Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cyng. Iwan Huws |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7fed o Fehefin 2025 fel rhai cywir. |
|
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I dderbyn a nodi’r wybodaeth Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn yr adroddiad a nodi’r
wybodaeth Nodyn: Pwyso unwaith eto ar PPC i gyfeirio at Brosiect Snowdon fel
Prosiect Yr Wyddfa . Cofnod: Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod yr adroddiad bellach yn un rheolaidd
sy’n cael ei gyflwyno i’r
Aelodau yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith PPC ynghyd a phenderfyniadau cyfarfod mis Gorffennaf o’r Cydbwyllgor Llywodraethu (corff sy’n gwneud
penderfyniadau dros y Bartneriaeth gyda Chadeirydd pob cronfa yn eistedd
arno). Cadarnhawyd bod yr archwiliad a’r Ffurflen
Flynyddol wedi eu cymeradwyo ac nid oedd unrhyw fater wedi codi. Ategwyd bod y
gwaith ‘Prosiect Yr Wyddfa’, sef sefydlu Cwmni Buddsoddi ar gyfer buddsoddiadau
cronfeydd pensiwn LGPS yng Nghymru yn prysur symud yn ei flaen, a'r cam nesaf
fydd cofrestru gyda’r FCA, (Financial Conduct Authority) erbyn diwedd mis Medi. Cyflwynwyd hefyd ddiweddariad
ar y cynllun hyfforddi, y cynllun busnes a’r gofrestr
risg ac adolygwyd y polisïau buddsoddi cyfrifol,
hinsawdd a stiwardiaeth. Cyfeiriwyd at fanylder gwaith y gweithredwr dros y cyfnod ac at amodau’r farchnad oedd wedi
cael eu monitro
ganddynt. Tynnwyd sylw at ddadansoddiad a pherfformiad yr is gronfeydd gan amlygu bod buddsoddiadau marchnadoedd preifat wedi ei
lansio a bod gan Cronfa Bensiwn Gwynedd fuddsoddiadau mewn isadeiledd, credyd preifat ac ecwiti preifat, gyda gwaith yn
parhau i geisio lansio buddsoddiadau
eiddo, yn hwyrach yn yr Hydref. Gyda nifer o feysydd newydd, adroddwyd bod gwybodaeth ar bob maes yn unigol
yn cael ei
gyflwyno i’r cydbwyllgor ac mai ecwiti preifat a drafodwyd ym mis Gorffennaf. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i sylw bod PPC
yn parhau i gyfeirio at y prosiect fel Prosiect Snowdon Project ac nid Prosiect
yr Wyddfa / Yr Wyddfa Project, nodwyd bod y sylw wedi cael ei gyflwyno i PPC,
ac ar bob cyfle posib wedi hynny, y swyddogion wedi ceisio cyfleu’r enw cywir.
Derbyniwyd y sylw bod gweddill y DU bellach yn defnyddio'r enw Yr Wyddfa a’r
siom bod PPC, o bob sefydliad, yn methu cydnabod hyn. Er bod gwedd 1 (Prosiect
yr Wyddfa) bellach wedi dod i ben, derbyniwyd yr awgrym i’r Cadeirydd, yng
nghyfarfod nesaf y Cydbwyllgor, bwyso unwaith eto ar PPC i gyfeirio at Prosiect
Snowdon fel Prosiect yr Wyddfa. Derbyn
yr adroddiad a nodi’r wybodaeth Nodyn: Pwyso unwaith eto ar PPC
i gyfeirio at Prosiect Snowdon Project fel Prosiect
Yr Wyddfa |
|
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2024/25 I ystyried
a derbyn yr adroddiad er gwybodaeth Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi
yn adrodd ar wir ganlyniadau
rheolaeth trysorlys y Cyngor 2024/25, yn erbyn y Strategaeth a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn Mawrth y 7fed 2024. Adroddwyd
bod y flwyddyn wedi bod yn flwyddyn brysur
a llewyrchus iawn i weithgaredd rheolaeth
trysorlys y Cyngor wrth i’r gweithgaredd
aros o fewn y cyfyngiadau a osodwyd. Cadarnhawyd
nad oedd unrhyw fethiant i ad-dalu gan
y sefydliadau roedd y Cyngor wedi buddsoddi
arian gyda nhw. Adroddwyd bod £2.5m o log wedi
ei dderbyn ar fuddsoddiadau sydd yn is na’r
£2.7m oedd yn y gyllideb a hynny’n rhesymol o ystyried gostyngiad yn y gyfradd sylfaenol o 5.25% i 4.5%. Nodwyd bod yr incwm llog yn
cael ei rannu
gyda’r Gronfa Bensiwn ar sail balans dyddiol a’r Gronfa Bensiwn
wedi derbyn £1.09 miliwn o incwm yn y flwyddyn dan sylw. Adroddwyd, yng nghyd-destun gweithgareddau buddsoddi, bod y Cyngor wedi parhau i
fuddsoddi gyda Banciau a Chymdeithasau Adeiladu, Cronfeydd Marchnad Arian, Cronfeydd wedi’i pwlio, Awdurdodau
Lleol a Swyddfa Rheoli Dyledion. Nodwyd bod y cronfeydd yn gyson gyda’r
math o fuddsoddiadau sydd wedi eu gwneud
ers nifer o flynyddoedd bellach. Yng
nghyd-destun adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion, adroddwyd bod yr holl weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer
CIPFA a Strategaeth Rheolaeth
Trysorlys y Cyngor - hynny yn newyddion
da, ac yn dangos bod rheolaeth gadarn dros yr arian. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD Derbyn
yr adroddiad a nodi’r wybodaeth |
|
|
ADRODDIAD DRAFFT CADEIRYDD Y PWYLLGOR PENSIYNAU AR GYFER ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA I ystyried cynnwys
yr adroddiad a chynnig sywladau Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a nodi’r
wybodaeth Nodyn: Awgrym i gynnwys
ym mharagraff 3 ‘Gwaith y Pwyllgor’,
gyfrifoldeb y Pwyllgor i herio, annog newid a cheisio sicrwydd ansawdd Cofnod: Amlygodd y Rheolwr Pensiynau ei bod hi’n ofynnol bellach
i Gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau gyflwyno adroddiad blynyddol fel rhan
o Adroddiad Blynyddol y Gronfa Bensiwn. Nodwyd bod yr adroddiad yn dilyn gosodiad
adroddiad blynyddol Cadeirydd y Bwrdd Pensiwn ac yn cynnwys
gwybodaeth am swyddogaethau
craidd y Pwyllgor, hyfforddiant, cynllun gwaith, blaenoriaethau a chrynodeb o’r pynciau
a drafodwyd yn ystod y flwyddyn. Adroddwyd bod angen cyflwyno’r adroddiad terfynol i’r Rheolwr
Buddsoddi erbyn 30/9/2025 i’w gynnwys fel
rhan o Adroddiad Blynyddol y Gronfa ac fel rhan o Gyfarfod
Blynyddol y Gronfa Tachwedd 2025. Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r staff oedd yn gysylltiedig â pharatoi’r gwaith. Gwnaed awgrym i
gynnwys mwy o fanylion am sut mae’r Pwyllgor yn mynd ati
i herio perfformiad
a cheisio sicrwydd ansawdd - nid trafod
buddsoddiadau yn unig, ond ceisio
gyrru newid. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth Nodyn: Awgrym i gynnwys ym mharagraff
3 ‘Gwaith y Pwyllgor’, gyfrifoldeb y Pwyllgor i herio, annog newid a
cheisio sicrwydd ansawdd |
|
|
COFRESTR RISG CRONFA BENSIWN GWYNEDD I ystyried
yr adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a nodi’r
wybodaeth Nodyn:
Cywiro geiriad Risg 2:12 yn y Saesneg i ‘... are not received or are NOT
processed or recorded completely and accurately’ Cofnod: Cyflwynwyd cofrestr risg ddiwygiedig i’r Pwyllgor fel modd iddynt
adnabod a deall y risgiau perthnasol sydd i’r Gronfa Bensiwn. Tynnwyd sylw at y
risgiau newydd oedd wedi eu hychwanegu - cydymffurfiaeth â Chod Cyffredinol Rheoleiddiwr Pensiynau (1.4), cyflawni gofynion y dashfwrdd
(6.12), cyflwyno system gyflogres newydd (6.13) ac ymateb i ymgynghoriad ‘Addas
i’r Dyfodol (9.1-9.3). Cyfeiriwyd hefyd at gynnydd yn lefel sgôr risg
ymosodiadau syber yn sgil digwyddiadau diweddar i sefydliadau mawr. Ategwyd bod y ddogfen yn ddogfen weithredol ac y byddai addasiadau
pellach, megis pan ddaw Addas i Bwrpas i rym, yn cael eu hychwanegu. Diolchwyd am yr adroddiad. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth Nodyn: Cywiro geiriad Risg 2:12 yn y Saesneg i ‘... are not received or are NOT processed or recorded completely and accurately’ |
|
|
POLISÏAU GWEINYDDOL Y GRONFA BENSIWN I gymeradwyo
a mabwysiadu'r polisïau Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a
chymeradwyo’r polisïau canlynol i fod yn weithredol o’r 1af o Hydref 2025 1. Polisi Taliadau Ymlaen Llaw o’r Gyflogres Pensiynwyr 2. Polisi Dosbarthiad Taliadau Grant Marwolaeth 3. Polisi Egwyl Mewn Addysg ar gyfer Pensiwn Plentyn Dibynnol CPLlL Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr
Pensiynau adroddiad oedd yn cyflwyno tri polisi gweinyddol allweddol i’r
Pwyllgor eu cymeradwyo. Nodwyd bod y polisïau yn hanfodol ar gyfer rheoli a
gweinyddu’r Gronfa Bensiwn yn effeithiol ac yn gam sylweddol tuag at
lywodraethu da. Nodwyd bod y polisïau wedi eu hadolygu gan y Bwrdd Pensiwn, a’u
sylwadau wedi eu cynnwys yn y fersiynau terfynol. Trafodwyd
y Polisïau yn unigol gan roi cefndir a chyd-destun bob un i’r Aelodau 1. Polisi Taliadau Ymlaen Llaw o’r Gyflogres
Pensiynwyr 2. Polisi Dosbarthiad Taliadau Grant Marwolaeth 3. Polisi Egwyl Mewn Addysg ar gyfer Pensiwn Plentyn
Dibynnol CPLlL Diolchwyd
am yr adroddiad ac am y gwaith o ffurfioli’r polisïau. PENDERFYNIAD Derbyn
yr adroddiad a chymeradwyo’r polisïau canlynol i fod yn weithredol o’r 1af o
Hydref 2025 1. Polisi Taliadau Ymlaen Llaw o’r Gyflogres
Pensiynwyr 2. Polisi Dosbarthiad Taliadau Grant Marwolaeth 3. Polisi Egwyl Mewn Addysg ar gyfer Pensiwn Plentyn
Dibynnol CPLlL |
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn
agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol
cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau
ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei
gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn
amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio
hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r Cyngor i
wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus
ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau ac felly am y
rhesymau yma mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes
unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus
fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn
benodol ynglŷn â phroses gaffael arfaethedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth
fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor
a’i bartneriaid drwy danseilio cystadleuaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd
cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r
materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus. |
|
|
CANLYNIADAU CYCHWYNOL PRISIAD 2025 I ystyried yr adroddiad (copi i Aelodau yn unig) Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a nodi’r
wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn cyflwyno canlyniadau cychwynnol prisiad
actiwaraidd 2025 Cronfa Bensiwn Gwynedd yn ffurfiol. Amlygwyd bod yr Aelodau
wedi derbyn hyfforddiant gan Hymans Roberts (15-09-25), lle trafodwyd y
canfyddiadau allweddol, y rhagdybiaethau, y risgiau a'r camau nesaf. PENDERFYNWYD Derbyn
yr adroddiad a nodi’r wybodaeth |
|
|
GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU 01.01.2025 -31.03.2025 I ystyried yr adroddiad (Copi i’r Aelodau yn unig) Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a nodi’r
wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad chwarterol
yn crynhoi'r gwaith mae Robeco (Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu PPC) yn gyflawni ar ran y Gronfa Bensiwn ar faterion buddsoddi
cyfrifol. Cyfeiriwyd at y meysydd oedd wedi
cael sylw Robeco yn ystod y chwarter
dan sylw a’r wybodaeth yn cynnwys
manylion am y nifer gweithgareddau a’r ymgysylltu a gwblhawyd oedd yn cynnwys
cwmnïau mawr gyda phwysigrwydd rhyngwladol. Nodwyd hefyd mai thema ymgysylltu'r chwarter dan sylw oedd Llywodraethu Da. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth |