Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan John Pughe Roberts a Dewi Morgan (Pennaeth Cyllid).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 126 KB

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CYFRIFON TERFYNOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 98 KB

 

I ystyried adroddiad yr archwilydd, cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon ac awdurdodi’r Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r llythyr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

 

Cofnod:

Croesawyd Yvonne Thomas (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod

 

Cyflwynwyd adroddiad ynghyd a Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd 2022/23 (ôl archwiliad), gan y Rheolwr Buddsoddi oedd yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2023. Atgoffwyd yr Aelodau bod drafft o’r cyfrifon wedi eu cyflwyno i gyfarfod 26ain Mehefin 2023 ac er nad oedd newidiadau arwyddocaol i’r prif ddatganiad yn dilyn archwiliad gan Archwilio Cymru, bod addasiad ar Nodyn 13: Rhaniad Incwm Buddsoddi, ond nad oedd y cyfanswm wedi newid. Ategwyd bod angen diweddaru Nodyn 23 - Trafodion Partïon Cysylltiedig - aelodaeth llywodraethu'r Pwyllgor a'r Bwrdd Pensiynau cyn cyhoeddi yn derfynol.

 

Gwahoddwyd Yvonne Thomas (Archwilio Cymru) i gyflwyno adroddiad ‘ISA260’. Adroddwyd bod yr archwilwyr yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni, unwaith y byddai’r Llythyr Cynrychiolaeth wedi ei arwyddo.  Eglurwyd na all archwilwyr fyth roi sicrwydd cyflawn bod cyfrifon wedi’u datgan yn gywir ond yn hytrach yn gweithio i lefel o ‘berthnasedd’. Pennwyd lefel perthnasedd o £27.6635 miliwn ar gyfer archwiliad eleni i geisio adnabod a chywiro camddatganiadau a all arwain fel arall at gamarwain rhywun sy’n defnyddio’r cyfrifon. Cyfeiriwyd eto at y camddatganiad yn y cyfrifon gwreiddiol (Nodyn 13 Incwm Buddsoddi) a chadarnhawyd bod y rheolwyr bellach wedi ei gywiro.

 

Tynnwyd sylw at y penawdau isod:

 

·        Yn cynnig un argymhelliad y dylai Cronfa Bensiwn Gwynedd redeg ac arbed yr adroddiad ar fanylion aelodaeth a gofnodwyd yn system Altair i gefnogi’r ffigyrau ag adroddwyd yn y cyfrifon. Nodwyd bod y Rheolwyr wedi derbyn yr argymhelliad ac wedi nodi bwriad o ddarparu adroddiad i gefnogi’r niferoedd aelodaeth mewn datganiadau ariannol yn y dyfodol – yr adroddiad i’w ‘arbed’ ar y diwrnod fel tystiolaeth.

·        Bod y wybodaeth a gyflwynwyd o ansawdd uchel ac yn bositif iawn - yn adlewyrchiad da o’r trefniadau da sydd o fewn yr Adran Gyllid

·        Yn diolch i’r Swyddogion am gwblhau’r cyfrifon mewn amserlen dynn

 

 

Diolchwyd i’r Archwilwyr am eu cydweithrediad a’u gwaith trylwyr. Gwerthfawrogwyd ymroddiad a chywirdeb y gwaith a diolchwyd i’r Rheolwr Buddsoddi a’r tîm am baratoi’r cyfrifon.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol:

 

·        Bod yr adroddiad yn un calonogol a phositif - yn rhoi hyder bod pethau yn dda a bod canlyniad yr archwiliad yn amlygu gwaith da'r swyddogion

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn a nodi’r adroddiad ISA 260 gan Archwilio Cymru

·        Cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd ôl archwiliad ar gyfer  2022 / 23

·        Awdurdodi’r Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth, yn electroneg

 

6.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 185 KB

I dderbyn a nodi’r diweddariad chwarterol gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi. Nodwyd bod yr adroddiad yn un sydd bellach yn ymddangos yn rheolaidd ar raglen y Pwyllgor Pensiynau fel modd o sicrhau bod yr Aelodau yn derbyn gwybodaeth gyfredol a diweddar. Cyfeiriwyd at grynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau cyfarfod y Cydbwyllgor Llywodraethu (sef corff sydd yn gwneud penderfyniadau’r Bartneriaeth) a gynhaliwyd 20 Medi 2023 gan dynnu sylw penodol at adolygiad o’r Cynllun Busnes ar gyfer 2023/24.

 

Atgoffwyd yr Aelodau mai Waystone (Link yn flaenorol) yw’r gweithredwr sy’n darparu gwasanaethau a reoleiddir gan yr FCA; Russell Investments sy'n darparu opsiynau buddsoddi ar gyfer asedau rhestredig; Northern Trust yw'r ceidwad byd-eang penodedig; Hymans Robertson yw'r cynghorydd llywodraethu a goruchwylio a Robeco sy’n darparu gwasanaethau pleidleisio ac ymgysylltu i’r PPC, yn unol â'i gyfrifoldebau a'i ymrwymiadau stiwardiaeth.

 

Cyfeiriwyd hefyd at ddiweddariad y gweithredwr ynghyd a gwybodaeth am yr holl gronfeydd sydd wedi eu sefydlu gan y Bartneriaeth (Gwynedd yn rhan o 8 ohonynt, gyda 83% o Gronfa Gwynedd wedi’i bwlio gyda'r Bartneriaeth) ac at gofnod o berfformiad y cronfeydd hynny.

 

Yng nghyd-destun perfformiad y cronfeydd, nodwyd bod y flwyddyn ariannol yma wedi dechrau yn araf, ond bod y perfformiad ecwiti wedi dechrau gwella erbyn mis Mehefin a hynny oherwydd marchnadoedd America.

 

Yng nghyd-destun datblygiadau i’r dyfodol, adroddwyd bod gwaith yn parhau gyda marchnadoedd preifat, ymuno gyda’r is gronfa isadeiladedd penagored a mandad ecwiti preifat gyda Schroders fydd yn derbyn buddsoddiadau yn fuan. Yn olaf, nodwyd bod gwaith yn parhau i ddatblygu datrysiadau eiddo ar gyfer y bartneriaeth a bod proses tendr ar y gweill ar gyfer canfod darparwr eiddo.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb  i’r adroddiad, nododd y Cadeirydd bod Llywodraeth y DU, yn ddiweddar wedi bod yn feirniadol o arafwch y gwaith pwlio. Braf oedd cael adrodd bod Gwynedd, a Phartneriaeth Pensiwn Cymru ar y blaen yma.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi diweddariad chwarterol Partneriaeth Cymru

 

7.

CYNADLEDDAU PENSIYNAU pdf eicon PDF 55 KB

I drafod dyddiadau cynadleddau a datgan diddordeb i fynychu’r digwyddiadau a nodir erbyn 15fed o Rhagfyr 2023

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn rhestru dyddiadau cynadleddau pensiynau ar gyfer 2024. Nodwyd bod y cynadleddau yn rhoi cyfle i’r Aelodau ehangu eu gwybodaeth a thrafod materion cyfoes. Trafodwyd y dyddiadau a bu i’r Aelodau ddatgan diddordeb yn y digwyddiadau hynny oedd yn gyfleus iddynt.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth a nodi’r dyddiadau

 

8.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff  Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er budd y cyhoedd.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â phroses gaffael arfaethedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio cystadleuaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

9.

ADOLYGIAD O DDYRANIAD ASEDAU STRATEGOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD

I ystyried a chymeradwyo dyraniad asedau strategol arfaethedig y Gronfa

 

(copi i Aelodau’r Pwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn cynnig dyraniad strategol newydd i asedau’r Gronfa ymhellach i’r gwelliant yn y sefyllfa gyllido ers prisiad tair blynedd 2022. Mynegwyd mai Dyrannu Asedau Strategol yw'r penderfyniad pwysicaf ar gyfer unrhyw Gronfa Bensiwn gan ategu nad oes unrhyw ffordd gywir nac anghywir o benderfynu ar y Dyraniad Asedau Strategol ac mai mater o ddod o hyd i'r ateb gorau i gyfyngiadau a chyfleoedd yw hyn. Bydd yr ateb hefyd yn cael ei ddylanwadu gan athroniaethau personol y buddsoddwyr.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Trafodwyd yr asedau arfaethedig newydd

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo symud i’r dyraniad asedau strategol arfaethedig ar gyfer y Gronfa

 

Nodyn:

Bod angen cywiro ffigwr Cyfanswm Amddiffyn.

 

10.

GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO- ADRODDIAD YMGYSYLLTU CH2 2023

I ystyried a nodi Adroddiad Chwarterol gan Robeco

 

(copi i Aelodau’r Pwyllgor yn unig)

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad

 

Nodyn:

I’r dyfodol, sicrhau bod mwy o fanylder a gwybodaeth gefndirol yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad chwarterol yn crynhoi'r gwaith mae Robeco (Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu PPC) yn cyflawni ar ran y Gronfa Bensiwn, gan gynnwys y gwaith ymgysylltu.

 

Trafodwyd cynnwys yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad

 

Nodyn:

I’r dyfodol, sicrhau bod mwy o fanylder a gwybodaeth gefndirol yn cael ei gynnwys yn yr adroddiad