Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorwyr Trevor
Edwards, Seimon Glyn, Glyn Thomas a H. Eifion Jones (Cynrychiolydd Cyngor Sir Ynys Môn) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
PWL BUDDSODDI CYMRU PDF 212 KB Ystyried adroddiad Pennaeth yr Adran Cyllid Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a)
Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn hysbysu’r Aelodau
o’r cynnydd oedd wedi ei wneud yn datblygu Pŵl Buddsoddi Cymru i reoli
asedau buddsoddi wyth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Lleol yng Nghymru ar sail
gydweithredol. Nodwyd bod y prosiect wedi symud yn ei flaen ers cytuno sefydlu
Cerbyd Buddsoddi Cyffredin yn Medi 2015, gyda gwybodaeth ychwanegol o’r broses
wedi ei gyflwyno yn Chwefror 2016 (ar yr hyn oedd i’w gyflwyno i’r DCLG) ac yn
ddiweddarach ym Mehefin 2016 (ar y cyflwyniad
i’r Trysorlys a’r DCLG). (b)
Amlygwyd bod angen adrodd yn gyson ar y bwriad o
gyd-fuddsoddi gan rannu gwybodaeth gyfredol i sicrhau cysondeb. Adroddwyd bod
gweinyddiaeth Cronfa Gwynedd yn aros yng Ngwynedd gyda’r buddsoddi yn digwydd yn rhannol gan
Wynedd a’r Pŵl Buddsoddi Cymru. Cadarnhawyd y byddai’r Pwyllgor Pensiynau
yn parhau i osod y Strategaeth Fuddsoddi ac yn penderfynu faint o asedau fydd
angen eu rhoi mewn categorïau. Wedi cytuno ar y portffolio, bydd yr elfennau
hynny yn cael eu trosglwyddo i’r rheolwr (operator) weithredu
arnynt, gan benodi rheolwyr (cwmnïau) i fuddsoddi ar ran yr wyth cronfa yng Nghymru. (c)
Ategwyd bod yr wyth cronfa yng Nghymru yn gyson a
chytûn bod angen sefydlu Cydbwyllgor ar
y Cyd fyddai’n gosod trefn llywodraethu i sicrhau atebolrwydd a herio
penderfyniadau. I weithredu hyn, awgrymwyd bod
un cynrychiolydd o bob un o’r wyth gronfa yn cael ei gynnwys ar y
Cydbwyllgor yma. Cyfeiriwyd at gynnwys yr adroddiad ynghyd
a’r memorandwm o ddealltwriaeth (drafft) a oedd yn egluro sut fyddai’r drefn yn
gweithredu yn y tymor byr ac i’r dyfodol. ch) Wrth ystyried y camau nesaf, eglurodd y
Pennaeth Cyllid bydd adroddiad ffurfiol
i’w gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym Mawrth 2017 fydd yn argymell i’r Cyngor addasu
cyfansoddiad y Cyngor i’r dyfodol, fel bydd y Cydbwyllgor ar y Cyd yn cael
rhywfaint o’r grym fu gan y Pwyllgor Pensiynau. (d)
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol,
wrth symud ymlaen i drefn ffurfiol o sefydlu Cydbwyllgor Cenedlaethol ar y Cyd,
bod angen sefydlu camau cychwynnol i ddechrau proses caffael ar gyfer trefn
buddsoddi newydd. O ganlyniad, amlygwyd mai priodol oedd cael fframwaith
llywodraethu glir. Nodwyd nad oedd y memorandwm o ddealltwriaeth yn clymu'r
Cyngor yn gyfreithiol i’r broses, ond yn creu fframwaith i sicrhau mewnbwn
Cadeiryddion a Phrif Swyddogion Cyllid i’r broses a chaniatáu i’r gwaith
cychwynnol ddechrau. Ychwanegwyd nad oedd gan y Cydbwyllgor hawliau i wneud penderfyniadau, dim ond hawl
i argymell a chefnogi’r broses gan roi cyfeiriad yn ôl yr angen. (dd)
Amlygodd y Cadeirydd bod llawer o waith ychwanegol
wedi cael ei wneud gan Adran Cyllid ac
Adran Gyfreithiol Cyngor Gwynedd a diolchwyd i’r holl swyddogion oedd ynghlwm
a’r gwaith hynny. PENDERFYNWYD i.
bod y Pwyllgor yn nodi’r
cynnydd yn natblygiad Pŵl Buddsoddi Cymru. ii.
bod y Pwyllgor yn
cymeradwyo'r Memorandwm o Ddealltwriaeth drafft. iii.
bod y Pwyllgor yn dirprwyo
hawl i’r Pennaeth Cyllid gytuno unrhyw newidiadau i’r Memorandwm o
Ddealltwriaeth, mewn ymgynghoriad â’r Cadeirydd. iv. bod y Pwyllgor yn penodi y Cadeirydd, y Cynghorydd Stephen Churchman, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |