skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Trevor Edwards, Peredur Jenkins, H. Eifion Jones (Cynrychiolydd Cyngor Sir Ynys Môn) a Glyn Thomas

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 222 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19.1.17 fel rhai cywir  

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 19eg o Ionawr fel rhai cywir

5.

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH FUDDSODDI FLYNYDDOL AR GYFER 2017/18 pdf eicon PDF 194 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Yn unol â Chyfarwyddyd Statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Fuddsoddiadau Llywodraeth Leol, mae’n ofynnol i’r Cyngor, fel rhan o’i swyddogaeth wrth reoli’r trysorlys, i baratoi Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol. Fel ymarfer da, ystyriwyd y dylai Cronfa Bensiwn Gwynedd (y “Gronfa”) fabwysiadu Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (DSRhT) Cyngor Gwynedd am 2017/18, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn. Cafodd DSRhT Cyngor Gwynedd am 2017/18 ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ar 2 Mawrth 2017.

 

Yn ychwanegol, gofynnwyd i’r Pwyllgor Pensiynau wneud cais i’r Cyngor, i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif arian cyffredinol yr Awdurdod o’r 1af o Ebrill ymlaen. Eglurwyd bod cronni'r llif arian yn denu llog uwch ac yn isafu costau bancio.

 

Amlygwyd bod yr arian yma yn cael ei fuddsoddi gyda gwrthbartion yn unol â’r DSRhT er mwyn uchafu dychweliadau. Nodwyd bod cyfraddau llog bellach yn isel iawn ac felly dulliau creadigol eraill o fuddsoddi yn cael eu hystyried. Cadarnhawyd hefyd mai cadw'r Gronfa yn saff a gwarchod yr arian yw’r flaenoriaeth ac nid cymryd risg.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD

-  cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi Blynyddol am 2017/18, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn

 

-  gofyn i’r Pwyllgor Pensiynau wneud cais i’r Cyngor (er nad yw’n gorff ar wahân) i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill 2017 ymlaen. 

 

 

Nodwyd er gwybodaeth, bod cynnig wedi ei wneud i aelodau mwyaf y Gronfa (Cyngor Môn, Conwy a Gwynedd, Y Parc Cenedlaethol a Heddlu Goledd Cymru) i dalu’r elfen lwmp swm o’u cyfraniadau (i ariannu’r diffyg hanesyddol) yn llawn ar ddechrau’r cyfnod tair blynedd. Buasai hyn yn sicrhau gwell dychweliadau i’r cyflogwyr rheiny nac adnau arian mewn banciau, ac hefyd yn rhoi llif arian mwy positif i’r Gronfa Bensiwn.

 

6.

DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO 2017/18 - 2019/20 pdf eicon PDF 213 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Buddsoddi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Adroddwyd i’r Pwyllgor ar yr 19eg o Ionawr 2017, bod gofyn statudol i adolygu a chyhoeddi Datganiad Strategaeth Cyllido erbyn 31.3.2017. Fel rhan o’r adolygiad, rhaid i’r awdurdod gweinyddol, ymgynghori gyda phob cyflogwr sydd yn rhan o’r cynllun, gydag actiwari ac ymgynghorydd y gronfa, ac unrhyw bersonau eraill y maent yn eu hystyried yn addas.

 

Ar 20fed o Ionawr 2017 anfonwyd llythyr ymgynghorol i bob cyflogwr sydd yn rhan o’r cynllun, i actiwari ac ymgynghorydd y Gronfa, ac i gynrychiolwyr Unsain, TGWU (Transport and General Workers Union) a’r GMB (Undeb Gyffredinol Prydain,) yn ymgynghori ar y polisïau a gytunwyd arnynt. Roedd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben 28.2.2017.

 

Adroddwyd bod un ymateb wedi ei dderbyn yn cytuno gyda’r gyfradd cyfraniadau cyflogwyr arfaethedig ar gyfer y tair blynedd nesaf. Nodwyd bod y Datganiad Strategaeth Cyllido yn ddi-newid o’r fersiwn a gafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor 19.1.2017. Tynnwyd sylw at yr atodiad oedd yn cynnwys manylion cyfraniadau cyflogwyr a bod y rhagdybiaethau actiwaraidd, wedi’u egluro a’u trafod gyda chyflogwyr yng nghyfarfod Prisiant y Gronfa ar 10/11/2016.

           

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Cyllido (DSC) arfaethedig.

 

7.

DATGANIAD STRATEGAETH BUDDSODDI 2017/18 - 2019/20 pdf eicon PDF 187 KB

Ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi (sydd yn cymryd lle, mewn enw yn unig, y Datganiad o Egwyddorion Buddsoddi - yn unol â gofynion deddfwriaeth newydd).Ymgynghorwyd a phartïon a diddordeb ond ni chafwyd yr un ymateb o fewn y cyfnod ymgynghori.

 

Amlygwyd nad oedd cyfyngiadau mewn buddsoddiadau penodol yn y ddeddfwriaeth newydd ac felly nid oedd angen codi cyfyngiadau yn swyddogol. Yn dilyn cyfarfod gyda’r Panel Buddsoddi  penderfynwyd ceisio osgoi costau symud asedau drwy sefyll y risg o beidio di -risigio am y flwyddyn yn wyneb sefydlu Pwl Cymru. Nodwyd bod y drafodaeth gyda’r Panel Buddsoddi wedi bod yn un fanwl, dechnegol a petai sefyllfa yn codi o ddi-risg o fewn y tair blynedd nesaf byddai modd ail gyflwyno'r mater i’r Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r posibilrwydd o lefelau staffio yn lleihau i’r dyfodol ac o ganlyniad, cyfraniadau i’r Gronfa yn lleihau, awgrymwyd y byddai’n werthfawr cael rhagolwg syml o’r sefyllfa drwy gynnig ystadegau yn yr Adroddiad Blynyddol

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Buddsoddi arfaethedig.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau a’r swyddogion am y wybodaeth a’u cefnogaeth dros y cyfnod a dymunwyd pob dymuniad da i’r Cynghorydd Margaret Lyon sydd yn sefyll i lawr gyda Chyngor Bwrdeistrefol Conwy.