Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2023 / 2024 Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Ethol y Cynghorydd Stephen
Churchman yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2023/24 . Cofnod: Penderfynwyd
ail-ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer
2023/24 |
|||||||
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd
ar gyfer 2023 / 2024 Penderfyniad: PENDERFYNIAD Ethol y Cynghorydd Ioan Thomas
yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2023/24 Cofnod: PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Ioan Thomas yn
Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2023/24 |
|||||||
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|||||||
MATERION BRYS Cofnod: Derbyniwyd llythyr agored a anfonwyd i
Bartneriaeth Pensiwn Cymru a’r 8 Cronfa Pensiwn yng Nghymru gan Jack Sargeant
AS, gyda chefnogaeth 20 o aelodau eraill o Senedd Cymru. Mae’r llythyr yn
gofyn i’r sector gyhoeddus i weithio ar gytuno ar strategaeth i
ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â
thargedau sero-net presennol y sector cyhoeddus. Nodwyd bod hwn yn fater lle
bydd bwriad parhau i weithio ar lefel cenedlaethol ac yn lleol yng Ngwynedd,
ond y bydd camau priodol wedi eu gosod allan. Bydd enghraifft o un or camau hyn
yn cael ei gyflwyno mewn datganiad gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) fydd yn
cyhoeddi bod Cronfa Ecwiti Cynaliadwy wedi ei lansio yn llwyddiannus. Bydd y gronfa
newydd yn cefnogi uchelgeisiau o ran sicrhau manteision ariannol a manteision
cynaliadwyedd ehangach i'r Cronfeydd (y gronfa yn cynnwys £270 miliwn o
fuddsoddiad i Wynedd, sef 10% o’r gronfa). Ategwyd y byddai copi o’r llythyr /
datganiad yn cael ei rannu gydag Aelodau’r Pwyllgor Mewn ymateb i sylw
bod buddsoddi yn y Gronfa Ecwiti Cynaliadwy yn newyddion da, yn amlygu
ymrwymiad Gwynedd i gyfrannu at faterion datgarboneiddio, a na fyddai datganiad
cyhoeddus gan Cyngor Gwynedd yn cyfarch hyn, nodwyd bod cyhoeddusrwydd i’r
mater yn cael ei wneud ar wefan PPC, ond derbyniwyd y sylw i Cyngor Gwynedd
ystyried hyn hefyd. |
|||||||
Cofnod: Bu
i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27ain Mawrth 2023
fel rhai cywir. |
|||||||
CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023 PDF 104 KB I dderbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2022/23. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a nodi Datganiad
Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar
archwiliad) ar gyfer 2022/23 Cofnod: Cyflwynwyd, er
gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau
ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2023.
Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun archwiliad sy’n cael ei weithredu gan
Archwilio Cymru Adroddwyd bod y
cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sy’n
cael ei gyflwyno yn y cyfrifon. Mynegwyd bod y
flwyddyn wedi bod yn un prysur i’r Gronfa gyda gweithrediad y prisiad, gosod
dyraniad asedau strategol newydd a datblygiadau PPC. Cyfeiriwyd at grynodeb o
gyfrif y Gronfa gan dynnu sylw at amrywiadau wrth i’r cyfraniadau a’r buddion
gynyddu wedi i weithwyr dderbyn codiadau cyflog ac wrth i’r pensiwn gynyddu
gyda CPI. Ategwyd bod lleihad yn y costau rheoli o’r flwyddyn flaenorol a hynny
oherwydd bod ffioedd ‘Partners’, yn gallu amrywio o
flwyddyn i flwyddyn yn ddibynnol ar berfformiad. Amlygwyd bod
lleihad £13.6 miliwn yng ngwerth marchnad y Gronfa a hynny wedi blwyddyn heriol
gydag effaith parhad rhyfel Wcráin a chwyddiant uchel. Er hynny, ymddengys ar
ddiwedd y flwyddyn ariannol bod gwerth y Gronfa wedi dechrau codi. Diolchwyd am yr
adroddiad Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Cydnabod bod y flwyddyn wedi bod yn brysur a heriol ·
Bod y wybodaeth yn glir a hunanesboniadwy ·
Bod rhaid derbyn bod gwerth y Gronfa yn mynd i
ddisgyn ar brydiau ·
Yn diolch i’r staff am eu gwaith PENDERFYNWYD Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon y
Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad)
ar gyfer 2022/23 |
|||||||
CYNLLUN ARCHWILIO CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2023 PDF 93 KB I ystyried
a derbyn y Cynllun Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn y Cynllun a nodi’r
wybodaeth Cofnod: Croesawyd Yvonne
Thomas (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod. Cyflwynwyd Cynllun
Archwilio Amlinellol ar gyfer 2023 yn cyflwyno’r tîm archwilio ynghyd a ffioedd
a llinell amser archwilio gwaith y bwriedir ei gwblhau yn ystod y flwyddyn yn
unol â’r cyfrifoldeb statudol sydd ganddynt fel archwilwyr allanol. Amlygwyd y
byddai Cynllun Archwilio Manwl 2023 yn cael ei gyflwyno yn ystod Medi 2023 a
hynny oherwydd gofynion newidiadau allweddol i ISA315 sy’n golygu bod rhaid i’r
archwilwyr wneud gwaith pellach o ystyried a phwyso a mesur risgiau cyn
cyhoeddi’r Cynllun. Ategwyd y byddai’r adroddiad ar y gwaith o archwilio’r
Datganiadau Ariannol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn ystod Tachwedd
2023. Diolchwyd am yr
adroddiad ac i Yvonne Thomas am fynychu’r cyfarfod. PENDERFYNWYD: Derbyn y
Cynllun a nodi’r wybodaeth |
|||||||
CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU PDF 192 KB I ystyried
a chymeradwyo’r Cynllun Busnes Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a chymeradwyo’r Cynllun
Busnes Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan y Rheolwr Buddsoddi a oedd yn cynnwys Cynllun Busnes y Bartneriaeth.
Adroddwyd bod y Bartneriaeth yn creu Cynllun Busnes yn flynyddol am gyfnod o
dair blynedd gyda’r cynnwys yn manylu ar sut mae’r Bartneriaeth yn mynd i
gyflawni ei nodau. Pwrpas y cynllun busnes yw: • Esbonio cefndir a strwythur
llywodraethu’r PPC • Amlinellu'r blaenoriaethau a’r
amcanion dros y tair blynedd nesaf • Amlinellu'r gyllideb ariannol ar
gyfer cyfnod y Cynllun Busnes • Crynhoi Buddsoddiadau ac Amcanion
Perfformiad PPC Ategwyd bod y
cynllun busnes yn cael ei fonitro’n gyson ac yn cael ei adolygu a’i
gymeradwyo’n ffurfiol bob blwyddyn gan Gydbwyllgor Llywodraethu’r Bartneriaeth.
Nodwyd hefyd bod gofyn i’r 8 Awdurdod sydd yn rhan o’r Bartneriaeth
gymeradwyo’r Cynllun. Diolchwyd am yr
adroddiad PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r Cynllun Busnes |
|||||||
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU PDF 122 KB I ystyried
a nodi’r wybodaeth Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a nodi diweddariad
chwarter 3 (hyd 31ain Rhagfyr 2022) Partneriaeth Pensiwn Cymru, er gwybodaeth Cofnod: Amlygodd y Rheolwr
Buddsoddi bod yr adroddiad yn un newydd, rheolaidd a fyddai’n cael ei gyflwyno
i’r Aelodau yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith PPC. Bydd yr adroddiad yn
cysoni’r wybodaeth mae pob cronfa yng Nghymru yn ei dderbyn bydd yn cynnwys
penderfyniadau’r Cydbwyllgor Llywodraethu ynghyd a diweddariad chwarterol
safonol wedi ei baratoi gan Link Fund
Solutions (Gweithredwr y Gronfa). Tynnwyd sylw at gynllun hyfforddiant PPC ar
gyfer 2023/24 ac estynnwyd gwahoddiad i’r Aelodau fynychu’r sesiynau. Yn niweddariad y
Gweithredwr, amlygwyd deg o’r Cronfeydd
mae’r Bartneriaeth wedi eu sefydlu gyda 83% o Gronfa Gwynedd wedi’i bwlio mewn
6 ohonynt. Cyfeiriwyd at ddadansoddiad fesul is-gronfa o’r perfformiad gan nodi
bod y flwyddyn wedi bod yn un heriol, ond bod chwarter 3 2022 yn dangos bod y
perfformiad wedi dechrau gwella wrth i ffactorau megis chwyddiant arafu.
Cyfeiriwyd eto at lansiad cyffrous y Gronfa Ecwiti Cynaliadwy a buddsoddiad
Cronfa Gwynedd o £10m mewn prosiect ynni glan yng Nghymru. Ategwyd bod gwaith
yn mynd yn ei flaen i fuddsoddi yn y Cronfa Credyd Preifat, Isadeiledd ac
Ecwiti Preifat, a hynny er mwyn gweithredu dyraniad asedau strategol newydd.
Nodwyd bod gwaith ymchwil hefyd yn cael ei wneud i ganfod sut y gellid pwlio eiddo. Diolchwyd am yr
adroddiad PENDERFYNWYD
derbyn a nodi diweddariad chwarter 3 (hyd 31ain Rhagfyr 2022)
Partneriaeth Pensiwn Cymru, er gwybodaeth |
|||||||
FFACTORAU COST STRAEN YMDDEOLIAD CYNNAR Y GRONFA BENSIWN PDF 327 KB I ystyried a chymeradwyo'r costau straen a gynigir gan Hymans Robertson, fydd i'w defnyddio ar gyfer cyfrifo costau straen wrth symud ymlaen. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a chymeradwyo’r
costau straen a gynigiwyd gan Hymans Robertson fydd i’w defnyddio ar gyfer
cyfrifo costau straen ar gyfer y tair blynedd nesaf Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad newydd i’r Pwyllgor gan y Rheolwr Pensiynau oedd yn amlygu ffactorau
oedd yn ymwneud a chost straen ymddeoliad cynnar. Nodwyd bod y ffactorau hyn
wedi cael eu hadolygu gan Hymans Robertson yn dilyn
proses prisiad. Cymharwyd y ffactorau newydd gyda’r rhai sydd ar waith ar hyn o
bryd ac amlygwyd y byddai mabwysiadu’r ffactorau newydd, yn gyffredinol yn
arwain at gostau straen uwch sy’n ofynnol gan gyflogwyr. Byddai’r costau yn seiliedig ar oedran
yr Aelod, hyd aelodaeth yn y cynllun, tâl, hyd yr amser hyd at Oedran Pensiwn
Arferol, a ffactorau a gynhyrchwyd gan actiwari'r
Gronfa. Adroddwyd, er mwyn
diogelu’r gronfa, roedd awydd i weithredu’r ffactorau cyn gynted â phosibl ac
felly gwnaed cais ym Mai 2023 i Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau
i weithredu hyn cyn eu mabwysiadu’n ffurfiol. Diolchwyd am yr
adroddiad Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chymhariaeth costau blwyddyn 1 ac mai dyma’r unig
flwyddyn y gwelir gostyngiad (4.35% i 4.34%), nodwyd bod hyn oherwydd nad oedd
y golled mor fawr wrth i un agosáu at eu cyfnod ymddeol. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag os mai 67 oed oedd dyddiad ymddeol a ariennir a pham
felly bod angen gosod 17mlynedd (o 55oed) ar gyfer y ffactorau, nodwyd bod
ymddeoliad salwch hefyd efallai yn cael ei ystyried yn y costau. PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo’r costau
straen a gynigiwyd gan Hymans
Robertson fydd i’w defnyddio ar gyfer cyfrifo costau straen ar gyfer y tair
blynedd nesaf |
|||||||
GWEINYDDIAETH PENSIYNAU PDF 720 KB I ystyried
a derbyn yr adroddiad Penderfyniad: CANLYNIAD Y BLEIDLAIS
Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad cynhwysfawr gan y Rheolwr Pensiynau yn rhoi trosolwg cyffredinol o
weinyddu pensiwn dros y flwyddyn ddiwethaf ynghyd a gwybodaeth am y gwaith a
gyflawnwyd dros y cyfnod, diweddariad ar amrywiol brosiectau ynghyd a rhestr
o’r heriau yr oedd yr Uned Weinyddu yn eu hwynebu o ddydd i ddydd. Roedd yr
adroddiad hefyd yn cynnwys dyluniadau ar gyfer logo newydd ynghyd a syniadau ar
gyfer deunydd marchnata y gallai’r Gronfa Bensiwn ei ddefnyddio i hyrwyddo’r
cynllun. Cyfeiriwyd at
lwyddiant a phoblogrwydd ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ gan amlygu bod nifer o aelodau
yn ymweld â’r safle yn ddyddiol gydag oddeutu 20,000 wedi cofrestru ar gyfer y
gwasanaeth hyd yma. Nodwyd yn ddiweddar y cyflwynwyd opsiwn i bensiynwyr y
Gronfa bensiwn weld eu slipiau pensiwn misol ar-lein gyda hyn yn arwain at y
bwriad o beidio gorfod anfon slipiau papur i bensiynwyr newydd i’r dyfodol.
Bydd fersiwn newydd o’r system yn cael ei gyflwyno yn ystod 2023/24 a bydd
opsiynau pellach yn cael eu datblygu i’r aelodau. Trafodwyd
canlyniadau'r rheoleiddiwr pensiynau (mesur data) lle
adroddwyd cynnydd o 4% o’r flwyddyn flaenorol, ar ganlyniadau data penodol y cynllun
sydd yn galonogol iawn o ystyried bod nifer aelodau a heriau gwaith o ddydd i
ddydd wedi cynyddu. Gwahoddwyd yr
Aelodau i ymweld â stondin y Gronfa Bensiwn ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol
ym Moduan. Bydd hwn yn gyfle gwych i rannu gwybodaeth
am y cynllun. Diolchwyd am yr
adroddiad Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod y logo yn edrych yn ffres a modern - amserol ac
addas i bwrpas ·
Yn llongyfarch y tim ar eu perfformiad - er y cynnydd mewn gwaith ac aelodaeth eu
hamser ymateb i ymholiadau wedi lleihau ·
Croesawu bod y gwaith dylunio logo wedi cael ei
gomisiynu yn fewnol PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth |