Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr David Cowans (Cyngor Bwrdeistref Conwy), John Brynmor Hughes, Peredur Jenkins, Aled Wyn Jones a Peter Read |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16
Ionawr 2020 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16 Ionawr 2020 fel rhai cywir.
|
|
BUDDSODDI ARIAN DROS BEN - 2020/21 PDF 54 KB I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Yn unol â Chyfarwyddyd Statudol Llywodraeth
Cynulliad Cymru ar Fuddsoddiadau Llywodraeth Leol, mae’n ofynnol i’r Cyngor,
fel rhan o’i swyddogaeth wrth reoli’r trysorlys, i baratoi Strategaeth
Fuddsoddi Flynyddol. Fel ymarfer da, ystyriwyd y dylai Cronfa Bensiwn Gwynedd
(y “Gronfa”) fabwysiadu Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (DSRhT) Cyngor Gwynedd am 2020/21, fel ei addaswyd i bwrpas
y Gronfa Bensiwn. Cafodd DSRhT Cyngor Gwynedd am
2020/21 ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ar 5 Mawrth 2020. Dymuniad y Pwyllgor Pensiynau oedd caniatáu i arian
dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda balansau
ariannol y Cyngor. Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol bydd Cyngor Gwynedd yn talu
llog priodol i’r Gronfa Bensiwn ar sail balansau
dyddiol y Gronfa dros y flwyddyn. Amlygwyd bod yr ymarfer yn un sydd yn cael ei
benderfynu yn flynyddol ac mai prif fanteision yr ymarfer yw denu llog uwch,
isafu costau banc ac osgoi dyblygu gwaith o fewn y Cyngor. Cadarnhawyd mai
cadw'r Gronfa yn saff a gwarchod yr arian yw’r flaenoriaeth ac nid cymryd risg. Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr argymhellion. ·
Penderfynwyd gwneud cais i’r
Cyngor (er nad
yw’n gorff ar wahân) i
ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael
ei gronni a’i gyd-fuddsoddi gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill
2020 ymlaen. ·
Penderfynwyd cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r
Strategaeth Buddsoddi Blynyddol atodol am 2020/21, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn. |
|
DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO 2020/21-2023/24 PDF 48 KB I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn
argymell i’r Pwyllgor fabwysiadu Datganiad Strategaeth Cyllido 2020/21 –
2023/24. Atgoffwyd yr Aelodau eu bod, yng nghyfarfod Ionawr 2020 o’r Pwyllgor,
wedi cytuno i’r datganiad gael ei ddanfon allan at bob cyflogwr sydd yn rhan
o’r cynllun, yr actiwari ac ymgynghorwyr y Gronfa am
gyfnod ymgynghorol. Adroddwyd na dderbyniwyd ymateb i’r datganiad
yn ystod y cyfnod. Ategwyd bod cyflogwyr y gronfa wedi datgan eu bod yn fodlon
gyda’r strategaeth a’u lefel cyfraniadau. Cadarnhawyd, nad oedd unrhyw newidiadau i’r fersiwn
a gyflwynwyd ym mhwyllgor mis Ionawr. Amlygodd y Pennaeth Cyllid, yn dilyn canlyniad
prisiant y gronfa a’r lefel cyllido wedi cynyddu i 108%, bod y penderfyniad i beidio gostwng y
cyfraniadau yn llawn yn benderfyniad darbodus o ystyried cwymp yn y farchnad
byd eang dros y misoedd diwethaf. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth |
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU PDF 88 KB I ystyried
adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn
hysbysu’r Pwyllgor am weithgareddau diweddaraf Partneriaeth Pensiwn Cymru. Adroddwyd bod perfformiad y
bartneriaeth wedi bod yn safonol iawn
a’r cydweithio yn mynd o nerth
i nerth. Atgoffwyd yr Aelodau bod £606.2m
o fuddsoddiadau ecwiti Cronfa Gwynedd wedi trosglwyddo i Gronfa
Partneriaeth Pensiwn Cymru yn Chwefror
2019 gyda’r swm wedi ei rannu
yn gyfartal i ddwy gronfa.
Nodwyd bod perfformiad y ddwy gronfa yn
uwch na’r meincnod a bod hyn yn newyddion calonogol
iawn. Y cam nesaf fydd trosglwyddo buddsoddiadau presennol gyda Fidelity (£161.6m - Ecwiti Byd Eang) ac Insight (£292.0m - Bondiau) i ddwy
gronfa Incwm Sefydlog. Nodwyd bod Russell
Investment yn monitro’r perfformiad ac yn cynnal trafodaethau a chyfarfodydd yn aml gyda’r Gronfa
fel bod modd cwblhau’r trosglwyddiad Ebrill 2020. Wedi cwblhau’r trosglwyddiadau Incwm Sefydlog, adroddwyd mai’r cam nesaf fyddai penderfynu
ar strwythur rheolwyr buddsoddi delfrydol ar gyfer
cronfa Marchnadoedd Datblygol. Amlygwyd bod oddeutu £52m i’w drosglwyddo i gronfa
Marchnadoedd Datblygol o gwmni Fidelity a thrafodaethau yn cael eu
cynnal gyda Russell
Investment i ystyried cronfeydd addas. Ategwyd bod Russell Investments, wrth ddatblygu ffurf a rheolaeth Cronfa Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ystyried
gofynion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol wrth fuddsoddi’n gyfrifol. Nodwyd eu bod yn edrych
yn fanwl ar ffyrdd o gwrdd
â’r anghenion hyn drwy ystyried
a chynnwys buddsoddiadau
carbon isel ond hefyd drwy beidio
colli / gwanhau dychweliadau. Cyfeiriwyd at drefniadau llywodraethu Cydbwyllgor y Bartneriaeth ac adroddwyd bod priodoldeb y trefniant wedi ei drafod yng
nghyfarfod y Cydbwyllgor ar y 12fed o Fawrth. Ategwyd bod awgrym i gynnwys cynrychiolaeth
o’r Byrddau Pensiwn (o fewn yr awdurdodau cyfansoddol)
ar y Cydbwyllgor. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Bod trefniant y Cydbwyllgor
yn sefydlog ac yn gweithio yn
dda ·
Bod Cadeiryddion y Byrddau
Pensiwn yn cyfarfod mewn fforwm
Cadeiryddion ·
Tebygol bydd angen
cynnig enwebiad i gynrychioli’r Byrddau Pensiwn yn unol â gofynion
y Rheolydd Pensiynau - aelod fel sylwebydd
heb bleidlais ·
Dychweliadau yn dystiolaeth bod Partneriaeth Pensiwn Cymru yn
gweithio ·
Is-gadeirydd Pwyllgor
Pensiynau Gwynedd wedi mynychu’r Cydbwyllgor er mwyn sicrhau
dilyniant pan ddaw cyfnod Cadeiryddiaeth y Pwyllgor i ben ·
Rhaglen eang o hyfforddiant, fydd yn canolbwyntio'n bennaf ar fodloni
anghenion, yn cael ei llunio
ar gyfer aelodau a swyddogion y Cydbwyllgor; awgrym y gellid ei ymestyn
i aelodau'r Pwyllgor Pensiynau, yn ogystal â chynrychiolwyr
y Bwrdd Pensiynau, os yw'n berthnasol;
cais i ystyried
cynnal y sesiynau hyfforddi ar ddyddiau
cyfarfodydd y Cydbwyllgor i osgoi trefnu
dyddiadau pellach. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth |