skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Aled Ll. Evans a Charles Wyn Jones.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 253 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2017, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2017, fel rhai cywir.

5.

CYLLIDEB REFENIW 2017/18 – ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER pdf eicon PDF 196 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid, a oedd yn nodi yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y disgwylir i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu graffu rhai materion ariannol gan gynnwys adroddiadau monitro cyllideb, lle’n briodol.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 16 Ionawr 2018.

 

Nododd, ar y cyfan, roedd adolygiad trydydd chwarter o’r cyllidebau yn adlewyrchu rheolaeth ariannol dderbyniol gan nifer o adrannau’r Cyngor, ond roedd cyfuniad o gamau gweithredu pendant i’r Adrannau Addysg, Oedolion, Iechyd a Llesiant, Plant a Theuluoedd, a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol, i sicrhau rheolaeth o’u cyllidebau erbyn 31 Mawrth 2018.

 

Tynnodd sylw at benderfyniad y Cabinet:

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y trydydd chwarter (sefyllfa 31 Rhagfyr 2017) o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn â materion o dan eu harweiniad / rheolaeth.

 

Penderfynwyd i gynaeafu (£270k) o danwariant Gostyngiad Treth y Cyngor, (£12k) tanwariant un-tro ar fidiau a (£803k) o ganlyniad i dderbyniad grant ac amgylchiadau ffafriol ar gyllidebau eraill y Cyngor, gan eu trosglwyddo i’r Gronfa Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda pwysau anochel un-tro ar gyllidebau’r Cyngor, gydag elfen ohono ar gyfer digolledu effaith gorwariant posib ar gludiant tacsis ysgolion ar ddiwedd y flwyddyn.”

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion a’r Aelod Cabinet i ymholiadau’r aelodau fel a ganlyn:

·        Mewn cyd-destun, gwariant gros dros £5m, nid oedd y gorwariant o £198,000 o dan y pennawdArlwyaeth a Glanhauyn yr Adran Addysg yn swm enfawr. Roedd y Cyngor wedi penderfynu darganfod arbedion drwy godi pris prydau ysgol er mwyn cynyddu incwm, adlewyrchir yn y ffigyrau bod yr incwm yn llai na’r hyn a ragwelwyd yn hytrach na bod gorwariant;

·        O ran y gorwariant o dan y pennawdCludiantyn yr Adran Addysg:

Ø  Cynhaliwyd trafodaethau hefo’r Adran Addysg a’r Adran Amgylchedd o ran datrysiadau amgen yn hytrach na defnyddio tacsis i gludo disgyblion i ysgolion. Gan fod y gorwariant yn anochel fe drosglwyddir arian pontio i’r Adran Addysg ar ddiwedd y flwyddyn ariannol;

Ø  Bod diffyg yn incwm gwerthiant tocynnau cludiant ôl-16, o ganlyniad i gost tocyn yn cynyddu roedd rhai disgyblion/myfyrwyr yn gwneud trefniadau amgen. Anfonir sylw aelod os oedd cyswllt rhwng y diffyg incwm â newid ym mholisi Cludiant ôl-16 y Cyngor i gyfradd unffurf am docyn, at y Pennaeth Addysg; 

·        Byddai’n rhaid i’r aelod gysylltu efo Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i dderbyn cadarnhad o ran i le y gwerthir deunydd ailgylchu. Eglurwyd bod y prisiau a dderbynnir am ddeunyddiau ailgylchu wedi gostwng yn sylweddol;

·        O ran y gorwariant o dan y pennawdLleoliadau All-Sirolyn yr Adran Plant a Theuluoedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

RHAGLEN GYFALAF 2017/18 – ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER pdf eicon PDF 209 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn rhoddi manylion am y rhaglen ddiwygiedig a’r ffynonellau ariannu perthnasol.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 16 Ionawr 2018. Nodwyd bod cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £30.6m yn 2017/18, gyda £5.8m ohono wedi ei ariannu trwy ddenu grantiau penodol. Tynnwyd sylw bod cynnydd o £0.776m yn y gyllideb ar gyfer y rhaglen gyfalaf tair blynedd ers sefyllfa’r adolygiad ail chwarter.

 

Holodd aelod, o ystyried mai 51% oedd y gyfran oedd wedi ei wario yn 9 mis cyntaf y flwyddyn ariannol bresennol, os rhagwelir mwy o lithriad yn y rhaglen gyfalaf? Mewn ymateb, nododd yr Aelod Cabinet Cyllid ei fod yn ffyddiog y byddai swmp o’r arian wedi ei wario yn unol â’r rhaglen gyfalaf, ond pe byddai arian yn cael ei gario drosodd i flwyddyn ariannol 2018/19 ei fod yn hyderus na fyddai’n golygu colled ariannol i’r Cyngor. Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid bod grant pellach o £1.8m ar gyfer gwella priffyrdd wedi ei dderbyn ers cyhoeddi’r adroddiad a bod trefniadau mewn lle gan Bennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol i wario’r arian. Eglurodd yn arferol bod gwario yn chwarter olaf y flwyddyn ariannol yn weddol drwm.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod parthed llithriad gwariant o dan y pennawdAdnewyddu Cerbydau (Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol)’ i flwyddyn ariannol 2018/19, nododd y Pennaeth Cyllid yn hanesyddol roedd yr Adran yn prydlesu cerbydau, ond yn dilyn deddfwriaeth newydd o ran y Côd Darbodus, bod yr Adran yn rhoi arian mewn cronfa dros amser ac yn ei wario pan fo angen adnewyddu cerbydau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor.

7.

TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 193 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid a oedd yn adrodd ar sefyllfa ddiweddaraf gwireddu cynlluniau arbedion.

 

         Gosododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 16 Ionawr 2018. Nododd bod 103 o 122 o gynlluniau arbedion 2017/18 wedi eu gwireddu’n llawn neu’n rhannol gyda 7 pellach ar drac i’w gwireddu yn amserol. Amlygodd bod y llithriad yn gwireddu cynlluniau arbedion 2017/18 yn cynnwys yr her sylweddol o wireddu nifer o gynlluniau yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant a Theuluoedd.

 

         Hysbysodd y Pwyllgor bod yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant wedi cadarnhau yng nghyfarfod y Cabinet ei fwriad i gyflwyno adroddiad ail-becynnu cynlluniau arbedion yr Adran yn fuan i’r Cabinet. O ran yr her o wireddu cynllun arbedionGwella Buddiannau trwy Drawsffurfio Gwasanaethau Plant’ yn yr Adran Plant a Theuluoedd, roedd yr Aelod Cabinet Plant yn rhoi sylw i’r mater. Nododd bod cyllido gofal plant yn faes a oedd yn peri pryder i sawl awdurdod lleol, ond anogir yr Aelod Cabinet i benderfynu’n fuan ar y ffordd ymlaen gyda’r cynllun trawsffurfio.

 

         Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid bod cynnydd calonogol tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2015/16 – 2017/18.

 

         Cyfeiriodd aelod at benderfyniad y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2016, bod rhan ysgolion uwchradd o arbedion yng nghynllun arbedion ysgolion, yn cael ei bontio gan y Cyngor am ddwy flynedd. Holodd pa mor gynaliadwy ydoedd. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid y byddai’r Cyngor yn wynebu dewisiadau anodd erbyn yr adeg yma flwyddyn nesaf, roedd yr eitem ddilynol ar y rhaglen, yn nodi yr argymhellir i’r Cabinet argymell i’r Cyngor Llawn y dylid mantoli’r gyllideb ar gyfer 2018/19 drwy gynyddu Treth y Cyngor a chyflawni’r arbedion a gynlluniwyd heb wneud arbedion pellach. Ymhellach, eglurodd bod Llywodraeth Cymru yn trosglwyddo grantiau megis Grant Gwella Ysgolion i mewn i’r setliad cyffredinol roedd y Cyngor yn derbyn gan y Llywodraeth, ond nid oedd cynnydd o fewn y setliad. Felly, byddai cwtogi’r grantiau penodol yn golygu lleihad go sylweddol o ran cyllid i ysgolion, ond ni wneir toriad gan Wynedd ym mlwyddyn ariannol 2018/19.

 

         Mewn ymateb i sylw gan aelod yng nghyswllt pa gynllun yn yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol oedd yn parhau i greu pryder, nododd y Pennaeth Cyllid mai’r cynllunLleihau Amlder Torri a Threfn Casglu Gwair Trefol’ y cyfeirir ato a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau parthed y cynllun. Mewn ymateb i gwestiwn dilynol, nododd y Pennaeth Cyllid bod yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol wedi torri gwair fwy na’r hyn a gynlluniwyd yn dilyn ceisiadau gan Gynghorwyr.

 

         PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y trosolwg arbedion.

 

 

8.

CYLLIDEB 2018/19 A STRATEGAETH ARIANNOL 2018/19 – 2020/21 pdf eicon PDF 139 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid ar Gyllideb y Cyngor ar gyfer 2018/19 er mwyn rhoddi cyfle i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu graffu’r wybodaeth o ran ei briodoldeb ariannol a’r risgiau perthnasol, cyn i’r adroddiad fynd gerbron y Cabinet ar 13 Chwefror.

 

          Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid. Cyfeiriodd at y 4 seminar cyllid a gynhaliwyd yn ystod Ionawr/Chwefror i dderbyn mewnbwn yr aelodau, gan nodi y cafwyd trafodaethau manwl, synhwyrol ac adeiladol.

 

          Manylodd y Pennaeth Cyllid ar gynnwys yr adroddiad, gan nodi gall y Cyngor dderbyn gostyngiad yn y setliad 2019/20 gan Lywodraeth Cymru o oddeutu £2m, ac wynebu costau uwch o ran cyflogi staff o ganlyniad i gytundeb cenedlaethol o oddeutu £6m erbyn y flwyddyn ariannol 2019/20. Yn ychwanegol i hyn byddai costau chwyddiant cyffredinol ynghyd â gofynion cynyddol yn y maes gofal. Roedd y ffactorau yma yn dangos bod 2019/20 am fod yn heriol. Nododd bod wir angen i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i wella’r setliad grant er mwyn lleihau’r pwysau ariannol ar lywodraeth leol.

 

          Nododd yn unol â’r cynllun ariannol tymor canolig am 3 blynedd, bod rhaid sicrhau bod trefniadau’r Cyngor yn ddigon hyblyg er mwyn gallu gwireddu hyd at £20m o arbedion dros y tair blynedd 2018/19 - 2020/21.  Argymhellir i’r Cabinet y dylid parhau gyda’r strategaeth arbedion cyfredol, gyda’r Cabinet yn penderfynu ar dargedau gwahaniaethol i adrannau’r Cyngor, y penaethiaid adran yn cyflwyno arbedion posib i gwrdd â’r targedau hynny, a’r pwyllgorau craffu yn herio’r cynlluniau ar ran pobl Gwynedd, cyn ymgynghoriad cyhoeddus ar ddewisiadau i’w gweithredu’n flynyddol.

 

          Tynnwyd sylw at Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynir i’r Cabinet, a oedd yn manylu ar fidiau anorfod i ymateb i’r pwysau ar wasanaethau. Cyfeiriodd at yr asesiad effaith o safbwynt cydraddoldeb, asesiad llesiant o ran gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ynghyd ag asesiad o gadernid yr amcangyfrifon a oedd yn nodi’r risgiau. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-

·         A fyddai llywodraeth ganolog yn newid eu safbwynt o ganlyniad i broblemau ariannol a welir mewn rhai cynghorau lleol eisoes?

·         Bod Llywodraeth Cymru yn rhoi llawer mwy o gyllid i’r Gwasanaeth Iechyd o gymharu â’r hyn a roddir i gynghorau lleol. Nid oedd yn gynaliadwy i’r sefyllfa barhau;

·         Bod y sefyllfa ariannol tu hwnt i reolaeth y Cyngor gydag agenda ynghlwm i ad-drefnu llywodraeth leol er mwyn gorfodi cynghorau i gydymffurfio;

·         Faint fyddai’n rhaid codi Treth y Cyngor i gadw’r sefyllfa gyfredol dros y ddwy flynedd nesaf?

·         O ran y risgiau, derbyn bod cyfraddau llog yn debygol o godi os oes chwyddiant ond yn aml pan roedd Banc Lloegr yn cynyddu cyfraddau llog, nid oedd yn cael ei adlewyrchu gan y banciau yn syth, roedd yn debygol felly y byddai bwlch. Beth a olygir o ran cyllido cost ychwanegol i’r Cyngor  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

RHEOLAETH TRYSORLYS - DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS, STRATEGAETH DARPARIAETH LLEIAFSWM REFENIW A STRATEGAETH FUDDSODDIAD FLYNYDDOL AR GYFER 2018/19 pdf eicon PDF 233 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor argymell i’r Cyngor Llawn ar 1 Mawrth fabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi Flynyddol am 2018/19, y Dangosyddion Darbodus, y Datganiad Darpariaeth Lleiafswm Refeniw a’r trefniant uno gyda’r Gronfa Bensiwn ar gyfer buddsoddi llif arian dyddiol.

 

         Gosododd y Pennaeth Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad.

 

         Nodwyd gwerthfawrogiad o’r cyfarfod briffio a gynhaliwyd ar 24 Ionawr, 2018 i aelodau’r Pwyllgor gydag ymgynghorydd arbenigol o gwmni Arlingclose, sef ymgynghorwyr rheolaeth trysorlys y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor Llawn ar 1 Mawrth fabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi Flynyddol am 2018/19 (Atodiad A), y Dangosyddion Darbodus (Atodiad B), y Datganiad Darpariaeth Lleiafswm Refeniw (Atodiad C) a’r trefniant uno gyda’r Gronfa Bensiwn ar gyfer buddsoddi llif arian dyddiol.

10.

ADRODDIAD Y GWEITHGOR GWELLA RHEOLAETHAU pdf eicon PDF 461 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn cyflwyno adborth o gyfarfod y Gweithgor ar 22 Ionawr 2018.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfarfod o’r gweithgor uchod a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2018 i ystyried archwiliadauIechyd a DiogelwchYsgolion Cynraddynghyd ag archwiliadau a dderbyniodd gategori barn C, sef -

a)   Gwaredu Gwastraff CyfrinacholDefnydd o Sachau Coch a Llarpiwyr

b)   Iechyd a DiogelwchYsgol Dyffryn Ardudwy

 

Gwahoddwyd swyddogion i fynychu’r cyfarfod er mwyn trafod y materion oedd yn codi o’r archwiliadau a’r gwaith a wnaed ers cyhoeddi’r adroddiadau archwilio er mwyn cryfhau’r rheolaethau mewnol dan sylw.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan aelod yng nghyswllt rôl Estyn a GwE o ran polisïau iechyd a diogelwch ysgolion, nododd y Rheolwr Archwilio bod ysgolion yn tueddu i gysylltu efo’r Adran Addysg yn gofyn am gopïau o’r polisïau yn dilyn derbyn cadarnhad am archwiliad gan Estyn. ‘Roedd yn amheus os byddai polisïau iechyd a diogelwch mewn lle pe byddai archwiliad byr rybudd. Nododd bod GwE yn ymwneud fwy o ran yr ochr addysg.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

11.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL 18/11/17 - 26/1/18 pdf eicon PDF 488 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y cyfnod. Nodwyd bod 9 adroddiad am archwiliadau o’r cynllun gweithredol a 1 archwiliad grant wedi eu cwblhau.

 

Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol ac yn ystod y drafodaeth cyfeiriwyd at y materion canlynol

 

Trefniadau Diogelu Plant ac OedolionYmwybyddiaeth Gweithwyr Maes o’r Polisi Corfforaethol

 

Nododd aelod ei phryder, er bod 76% o staff allan o’r sampl o 63 yn ymwybodol bod gan y Cyngor Bolisi a Chanllawiau Diogelu Plant ac Oedolion Bregus, ‘roedd rhai o’r ymatebion gan staff yn dangos nad oeddynt yn ymwybodol o’r cynnwys a beth oedd tu ôl i’r polisi. Ychwanegodd bod angen sicrhau bod staff yn derbyn cyfarwyddyd yng nghyswllt trefniadau diogelu gyda threfn hyfforddi mewn lle.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r aelod, nododd y Rheolwr Archwilio bod yr ymwybyddiaeth uchaf o ran y polisi diogelu ymysg staff depos priffyrdd gyda llawer o waith wedi ei wneud i godi ymwybyddiaeth o’r polisi a’i gynnwys gan yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol.

 

Nododd aelod y dylid gofyn i’r Pwyllgor Craffu Gofal ystyried y mater oherwydd ei fod yn faes risg uchel. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg nad oedd y mater yn berthnasol i Wasanaethau Cymdeithasol yn unig, roedd yn fater i holl staff y Cyngor. Eglurodd nad oedd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn berchennog ar unrhyw risg ond bod y Pwyllgor angen bodloni ei hun bod trefniadau mewn lle i liniaru’r risg. Nododd y gellir gofyn i Banel Gweithredol Diogelu Plant ac Oedolion Bregus i hysbysu cynrychiolwyr Adrannau’r Cyngor o ran bylchau yn ymwybyddiaeth o’r polisi.

 

Ategodd y Rheolwr Archwilio y sylwadau uchod gan nodi bod ymwybyddiaeth o’r polisi diogelu ymysg staff y Cyngor yn derbyn llawer o sylw gan y Panel Gweithredol Diogelu Plant ac Oedolion Bregus yn ogystal. Eglurodd bod Panel Strategol Diogelu Plant ac Oedolion uwchlaw'r Panel Gweithredol.

 

Nododd aelod y dylai’r mater gael ei gyfeirio i gael sylw gan eraill neu dylid ei drafod mewn cyfarfod o’r Gweithgor Gwella Rheolaethau oherwydd bod y risg wedi ei adnabod gan y Pwyllgor.

 

Nododd aelod bod diffyg hyfforddiant yn cael ei amlygu fwyaf yn yr archwiliad ac fe fyddai’n fater y gellid ei ystyried yng nghyfarfodydd herio perfformiad Aelodau Cabinet. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Archwilio bod ystadegau hyfforddiant yn cael eu trafod ym mhob cyfarfod o’r Panel Gweithredol.

 

Awgrymodd y Rheolwr Archwilio y gellir gwahodd Cadeirydd y Panel Gweithredol i fynychu cyfarfod o’r Gweithgor Gwella Rheolaethau yn y dyfodol i fanylu ar y rhaglen waith.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     derbyn yr adroddiad ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 18 Tachwedd 2017 hyd at 26 Ionawr 2018 a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig a gyflwynwyd eisoes i reolwyr y gwasanaethau perthnasol;

(ii)    bod Cadeirydd y Panel Gweithredol Diogelu Plant ac Oedolion Bregus yn mynychu cyfarfod o’r Gweithgor Gwella Rheolaethau yn y dyfodol i fanylu ar y rhaglen waith.

12.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2017/18 pdf eicon PDF 574 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio ar y cynnydd ar Gynllun Archwilio Mewnol 2017/18.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau cynllun archwilio mewnol 2017/18.

 

Adroddwyd bod yr Uned Archwilio Mewnol hyd at 26 Ionawr 2018 wedi cwblhau 67.24% o’r cynllun, gyda 39 o’r 58 archwiliad yng nghynllun 2017/18 wedi eu rhyddhau yn derfynol. Tynnwyd sylw at yr addasiadau i’r Cynllun o ganlyniad i’r angen i flaenoriaethu archwiliadau oherwydd diffyg adnoddau.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2017/18.

13.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL DRAFFT 2018/19 pdf eicon PDF 418 KB

Cyflwyno Cynllun Archwilio Mewnol Drafft ar gyfer y flwyddyn 1 Ebrill 2018 – 31 Mawrth 2019.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Archwilio yn rhoi manylion am gynllun drafft o waith y Gwasanaeth Archwilio Mewnol am y flwyddyn ariannol 2018/19 er sylwadaeth a chymeradwyaeth y Pwyllgor. Nodwyd bod y cynllun drafft wedi ei baratoi yn dilyn cyfarfodydd gyda Phenaethiaid neu dîm rheoli adrannol ac fe ystyriwyd y Gofrestr Risg Gorfforaethol yn ogystal â chofrestrau risg pob adran.

 

Tynnwyd sylw bod gostyngiad yn y ddarpariaeth ar gyfer gwaith dilyniant yn y cynllun drafft  gan nad oedd angen gymaint o oriau yn dilyn newid ffordd o weithio'r Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn unol ag egwyddorion Ffordd Gwynedd.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod yng nghyswllt archwiliad ‘Bwrdd Twf Gogledd Cymru’ o ran risgiau i’r Cyngor o ran colli siroedd Wrecsam a Fflint i bartneriaeth gyda Merswy Dyfrdwy yn hytrach na’u bod yn rhan o gyfundrefn draws ogleddol, nododd y Rheolwr Archwilio nid oedd penderfyniad wedi ei wneud o ran y Cyngor Arweiniol ond gydag unrhyw brosiect mawr fe fyddai risgiau. Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid bod y prosiect yn y camau cychwynnol a bod swyddogion yn ymwybodol o’r risg ac yn ceisio sicrhau na fyddai’r cyllid yn mynd i gyd i’r Dwyrain. Nododd y byddai’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn cadw golwg.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynllun Archwilio drafft ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019.