant yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant (£46k) a thanwariant Corfforaethol (£151k).

·         Clirio gorwariant yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol er mwyn caniatáu iddynt symud ymlaen i wynebu her 2017/18, a'i ariannu drwy ail gyfeirio tanwariant Corfforaethol (£88k).

·         Defnyddio’r tanwariant £939k ar Gyllidebau Corfforaethol am 2016/17 fel a ganlyn:

-   £151k i glirio gorwariant Adran Plant a Theuluoedd

-   £88k i glirio gorwariant Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol

-   £700k i’w glustnodi mewn cronfa er mwyn cyfrannu tuag at Strategaeth Ariannol i'r dyfodol.

 

1.4     Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol a rhyddhau’r ddarpariaeth fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o gronfeydd a darpariaethau.

 

1.5   Datgan i’r adrannau mai dim ond mewn amgylchiadau arbennig iawn y bydd y Cabinet yn clirio gorwariant i’r dyfodol, ac y bydd disgwyl i adrannau gario unrhyw orwariant ymlaen yn y dyfodol (yn unol a’r drefn o gario tanwariant ymlaen).”

 

Nododd y Pennaeth Cyllid y cyflwynir datganiadau ariannol statudol 2016/17 gerbron y Pwyllgor i’w cymeradwyo ar 13 Gorffennaf ond fod yr adroddiad alldro gerbron yn darparu darlun ariannol mwy eglur. Nododd bod cryn ansicrwydd ynglŷn â lefel ariannu grant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19 a thu hwnt. Adroddodd y cynhaliwyd adolygiad o holl gronfeydd y Cyngor wrth gau’r cyfrifon eleni ac fe gynaeafwyd £1.060m o adnoddau. Eglurodd y byddai neilltuo £1.76m mewn cronfa benodol yn rhoi amser i’r Cyngor gynllunio er mwyn ymateb yn briodol yn yr hydref yn dilyn derbyn cadarnhad o lefel ariannu grant Llywodraeth Cymru.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nododd yr aelodau'r prif sylwadau canlynol:

·         Llongyfarch yr adrannau ar eu rheolaeth ariannol dynn. A oedd disgwyliad i’r adrannau i barhau i danwario?

·         A oedd gorwariant yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd oherwydd materion tu hwnt i reolaeth yr Adran ac oedd y tanwariant yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant oherwydd methiant i ddarparu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

RHAGLEN GYFALAF 2016/17 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN pdf eicon PDF 117 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn rhoddi manylion ar adolygiad diwedd y flwyddyn o’r rhaglen gyfalaf.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet Adnoddau y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynir i’r Cabinet yn y prynhawn. Nodwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i wario dros £29m yn 2016/17 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £11m wedi’i ariannu trwy ddenu grantiau penodol, sef 77% o’r cyfanswm gwariant. Cadarnhawyd y byddai £9.4m o gyllideb gwariant yn llithro o 2016/17, o’i gymharu â llithriad o £9.5m ar ddiwedd 2015/16. Ni achoswyd unrhyw golled ariannol grant i’r Cyngor ble gwelwyd cynlluniau yn llithro.

 

Tynnodd sylw y gofynnir i’r Cabinet gymeradwyo dyraniad o £100,000 ar gyfer gwaith rhagbaratoi a chynllunio i adolygu’r ddarpariaeth addysg yn ardal Bangor o ganlyniad i amserlen gaeth Llywodraeth Cymru fel rhan o gynllun Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain. Adroddodd y Pennaeth Cyllid y cyflwynir adroddiad yng nghyswllt rhaglen gyfalaf hir dymor y Cyngor gerbron y pwyllgor ar ôl yr haf.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     Nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor;

(ii)    Argymell i’r Cabinet dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r argymhellion.

11.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL 30/1/17 - 31/3/17 pdf eicon PDF 607 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod. Nodwyd bod 13 adroddiad am archwiliadau o’r cynllun gweithredol wedi ei gwblhau, 3 adroddiad arall (memoranda ayb) a 3 archwiliad dilyniant.

                        

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol ac yn ystod y drafodaeth cyfeiriwyd at y materion canlynol

 

Diogelu Rhag Colli Rhyddid

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed y risgiau ynghlwm â’r maes yma, nododd y Rheolwr Archwilio bod y maes yn un sensitif ac anodd a bod hithau wedi mynychu hyfforddiant ar y maes lle amlygwyd y risgiau sylweddol i’r Cyngor. Nododd bod bid wedi ei gymeradwyo o ran cyflogi swyddogion i ddelio efo’r ceisiadau. ‘Roedd y swmp gwaith yn cynyddu gyda’r angen i’r Cyngor ddarparu hyfforddiant ar y maes i gartrefi preswyl y Cyngor ynghyd â rhai preifat. Nododd gan fod yr adroddiad wedi derbyn barn C fe fyddai gerbron y Gweithgor Gwella Rheolaethau lle gellir ystyried y cynnydd hyd yn hyn.

 

Trefn Gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Nododd aelod, er bod yr adroddiad wedi derbyn barn B, ei dymuniad i ystyried yr archwiliad yn y Gweithgor Gwella Rheolaethau. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio fe ellir trafod yr archwiliad yn y gweithgor os oedd y Pwyllgor yn dymuno.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed ei bryder am yr archwiliad gan ei fod dan yr argraff bod y materion a godwyd yn y gorffennol wedi eu datrys, nododd y Rheolwr Archwilio bod swyddog yn gyfrifol am gydlynu ymateb i gwynion ac roedd Uned Gofal Cwsmer yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant yn mynd i roi camau gweithredol mewn lle i ymateb i’r archwiliad ac fe obeithir y byddai gwelliant.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     derbyn yr adroddiad ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 30 Ionawr 2017 hyd at 31 Mawrth 2017 a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig a gyflwynwyd eisoes i reolwyr y gwasanaethau perthnasol;

(ii)    bod Cadeirydd ac Is-gadeirydd y pwyllgor, ynghyd â’r Cynghorwyr Stephen Churchman, Angela Russell a Cemlyn Williams i wasanaethu ar y Gweithgor i ystyried yr archwiliadau oedd wedi derbyn categori barn ‘C’ ynghyd â’r archwiliadTrefn Gwynion Gwasanaethau Cymdeithasoloedd wedi derbyn categori barn ‘B’;

(iii)  mai cyfrifoldeb unrhyw aelod na allai fod yn bresennol yn y Gweithgor oedd trefnu eilydd.

12.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PENNAETH ARCHWILIO MEWNOL 2016/17 pdf eicon PDF 676 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio.

Cofnod:

Nododd y Cadeirydd oherwydd cyfyngiad amser y dylid gohirio’r eitem tan y cyfarfod nesaf ar 22 Mehefin.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r eitem.

 

13.

BLAEN RAGLEN Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 211 KB

Cyflwyno adroddiad Uwch Reolwr Refeniw a Risg.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg oedd yn amlinellu rhaglen waith y Pwyllgor am y cyfnod hyd at Mai 2018.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth.