Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd am 2016/17 Cofnod: Penderfynwyd ethol
y Cynghorydd Stephen Churchman yn
gadeirydd am y flwyddyn
2016 – 2017 Diolchodd y Cynghorydd Stephen Churchman i’r
Cynghorydd Tudor Owen am ei waith a’i gefnogaeth fel cyn-gadeirydd y Pwyllgor
Pensiynau. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am 2016/17 Cofnod: Penderfynwyd ethol
y Cynghorydd Peredur Jenkins yn
is-gadeirydd am y flwyddyn
2016 – 2017 |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorwyr, Seimon Glyn, John P. Roberts a Glyn Thomas |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 17.03.16 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
ar 17fed o Fawrth 2016 fel rhai cywir |
|
ADRODDIAD ECWITI PREIFAT PDF 184 KB Ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Buddsoddi yn gofyn
i’r Pwyllgor Pensiynau gadarnhau buddsoddiad uniongyrchol gyda’r Partners Group Direct Equity 2016 Fund yn unol â barn y
Panel Buddsoddi a gynhaliwyd 19.5.16. Yn dilyn cyflwyniad a thrafodaeth gyda Hymans Robertson yn
y Panel Buddsoddi ynglŷn ar opsiynau posib ar gyfer ymrwymiad
pellach i ecwiti preifat i gyrraedd y meincnod strategol o 5%, barn y panel
oedd buddsoddi £25 miliwn mewn cronfa uniongyrchol ecwiti gyda Partners Group. Adroddwyd bod y mater eisoes wedi ei drafod
gan y Panel Buddsoddi, ond bod angen penderfyniad ffurfiol y Pwyllgor
Pensiynau. b)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r ffioedd sydd yn cael eu talu am y buddsoddiad, adroddwyd
bod y ffi yn seiliedig ar sŵm y buddsoddiad.
Ategwyd y byddai’r ffi wedi ei drafod wrth i’r cytundeb gael ei gytuno, ond
derbyniwyd yr awgrym i rannu gwybodaeth perthnasol. Awgrymwyd gwneud cais i Hymans Robertson ddarparu’r wybodaeth am y ffioedd ac i’r
Rheolwr Buddsoddi rannu hynny yn uniongyrchol gyda’r Cynghorwyr. PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Pensiynau yn
cadarnhau buddsoddiad uniongyrchol gyda Partners
Group Direct Equity 2016 Fund yn unol â barn y Panel Buddsoddi |
|
PWLIO BUDDSODDIADAU AR GYFER CRONFEYDD PENSIWN CPLlL MEWN LLOEGR A CHYMRU PDF 361 KB Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn rhoi
diweddariad ar y prosiect pwlio buddsoddiadau ar
gyfer cronfeydd pensiwn Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)
yng Nghymru. Atgoffwyd yr Aelodau bod cynnig am Pŵl
Cymru wedi ei gyflwyno i’r Adran
Cymunedau a Llywodraeth Leol (ACLlL) (Department for Communities and Local Government (DCLG) yn
Chwefror 2016. Nodwyd bod y cynnig hwnnw yn ymateb i’r meini prawf ag eithrio
maint, gan fod y DCLG wedi nodi y byddent yn rhagweld pwls gydag isafswm o
£25bn o asedau (cyfanswm asedau cronfeydd Cymru oedd tua £12-13bn ym mis Mawrth
2015). Ychwanegwyd bod y cynnig hefyd yn pwysleisio'r gwaith sylweddol a wnaed
hyd yma ynghyd a chreu sefyllfa unigryw o gydweithio ledled Cymru. Adroddwyd bod ymateb DCLG i’r cynnig yn rhoi
cefnogaeth gref i'r defnydd arfaethedig o gerbyd
rheoleiddio ffurfiol ac yn cydnabod nodweddion unigryw Pŵl Cymru. Anogwyd y cronfeydd i weithio
ymhellach ar fanylion y cynnig a chyflwyno cynnig manylach ym mis Gorffennaf. Nodwyd bod y Cynghorydd Stephen Churchman
a’r Pennaeth Cyllid wedi mynychu
cyfarfod o Gadeiryddion Pŵl Cymru yng Nghaerdydd
ar 13 Mai. Rhoddwyd diweddariad cryno ar rai o’r materion a drafodwyd. ·
Cadarnhau’r bwriad i symud ymlaen i ddefnyddio
gweithredwr trydydd parti ar gyfer cyd-fuddsoddi ·
Cadarnhawyd y byddai cronfeydd unigol yn parhau
gyda rheolaeth dros eu strategaethau buddsoddi eu hunain (dyrannu i gategorïau o
asedau) ·
Trafodaethau trosglwyddo buddsoddiadau angen eu
cynnal i ystyried trefniadau a
gweithredu ·
Bod angen ymgysylltu ynglŷn â rôl Byrddau
Pensiwn, ac os bydd angen Bwrdd Pensiwn i Gymru ·
Bydd Cyd-bwyllgor (yn cynnwys Cadeiryddion
Pwyllgorau Pensiwn a Phrif Swyddogion Cyllid) yn cael ei sefydlu i fonitro a
herio gwaith y gweithredwr ·
Ni fydd cyfarwyddyd gan y Llywodraeth o ran % o’r
gronfa i’w fuddsoddi mewn isadeiledd - disgwylir i’r Pŵl wneud datganiad o
uchelgais (5% - 10%). ·
Anodd adnabod arbedion o’r broses - ni fydd y
Llywodraeth yn mynnu bod y Pŵl yn cadw at ei amcangyfrif o arbediad Adroddwyd y byddai Pennaeth Cyllid Cyngor
Gwynedd, gyda dau swyddog arall o Pŵl Cymru a chefnogaeth Hymans, yn cyflwyno i Panel y Llywodraeth yn Swyddfa
Trysorlys EM yn Llundain, ar y 16eg o Fehefin. Nodwyd hefyd byddai Cadeirydd Pwyllgor
Pensiynau Gwynedd a’r Pennaeth Cyllid yn mynychu cyfarfod nesaf Cadeiryddion
Pŵl Cymru yng Nghaerdydd ar 27 Mehefin i
gytuno’r ffordd ymlaen, ac yn mynychu cyfarfod o’r Bwrdd Pensiwn Gwynedd ar 29
Mehefin i adrodd ar gynnydd perthnasol. b)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth fydd
costau ‘tynnu allan’ o fuddsoddiadau cyfredol y Gronfa, adroddwyd y byddai hyn
yn ddibynnol ar y gweithredwr, y rheolwyr buddsoddi, a’u portffolio
buddsoddiadau. c)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phwy fydd yn
dewis rheolwyr y Pŵl, (fund managers),
adroddwyd mai'r gweithredwr fydd yn dethol a dewis y rheolwyr, gyda’r cyd-bwyllgor yn dylanwadu wrth fonitro a herio gwaith y
gweithredwr. ch) Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth fydd y canran tebygol o arian y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |