Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr R Medwyn
Hughes, Peredur Jenkins a W Gareth Roberts |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 29 Gorffennaf ac 13 Medi, 2019, fel rhai cywir (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
ar 29ain Gorffennaf a 13eg o Fedi 2019, fel rhai cywir. |
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL 1/4/2019 - 4/10/2019 PDF 182 KB Cyflwyno adroddiad
y Rheolwr Archwilio (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith Archwilio Mewnol am y
cyfnod hyd Hydref 4ydd 2019. Tynnwyd
sylw ar lefel sicrwydd perthnasol archwiliadau'r cynllun, gan nodi bod y
canlyniadau yn galonogol gyda’r lefelau yn syrthio i’r ddau gategori uchaf sef
digonol (rheolaethau mewn lle i gyflawni amcanion ond bod agweddau lle gellir
tynhau ar y trefniadau i liniaru’r risgiau ymhellach) ac uchel (gellir datgan
sicrwydd o briodoldeb gan y gellir dibynnu ar y rheolaethau mewnol mewn lle i
gyflawni amcanion). Ni dderbyniwyd sylwadau am yr archwiliadau unigol. PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi eu cytuno gyda’r
gwasanaethau perthnasol |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2019/20 PDF 119 KB Cyflwyno adroddiad
y Rheolwr Archwilio (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn
diweddaru’r Pwyllgor ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau Cynllun Archwilio
Mewnol 2019/20. Amlygwyd bod cyfanswm o 60 archwiliad wedi eu cynnwys yn y
cynllun gyda’r gwasanaeth yn anelu at gael 95% o’r archwiliadau hyn unai wedi
cau neu gydag adroddiad terfynol wedi eu rhyddhau erbyn 31 Mawrth 2020. Ar y
4ydd o Hydref, nodwyd mai gwir gyrhaeddiad Archwilio Mewnol oedd 16.67% (targed
20% erbyn diwedd chwarter 2) gyda 10 archwiliad unigol wedi eu rhyddhau yn
derfynol. Adroddwyd bod man addasiadau i’r cynllun gyda phedwar archwiliad wedi eu
hychwanegu i’r cynllun. Er mwyn gweithredu ar hyn, ynghyd ag ystyried
cefnogaeth Uwch Archwiliwr i gynorthwyo Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gau
cyfrifon 2018/19 (cyfanswm dyddiau 52), penderfynwyd blaenoriaethu
archwiliadau'r cynllun ar sail risg. Daethpwyd i’r casgliad i ganslo saith
archwiliad. Mewn ymateb i gwestiwn am eglurhad o ‘5 Ffordd o Weithio’, nododd y
Rheolwr Archwilio mai trefn statudol o weithio yw’r ymadrodd, ble ceir gofyn
statudol gan Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth briodol i rai egwyddorion. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r gwaith archwilio a wnaed i
gynorthwyo Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, adroddwyd bod cytundeb gyda’r Parc
am ddarparu 30 diwrnod o wasanaeth Archwilio Mewnol, a thalwyd ar wahân am 52
diwrnod o gefnogaeth ychwanegol i gynorthwyo i baratoi Cyfrifon 2018/19
Awdurdod y Parc. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phenderfyniad i ganslo saith o’r
archwiliadau, nodwyd bod y drefn yn ei chyfanrwydd a'r cynllun blynyddol wedi
ei hystyried ar y cyd gyda’r Pennaeth Cynorthwyol - Refeniw a Risg. Ategwyd nad
yw’r saith archwiliad yn ‘disgyn allan’ o’r cynllun tymor-canol, gan fyddant yn
flaenoriaeth yng nghynllun Archwilio Mewnol 2020/21. Awgrymwyd, wrth adrodd yn y dyfodol ar gwblhau’r Cynllun Archwilio
Mewnol, byddai’n fuddiol cael brawddeg yn nodi’r rhesymeg dros ‘lithro’
archwiliad er mwyn gwneud y sefyllfa yn ddealladwy. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad |
|
ASESIAD ALLANOL O ARCHWILIO MEWNOL PDF 50 KB Cyflwyno
adroddiad y Rheolwr Archwilio (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn cyflwyno canlyniadau'r asesiad allanol a
gwblhawyd gan brif weithredwr Cyngor Sir Gâr. Atgoffwyd yr Aelodau bod Safonau
Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus yn gofyn am asesiad allanol o’r holl
wasanaethau Archwilio Mewnol o leiaf unwaith bod pum mlynedd gan adolygwr
cymwysedig ac annibynnol allanol i’r sefydliad. Adroddwyd bod 334 o ofynion arfer gorau o fewn y Safonau a bod Cyngor
Gwynedd yn cydymffurfio’n gyffredinol â 307 o’r gofynion hynny, ac yn
cydymffurfio yn rhannol gyda 13 o’r gofynion eraill. Cyfeiriwyd at y
graddfeydd sydd yn dynodi ‘lefel cydymffurfiaeth’ gan amlygu bod
‘cydymffurfio’n gyffredinol’ yn golygu bod gan y weithgaredd fewnol siarter,
polisïau a phrosesau y bernir eu bod yn cydymffurfio a’r safonau. Ategodd y Rheolwr
Archwilio ei bod yn croesawu canlyniad yr hunanasesiad. Nododd hefyd na fyddai
adborth ffurfiol o berfformiad y Prif Archwiliwr yn cael ei gyflwyno, ond bod prosesau Cyngor
Gwynedd o gynnal cyfarfodydd monitro perfformiad chwarterol yn rhoi cyfle i’r
Aelod Cabinet adrodd ac egluro’r mesurau cyflawni a thrafod perfformiad a gwaith
yr uned. Diolchodd y Pennaeth Cyllid i’r Rheolwr Archwilio a’i staff am ei gwaith
clodwiw, a cytunwyd bod y canlyniad yn un i ymfalchïo ynddo. PENDERFYNWYD derbyn yr
adroddiad a llongyfarch y Gwasanaeth Archwilio Mewnol am ansawdd broffesiynol
eu gwaith. |
|
CYLLIDEB REFENIW 2019/20 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST PDF 186 KB Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Cyllid (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Cynghorydd Ioan Thomas (Aelod Cabinet Cyllid) er gwybodaeth i’r
Aelodau gael ystyried risgiau sydd yn deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn
y gyllideb. Amlygwyd bod yr adroddiad wedi ei gyflwyno i’r Cabinet ar y 15fed o
Hydref. Tynnwyd sylw at grynhoad o’r sefyllfa fesul adran a’r darlun cymysg
sydd yn cael ei amlygu. Cyfeiriwyd at yr
Adran Oedolion sydd â gorwariant o £1.6m, yn deillio’n rhannol o’r methiant i
gyflawni cynlluniau arbedion. Nodwyd bod
y Prif Weithredwr bellach wedi galw cyfarfod gyda swyddogion perthnasol i
geisio gwell dealltwriaeth a rhaglen glir i ymateb. Amlygwyd bod yr Adran Plant
hefyd yn dangos gorwariant o £2.9m a bod Grŵp Tasg wedi ei drefnu i fynd at wraidd gorwariant yr Adran.
Nodwyd bod cynnydd o 15% o blant mewn
gofal yn ystod 2018/19 ac nad oedd y
sefyllfa yn unigryw i Wynedd.
Ymhelaethodd yr Aelod Cabinet Cyllid bydd y Grŵp Tasg yr Adran
Plant yn adrodd ar welliannau ym mis Chwefror 2020. Nodwyd hefyd fod gorwariant
o £733k yn yr Adran Priffyrdd, oherwydd problemau yn y maes casglu a gwaredu
gwastraff. Adroddwyd bod yr Adran
Amgylchedd wedi cael caniatâd i neilltuo £220k o danwariant tuag at gostau
anochel (sydd tu hwnt i reolaeth y Cyngor) yn dilyn adolygiad barnwrol diweddar
yn ymwneud â Ffordd fynedfa Llanbedr. Tynnwyd sylw at
sefyllfa’r gyllideb Gorfforaethol, lle mae £2,867k o danwariant yn cael ei
drosglwyddo i gronfeydd, yn rhannol er mwyn lleddfu risg gorwariant adrannau’r
Cyngor yn 2019/20. Mewn ymateb i
gwestiwn os yw’r Prif Weithredwr wedi cyfarfod
gyda swyddogion perthnasol yr Adran Oedolion, nodwyd bod cyfarfod
cychwynnol wedi ei gynnal a bod y swyddogion wedi derbyn y dasg o edrych ar y
wybodaeth. Mewn ymateb i sylw
bod sefyllfa'r Adran Ieuenctid yn amlygu negeseuon cymysg o ystyried bod y
gwasanaeth wedi ei ail fodelu mewn ymateb i raglen arbedion, ond erbyn hyn yn
dangos tanwariant sylweddol, amlygwyd mai addasiadau i swyddi a gweithgareddau
oedd wedi eu gweithredu. Ategwyd bod grantiau hefyd wedi eu derbyn a olygai nad
oedd tanwariant yn erbyn y gyllideb craidd. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â’r sefyllfa ddiweddaraf o ran Premiwm Treth Cyngor
adroddwyd disgwylir casglu £2.7m eleni yn unol â’r amcangyfrif yn y gyllideb, a
bod swyddogion ac Aelodau yn pwyso ar Lywodraeth Cymru am ddiweddariad
ynglŷn â’r eiddo sy’n trosglwyddo’n fusnesau. Derbyniwyd sylw
bod Grŵp Tasg o Aelodau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau wedi’i sefydlu i
ystyried opsiynau ar gyfer rheoli parcio
yn wyneb heriau ariannol, ond ymddengys o’r adroddiad ar gyllideb 2019/20 bod
yr Adran Amgylchedd eisoes wedi llwyddo
i or-gyflawni ar y targed incwm. Mewn ymateb, amlygodd yr Aelod Cabinet fod gan
yr Adran Amgylchedd gynllun arbediad hanesyddol i’w gyflawni erbyn 2020/21, ac
ymhellach, mewn cynlluniau tuag at y targed £2m cyfredol, dylai’r adrannau
gynnig arbedion sy’n lleihau gwariant, neu gynnig ffrwd incwm newydd, yn
hytrach na chodi prisiau am wasanaethau cyfredol. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r
Cyngor a’i adrannau |
|
RHAGLEN GYFALAF 2019/20 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST PDF 188 KB Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Cyllid (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Ioan Thomas (Aelod
Cabinet Cyllid) er gwybodaeth i’r Aelodau gael ystyried risgiau sydd yn deillio
o’r rhaglen gyfalaf a chraffu penderfyniadau’r Cabinet. Cyfeiriwyd at y prif
gasgliadau oedd wedi eu rhestru yn yr adroddiad
ynghyd â manylion y grantiau ychwanegol roedd y Cyngor wedi llwyddo i’w
denu ers sefydlu’r gyllideb wreiddiol. Tynnwyd sylw at y newidiadau i’r
ffynonellau ariannu sydd yn golygu cynnydd £17.85m yn y rhaglen gyfalaf dair
blynedd ers sefydlu’r gyllideb wreiddiol. Amlygwyd bod £5,353k benthyca arall
ychwanegol yn y tabl ariannu yn deillio o’r Cynlluniau Atal Llifogydd. Gyda’r
Fenter Benthyca Llywodraeth Leol (MBLlL), eglurwyd fod Llywodraeth Cymru yn
ariannu 75% o gost y cynllun, trwy ddigolledu costau benthyca’r Cyngor dros
gyfnod o 25 mlynedd yn y Grant Cefnogaeth Refeniw (GCR) blynyddol. Cadarnhawyd
fod y 25% sydd i’w ariannu gan y Cyngor eisoes wedi ei glustnodi fel rhan o’r Cynllun
Asedau. Yng nghyd-destun
penderfyniad diweddar Llywodraeth San Steffan i godi cyfraddau llog y ‘PWLB’ 1%
yn uwch, sydd yn golygu bod cost benthyg yn uwch i’r awdurdodau lleol, eglurwyd
gyda’r Cynllun Menter mai Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r llog. O ganlyniad,
gofynnwyd y cwestiwn, os ydy’r arian rydym yn ei dderbyn gan y Llywodraeth yn
adlewyrchu’r lefel llog uwch rydym yn gorfod talu i fenthyg? Cadarnhawyd bod
amodau’r drefn yn galluogi’r Cyngor i hawlio mwy o gyfraniad, gan fod symudiad
mwy na 0.5% yn y gyfradd, ac felly bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu’r cynnydd. Mewn ymateb i’r
sylw bu codiad yn y gyfradd llog, nodwyd bod cyfraddau wedi disgyn yn y
gorffennol ac mai dychwelyd i lefel isel oedd y codiad yn hytrach na ‘rhywbeth
anarferol’. Nododd y Pennaeth Cyllid bod y codiad diweddar yn annisgwyl ac er
bod llogau wedi disgyn yn raddol ers 2008, mae codiad o 1% erbyn hyn yn naid
eithaf sylweddol. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt
rhaglen gyfalaf y Cyngor |