Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan John Brynmor Hughes, Iwan Huws, Elin Hywel ac Ioan Thomas. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mehefin
2023 fel rhai cywir. |
|
I dderbyn a nodi’r Adroddiad Blynyddol Drafft Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn a nodi’r Adroddiad
Blynyddol Drafft Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad (drafft) gan y Rheolwr Buddsoddi yn manylu ar weithgareddau'r Gronfa
Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023. Nodwyd bod fformat
yr Adroddiad Blynyddol yn unol â chanllawiau CIPFA ac yn cynnwys manylder
aelodaeth y Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiwn, gweinyddiaeth, buddsoddiadau,
perfformiad ariannol, adroddiad yr actiwari, cyfrifon, a’r pum datganiad safonol
sydd gan y Gronfa Bensiwn. Eglurwyd y byddai’r ddogfen yn cael ei hadolygu fel
rhan o archwiliad y cyfrifon gan Archwilio Cymru ac i’w gyflwyno i gyfarfod
Blynyddol y Gronfa Bensiwn ddiwedd mis Tachwedd. Diolchwyd am yr adroddiad. Mewn ymateb i sylw
bod ‘nifer y dyddiau gwaith ar gyfartaledd a gymerir i anfon llythyr dyfynbris
yn cynnig trosglwyddiad i mewn’ ar gyfartaledd yn 26.60, nodwyd, er yn cytuno
bod y ffigwr yn uchel (targed yw 10 diwrnod gwaith), bod y nifer dyddiau yn lleihau
gydag amser. Ategwyd bod y dasg o gasglu’r wybodaeth yn un sydd yn gymhleth
gyda llawer o waith trafod gyda chwmnïau. Nodwyd bod trafferthion recriwtio
staff i’r maes penodol yma hefyd wedi bod yn heriol. Fel un sydd yn cynnig
cyngor ariannol a phrofiad yn y maes penodol yma, nododd y Cyng. Robin
Williams, o’i brofiad, nad yw’r amser yn ‘annerbyniol’ erbyn hyn oherwydd y
lleihad mewn staff gan gwmnïau ers covid. Er bod y
ffigwr yn uchel, ategodd nad oedd angen bod yn rhy galed ar y perfformiad. Diolchodd
y Cadeirydd i’r staff am eu hymdrechion gan dderbyn nad yw’r cyfartaledd
diwrnodau yn broblem unigryw. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â pham bod costau arolygu a llywodraethu ffioedd actiwari
wedi dyblu rhwng 2021/22 (£117,000) a 2022/23 (£234,000), nodwyd bod hyn yn
bennaf oherwydd ffioedd uwch o gynnal prisiad tair blynyddol. Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â chynnydd amlwg mewn costau arolygu a llywodraethu Pwyllgor
Pensiynau a Bwrdd Pensiwn Lleol (£18,000 yn 2021/22 a £33,000 yn 2022/23),
nodwyd bod hyn yn gyfuniad o gostau hyfforddiant i aelodau newydd ynghyd a
chalendr llawn o ddigwyddiadau yn 2022/23 (o gymharu â chyfnod covid). PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r Adroddiad Blynyddol
Drafft |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MANWL CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2022-23 PDF 94 KB I ystyried a derbyn
y cynllun manwl Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Croesawyd Yvonne
Thomas (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod. Atgoffwyd yr
Aelodau bod cyfrifon y Gronfa Bensiwn wedi eu cwblhau ac wedi eu cyflwyno i
gyfarfod y Pwyllgor Mehefin 2023 ynghyd a chynllun amlinellol gan Archwilio
Cymru. Ar y pryd nid oedd y cynllun manwl ar gael oherwydd gofynion newidiadau
allweddol i ISA315 oedd yn golygu bod rhaid i’r archwilwyr wneud gwaith pellach
o ystyried a phwyso a mesur risgiau. Adroddwyd bod y
Cynllun Archwilio Manwl bellach wedi ei gyhoeddi oedd yn amlinellu’r gwaith
fydd yr archwilwyr yn ei wneud er mwyn cyflawni eu dyletswydd statudol sy’n
cynnwys cadw llygad ar y risgiau sylweddol i ddatganiadau ariannol ac ar
feysydd allweddol y canolbwyntir arnynt yn 2023. ·
Risg 1 - y bydd rheolwyr yn diystyru rheolaethau.
Bod hwn yn risg sylweddol i bawb ac nad oedd amheuaeth nad oedd hyn yn digwydd ·
Risg 2 – cyhoeddi balansau’r
Gronfa – bod hwn yn faes sydd yn cael ei gynnwys yn flynyddol ac er nad yn risg
sylweddol bydd Archwilio Cymru yn canolbwyntio arno. Ategwyd bod y
cynllun manwl hefyd yn cynnwys amserlen (bwriad cyflwyno adroddiad ar y gwaith
o archwilio’r Datganiadau Ariannol i’r Pwyllgor, Tachwedd 2023), manylion y tîm
archwilio a’r ffi archwilio (£40,509 - cynnydd o 15% - nid oes bwriad gwneud
elw - bydd y ffi, os yn llai na’r hyn a amcangyfrifid, yn cael ei ad-dalu).
Cyfeiriwyd at ffi 2022 gan nodi camgymeriad yn y ffigwr yn yr adroddiad -
£35,515 ac nid £36,515 Diolchwyd am
adroddiad syml a hawdd i’w ddilyn ac i Yvonne Thomas am fynychu’r cyfarfod. PENDERFYNWYD: Derbyn a nodi
Cynllun Archwilio Manwl Cronfa Bensiwn Gwynedd 2022-23 |
|
ADRODDIAD ALLBWN RHEOLAETH TRYSORLYS 2022-23 PDF 355 KB I ystyried a derbyn yr adroddiad fel gwybodaeth Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn
a nodi’r adroddiad fel gwybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys
y Cyngor 2022/23, yn erbyn y strategaeth a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn 3ydd
Mawrth 2022. Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn flwyddyn brysur a llewyrchus
iawn i weithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor wrth i’r gweithgaredd aros o
fewn y cyfyngiadau a osodwyd. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw fethiant i ad-dalu
gan y sefydliadau roedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda nhw. Adroddwyd bod
£1.8m o log wedi ei dderbyn ar fuddsoddiadau sydd yn uwch na’r £0.4m a oedd yn
y gyllideb. Nodwyd bod yr incwm llog yn sylweddol uwch na’r gyllideb oherwydd
gosodwyd y gyllideb mewn cyfnod pan roedd y gyfradd sylfaenol yn 0.75%; erbyn
Mawrth 2023 roedd yn 4.25%. Derbyniodd y Gronfa Bensiwn £210,000 o incwm yn y
flwyddyn dan sylw. Adroddwyd, yng
nghyd-destun buddsoddiadau, bod y Cyngor wedi parhau i fuddsoddi gyda Banciau a
Chymdeithasau Adeiladu, Cronfeydd Marchnad Arian, Cronfeydd wedi’i pwlio,
Awdurdodau Lleol a Swyddfa Rheoli Dyledion. Nodwyd bod y cronfeydd yn gyson
gyda’r math o fuddsoddiadau sydd wedi eu gwneud ers nifer o flynyddoedd
bellach. Yng nghyd-destun
adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion adroddwyd bod yr holl weithgareddau wedi
cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer CIPFA a strategaeth rheolaeth trysorlys
y Cyngor - hynny yn newyddion da, ac yn
dangos bod rheolaeth gadarn dros yr arian. Cyfeiriwyd at y dangosyddion lle
amlygwyd bod pob dangosydd a osodwyd yn cydymffurfio â’r disgwyl heblaw un
(Datguddiad Cyfraddau llog). Eglurwyd bod y dangosydd yma wedi ei osod yn
amodau llog isel Mawrth 2022 ac felly’n rhesymol bod y symiau mor wahanol. Diolchwyd am yr
adroddiad Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â buddsoddi / benthyg arian i Awdurdodau eraill, nodwyd bod
broceriaid yn cysylltu gyda’r Cyngor yn chwilio am fuddsoddia. Gyda’r Gronfa
mewn sefyllfa lewyrchus gellid cynnig benthyciad i Awdurdodau eraill. PENDERFYNWYD
derbyn a nodi’r adroddiad fel gwybodaeth |
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU PDF 121 KB I dderbyn a nodi diweddariad chwarterol gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a nodi diweddariad chwarterol Partneriaeth Pensiwn Cymru Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad yn rhoi diweddariad ar waith y Bartneriaeth. Nodwyd bod yr adroddiad
yn un sydd yn ymddangos yn rheolaidd ar raglen y Pwyllgor Pensiynau fel modd o
sicrhau bod yr Aelodau yn derbyn gwybodaeth gyfredol a diweddar. Cyfeiriwyd at
grynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau cyfarfod y Cydbwyllgor Llywodraethu a
gynhaliwyd 19 Gorffennaf 2023 gan dynnu sylw penodol at adolygiad chwarter 4 o
gynllun busnes 2022/23 y Bartneriaeth. Nodwyd bod y diweddariad yn cynnwys
gwybodaeth am yr holl gronfeydd sydd wedi eu sefydlu gan y Bartneriaeth
(Gwynedd yn rhan o 6 ohonynt, gyda 83% o Gronfa Gwynedd wedi’i bwlio gyda'r
Bartneriaeth) ac at gofnod o berfformiad
y cronfeydd hynny. Amlygwyd bod y
flwyddyn ariannol yma wedi bod yn heriol, ond yn chwarter 4 gwelwyd bod
perfformiad buddsoddiadau ecwiti wedi dechrau gwella wrth i ffactorau megis
chwyddiant arafu, ac i farchnadoedd Tsiena ail agor ar ôl covid.
Yng nghyd-destun buddsoddiadau incwm
sefydlog, nodwyd bod yr amgylchiadau wedi bod yn heriol gyda methiant Credit Suisse, ond bod yr amgylchiadau wedi sefydlogi erbyn diwedd
y cyfnod. Yng nghyd-destun
datblygiadau i’r dyfodol, adroddwyd bod Cronfa Ecwiti Cynaliadwy wedi ei lansio
yn llwyddiannus gyda buddsoddiad o £270 miliwn gan Gronfa Bensiwn Gwynedd. Ategwyd bod gwaith yn mynd ymlaen i fuddsoddi
yng Nghronfa Credyd Preifat, Isadeiledd ac Ecwiti preifat, a hynny er mwyn
gweithredu dyraniad asedau strategol newydd y Gronfa. Nodwyd bod gwaith ymchwil
hefyd yn cael ei wneud ar sut y gellid pwlio eiddo -
dyma’r elfen olaf a’r mwyaf heriol yng nghyd-destun pwlio
gyda PPC Diolchwyd am yr
adroddiad Mewn ymateb i gais
am gadarnhad bod y Gronfa yn buddsoddi gyda Bute Energy Wales, nodwyd bod y Gronfa wedi buddsoddi £10m yn y
fenter fel rhan o fuddsoddiad ynni glan. Ategodd y Cadeirydd mai da oedd gweld y Gronfa yn buddsoddi yng
Nghymru. PENDERFYNWYD
derbyn a nodi diweddariad chwarterol Partneriaeth Pensiwn Cymru |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Mae
budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau
cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau,
er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol
heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn a phroses gaffael arfaethedig.
Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn
niweidiol i fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio cystadleuaeth.
Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd
gorau . Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r
wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau
canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i
diffinnir ym mharagraff Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson
penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd
cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau
cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau,
er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol
heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â phroses gaffael
arfaethedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn
gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio cystadleuaeth.
Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd
gorau. Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus. |
|
CYTUNO AR Y MEINI PRAWF GWERTHUSO AR GYFER Y BROSES CAFFAEL GWEITHREDWR PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU Cytuno ar y meini prawf gwerthuso ar gyfer y
broses caffael gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru. (copi i Aelodau’r Pwyllgor yn unig) Penderfyniad: PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r
meini prawf gwerthuso ar gyfer y broses caffael gweithredwr Partneriaeth
Pensiwn Cymru Cofnod: Amlygwyd bod
cytundeb presennol gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru yn dod i ben mis Rhagfyr
2024, a bod y broses caffael o ganfod gweithredwr newydd wedi dechrau. Nodwyd y
bydd gwahoddiad i dendro yn cael ei ryddhau mis nesaf, ond yn unol â'r cytundeb
rhwng awdurdod bod angen i bob awdurdod, sef pob pwyllgor pensiynau gytuno ar y
meini prawf gwerthuso cyn i’r gwahoddiad am dendr gael ei gyhoeddi. Trafodwyd
rhaniad y meini prawf. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r meini prawf
gwerthuso ar gyfer y broses caffael gweithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru |
|
GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO- ADRODDIAD YMGYSYLLTU CH1 2023 I nodi cynnwys yr
adroddiad (copi i Aelodau’r Pwyllgor yn unig) Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a nodi cynnwys yr
adroddiad Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad chwarterol yn crynhoi'r gwaith mae Robeco
yn gyflawni ar ran y Gronfa Bensiwn gan gynnwys y gwaith ymgysylltu. Diolchwyd am yr
adroddiad. PENDERFYNWYD derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad |