skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Aled Evans a'r Cynghorydd Medwyn Hughes

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 379 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 15fed o Hydref 2020 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Hydref, 2020 fel rhai cywir.

 

5.

LLYTHYRAU GAN ARCHWILYDD CYFFREDINOL CYMRU pdf eicon PDF 257 KB

 

Cyflwyno 2 lythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru dyddiedig 30 Medi 2020

·         Cronfa gyfun ranbarthol Gogledd Cymru mewn perthynas â lleoedd i bobl hŷn mewn cartrefi gofal (Atodiad 1)

·         Cronfeydd cyfun rhanbarthol mewn perthynas â lleoedd i bobl hŷn mewn cartrefi gofal (Atodiad 2)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi llythyrau'r Archwilydd Cyffredinol a safbwynt awdurdodau lleol a Bwrdd Iechyd y Rhanbarth.

 

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn tynnu sylw’r Aelodau at ddau lythyr a gyflwynwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dilyn derbyn sylwadau ôl archwiliad o adroddiadau lleol, ar ofal preswyl a nyrsio yng Ngogledd Cymru (yn benodol yng nghynghorau Conwy a Sir Ddinbych). Amlygwyd, er mai trefniadau lleol Conwy a Sir Ddinbych oedd yn cael eu trafod, roedd gan Archwilio Cymru bryderon ynglŷn â datrysiad pragmataidd rhanbarth Gogledd Cymru i’r her o sefydlu cronfa gyfun i ariannu lleoedd i bobl hŷn mewn cartrefi gofal. Eglurwyd mai partneriaeth oedd y gronfa gyfun ranbarthol rhwng chwe Cyngor Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Roedd gan y bartneriaeth ranbarthol bryderon ynglŷn ag atebolrwydd cronfa gyfun ehangach, ac wedi sefydlu trefn risg isel, ond roedd Archwilio Cymru yn nodi nad oedd y drefn gyfredol yn cynnig gwerth am arian nac yn sicrhau’r manteision a fwriadwyd drwy gronfa gyfun.

 

          Nododd Cynrychiolydd Archwilio Cymru bod y Gronfa wedi ei sefydlu mewn ymateb i ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru 2014) gyda Sir Ddinbych yn arwain ar weinyddu’r Gronfa. Ategwyd bod costau gweinyddu’r gronfa oddeutu £20k, ac nad oedd trosglwyddo arian yn ôl ac ymlaen rhwng y partneriaid rhanbarthol yn cynnig budd i ddefnyddiwr gwasanaeth nac yn ddefnydd da o arian cyhoeddus.

 

          Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid bod y trefniant yn caniatáu i awdurdodau lleol gydymffurfio â gofynion y Ddeddf ac adnabod maint gweithrediad perthnasol ar draws y rhanbarth. Amlygodd ei fod yn fodlon bod y trefniant yn isafu’r risg, a bod buddion ehangach yn deillio o’r cyfraniad i rôl Sir Ddinbych. Ategodd bod trysoryddion y rhanbarth ynghyd a thrysorydd BIPBC yn cyfarfod 30/11/20 i drafod ymhellach.

 

          Ategodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod cynnwys y gofynion rhanbarthol yn y Ddeddf yn gamsyniad, ac na fyddai ymestyn y cronfa gyfun yn sicrhau manteision i ddefnyddwyr gwasanaeth. Awgrymodd mai cronfeydd lleol fyddai’r dull gorau, gyda hyblygrwydd i ymateb i’r angen yng Ngwynedd, tra dylai’r gweithdrefnau rhanbarthol gcanolbwyntio ar fframweithiau a strwythurau.

 

          Ategodd yr Aelod Cabinet byddai ymestyn trefniadau’r gronfa gyfun yn uchafu risg o golli rheolaeth a bod angen diogelu trethdalwyr Gwynedd.

 

          Diolchwyd am yr adroddiad

 

          Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth fyddai goblygiadau peidio cydymffurfio a gofynion y Ddeddf, nodwyd bod rhanbarth y gogledd wedi penderfynu ar gyfyngu’r gweithrediad wrth gydymffurfio â’r Ddeddf. 

 

          Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rôl y Bwrdd Iechyd, eglurwyd bod BIPBC yn rhoi cyfraniad ar draws y rhanbarth i gyllideb gofal nyrsio.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:-

·         Nad y Ddeddf yw’r strwythur orau ar gyfer  llywodraethu’r arian

·         Bod y ddeddfwriaeth yn enghraifft o ddiffyg y Llywodraeth i wrando ar sylwadau / barn awdurdodau lleol

·         Bod swyddogion yn gwneud y lleiafswm posib i gydymffurfio gyda threfniant diangen

·         Nad yw’r Llywodraeth wedi datgan yn glir beth yw'r bwriad o gyfuno'r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2019/20 - ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN pdf eicon PDF 392 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid mewn ymateb i’r Cod Ymarfer CIPFA sydd yn argymell y dylid cynhyrchu adroddiad ar wir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Adroddwyd, er gwaethaf effaith covid 19 rhwng cyfnod 1 Ebrill a 30 Medi 2020, bod gweithgarwch buddsoddi’r Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol. Nodwyd nad oedd unrhyw fanciau lle'r oedd y Cyngor wedi adnau arian wedi methu ad-dalu. Amcangyfrifwyd byddai gwir incwm buddsoddi’r Cyngor yn is na’r incwm disgwyliedig yng nghyllideb 2020/21.

 

          Cyfeiriwyd at y Strategaeth Fenthyca ynghyd a rhoi diweddariad byr ar y Gyfradd Sicrwydd Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus (PWLB). Ategwyd bod y PWLB yn lansio ymgynghoriad eang mewn ymateb i newidiadau sylweddol i’w polisi. Yng nghyd-destun gweithgareddau buddsoddi adroddwyd bod y Cyngor, ers mis Ebrill wedi derbyn arian gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau bach a chanolig yn ystod y pandemig trwy gynlluniau grant. Derbyniwyd £62m, wedi’i fuddsoddi dros dro mewn offerynnau hylif byr-ddyddiedig fel cyfrifon galw a Chronfeydd Marchnad Arian. Talwyd £59m erbyn diwedd mis Medi.  Yn ystod y 6 mis, roedd balans buddsoddiadau'r Cyngor yn amrywio rhwng £49.6 a £110.4 miliwn oherwydd gwahaniaethau amseru rhwng incwm a gwariant. Ategwyd mai prif amcan y Cyngor yw buddsoddi’r arian yn ddarbodus gan daro cydbwysedd rhwng risg ac enillion.

 

          Adroddwyd bod rhagolygon economaidd ar gyfer cyfraddau llog wedi newid yn llwyr gyda dyfodiad y pandemig byd-eang. Y gyfradd llog ar gyfartaledd a dderbyniwyd ar falansau tymor byr oedd 0.07% yn ystod y cyfnod o chwe mis hyd at 30 Medi 2020, gyda buddsoddiadau mwy diweddar yn cael eu gwneud mor isel â 0.01%. Gosodwyd y dangosydd hwn pan oedd y gyfradd sylfaenol yn 0.75% ac felly mae’n rhesymol bod cynnydd o 1% yn cael cymaint o effaith, ynghyd a’r effaith ddifrifol y mae’r pandemig wedi ei gael ar enillion buddsoddiadau.

 

`        Eglurwyd bod y rhagolygon economaidd byd-eang tymor canolig yn wan. Er bod y cyfyngiadau cloi cychwynnol llym wedi lleddfu, nid yw coronafirws wedi’i atal ac mae ail donnau wedi ysgogi mesurau mwy cyfyngol ar sail ranbarthol a chenedlaethol. Bydd y cyfyngiadau hyn yn parhau i gael effaith ar weithgareddeu arferol hyd nes bod brechlyn effeithiol yn cael ei gynhyrchu a’i ddosbarthu.

         

          Diolchwyd am yr adroddiad ac am y gwaith o reoli’r trysorlys mewn cyfnod heriol ac ansicr.

 

          Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r posibilrwydd o orfod talu banciau i edrych ar ôl ein cronfeydd, nodwyd bod hyn yn bosibilrwydd, ond er bod y sefyllfa wedi ei osgoi hyd yma, ni ddylid diystyru cyfraddau banc negyddol i’r dyfodol.

 

            PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad

7.

TREFNIADAU GWRTH DWYLL, GWRTH LYGREDIGAETH A GWRTH LWGRWOBRWYO pdf eicon PDF 444 KB

I ystyried yr adroddiad sydd yn diweddaru’r pwyllgor am drefniadau atal twyll ac atal llygredd y cyngor, a’r cynnydd ar y rhaglen waith am y tair blynedd nesaf

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad hwn fel diweddariad ar y camau y mae’r Cyngor yn eu cymryd yn y maes gwrth-dwyll a gwrthlygredd

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol (Refeniw a Risg) yn diweddaru’r Pwyllgor ar drefniadau atal twyll ac atal llygredd y Cyngor ynghyd a chynnydd ar y rhaglen waith am y tair blynedd nesaf. Atgoffwyd yr Aelodau bod rhaglen waith Strategaeth Gwrth-dwyll, Gwrthlygredd a Gwrth  Lwgrwobrwyo Cyngor Gwynedd ar gyfer 2019 - 2022 wedi ei mabwysiadu gan y Pwyllgor ar y 14eg o Chwefror 2019. Nodwyd bod y Strategaeth yn cynnwys wyth o weithrediadau y dylid eu cyflwyno yn ystod y tair blynedd er mwyn cryfhau trefniadau gwrth-dwyll y Cyngor o fewn yr adnoddau sydd ar gael.

 

Amlygwyd nad oedd swyddogion y Cyngor yn ymchwilio i honiadau o dwyll yn ei erbyn ar hyn o bryd.

 

Tynnwyd sylw at adnabod risgiau newydd gan gyfeirio ar y gweithrediad i gynnal gweithdai rheolaidd o swyddogion perthnasol i drafod materion sy'n codi, risgiau ymddangosol a rhannu arferion da. Cyflwynwyd cynllun i’r Pwyllgor yn fis Gorffennaf oedd yn cynnwys archwiliadau penodol sy’n ymateb i feysydd a allai fod yn destun twyll yn sgil yr argyfwng.

 

Adroddwyd mai un o effeithiau'r argyfwng oedd y cynnydd mewn cyfleon twyll a sgamiau, a bod rhywun yn dod yn fwy ymwybodol o’r materion hyn o fod yn gweithio o adre drwy brofi cynifer o alwadau ffôn twyllodrus sy’n cael eu gwneud i gartrefi. O geisio ymchwilio i dwyll gostyngiad Treth Cyngor nodwyd, er y bwriad o gynnal cyfweliadau twyll, nid oedd yr amgylchiadau eleni wedi caniatáu i gamau pellach gael eu cymryd fel y disgwyliwyd gan nad oedd yr argyfwng iechyd cyhoeddus wedi caniatau cynnal cyflweliadau ffurfiol ayb.

 

Yng nghyd-destun defnyddio data, cyfeiriwyd at y gweithrediad i asesu’r posibilrwydd o ddefnyddio data’n well er mwyn adnabod ac ymchwilio i dwyll. Nodwyd bod Cyngor Gwynedd yn cydweithio â chwmni Datatank i ddarparu gwaith parhaus o adolygu’r disgownt person sengl a roddir i gyfrifon Treth Cyngor.  Mae ceisiadau ffug am y disgownt yma ymysg y twyll mwyaf cyffredin yn genedlaethol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â thaliadau ffyrlo, nodwyd bod nifer o geisiadau ffyrlo ffug wedi eu cyflwyno ar draws Prydain. Ategwyd y byddai’r Uned Archwilio yn ymchwilio i faterion a fyddai’n ymwneud ag unrhyw geisiadau twyllodrus sy’n cael eu cyflwyno i’r Cyngor.

 

 

          PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad hwn fel diweddariad ar y camau y mae’r Cyngor yn eu cymryd yn y maes gwrth-dwyll a gwrthlygredd

 

8.

TREFNIADAU RHEOLI RISG pdf eicon PDF 280 KB

I ystyried yr adroddiad sydd yn rhoi diweddariad i’r pwyllgor archwilio a llywodraethu am drefniadau rheoli risg y cyngor

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad fel diweddariad ar y camau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i sicrhau fod cofrestr risg gyflawn yn ei le.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol (Refeniw a Risg) yn diweddaru’r Pwyllgor ar ddatblygiadau i’r trefniadau rheoli risg, y camau gweithredu nesaf ac i ystyried os yw’r ymateb yn mynd i’r afael a’r materion a godwyd yn llythyr yr Archwilwyr. Atgoffwyd yr Aelodau mai un o gyfrifoldebau statudol y Pwyllgor yw adolygu ac asesu trefniadau’r Awdurdod ar gyfer rheoli risgiau, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol, yn unol â Rhan 81 (1)(c) Mesur Llywodraeth Lleol (Cymru) 2011.

 

          Eglurwyd bod y gofrestr risg yn ddogfen fyw ac yn cael ei diweddaru’n briodol er mwyn adlewyrchu gwir sefyllfa’r Cyngor. Cydnabuwyd yn y gorffennol y gwelwyd gweithgareddau achlysurol mewn ymateb i gais i ddiweddaru’r gofrestr, ond erbyn hyn mae’r mater yn cael sylw llawer mwy cyson sydd yn arwydd bod Rheolwyr wedi dechrau gweld diweddaru’r gofrestr fel rhywbeth naturiol. Ategwyd hefyd y byddai cynnwys y gofrestr risg a'r cynnydd a wneir i fynd i'r afael a'r materion sydd angen sylw, yn chwarae rhan ganolog mewn cyfarfodydd adolygu perfformiad yn y dyfodol.

 

          Diolchwyd am yr adroddiad a mynegwyd bod y gofrestr yn amlygu neges bositif bod trefniant yn ei le

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chofnodi'r pandemig fel risg newydd ac y dylid adnabod y gwersi a ddysgwyd o’r argyfwng, nodwyd bod y gofrestr yn arf ar gyfer blaenoriaethu, a derbyniwyd y sylw bod angen amlygu hyn yn yr adroddiad.

 

Derbyn yr adroddiad fel diweddariad ar y camau y mae’r Cyngor yn eu cymryd i sicrhau fod cofrestr risg gyflawn yn ei le.

 

9.

CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 417 KB

 

I ystyried adroddiad y Rheolwr Archwilio

Penderfyniad:

  • Derbyn yr wybodaeth, gan nodi’r cynnwys fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2020/21
  • Cefnogi’r Uned Archwilio i ddwyn perswâd rhesymol ar Adrannau fel bod modd parhau i gynnal y gwaith yn briodol o dan yr amodau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau’r Cynllun Archwilio Mewnol  2020/21. Amlygwyd bod 38 archwiliad unigol  wedi ei rhaglennu ar gyfer y flwyddyn gyda gwir gyrhaeddiad ar gyfer 31/10/20 yn 18.42% - allan o’r 38 archwiliad roedd 7 wedi ei rhyddhau yn derfynol / cwblhau. Mewn ymateb, i’r argyfwng covid-19, nodwyd, bod rhai o swyddogion yr  Uned Archwilio wedi cael eu trosglwyddo i’r Gwasanaeth Refeniw  i gefnogi’r gwasanaeth i weinyddu grantiau busnes Llywodraeth Cymru.

 

          Diolchwyd am yr adroddiad

 

          Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â goblygiadau cwblhau llai o archwiliadau na’r hyn a gynlluniwyd, amlygodd y Rheolwr Archwilio bod angen addasu’r ffordd o gynnal archwiliadau. Derbyniwyd bod cynnal archwiliadau yn anodd yn yr hinsawdd bresennol, ond ymddengys tuedd gan wasanaeth o beidio â gweithredu oherwydd gofynion ychwanegol o ganlyniad i’r argyfwng. Ategwyd bod angen rhoi cyfarwyddyd i swyddogion gydweithredu, ond pwysleisio na fyddai’r gwaith yn amharu ar swyddogion allweddol.

 

          Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut mae’r uned yn goresgyn y cyfyngiad o fynd ar safle, mynegwyd bod yr Uned yn ceisio osgoi ymchwiliadau lle mae angen mynd a’r safle gyda nifer bellach yn cael eu cynnal drwy gyfrwng Teams a thystiolaeth yn cael ei dderbyn drwy e-byst. Amlygwyd bod risg o fethu darparu sicrwydd a mynegwyd bod yr Uned yn ceisio cydweithio  gyda gwasanaethau i geisio gwneud pethau mor rhwydd â phosib i swyddogion weithredu.

 

          PENDERFYNWYD

 

·         Derbyn yr wybodaeth, gan nodi’r cynnwys fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2020/21

·         Cefnogi’r Uned Archwilio i ddwyn perswâd rhesymol ar Adrannau fel bod modd parhau i gynnal y gwaith yn briodol o dan yr amodau

 

 

 

10.

ADRODDIAD Y GWEITHGOR GWELLA RHEOLAETHAU pdf eicon PDF 442 KB

I adrodd ar y cyfarfod a gynhaliwyd 10fed o Dachwedd 2020

Penderfyniad:

Derbyn yr wybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor yn adrodd ar gyfarfod a gynhaliwyd 10/11/2020 i drafod yr archwiliadGoramsermewn ymateb i benderfyniad y Pwyllgor (30/07/20) i alw Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol i gyfarfod y Gweithgor Gwella Rheolaethau i drafod y mater ymhellach. Derbyniwyd, er bod rheolaethau mewn lle bod angen gwella cydymffurfiaeth â’r rheolaethau a /neu gyflwyno rheolaethau newydd i leihau’r risgiau mae’r gwasanaeth yn agored iddynt.

 

Mynegodd y Rheolwr Archwilio nad oedd y polisi cyfredol yn synhwyrol o ran talu goramser –gellid talu am oramser os yw’r gwaith wedi ei gynllunio o flaen llawn (rhaglenedig) ond dim ar gyfer gwaith heb ei gynllunio (unplanned). Ategodd os oedd Rheolwyr yn ymwybodol o unrhyw waith rhaglenedig, yna nad oedd rhesymeg pam na allai hynny gael ei raglennu i raglen waith arferol y gwasanaeth a bod taliadau goramser i’w talu ar gyfer argyfyngau yn unig.

 

Adroddwyd bod y Rheolwr Ymgynghorol Gwasanaethau Adnoddau Dynol wedi nodi bod y polisi wedi ei sefydlu beth amser yn ôl a bod angen ail-ymweld â’r polisi a’r trefniadau goramser yn gorfforaethol. Datganwyd bod prosiect eisoes ar y gweill.

 

Deilliant y cyfarfod oedd i’r Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol ail-ymweld â’r cynllun gweithredu gan ei ddiweddaru o safbwynt dyddiadau gweithredu.

 

Nodwyd bod y drafodaeth wedi bod yn fuddiol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth

 

 

11.

CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL pdf eicon PDF 426 KB

Ystyried yr adroddiad sydd yn amlinellu gwaith archwilio mewnol am y cyfnod hyd at 31 Hydref 2020

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad hwn ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Ebrill 2020 hyd at 31 Hydref 2020 a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig sydd eisoes wedi’u cyflwyno i reolwyr y gwasanaethau perthnasol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith archwilio mewnol am y cyfnod hyd 31 Hydref 2020. Amlygwyd bod 10 o archwiliadau’r cynllun wedi eu cwblhau.

 

Yn ogystal gwnaethpwyd gwaith ar archwiliadDatganiadau Cyflogaeth”. Bwriad yr archwiliad oedd gwirio bod cymal ynglŷn â hyfforddiant statudol megis diogelu wedi ei gynnwys yn natganiadau cyflogaeth holl staff y Cyngor er mwyn atgyfnerthu’r pwysigrwydd bod y cyfrifoldeb yn berthnasol i bawb. Detholwyd sampl o 40 aelod o staff ar draws y Cyngor oedd yn newydd i’w swydd ers mis Ionawr 2020 a gwriwyd eu datganiadau cyflogaeth a chofnodion hyfforddiant. Darganfuwyd nad oedd y cymal wedi ei gynnwys mewn unrhyw un o’r datganiadau cyflogaeth a ddetholwyd. Cysylltwyd â’r Gwasanaeth Adnoddau Dynol (Adran Cefnogaeth Gorfforaethol), a cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Ymgynghorol Adnoddau Dynol nad oedd gwaith wedi ei wneud i gynnwys y cymal oherwydd bod amgylchiadau Covid-19 wedi amharu ar gyflawni hynny. I’r perwyl hyn, penderfynwyd peidio dyrannu lefel sicrwydd ond i’r Gwasanaeth Archwilio Mewnol ail-ymweld â’r maes yn ystod chwater 4 2020/21, gan ddethol sampl newydd o aelodau o staff. Bydd y darganfyddaidau yn cael eu hadrodd i’r pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad hwn ar waith Archwilio Mewnol am y cyfnod o 1 Ebrill 2020 hyd at 31 Hydref 2020 a chefnogi’r gweithrediadau cytunedig sydd eisoes wedi’u cyflwyno i reolwyr y gwasanaethau perthnasol.