skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorwyr Aled Ll. Evans, R. Medwyn Hughes, Berwyn Parry Jones a Huw G. Wyn Jones.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 147 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2019, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2019, fel rhai cywir.

5.

DATGANIAD O GYFRIFON CYNGOR GWYNEDD 2018/19 pdf eicon PDF 111 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, y datganiadau ariannol statudol (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2018/19.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan yr Uwch Reolwr Cyllid. Tynnwyd sylw y cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor ar 13 Mehefin, a oedd yn cyflwyno sefyllfa diwedd flwyddyn ar ffurf alldro syml oedd yn crynhoi'r sefyllfa ariannol ar gyfer 2018/19, tra bod y Datganiad o’r Cyfrifon ar ffurf safonol ar gyfer pwrpas allanol a llywodraethu.

 

Nodwyd bod yr Adran Gyllid wedi cynhyrchu datganiadau ariannol statudol 2018/19, a’u rhyddhau i Deloitte, archwilwyr allanol y Cyngor a benodwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, cyn 31 Mai. Eglurwyd bod bwriad yn y cyfarfod hwn i gyflwyno’r cyfrifon terfynol gerbron y Pwyllgor yn dilyn archwiliad. Nodwyd yn anffodus derbyniwyd cadarnhad yn ddiweddar gan Deloitte, nad oedd modd iddynt gwblhau'r archwiliad a pharatoi adroddiad yr Archwilwyr Allanol ISA260 ar gyfer eu cyflwyno i’r cyfarfod. Cadarnhawyd y cynhelir cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor ar 13 Medi er mwyn cyflwyno’r cyfrifon yn dilyn yr archwiliad er cymeradwyaeth y Pwyllgor.

 

Atgoffwyd yr aelodau, y cyflwynwyd cyfrifon terfynol yr Harbyrau gerbron y Pwyllgor ar 13 Mehefin. Nodwyd y derbyniwyd cadarnhad gan Deloitte nad oedd addasiadau yn dilyn archwiliad i gyfrifon yr Harbyrau, ac felly nid oedd gofyn i’w cyflwyno gerbron y Pwyllgor.

 

Manylodd yr Uwch Reolwr Cyllid ar gynnwys y Datganiad o Gyfrifon. Cyfeiriodd at ‘Nodyn 15 – Eiddo, Offer a Chyfarpar’, gan nodi bod Deloitte, fel rhan o’r archwiliad, wedi codi mater yng nghyswllt gwerth meysydd parcio’r Cyngor a bod trafodaethau yn parhau rhwng y Gwasanaeth Eiddo a Deloitte o ran newid gwerth y meysydd parcio. Tynnodd sylw at yr argymhelliad i’r Pwyllgor dderbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2018/19.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid bod cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau ac ymgyfarwyddo eu hunain gyda chynnwys y cyfrifon terfynol cyn eu derbyn yn derfynol yn y cyfarfod arbennig. Cyfeiriodd at ddyfarniad cyfreithiol achos McCloud a oedd yn golygu y byddai mwy o warchodaeth drosiannol ar gyfer aelodau o gynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus. Nododd bod y Goruchaf Lys wedi gwrthod cais y Llywodraeth am ganiatâd i apelio yn erbyn y dyfarniad. Eglurodd bod rhai cyflogwyr yn gorfod gosod swm atebolrwydd wrth gefn, ond oherwydd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi gosod rhagdybiaeth chwyddiant tâl actiwaraidd yn unol â’r achos, nid oedd rhaid i’r Cyngor addasu’r ffigyrau. Nododd y byddai geiriau ychwanegol o dan ‘Nodyn 38 - Costau Pensiwn’ i adlewyrchu hyn.

 

Nododd Arweinydd Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte ei werthfawrogiad am gytuno i gynnal cyfarfod arbennig. Eglurodd bod yr archwiliad yn mynd yn ei flaen yn dda a bod ychydig o ddyddiau o waith eto i’w gwblhau. Ymddiheurodd nad oedd yr Adroddiad ISA260 yn barod i’w gyflwyno i’r cyfarfod hwn a byddai gwersi yn cael ei dysgu o ran cwblhau’r gwaith. Nododd eu bod yn hapus gyda safon y cyfrifon a bod y mater o ran gwerth meysydd parcio’r Cyngor yn fater o farn ac fe ddoir i ddealltwriaeth.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet Cyllid bod y gwaith o ran y cyfrifon terfynol wedi ei gwblhau gan y Cyngor gan nodi siom nad oedd Deloitte wedi cwblhau'r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYFRIFON TERFYNOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2018/19 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 69 KB

Cyflwyno:

 

(i)            adroddiad y Pennaeth Cyllid

(ii)           adroddiad ISA 260 yr Archwilwyr Allanol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid datganiadau ariannol statudol y Gronfa Bensiwn am gymeradwyaeth y pwyllgor. Manylodd ar gynnwys y Datganiad o Gyfrifon. Cyfeiriodd at ddau o strategaethau allweddol y Gronfa, y datganiad strategaeth cyllido a’r datganiad strategaeth buddsoddi. Tynnodd sylw bod cynnydd o £143 miliwn yn asedau net y Gronfa dros y flwyddyn 2018-19 a oedd yn dod a gwerth y Gronfa i dros £2 biliwn.

 

Nododd bod costau rheoli buddsoddiadau yn uwch ym mlwyddyn ariannol 2018-19 oherwydd ei fod yn gyfnod gyda llawer o drosiant mewn cwmnïau rheoli asedau ecwiti a buddsoddiadau cysylltiedig, gyda chostau ynghlwm. Ymhelaethodd bod hyn yn bennaf yn dilyn trosglwyddo rhan fwyaf o’r asedau o reolwyr penodol y Gronfa, sef Fidelity a Veritas, i Bartneriaeth Pensiynau Cymru i fuddsoddi ar y cyd. Nododd yn y pendraw y rhagwelwyd y byddai’r ffioedd yn lleihau a’r dychweliadau os nad yn well yn fwy gwydn, oherwydd bod y risg buddsoddi wedi ei ledaenu.

        

Cyflwynodd Arweinydd Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte yr adroddiad archwiliad ISA 260. Nododd bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar y datganiadau ariannol.

 

Nodwyd y prif sylwadau canlynol:

·         O ran Cydraddoli Isafsymiau Pensiwn Gwarantedig (GMPs) ynghlwm ac achos McCloud, nid oedd yn swm materol wrth ystyried y Gronfa yn ei gyfanrwydd. Felly yn fodlon nid oedd angen diwygio unrhyw beth o ran y cyfrifon;

·         Nid oedd unrhyw gamddatganiadau a gywirwyd yn y datganiadau ariannol;

·         Derbyniwyd sicrwydd gan archwilwyr allanol Cyngor Sir Caerfyrddin, awdurdod lletya ar gyfer Cydbwyllgor Partneriaeth Pensiwn Cymru, ac nid oedd unrhyw fater yn codi;

·         Bod rhan fwyaf o’r argymhellion a godwyd ym mlynyddoedd blaenorol wedi eu cyfarch;

·         Bod y cyfrifon yn rhai o safon ardderchog.

           

Tynnodd aelod sylw bod y Cyngor fel cyflogwr yn cyfrannu £22.4 miliwn tuag at gost pensiynau. Nododd bod y Gronfa yn iach ac yn cael ei redeg yn llwyddiannus. Holodd a fyddai’r prisiad actiwaraidd teir-blynyddol yn lleihau cyfraniadau’r Cyngor fel cyflogwr, gan leihau’r baich ar drethdalwyr. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid ei fod yn hyderus bod gwelliannau o ran y buddsoddiadau gyda thair blynedd bositif heb gwymp yn y farchnad. Ymhelaethodd y byddai’r sefyllfa o ran y prisiad actiwaraidd teir-blynyddol yn cael ei gadarnhau ar ddiwrnod cyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn ar 24 Hydref 2019. Nododd ni ellid rhagweld darganfyddiad yr actwari, ond ei fod yn obeithiol y byddai’r prisiad yn golygu cyfraniadau cyfartal neu is i’r Cyngor fel cyflogwr.

 

Nododd aelod bod yr incwm o £14 miliwn ar fuddsoddiadau o Gronfa a oedd werth dros £2 biliwn, sef 0.7%, ar y wyneb yn edrych yn isel o ystyried lefel y difidend. Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Cyllid bod rhaid ystyried cynnydd yng ngwerth cyfalaf y buddsoddiadau yn ogystal â’r incwm o ddifidend. Ymhelaethodd y gellid buddsoddi mewn cerbydau fyddai’n rhoi difidend uchel, ond efallai ni fyddai gwerth yr ased ar y farchnad stoc yn cynyddu. Nododd bod yr incwm ynghyd â chynnydd yng ngwerth y buddsoddiadau yn golygu cynnydd o £123 miliwn a oedd oddeutu 7% o werth y Gronfa, a oedd ddigon  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2018/19 pdf eicon PDF 124 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, adroddiad y Rheolwr Buddsoddi ar ganlyniadau gwir weithgarwch benthyg a buddsoddi’r Cyngor yn y flwyddyn ariannol hyd at 31 Mawrth 2019.

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Buddsoddi yr adroddiad ar wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor yn ystod 2018/19, yn erbyn y strategaeth a sefydlwyd am y flwyddyn ariannol honno. Nodwyd bod gweithgaredd benthyca’r Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol, a derbyniwyd £330,614 o log ar fuddsoddiadau a oedd yn uwch na’r £130,000 yn y gyllideb. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw fanc roedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda nhw wedi methu â thalu.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid bod y Cyngor wedi manteisio ar ryddid newydd yn 2018/19 i fuddsoddi mewn pethau amgen megis cronfeydd ecwiti ac eiddo, roedd wedi gwella lefel dychweliadau.

 

Nodwyd bod y Rheolwr Buddsoddi yn cychwyn cyfnod ymddeoliad hyblyg ac fe fyddai’n ymddeol o wasanaeth y Cyngor erbyn Ionawr 2020. Dymunwyd yn dda iddi ar ei hymddeoliad a nodwyd gwerthfawrogiad o’i gwasanaeth i’r Cyngor a’r cyn Gyngor Dosbarth Meirionnydd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth.

8.

ADRODDIAD Y GWEITHGOR GWELLA RHEOLAETHAU pdf eicon PDF 127 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn cyflwyno adborth o gyfarfod y Gweithgor ar 12 Gorffennaf 2019.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfarfod o’r gweithgor uchod a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf 2019, ystyriwyd methiant i adrodd ar weithrediadau cytunedig ar adeg archwiliadau dilyniant, ar gyfer yr archwiliadau canlynol:

a)   Trefniadau ar gyfer Plant yn Gadael Gofal

b)   Manddaliadau

c)   Targedau Ailgylchu

           

Rhoddwyd ystyriaeth yn ogystal yng nghyfarfod y Gweithgor i archwiliadau a dderbyniodd lefel sicrwydd cyfyngedig, sef –

a)  Tanciau Disel a Rheoli Disel

b)   Trefniadau Diogelu - Sefydliadau

c)   Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol

 

Gwahoddwyd yr Aelodau Cabinet perthnasol a swyddogion i fynychu’r cyfarfod er mwyn trafod y materion oedd yn codi.

 

Nododd aelod yng nghyswllt archwiliad Manddaliadau o ran methiant i anfonebu tenantiaid yn y gorffennol a’r gwendidau a amlygwyd, ei fod yn gobeithio y byddai gwell trefn. Eglurodd y Pennaeth Cyllid bod Manddaliadau wedi cael cryn sylw yn ddiweddar ac wedi ei gynnwys eto yng Nghynllun Archwilio Mewnol 2019-20.

 

Cafwyd trafodaeth yng nghyswllt yr archwiliad Targedau Ailgylchu. Nodwyd bod newidiadau i drefniadau casglu wedi dod i rym yn Ardal Dwyfor ar y 1af o Orffennaf a bod gwelliant o ran safon y gwaith casglu. Tynnwyd sylw bod newidiadau i’r dyddiau casglu wedi creu dryswch, yn enwedig i oedolion hŷn, a dylid cadw llygad ar y sefyllfa gan dderbyn diweddariad ar weithrediad.

 

Nododd aelod o ran yr archwiliad Tanciau Disel a Rheoli Disel, y daeth i’r amlwg nad oedd rheolwyr safle yn gyfrifol o ran cyflwr y tanciau yn y gorffennol, a’i fod yn gobeithio y byddai’r sefyllfa’n gwella gan y byddai gofyn ar reolwyr safle i archwilio’r tanciau yn fisol. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid y byddai’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol yn cynnal archwiliad dilyniant.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.