Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2015/16 Cofnod: Penderfynwyd ail - ethol
y Cynghorydd Tudor Owen yn gadeirydd y pwyllgor am 2015/16 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am 2015/16 Cofnod: Penderfynwyd ail - ethol
y Cynghorydd Stephen Churchman yn
is-gadeirydd y pwyllgor am
2015/16 |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorwyr Margaret
Lyon (Cynrychiolydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy) a Peter
Read |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Diweddariad ar
sefydlu Bwrdd Pensiwn Cyngor Gwynedd. (a)
Yn dilyn proses cyfweld, adroddwyd bod chwe aelod wedi eu penodi ar gyfer y Bwrdd Pensiwn :
Anthony William Deakin ( Cartrefi Conwy), Victoria Louise Hallaron (Cartrefi Cymunedol Gwynedd), Osian Richards (Cyngor
Gwynedd), Huw Trainor (Heddlu Gogledd Cymru), Sharon Warnes (wedi ymddeol -
Cyngor Gwynedd gynt) a bod enwebiad un aelod etholedig o Gyngor Gwynedd i’w
gadarnhau yn fuan. Bydd cyfarfod cyntaf
y Bwrdd Pensiwn yn cael ei gynnal 13eg o Orffennaf 2015. Cyfrifoldeb y Bwrdd
Pensiwn fydd cynorthwyo’r awdurdod gweinyddol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio
gyda’r holl reoliadau, deddfwriaethau a
gofynion sydd yn berthnasol i’r cynllun. Bydd y Bwrdd hefyd yn cynorthwyo’r
awdurdod i sicrhau llywodraethu a gweinyddiaeth effeithiol ac effeithlon ar
gyfer y gronfa. (b)
Mewn ymateb i gwestiwn nodwyd bydd aelodau'r Bwrdd
Pensiwn yn cynnwys tri chynrychiolydd y cyflogwyr a thri chynrychiolydd o
aelodau’r cynllun. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 15 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 24ain o Fawrth 2015 fel rhai cywir. |
|
CYFARFODYDD Y PANEL BUDDSODDI Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid Cofnod: (a)
Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn
cynnig addasiadau i drefniadau cyfarfodydd y Panel Buddsoddi. Ers Chwefror 2014
nodwyd bod cyfarfodydd Chwefror a Mai yn cael eu cynnal yn Llundain a
chyfarfodydd Gorffennaf a Thachwedd yn cael eu cynnal
yng Nghaernarfon. Yn seiliedig ar y cyfnod prawf,
amlygwyd bod cynnal cyfarfodydd Chwefror a Mai yn Llundain yn anamserol i’r
swyddogion oherwydd pwysau gwaith yn y cyfnod yma gyda’r Strategaeth ariannol /
Cyllideb yn mis Chwefror a chau cyfrifon y Cyngor a’r Gronfa Bensiwn yn mis
Mai. Awgrymwyd y byddai yn gwneud mwy o synnwyr i drefnu cyfarfodydd Chwefror a
Mai yng Nghaernarfon a chyfarfodydd Gorffennaf a Thachwedd yn Llundain. (b)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i dderbyn yr adroddiad (c)
Mewn ymateb i sylw nodwyd bod bwriad dechrau’r
trefniant newydd ym mis Tachwedd 2015 a pharhau gyda’r cylch blynyddol hyd nes
adroddir yn wahanol. PENDERFYNWYD DERBYN
ADRODDIAD Y PENNAETH CYLLID |
|
CYSONI ISAFSWM PENSIWN GWARANTEDIG (IPG) Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Pensiynau Cofnod: (a)
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Pensiynau er gwybodaeth a chefnogaeth i ariannu meddalwedd
ychwanegol arbenigol i gynorthwyo gyda phrosesau gwaith newydd. Ymhelaethwyd ar
gefndir y cais gan nodi newid i drefniadau gweinyddu a chyfiroldeb am Isafswm
Pensiwn Gwarantedig. Nodwyd bod nifer sylweddol o aelodau cynllun pensiwn
Gwynedd yn parhau yn destun asesiad IPG ar gyfer codiadau pensiwn blynyddol neu
fel rhan o gyfrifiad trosglwyddiadau. Bydd angen gweithredu yr asesiadau hyn a
chysoni’r isafswm yma cyn Mawrth 2018. (b)
Cyllid a
Thollau EM (CthEM) sydd yn gyfrifol am gyfrifo a hysbysu cynlluniau am lefelau
IPG, ond y bwriad yw trosglwyddo’r gyfrifoldeb i gynlluniau erbyn Mawrth 2018.
Cyn trosglwyddo, bydd angen cysoni’r IPG er mwyn sicrhau bod yr holl IPG sydd
ganddynt yn cyd fynd â chofnodion CThEM. Nodwyd bod arolygon cenedlaethol yn
dangos lefel uchel o wallau / anghysondebau fydd yn golygu swmp o waith
cymhleth, ychwanegol i staff lefel uwch ei weithredu. Amcangyfrifir cost
o £300k (costau staff ac adnoddau). Bydd angen tîm o staff i ddechrau ar y
gwaith yn ystod Gwanwyn 2016. (c)
Gofynnwyd i’r aelodau, ·
nodi’r broses cysoni IPG, y gost debygol a’i effaith ar adnoddau’r uned
bensiynau. ·
Cytuno’n ôl-weithredol i ariannu’r meddalwedd ychwanegol ar gost oddeutu
£8,300 y flwyddyn lawn neu rannol. ·
nodi y cyflwynir adroddiadau diweddaru’r Pwyllgor ar y gwaith o dro i
dro a all gynnwys cais ariannu staff dros dro a chais i benderfyniadau ar
oddefiant gwallau a
lefela diddymu dyled. (ch)
Cynigiwyd ac eiliwyd yn unol â’r argymhelliad. PENDERFYNWYD DERBYN YR ADRODDIAD A’R ARGYMHELLION A
RESTRWYD GAN Y RHEOLWR PENSIYNAU Dechreuodd y cyfarfod
am 2pm a daeth i ben 2:30pm |