Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Goronwy Edwards (Cyngor Sir Bwrdeistrefol Conwy), John Brynmor Hughes ac Iwan Huws

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 137 KB

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17/06/24 fel rhai cywir.

 

5.

DIWEDDARIAD RISG ARIANNU A CHYNLLUNIO AR GYFER PRISIAD 2025 pdf eicon PDF 134 KB

I dderbyn diweddariad gan Richard Warden, actiwari’r gronfa ar y risgiau ariannu a chynllunio ar gyfer prisiad 2025.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

Croesawyd Richard Warden (Hymans Robertson) i’r cyfarfod.

 

Mewn ymateb i’r gwaith cynllunio sydd angen ei wneud ar gyfer prisiad 2025, cyflwynwyd gwybodaeth gan actiwari’r Gronfa, Hymans Robertson, oedd yn canolbwyntio ar risgiau cyllid yn yr amgylchedd presennol, yr opsiynau sydd ar gael i reoli'r risgiau hynny a’r manteision sydd i’w cael ar unrhyw gyfleoedd ym mhrisiad 2025.

 

Diolchwyd am y cyflwyniad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ystyriaethau atebolrwydd i lefelau priodol o dwyll, nodwyd bod senarios atebolrwydd ased yn cael eu creu fel bod sefyllfaoedd posib yn cael eu hystyried i reoli risg a gwella perfformiad. Ategwyd bod  ‘sioc mewn asedau’, fyddai’n awgrymu patrwm unigryw o symudiadau pris asedau, hefyd yn cael ei weithredu fel modd o edrych ar fodelau posib mewn ymateb i risgiau o fewn amgylchedd heriol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rheoli risg a’r hyn y gall y Gronfa ei wneud i baratoi ar gyfer prisiad 2025, ac os oedd adnoddau digonol ar gyfer cwblhau’r gwaith, nodwyd bod atebolrwydd asedau yn rhan o’r prisiad ac y byddai unrhyw ganlyniadau yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

6.

CYFRIFON TERFYNOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2024 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 98 KB

I ystyried adroddiad yr archwilydd, cymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon ac awdurdodi’r Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r llythyr.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Derbyn y wybodaeth
  • Nodi adroddiad ISA 260 gan Archwilio Cymru, a derbyn sylwadau’r archwilwyr
  • Cymeradwyo Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd ôl-archwiliad ar gyfer 2023/24
  • Awdurdodi’r Cadeirydd a’r Swyddog.151 i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth (yn electroneg)

 

Cofnod:

Croesawyd Yvonne Thomas (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod

 

Cyflwynwyd adroddiad ynghyd a Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd 2023/24 (ôl archwiliad), gan y Rheolwr Buddsoddi oedd yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2024. Atgoffwyd yr Aelodau bod drafft o’r cyfrifon wedi eu cyflwyno i gyfarfod 17eg Mehefin 2024 ac er nad oedd newidi i’r cyfrifon craidd, amlygwyd dau newid yn y nodiadau yn dilyn archwiliad gan Archwilio Cymru. Tynnwyd sylw at Nodyn 15 - Hierarchaeth Gwerth Teg, ble mae categori eiddo wedi symud o lefel 2 i lefel 3, a hynny mewn ymateb i sut mae’r rheolwyr buddsoddi yn categoreiddio’r buddsoddiadau. Yn ogystal, tynnwyd sylw at newid i Nodyn 23 - Trafodion Partïon Cysylltiedig / Prif Bersonél Rheoli, ble gwelwyd bod Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau bellach yn cael ei gynnwys fel un o’r prif bersonél rheoli.

 

Gwahoddwyd Yvonne Thomas (Archwilio Cymru) i gyflwyno adroddiad ‘ISA260’. Adroddwyd bod yr archwilwyr yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni, unwaith y byddai’r Llythyr Cynrychiolaeth wedi ei arwyddo.  Eglurwyd na all archwilwyr fyth roi sicrwydd cyflawn bod cyfrifon wedi’u datgan yn gywir ond yn hytrach yn gweithio i lefel o ‘berthnasedd’. Pennwyd lefel perthnasedd o £30.744 miliwn ar gyfer archwiliad eleni i geisio adnabod a chywiro camddatganiadau a all arwain fel arall at gamarwain rhywun sy’n defnyddio’r cyfrifon. Cyfeiriwyd eto at y camddatganiad yn y cyfrifon gwreiddiol (Nodyn 15 – Hierarchaeth Gwerth Teg; categori eiddo wedi symud o lefel 2 i lefel 3) a nodwyd bod hyn bellach wedi ei gywiro gan y Rheolwyr.

 

Nodwyd bod y wybodaeth a gyflwynwyd o ansawdd uchel ac yn bositif iawn - yn adlewyrchiad da o’r trefniadau da sydd o fewn yr Adran Gyllid a diolchwyd i’r Swyddogion am y cydweithio da.

 

Diolchwyd i’r Archwilwyr am eu cydweithrediad a’u gwaith trylwyr. Gwerthfawrogwyd ymroddiad a chywirdeb y gwaith a diolchwyd i’r Rheolwr Buddsoddi a’r tîm am baratoi’r cyfrifon. Ategwyd bod yr adroddiad yn un calonogol a phositif a bod canlyniad yr archwiliad yn amlygu gwaith da'r swyddogion.

 

PENDERFYNWYD

·       Derbyn y wybodaeth

·       Nodi adroddiad ISA 260 gan Archwilio Cymru, a derbyn sylwadau’r archwilwyr

·       Cymeradwyo Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd ôl-archwiliad ar gyfer 2023/24

·       Awdurdodi’r Cadeirydd a’r Swyddog.151 i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth

(yn electroneg)

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2024 pdf eicon PDF 52 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad blynyddol drafft

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi Adroddiad Blynyddol y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2023/24

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad (drafft) gan y Rheolwr Buddsoddi yn manylu ar weithgareddau'r Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024. Nodwyd bod fformat yr Adroddiad Blynyddol yn unol â chanllawiau CIPFA ac yn cynnwys manylder aelodaeth y Pwyllgor a’r Bwrdd Pensiwn, gweinyddiaeth, buddsoddiadau, perfformiad ariannol, adroddiad yr actiwari, cyfrifon, a’r datganiadau cyfathrebu sydd gan y Gronfa Bensiwn. Amlygwyd, yn wahanol i adroddiadau blynyddol blaenorol nad oedd datganiadau buddsoddi cyllido a llywodraethu wedi eu cynnwys a hynny i osgoi dogfen swmpus. Yn hytrach bydd dolen ar gyfer y datganiadau yn yr adroddiad.

 

Eglurwyd bod y ddogfen wedi cael ei hadolygu fel rhan o archwiliad y cyfrifon gan Archwilio Cymru ac y bydd y fersiwn derfynol yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Blynyddol y Gronfa Bensiwn ddiwedd mis Tachwedd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi Adroddiad Blynyddol (drafft) Cronfa Bensiwn Gwynedd ar gyfer 2023/24

 

8.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 99 KB

I dderbyn a nodi diweddariad chwarterol gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod yr adroddiad bellach yn un rheolaidd sy’n cael ei gyflwyno i’r Aelodau yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith PPC. Eglurwyd bod yr adroddiad yn cysoni’r wybodaeth mae pob cronfa yng Nghymru yn ei dderbyn ynghyd a chynnwys penderfyniadau’r Cydbwyllgor Llywodraethu a diweddariad chwarterol safonol. Tynnwyd sylw at drafodaeth yng nghyfarfod mis Gorffennaf 2024 o’r Cydbwyllgor oedd yn cynnwys diweddaru’r Cynllun Busnes Safonol, adolygu’r gofrestr risg a pholisïau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at ddiweddariad y Gweithredwr, sydd yn rhoi cip olwg ar ystod lawn is-gronfeydd buddsoddi PPC ar 31 Mawrth 2024 gyda Cronfa Bensiwn Gwynedd bellach wedi pwlio mewn 8 allan o’r 11 is-gronfa gyda 85% o Gronfa Gwynedd wedi’i bwlio gyda'r Bartneriaeth.

 

Adroddwyd bod y flwyddyn ariannol yma wedi bod yn un calonogol gyda buddsoddiadau ecwiti yn perfformio yn dda, gyda marchnadoedd America, Ewrop a Siapan ar ei lefel uchaf erioed, a hyn wedi bwydo mewn i werth Cronfa Bensiwn Gwynedd ar ei uchaf a tynnwyd sylw at fanylion perfformiad pob is-gronfa ecwiti ac incwm sefydlog. Cyfeiriwyd at gyflwyniad a gafwyd gan Schroders Capital, sef dyranwr ecwiti preifat y Bartneriaeth ac eglurwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi buddsoddi £2.2m ar 31 Mawrth 2024, gyda bwriad o gynyddu’r swm yma yn sylweddol dros amser.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

 

9.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2023/24 pdf eicon PDF 171 KB

I dderbyn yr adroddiad er gwybodaeth

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

I dderbyn a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor 2023/24, yn erbyn y strategaeth a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn Mawrth yr 2il 2023. Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn flwyddyn brysur a llewyrchus iawn i weithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor wrth i’r gweithgaredd aros o fewn y cyfyngiadau a osodwyd. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw fethiant i ad-dalu gan y sefydliadau roedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda nhw.

 

Adroddwyd bod £3.5m o log wedi ei dderbyn ar fuddsoddiadau sydd yn uwch na’r £3.2m a oedd yn y gyllideb. Nodwyd bod yr incwm llog yma yn cael ei rhannu gyda’r Gronfa Bensiwn ar sail balans dyddiol a derbyniodd y Gronfa Bensiwn £1.2 miliwn o incwm yn y flwyddyn dan sylw. 

 

Adroddwyd, yng nghyd-destun gweithgareddau buddsoddi, bod y Cyngor wedi parhau i fuddsoddi gyda Banciau a Chymdeithasau Adeiladu, Cronfeydd Marchnad Arian, Cronfeydd wedi’i pwlio, Awdurdodau Lleol a Swyddfa Rheoli Dyledion. Nodwyd bod y cronfeydd yn gyson gyda’r math o fuddsoddiadau sydd wedi eu gwneud ers nifer o flynyddoedd bellach.

 

Yng nghyd-destun adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion, adroddwyd bod yr holl weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer CIPFA a strategaeth rheolaeth trysorlys y Cyngor -  hynny yn newyddion da, ac yn dangos bod rheolaeth gadarn dros yr arian. Cyfeiriwyd at y dangosyddion lle amlygwyd bod pob dangosydd a osodwyd yn cydymffurfio â’r disgwyl heblaw un (Datguddiad Cyfraddau Llog). Eglurwyd bod y dangosydd yma wedi ei osod yn amodau llog isel Mawrth 2023 ac felly’n rhesymol bod y symiau mor wahanol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

I dderbyn a nodi’r wybodaeth

 

10.

ASESIAD GWYBODAETH CENEDLAETHOL HYMANS ROBERTSON pdf eicon PDF 116 KB

I ystyried yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Nodi cynnwys yr adroddiad

Annog holl Aelodau’r Pwyllgor Pensiynau a’r Bwrdd Pensiynau i gymryd rhan yn yr asesiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn darparu Gwybodaeth am yr Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol sydd yn adnodd gwerthfawr wedi ei ddatblygu gan Hymans Robertson i randdeiliaid i wella eu dealltwriaeth a meddu gwybodaeth angenrheidiol i lywio cymhlethdodau cynlluniau pensiwn. Amlygwyd y byddai’r asesiad yn rhoi cipolwg i’r gronfa ar lefelau cyd-wybodaeth y Pwyllgor Pensiynau a’r Bwrdd Pensiynau yn ogystal â meincnodi sgoriau yn erbyn Cronfeydd eraill fydd wedi cymryd rhan. Nodwyd bod yr asesiad yn cynnwys with maes allweddol ar gyfer cyrraedd safon llywodraethu da a bod yr asesiad mewn ffurf holiadur ar-lein.

 

Ategwyd y bydd y canlyniadau’n ddefnyddiol ar gyfer creu cynlluniau hyfforddi wedi eu targedu ar gyfer yr Aelodau i’r dyfodol ac anogwyd pawb i gymryd rhan.

 

PENDERFYNWYD

 

Nodi cynnwys yr adroddiad

Annog holl Aelodau’r Pwyllgor Pensiynau a’r Bwrdd Pensiynau i gymryd rhan yn yr asesiad

 

11.

DYDDIADAU CYNADLEDDAU 2025 pdf eicon PDF 50 KB

I gymeradwyo rhestr o gynadleddau 2025

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r rhestr dyddiadau

Derbyn trefniadau ffurfioli proses mynychu cynadleddau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn rhestru dyddiadau cynadleddau pensiynau ar gyfer 2024. Nodwyd bod y cynadleddau yn rhoi cyfle i’r Aelodau ehangu eu gwybodaeth a thrafod materion cyfoes. Gofynnwyd yr Aelodau i ystyried y dyddiadau a datgan diddordeb i’r Rheolwr Buddsoddi yn y digwyddiadau hynny oedd yn gyfleus iddynt. Ategwyd bod bwriad ffurfioli'r rhestr mynychu gan osod trefn i geisio tegwch a chynrychiolaeth deg.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD

Cymeradwyo’r rhestr dyddiadau

Derbyn trefniadau ffurfioli proses mynychu cynadleddau

 

12.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff  Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau ac felly am y rhesymau yma mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â phroses gaffael arfaethedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio cystadleuaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

13.

PROSES A CHANLYNIAD TENDR APWYNTIO YMGYNGHORYDD BUDDSODDI

I ystyried yr adroddiad

 

(copi i’r Aelodau yn unig)

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

Nodi canlyniad y weithdrefn caffael

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn amlinellu’r broses tendro a gynhaliwyd ar gyfer ymgynghorydd buddsoddi ar gyfer y Gronfa. Nodwyd bod pedwar cwmni wedi ceisio am y cytundeb yma ac eglurwyd, yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor, bod y penderfyniad wedi ei ddirprwyo i swyddogion y Cyngor.

 

Trafodwyd cynnwys yr adroddiad gan amlygu cynigion a pherfformiad y pedwar cwmni. Daeth y swyddogion i’r penderfyniad i ail-benodi Hymans Robertson ar gyfer y gwaith gyda chytundeb saith mlynedd yn dechrau 01-09-24.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

Nodi canlyniad y weithdrefn caffael

 

14.

PROSES A CHANLYNIAD TENDR GWASANAETHAU ACTIWARAIDD, BUDD-DALIADAU A LLYWODRAETHU

I ystyried yr adroddiad

 

(copi i’r Aelodau yn unig)

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

Nodi canlyniad y weithdrefn caffael

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn amlinellu’r broses tendro a gynhaliwyd ar gyfer penodi actiwari newydd ar gyfer y Gronfa. Nodwyd bod dau gwmni wedi ceisio am y cytundeb yma ac eglurwyd, bod y pwyllgor gwerthuso wedi asesu'r ddau gynnig yn erbyn y meini prawf sefydledig.

 

Trafodwyd cynnwys yr adroddiad gan amlygu cynigion a pherfformiad y ddau gwmni. Daeth y pwyllgor gwerthuso i’r penderfyniad i ail-benodi Hymans Robertson ar gyfer y gwaith gyda chytundeb saith mlynedd yn dechrau 01-09-24.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

Nodi canlyniad y weithdrefn caffael

 

15.

GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO- ADRODDIAD YMGYSYLLTU 01.01.2024 - 31.03.2024

I ystyried yr adroddiad

 

(copi i’r Aelodau yn unig)

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad chwarterol yn crynhoi'r gwaith mae Robeco (Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu PPC) yn gyflawni ar ran y Gronfa Bensiwn, gan gynnwys y gwaith ymgysylltu.

 

Trafodwyd cynnwys yr adroddiad a mynegwyd pryder gan yr Aelodau am safon gwaith ymgysylltu ac ymgynghori'r cwmni. Mewn ymateb nodwyd bod bwriad, wrth lunio cytundebau i’r dyfodol, bod PPC am sicrhau bod elfen ragweithiol yn rhan o’r cyfrifoldebau ymgysylltu, ynghyd a gofynion cyflwyno gwybodaeth glir a dealladwy. Nodwyd bod angen i PPC adolygu trefniadau ymateb i’r wybodaeth sydd yn cael ei gyflwyno gan Ddarparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu i wneud y gorau o’r berthynas.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi'r wybodaeth