Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Elin Hywel (Cadeirydd) a’r
Cynghorydd John Pughe Roberts (Is gadeirydd) Yn
absenoldeb y Cadeirydd ar Is-gadeirydd gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer
Cadeirydd i’r cyfarfod yma yn unig. Cynigwyd ac eiliwyd y Cyng. Ioan Thomas a’r
Cyng. Stephen Churchman. Pleidleisiwyd
ar y ddau gynnig. Etholwyd y Cynghorydd Stephen Churchman fel Cadeirydd i’r cyfarfod yma yn
unig. Croesawyd y
Cynghorydd Gwynfor Owen fel aelod newydd i'r Pwyllgor. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9fed o
Chwefror 2026 fel rhai cywir |
|
|
ADRODDIAD RHAGAMCANION MODELU LLIF ARIAN I ystyried yr adroddiad, nodi’r cynnwys a derbyn yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi mewn ymateb i’r angen i
ragamcanu llif arian disgwyliedig y Gronfa dros gyfnod hirdymor, fel bod modd
deall sensitifrwydd sefyllfa llif arian net y Gronfa mewn nifer o senarios
chwyddiant. Adroddwyd, er bod y prisiad teirblynyddol wedi dangos bod y Gronfa
mewn sefyllfa iach o ran asedau, rhaid cadw golwg ar lif arian y Gronfa gan
ystyried trosi rhai asedau i arian neu i asedau fyddai’n talu incwm rheolaidd
(er mwyn talu’r pensiynwyr), ac a fyddai digon o arian yn dod i mewn i’r Gronfa
o ddydd i ddydd i wneud hynny. Tynnwyd sylw at y mathau o incwm a’r gwariant rheolaidd sydd yn digwydd o
fewn y Gronfa, ynghyd a sefyllfa llif arian y blynyddoedd diweddar oedd yn
amlygu bod y sefyllfa wedi bod yn bositif dros y tair mlynedd ddiwethaf.
Eglurwyd ei bod yn
arferol i Gronfa Bensiwn fynd i sefyllfa llif arian negyddol pan fydd taliadau
buddion yn mynd yn uwch na’r incwm sydd yn dod i mewn, ac felly amlinellwyd
bwysigrwydd o’r angen i fonitro’r sefyllfa a defnyddio Strategaeth Fuddsoddi er
mwyn gwerthu neu newid y math o asedau sydd fwyaf priodol. Cyfeiriwyd at adroddiad a ddarparwyd gan Hymans Robertson oedd yn asesu’r
sefyllfa ynghyd a chanlyniadau scenario analysis a wnaethwpyd i ganfod beth
fydd efffaith chwyddiant gwahanol lefelau. Ymddengys petai senario waelodlin,
yna bydd potensial i’r Gronfa wynebu sefyllfa llif arian negyddol
yn 2027 ac yn gynharach na hynny os bydd chwyddiant yn parhau ar lefel uchel.
Ategwyd, yn y tymor byr, bod gan y Gronfa gronfeydd hylifol y gellid galw
arnynt ar fyr rybudd; bydd monitro a gweithredu’r llif arian hefyd yn
ystyriaeth i’r Cwmni Rheoli Buddsoddi WPP IMCo o fis Ebrill 2026 – bydd angen
cydweithio gyda’r cwmni dros y cyfnod nesaf i sicrhau bod digon o hylifedd ar
gael. Diolchwyd am yr adroddiad a gwerthfawrogwyd yr ymarferiad gan Hymans
Robertson. Mewn ymateb
i gwestiwn ynglŷn â’r angen i ystyried polisi llif arian ac ail-gydbwyso
ffurfiol, nodwyd bydd rhain yn gamau y bydd Cwmni Buddsoddi WPP IMCo angen eu
hystyried; bydd y cwmni hefyd gyda’r arbenigedd i wneud y penderfyniad cywir.
Ategwyd bod asedau ecwiti bellach wedi eu dad risgio, bod camau diogelu mewn
lle a bod y sefyllfa yn un synhwyrol. PENDERFYNWYD: ·
Nodi’r cynnwys a derbyn yr adroddiad |
|
|
DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO I ystyried yr adroddiad
a mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth
Cyllido Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn egluro’r gofyn sydd ar y Gronfa i
adolygu’r Datganiad Strategaeth Cyllido pob tair blynedd, a hynny ar ôl y
prisiad teirblynyddol (onibai bod newid sylweddol yn amodau’r farchnad).
Amlygwyd mai prif bwrpas y datganiad yw adlewyrchu ffactorau’r prisiad gan
bwyso a mesur fforddiadwyedd i’r cyflogwyr gydag amcanion hylifedd hirdymor y
Gronfa. Nodwyd
bod y Datganiad yn ddogfen faith a thechnegol, ac wedi ei pharatoi mewn
ymgynghoriad manwl gyda Hymans a swyddogion y Gronfa. Eglurwyd, fel rhan o’r
adolygiad, bod rhaid i’r awdurdod gweinyddol ymgynghori gyda phob cyflogwr sydd
yn rhan o’r cynllun, gydag actiwari, ymgynghorwyr y Gronfa ac unrhyw bersonau
eraill y maent yn eu hystyried yn addas. Yn unol â’r gofyn, cyflwynwyd y
Datganiad (drafft) i’r Pwyllgor Pensiynau ym mis Chwefror 2026, i’r Bwrdd
Pensiwn ac i holl gyflogwyr y Gronfa. Adroddwyd nad oedd unryw adborth wedi ei
dderbyn gan y cyflogwyr, ond bod yr actiwari wedi awgrymu un newid /
ychwnaegiad i Ch4 ynglŷn ag adrodd ar y Bwlch Pensiwn rhwng Rhywiau Diolchwyd am yr adroddiad
– er yn ddogfen faith, bod y cynnwys yn syml a dealladwy. Derbyn
yr adroddiad a mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Cyllido |
|
|
DATGANIAD STRATEGAETH BUDDSODDI DIWYGIEDIG I ystyried yr adroddiad a mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth
Buddsoddi Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a
mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ceisio cymeradwyaeth ffurfiol y Pwyllgor i
fabwysiadu’r Strategaeth Buddsoddi a chadarnhau trefniadau cronni. Amlygwyd ei
bod yn ofynnol i’r Gronfa gyhoeddi’r Datganiad Strategaeth, ac amserol fyddai
gosod dyraniad asedau strategol newydd yn dilyn y prisiad teirblynyddod. Nodwyd
bod y Datganiad Strategaeth Buddsoddi wedi ei baratoi mewn ymgynghoriad â
Hymans Robertson. Amlinellwyd
bod y strategaeth yn tanlinellu’r cydbwysedd rhwng risg a dychweliadau y mae’r
gronfa ei hangen gan amlinellu’r dyraniad asedau strategol. Cyfeiriwyd at
wybodaeth am y Cwmni Rheoli Buddsoddi IMCo (strwythur a llywodraethiant y cwmni
fydd yn weithredol o’r 1af o Ebrill 2026), buddsoddi cyfrifol, hawliau
pleidleisio ac ymgysylltu - elfennau pwysig yng ngweithrediad y Gronfa. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD Derbyn yr
adroddiad a mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi |
|
|
DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS AR GYFER 2026/27 I ystyried yr adroddiad I fabwysiadu’r
Datganiad Strategaeth Rheolaeth
Trysorlys atodol am
2026/27, fel ei addaswyd i bwrpas
Cronfa Bensiwn Gwynedd (Atodiad
A). I wneudd cais i’r Cyngor (er nad yw’n gorff
ar wahân) i ganiatáu i
arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael
ei gronni gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad blynyddol gan y Rheolwr
Buddsoddi yn nodi, yn unol â Chyfarwyddyd Statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru
ar Fuddsoddiadau Llywodraeth Leol, mae’n ofynnol i’r Cyngor, fel rhan o’i
swyddogaeth wrth reoli’r trysorlys, baratoi Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol.
Fel ymarfer da, ystyriwyd y dylai Cronfa Bensiwn Gwynedd (y “Gronfa”)
fabwysiadu Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (DSRhT) Cyngor Gwynedd am
2026/27, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn. Cafodd DSRhT Cyngor Gwynedd
am 2026/27 ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ar y 5ed o Fawrth 2026. Eglurwyd, ar hyn o bryd, bod yr holl arian
sydd dros ben yn y Gronfa (sef arian nad yw’n cael ei fuddsoddi gyda Rheolwyr
Buddsoddi) yn cael ei gronni gyda balansau ariannol Cyngor Gwynedd ac yn cael
ei fuddsoddi gyda gwrthbartion yn unol â Strategaeth Rheolaeth Trysorlys Cyngor
Gwynedd. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, bydd Cyngor Gwynedd yn talu llog i’r
Gronfa Bensiwn ar sail balansau dyddiol y Gronfa dros y flwyddyn. Adroddwyd bod cod ymarfer CIPFA a chanllawiau Llywodraeth Cymru yn ei
gwneud yn ofynnol i’r Cyngor fuddsoddi ei arian yn ddarbodus gan roi ystyriaeth
i ddiogelwch a hylifedd cyn ceisio enillion neu’r cynnyrch uchaf, a tharo
cydbwysedd gyda’r ffactorau yma. Cyfeiriwyd at y sectorau sydd wedi’u
cymeradwyo i fuddsoddi ynddynt ynghyd a’r terfynau buddsoddi ar eu cyfer e.e.
llywodraeth leol, awdurdodau lleol, banciau, cronfeydd marchnad arian a
chronfeydd cyfun. Tynnwyd sylw at y rhagolygon oedd wedi eu paratoi gan
ymgynghorwyr ariannol y Cyngor, Arlingclose, y math o fuddsoddiadau roedd gan y
Cyngor ar ddiwedd 2025 ac at ofynion ychnwaegol Canllawaiu Buddsoddi
Llywodraeth Cymru. Diolchwyd am yr adroddiad. PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr
adroddiad ·
Mabwysiadu’r Datganiad
Strategaeth Rheolaeth Trysorlys am 2026/27, fel ei addaswyd i bwrpas Cronfa
Bensiwn Gwynedd ·
Gwneud cais i’r
Cyngor (er nad yw’n gorff ar wahân) i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa
Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill
2026 ymlaen. |
|
|
CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I ystyried
yr adroddiad a chymeradwyo’r Cynllun Busnes Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a
chymeradwyo’r Cynllun Busnes Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi
yn cynnwys Cynllun Busnes y Bartneriaeth. Mynegwyd yn arferol, bod y
Bartneriaeth yn creu Cynllun Busnes blynyddol am gyfnod o dair blynedd, ond bod
cynllun eleni yn Gynllun Busnes Trosiannol ar gyfer blwyddyn gyntaf Cwmni
Rheoli Buddsoddiadau WPP IM Co (cwmni annibynnol fydd yn cael ei reoli gan yr
Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) ac yn weithredol o’r 1af o Ebrill 2026). Bydd
y ddogfen hon yn cael ei monitro, ei hadolygu a'i chytuno yn ffurfiol yn
flynyddol. Ategwyd bod y Cynllun Busnes wedi ei gymeradwyo gan Cyd Bwyllgor
Llywodraethu’r Bartneriaeth ar y 10fed o Fawrth 2026 a bod gofyn i’r wyth
Awdurdod sydd yn rhan o’r Bartneriaeth gymeradwyo’r Cynllun. Yng nghyd-destun trefniadau newydd
Partneriaeth Pensiwn Cymru, eglurwyd mai’r Awdurdodau Cyfansoddol yw
cyfranddalwyr a chleientiaid y Cwmni Rheoli Buddsoddiadau (WPP IM Co), ac y
bydd gan WPP IM Co gynllun busnes a chyllideb ar wahân (gweler eitem 10). Ategwyd
y bydd rôl newydd y Bartneriaeth fel cyfranddalwyr a chleientiaid, yn cynnwys
goruchwylio WPP IM Co, yn ogystal â pharhau i weithredu agweddau’r Cytundeb
Rhyng Awdurdod (IAA) diwygiedig a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn ar 5ed o
Fawrth 2026; cyfeiriwyd at strwythur newydd llywodraethu PPC o’r Iaf o Ebrill
2026. Adroddwyd bod y cynllun busnes hefyd yn
manylu ar sut mae’r Bartneriaeth yn mynd i gyflawni ei nodau gan amlinellu
blaenoriaethau ac amcanion Awdurdodau Cyfansoddol y Bartneriaeth a’r gyllideb
ariannol. Diolchwyd am yr adroddiad. Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn a phryd fydd Cwmni Rheoli Buddsoddiadau
(WPP IM Co) yn dechrau gweithredu, nodwyd mai’r 1af o Ebrill 2026 yw’r dyddiad
swyddogol gyda chyfnod trosiannol wrth i’r cwmni sefydlu trefniadau ei hun. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pha mor aml fydd y Cynllun Busnes
yn cael ei adolygu, o ystyried y trefniadau newydd o’r 1af o Ebrill 2026,
nodwyd y bydd yr Awdurdodau Cyfansoddol yn derbyn adolygiad chwarterol gan PPC,
ac adolygiad chwarterol gan y Cwmni Rheoli Buddsoddiadau. Ategwyd y bydd
cyswllt parhaus gyda swyddogion PPC ac WPP IM Co, gyda bwriad o rannu
gwybodaeth / diweddariad yng nghyfarfodydd y Pwyllgor i’r dyfodol. PENDERFYNWYD Derbyn yr
adroddiad a chymeradwyo’r Cynllun Busnes |
|
|
I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo’r Cynllun Busnes Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a
chymeradwyo’r Cynllun Busnes Nodyn Cais am Gynllun
Strategol / ddogfen ffurfiol fyddai’n amlinellu cyfeiriad WPP IM Co i
leihau costau wedi’r cyfnod
trawsnewid Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn cynnwys Cynllun Busnes Cychwynnol Cwmni Rheoli Buddsoddiadau (WPP IM Co). Eglurwyd, o’r
1af o Ebrill 2026, bydd WPP Investment Management Company
Limited (WPP IM Co) yn gyfrifol am gyngor buddsoddi a gweithredu buddsoddiadau,
gwerth mwy na £25 biliwn, ar ran wyth cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol o Gymru. Ategwyd mai’r Cynllun Busnes Cychwynnol yma yw'r cyfrif
ffurfiol cyntaf mae’r Awdurdodau wedi ei dderbyn ac fe gymeradwywyd y Cynllun
Busnes gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ar y 10fed o Fawrth 2026. Amlygwyd bod y Cynllun Busnes yn manylu ar sut fydd y
Cwmni Rheoli Buddsoddiadau yn mynd i gyflawni’r amcanion strategol (dyletswydd
ymddiriedolwyr a lles Aelodau; Gweithredu buddsoddiad; Cyngor buddsoddi;
Buddsoddiad cyfrifol a stiwardiaeth; Buddsoddiad lleol a Chymru; Llywodraethu,
atebolrwydd a thryloywder; Cydymffurfiaeth reoleiddiol; Datblygu tîm a gallu),
ynghyd â gosod cynllun llywodraethu a
goruchwylio, crynodeb ariannol, dull rheoli buddsoddiadau, gweithrediadau a
staffio, rheoli risg a chydymffurfiaeth a buddsoddiad cyfrifol mewn lle. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i sylw bod costau staffio (amcangyfrif
£4.2m) yn sylweddol uwch na gwariant staffio'r Bartneriaeth ar hyn o bryd, ac a
oedd ffigyrau cyfatebol ar gael, nodwyd bod y costau presennol yn isel iawn,
ond y bydd cynnydd sylweddol yn y cyfnod trosiannol wrth sefydlu’r trefniadau
newydd. Y bwriad yw, wrth i’r arbenigedd gael ei sefydlu yn fewnol, y bydd
costau ffioedd Rheolwyr Buddsoddi allanol yn gostwng yn sylweddol. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â thaliadau budd (dividend) i Aelodau Bwrdd y Cyfranddalwyr, nodwyd
mai cyflogau fydd yn cael eu talu ac nid bonws. Adroddwyd bod Bwrdd Cysgodol
wedi ei sefydlu ers cofrestru Cwmni Rheoli Buddsoddiadau WPP IM Co gyda’r Tŷ
Cwmnïoedd. Ategwyd mai’r wyth Awdurdod Cyfansoddiadol yw’r Cyfranddalwyr ac
felly pe bai buddion i’w rhannu, i’r Cynghorau unigol bydd y rhain yn cael eu
talu. Nodwyd hefyd bod bwriad sefydlu Polisi Tâl (Remuneration Policy). Mae
penodiadau’r Bwrdd IM Co yn y broses o dderbyn sêl bendith gan y Cofrestr
Gwasanaethau Ariannol (FCA). Mewn ymateb i sylw bod angen Cynllun
Strategol / dogfen ffurfiol fyddai’n amlinellu cyfeiriad WPP IM Co i leihau
costau wedi’r cyfnod trawsnewid, nodwyd bod bwriad cyflogi 12 aelod o staff ym
mis Ebrill, gyda’r ffigwr yn cynyddu i 24 erbyn mis Rhagfyr 2026 - cynnydd
tebygol mewn costau. Er hynny, nodwyd bod disgwyliad i gostau Rheolwr Buddsoddi
/ Cronfeydd allanol leihau yn y tymor hir – amser a ddengys; Dyhead y
Llywodraeth yw lleihau’r ffioedd. PENDERFYNWYD Derbyn yr
adroddiad a chymeradwyo’r Cynllun Busnes Nodyn: Cais am Gynllun Strategol
/ ddogfen ffurfiol fyddai’n amlinellu cyfeiriad WPP IMCo i leihau costau wedi’r
cyfnod trawsnewid |
|
|
DIWEDDARIAD HYFFORDDIANT 2025/26 A CHYNLLUN HYFFORDDI 2026/27 Gofynnir i'r Pwyllgor:
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Nodyn Cynnal
sesiynau un i un gyda’r Aelodau newydd Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau
yn diweddaru’r Aelodau ar gynllun hyfforddiant 2025/26 a gofyn iddynt
gymeradwyo cynllun hyfforddiant arfaethedig
2026/27. Ystyriwyd bod cynllun 2025/26 wedi bod yn llwyddiannus a
diolchwyd i’r Aelodau am fynychu amryw o sesiynau hyfforddiant oedd yn cynnig
ystod eang o bynciau, yn ogystal â
seminarau, cynadleddau a gweminarau allanol perthnasol oedd yn cael eu canmol
fel rhai defnyddiol ac amserol. Amlygwyd
nad oedd Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol, sydd fel arfer yn cael ei gydlynu gan
Hymans Robertson i feincnodi lefelau gwybodaeth yr Aelodau, wedi ei gynnal yn
ystod 2025 oherwydd yr angen i adolygu’r fframwaith yn sgil diwygiadau
llywodraethu Addas ar Gyfer y Dyfodol, cryfhau disgwylidau o dan y Côd
Cyffredinol a datblygiadau mewn pwlio buddsoddiadau, buddsoddii cyfrifol a
safonau llywodraethu. Unwaith y bydd yr Asesiad diwygiedig wedi ei gyhoeddi
bydd hyn yn galluogi’r Gronfa i feincnodi
lefelau gwybodaeth yn genedlaethol, nodi anghenion hyfforddi sy'n dod i'r amlwg
a llywio iteriadau y Cynllun Hyfforddi a'r Strategaeth Llywodraethu a
Hyfforddiant i’r dyfodol. Wrth gyflwyno Cynllun Hyfforddiant 2026/27, ac yng
nghyd-destun hyfforddiant craidd, nodwyd bod y Cynllun yn adlewyrchu'r bwriad i Bartneriaeth Pensiwn Cymru
barhau fel prif ddarparwr hyfforddiant i aelodau'r Pwyllgor a'r Bwrdd Pensiwn.
Fodd bynnag, oherwydd y newidiadau parhaus o fewn y trefniadau pwlio, nid oedd
unrhyw sesiynau hyfforddi wedi'u trefnu. Ategwyd, unwaith bydd y strwythur a'r
trefniadau llywodraethu diwygiedig wedi'u cwblhau, rhagwelir bydd rhaglen o
sesiynau yn cael eu trefnu. Y disgwyliad yw y bydd y sesiynau hyn yn cwmpasu'r
meysydd allweddol. Cyfeiriwyd at gynadleddau sydd wedi eu nodi ar gyfer
2026/27 gan ategu disgwyliad i’r Aelodau sydd yn mynychu gwblhau ffurflen
adborth strwythuredig i’w chynnwys ar raglen cyfarfod y Pwyllgor Pensiynau
dilynol. Anogwyd yr Aelodau i fanteisio ar gyfleoedd dysgu ychwanegol megis
modiwlau dysgu ar lein a dysgu hunangyfeiriedig. Diolchwyd am yr adroddiad Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Yn gwerthfawrogi rhaglen hyfforddiant ffurfiol a
chynhwysfawr ·
Yn croesawu’r cyfleoedd hyfforddiant, yn enwedig i
aelodau newydd ·
Awgrym i gynnal sesiynau un i un (mewnol) ·
Awgrym i gyflwyno sesiwn dilyniant i’r hyfforddiant
Hanfodion (wedi blwyddyn o’r dyddiad cwblhau) ·
Bod Cynhadledd LAPFF i’w chynnal 2-4 Rhagfyr 2026 PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r wybodaeth am yr hyfforddiant a gynhaliwyd yn ystod 2025/26 ·
Croesawu’r
cyfleoedd sydd yn cael eu cynnig ·
Nodi absenoldeb
yr Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol 2025 a'r adolygiad arfaethedig o'r
fframwaith ·
Cymeradwyo
Cynllun Hyfforddi 2026/27 Nodyn Cynnal sesiynau un i un
gyda’r Aelodau Newydd |
|
|
ADRODDIAD PRISIAD Y GRONFA BENSIWN I ystyried
yr adroddiad a nodi’r wybodaeth Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a
nodi’r wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth, adroddiad prisiad gan y
Rheolwr Pensiynau. Adroddwyd bod y swyddogion wedi bod yn cydweithio gyda’r
actiwari Hymans Robertson dros y flwyddyn
diwethaf ar brisiad tair blynedd Cronfa Bensiwn Gwynedd. Eglurwyd mai pwrpas y
prisiad yw sicrhau bod gan y Gronfa strategaeth ariannu gadarn i fodloni
rhwymedigaethau buddion hirdymor wrth osod cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr ar y
cyfnod rhwng 1af o Ebrill 2026 a 31 Mawrth 2029. Cyfeiriwyd at sefyllfa ariannol iach y Gronfa ac at
gyfraddau cyfraniadau’r cyflogwr fydd yn gostwng i 16.2% o’r cyflog (o gymharu
â 21.8% yn 2022). Tynnwyd sylw hefyd at ofyniad newydd ar gyfer Prisiad 2025
sef adrodd ar y Bwlch Pensiwn rhwng y Rhywiau. Nodwyd y bydd adolygiad i
newidiadau yn y rheoliadau i geisio lleihau’r bwlch sydd ar hyn o bryd yn cael
ei ddylanwadu fawr gan y bwlch cyflog rhwng y rhywiau sydd yn adlewyrchu
gwahanol batrymau gwaith fel gwaith rhan-amser. Adolygwyd y rhagdybiaethau a ddefnyddiwyd yn y
prisiad hwn yn mis Ionawr 2025 ac fe’i cymeradwywyd yn Mhwyllgor Pensiynau
Mawrth 2025. Ategwyd, yn dilyn ymgynghoriadau â chyflogwyr, bod y Datganiad
Strategaeth Ariannu terfynol wedi ei gymeradwyo yn y cyfarfod yma (eitem 6), a
bod y prisiad ffurfiol nesaf wedi ei drefnu ar gyfer 31 Mawrth 2028. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â pha mor gyfreithlon yw edrych ar wahanol ryweddau
ar wahân, nodwyd gyda’r mater yn un cenedlaethol y tebygrwydd yw bod barn
gyfreithiol wedi ei dderbyn ar y mater. Ategwyd mai’r un yw’r ganran
cyfraniadau i bawb, ond bod yr anghydraddoldeb yn deillio o ferched gan amlaf yn derbyn llai o
enillion oherwydd gwaith rhan-amser, a seibiannau gyrfa ar gyfer mamolaeth /
gofalu, sy’n arwain at gyfraniadau pensiwn llai; Bydd angen mynd i'r afael â'r bwlch
pensiwn rhywedd drwy hyrwyddo cyflog cyfartal a cheisio mwy o hyblygrwydd. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn ag ystyr ‘profiad aelodaeth’ (membership experience) yn y tabl ‘Newidiadau ers y gwerthusiad
diwethaf - sefyllfa ariannu’, (£31m o leihau gwarged / cynyddu diffyg), nodwyd
bod hyn yn amlygu’r profiad real o gymharu a disgwyliadau y gwerthusiad
diwethaf. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth |
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r
cyhoedd allan o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod
yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff Paragraff 14
o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn
â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson
penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth
hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod
adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod
gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.
Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol
o ran buddiannau cydnabyddedig
trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio
hyder i ddod
a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r
Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes
i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn
cyfansawdd gorau ac felly
am y rhesymau yma mae’r mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol
y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad
12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol
neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y
wybodaeth hynny). Mae
budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau
cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau,
er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol
heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â phroses gaffael
arfaethedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn
gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio
cystadleuaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r
allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er y budd
cyhoeddus. |
|
|
PERFFORMIAD BUDDSODDI CRONFA BENSIWN GWYNEDD HYD AT 31 RHAGFYR 2025 I ystyried yr adroddiad,
nodi’r wybodaeth a chynnwys yr adroddiad
atodol (copi i’r Aelodau yn unig) Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi
yn adrodd ar berfformiad buddsoddi Cronfa Bensiwn Gwynedd hyd at Rhagfyr 2025.
Nodwyd, yn y gorffennol bod y perfformiad yn cael ei drafod mewn panel
buddsoddi gyda’r Rheolwyr Buddsoddi ond gyda newid i drefniadau wrth sefydlu
Cwmni Rheoli Buddsoddi WPP IM Co, bydd y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar y
perfformiad hyd nes bydd y Cwmni Buddsoddi yn dechrau adrodd
i’r Pwyllgor. Trafodwyd yr adroddiad. PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth ·
Yn llongyfarch y swyddogion am y gwaith da sydd yn cael
ei wneud |