Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorwyr Peredur Jenkins, Glyn Thomas a Gethin
Glyn Williams |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: (a)
Derbyniwyd nodyn gan y Cynghorydd Peter Read yn
mynegi ei ddiolch i aelodau’r Pwyllgor Pensiynau, a’r swyddogion perthnasol, am
eu caredigrwydd a’u hiwmor dros y blynyddoedd
tra roedd yn aelod o’r Pwyllgor Pensiynau. Mewn ymateb, dymunwyd
gwellhad buan i’r Cynghorydd Peter Read, cyn-gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau,
sydd wedi sefyll i lawr ac yn dioddef ag anaf. Penderfynwyd anfon cerdyn o
ddiolch iddo am ei wasanaeth. (b)
PRESENOLDEB YN CYNHADLEDD
‘LOCAL AUTHORITY PENSION FUND FORUM (LAPFF) 2 – 4 RHAGFYR 2015 Cyflwynwyd cais
gan y Rheolwr Buddsoddi yn gofyn
i’r Pwyllgor enwebu cynrychiolydd i fynychu’r gynhadledd
yn Bournemouth. Cynigiwyd
bod Cadeirydd y Pwyllgor, y
Cynghorydd W Tudor Owen yn mynychu. Derbyniodd y cais. PENDERFYNWYD Y BUASAI
CADEIRYDD Y PWYLLGOR PENSIYNAU YN MYNYCHU CYNHADLEDD LAPFF 2 - 4 RHAGFYR 2015. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2015 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
ar 16eg o Fehefin 2015 fel rhai cywir |
|
CYNLLUNIAU PENSIWN LLYWODRAETH LEOL CYMRU - GWEITHIO GYDA'N GILYDD Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Pensiynau Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a)
Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r Aelodau ar
y Prosiect Cydweithio Pensiynau Cymru ynghyd ag adroddiad gan ymgynghorwyr
busnes Mercer
a oedd yn archwilio i’r posibilrwydd os oedd manteision / gwerth i uno asedau'r
wyth gronfa yng Nghymru. Mewn ymateb i gais gan y Llywodraeth mae
angen sicrhau bod cronfeydd yn buddsoddi
ar y cyd er mwyn lleihau costau yn sylweddol, wrth gynnal perfformiad
buddsoddi cyffredinol. Bydd y Llywodraeth yn gwahodd awdurdodau lleol i
gyflwyno cynigion eu hunain i gwrdd â’r meini prawf
cyffredinol o gyflawni arbedion. Cyhoeddir ymgynghoriad pellach ymlaen eleni a
bydd yn gosod y meini prawf mewn manylder yn ogystal â deddfwriaeth er mwyn
sicrhau bod yr awdurdodau gweinyddol sydd heb gyflwyno cynlluniau
digon uchelgeisiol yn
gorfod cronni. Mae’r gwaith a ymgymerwyd gan gronfeydd Cymru
wedi dangos mai buddsoddi ar y cyd yw’r ffordd ymlaen a bydd datblygiad pellach
o’r cydweithio ar achosion busnes yn arddangos yr ymrwymiad disgwylir gan y
Llywodraeth. Y cam nesaf yw sefydlu fframwaith
cydgyfrannu ar gyfer Cronfeydd Cymru gyda’r nod o leihau ffioedd ac i
ganolbwyntio ar fuddsoddiadau ecwiti yn gyntaf. (b)
Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr argymhellion (c)
Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol
(ch) Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, nododd y Pennaeth Cyllid byddai opsiwn i ymuno mewn fframwaith
ehangach fis Tachwedd ar yr elfen buddsoddiadau goddefol .O ran y rheolaeth
buddsoddi sydd yn weddill, bod gennym ni gyfrifoldeb i barhau i edrych yn
fanylach ar yr achos busnes. (d)
Cytunwyd i gefnogi gwaith pellach a derbyn yr
argymhellion, gan ychwanegu bod angen i’r achos busnes adnabod materion llywodraethu
mewn fframweithiau a awgrymir gan gynnwys
trefn dewis cwmnïau buddsoddi. PENDERFYNWYD cefnogi gwaith
pellach, yn benodol i: 1.
Ymchwilio mewn i gyfleoedd i leihau
ffioedd ar gyfer buddsoddiadau goddefol 2.
Cyd-asesu’r achos busnes manwl ar gyfer
fframweithiau cronni a awgrymir.. 3.
I’r achos busnes adnabod materion llywodraethu mewn
fframweithiau a awgrymir. |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2014/15 Cyflwyno adroddiad Rheolwr Buddsoddi Cofnod: (a)
Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn manylu ar sut
fuddsoddwyd arian parod y Gronfa Bensiwn ar y cyd gydag arian y Cyngor yn
2014/15. Roedd yr adroddiad yn cyflawni gofynion Cyfarwyddyd Statudol
Llywodraeth Cynulliad Cymru. (b)
Amlinellwyd yn yr adroddiad sut roedd yr arian yn
cael ei reoli er mwyn uchafu’r budd. Yn ychwanegol, rhoddwyd diweddariad ar y
sefyllfa ar adennill y buddsoddiadau a wnaed gyda Banc Heritable.
Adroddwyd bod 98% o’r buddsoddiadau bellach wedi eu hadennill, a mwy i ddilyn. (c)
Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr
adroddiad DERBYNIWYD ADRODDIAD
Y RHEOLWR BUDDSODDI ER GWYBODAETH |
|
'KNOW YOUR ONIONS' - CYNHADLEDD YMDDIRIEDOLWYR Y CYNLLUN PENSIWN LLYWODRAETH LEOL Cyflwyno adroddiad Pennaeth Cyllid Cofnod: (a)
Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn hysbysu’r Aelodau o
gynnwys a gwerth cynhadledd Ymddiriedolwyr y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a
gynhaliwyd ym mis Mehefin 2015. Tynnwyd sylw penodol at gymhlethdodau cysoni
ymrwymiadau’r cynllun pensiwn (GMP) gyda chofnodion CaTHeM
fydd yn dasg enfawr i staff gweinyddol y Gronfa Bensiwn sydd angen ei gwblhau
erbyn Ebrill 2018. Ategwyd bod trafodaethau mewnol yn cael eu cynnal i geisio datrysiad i’r sefyllfa. DERBYNIWYD ADRODDIAD Y PENNAETH CYLLID
ER GWYBODAETH . Dechreuodd y cyfarfod
am 3pm a daeth i ben 3:30pm |