Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd am 2017/18

 

Cofnod:

Penderfynwyd ail ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn Gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18.

 

2.

ETHOL IS GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd am 2017/18

 

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd John Pughe Roberts yn Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Peter Read.

Nodwyd nad oedd cynrychiolaeth Cyngor Bwrdeistref Conwy wedi ei gadarnhau.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Eglurwyd nad oedd angen i bawb ddatgan buddiant fel rhai oedd yn derbyn / cyfrannu  at y Gronfa Bensiwn

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 203 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16.3.2017 fel rhai cywir

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 16 o Fawrth fel rhai cywir.

 

7.

PWL BUDDSODDI CYMRU pdf eicon PDF 286 KB

I ystyried adroddiad cynnydd gan y Pennaeth Cyllid

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Y Pennaeth Cyllid yn rhoi diweddariad i’r Aelodau am ddatblygiad Pŵl Buddsoddi Cymru fydd yn gerbyd i fuddsoddi asedau’r  wyth Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghymru.

 

Rhoddwyd cyflwyniad byr ar gefndir datblygu’r Pŵl ac yng nghyd-destun trefniadau llywodraethu, amlygwyd y byddai’r Cydbwyllgor Llywodraethu yn cyfarfod yn ffurfiol ddiwedd Mehefin. O ran cynrychiolaeth Cronfa Gwynedd, argymhellwyd yr angen i gynllunio cynrychiolaeth briodol ar y Cydbwyllgor, ac awgrymwyd mai Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau fuasai’r cynrychiolydd tebygol, ynghyd a’r Pennaeth Cyllid. Yn absenoldeb y Cadeirydd, awgrymwyd y byddai’r Is-gadeirydd yn mynychu.

Eglurwyd mai cam cyntaf y Cydbwyllgor fydd derbyn adroddiadau ar y broses caffael ar gyfer penodi Gweithredwr ar gyfer y Cerbyd Buddsoddiadau Cyfunol, gan argymell apwyntio’r cynigydd gorau fyddai’n cyrraedd gofynion y fanyleb. Ategwyd bod 8 Gweithredwr wedi ymateb i’r Holiadur Dethol, gyda 6 ohonynt yn cael gwahoddiad i dendro. Er mai’r bwriad yw dewis Gweithredwr yn ystod Haf 2017, ni fydd yn gweithredu tan Ebrill 2018.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pherthynas y Pwyllgor Pensiynau gyda’r Gweithredwr yng nghyd-destun cynnal trafodaethau a chyfathrebu, nodwyd y byddai angen efallai, i’r Gweithredwr gynnig manylion o’u trefniadau ymgysylltu a chyfathrebu i’r wyth gronfa. Mewn ymateb i’r sylw awgrymwyd i’r Cadeirydd, yng nghyfarfod nesaf y Cydbwyllgor, cynnig y mater yma fel eitem benodol ar raglen y Cydbwyllgor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chostau cosb torri cytundeb gyda rheolwyr mandadau presennol Cronfa Gwynedd, nodwyd y byddai costau trosiannol posib. Ategwyd bod darn o waith ymchwil ar y gweill i ystyried rhannu costau ymysg yr wyth gronfa (ar sail gwarchodaeth).

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad cynnydd.

PENDERFYNWYD mai Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau fyddai yn cynrychioli Gwynedd ar y Cydbwyllgor Llywodraethu, gyda'r Is-gadeirydd yn mynychu yn ei absenoldeb.

 

8.

CYNHADLEDDAU PENSIYNAU pdf eicon PDF 175 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r aelodau enwebu unigolion i fynychu cynadleddau ar ran Cronfa Gwynedd. Amlygwyd bod y Pwyllgor yn arfer anfon cynrychiolwyr ar sail rota i nifer o gynadleddau yn ystod y flwyddyn, er mwyn cynnal a gwella sgiliau a gwybodaeth aelodau a swyddogion.

 

PENDERFYNWYD ar yr enwebiadau canlynol ar gyfer cynadleddau  2017

·           Cynhadledd Ymddiriedolwyr CPLlL, Bournemouth – Cynghorydd Aled Wyn Jones, Cynghorydd Peter Read (Cynghorydd Seimon Glyn fel eilydd i’r Cynghorydd Peter Read)

·           Cynhadledd Copa Buddsoddi LGC, Casnewydd – Cynghorydd Peredur Jenkins, Cynghorydd John Pughe Roberts (Cynghorydd John Brynmor Hughes fel eilydd)

·           Cynhadledd Flynyddol LAPFF, Bournemouth – Cynghorydd Stephen  Churchman

 

9.

DYDDIADAU CYFARFODYDD PENSIYNAU pdf eicon PDF 194 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn rhannu dyddiadau cyfarfodydd Pensiynau er mwyn galluogi i’r Aelodau gynllunio’n briodol. Amlygwyd, er mai'r Pwyllgor Pensiynau yw’r corff sydd yn gwneud y penderfyniadau ar gyfer y Gronfa Bensiwn bod y Bwrdd Pensiwn, Y Panel Buddsoddi a'r Cydbwyllgor Pŵl Cymru yn cyfrannu at drefniadau megis, rhoi trosolwg ar reolaeth a gweithrediad y Gronfa Bensiwn, craffu perfformiad buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn a llywodraethu pŵlio buddsoddiadau dros yr wyth gronfa Gymreig.

 

Mewn ymateb i’r adroddiad nodwyd bod y wybodaeth yn fuddiol a gofynnwyd i’r aelodau nodi'r dyddiadau yn eu dyddiaduron. Cytunwyd i gylchredeg dyddiadau’r “hyfforddiant sylfaenol i ymddiriedolwyr” ar gyfer aelodau newydd y Pwyllgor, unwaith daw’r wybodaeth i law.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth