skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 197 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 18.01.18 fel rhai cywir  

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Simon Glyn a Peter Read

 

5.

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH FUDDSODDI FLYNYDDOL AR GYFER 2018/19 pdf eicon PDF 194 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Yn unol â Chyfarwyddyd Statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Fuddsoddiadau Llywodraeth Leol, mae’n ofynnol i’r Cyngor, fel rhan o’i swyddogaeth wrth reoli’r trysorlys, i baratoi Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol. Fel ymarfer da, ystyriwyd y dylai Cronfa Bensiwn Gwynedd (y “Gronfa”) fabwysiadu Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (DSRhT) Cyngor Gwynedd am 2018/19, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn. Cafodd DSRhT Cyngor Gwynedd am 2018/19 ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ar 8 Mawrth 2018.

 

Yn ychwanegol, gofynnwyd i’r Pwyllgor Pensiynau wneud cais i’r Cyngor, i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif arian cyffredinol yr Awdurdod o’r 1af o Ebrill ymlaen. Eglurwyd bod cronni'r llif arian yn denu llog uwch ac yn isafu costau bancio.

 

          Amlygwyd bod yr arian yma yn cael ei fuddsoddi gyda gwrthbartion yn unol â’r DSRhT er   mwyn uchafu dychweliadau. Tynnwyd sylw at y prif amcanion gan amlygu bod Cod        CIPFA a Chanllaw LlC yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod fuddsoddi ei gronfeydd yn ddarbodus, gan roi ystyriaeth i ddiogelwch a hylifedd ei fuddsoddiadau cyn ceisio’r           gyfradd enillion uchaf, neu’r cynnyrch uchaf.

 

Nodwyd bod cyfraddau llog bellach yn isel iawn ac felly dulliau creadigol eraill o fuddsoddi yn cael eu hystyried. Cadarnhawyd hefyd mai cadw'r Gronfa yn saff a gwarchod yr arian yw’r flaenoriaeth ac nid cymryd risg.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr argymhellion.

 

Awgrymodd un aelod yr angen am ddatganiad gan y Swyddog Monitro ar ddechrau’r adroddiad yn mynegi bod y trefniant yn gyfreithiol gywir ac eglurhad ar sut mae’r broses yn cael ei rheoli.

 

PENDERFYNWYD

 

Cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi Flynyddol am 2018/19, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn.

 

-  Gofyn i’r Cyngor ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill 2018 ymlaen. 

 

6.

BUDDSODDI A LLYWODRAETHU CYFRIFOL pdf eicon PDF 184 KB

Ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

Cofnod:

Yn dilyn sesiwn hyfforddiant a gynhaliwyd ar y cyd ag aelodau’r Bwrdd ar 18.1.2018, adroddwyd bod Paul Potter o Hymans wedi paratoi adroddiad oedd yn amlinellu egwyddorion buddsoddi cytunedig aelodau a swyddogion Gwynedd ar sail ymatebion i holiadur a gwblhawyd ar gyfer y sesiwn. Nodwyd fod yr adroddiad hwnnw, ‘Cytuno Credau Buddsoddi Cyfrifol’ wedi’i drafod yn y Panel Buddsoddi a gynhaliwyd ar yr 28ain o Chwefror, a chyflwynwyd prif ystyriaethau'r Panel i’r Pwyllgor er mwyn cymeradwyo’r egwyddorion.

Y cam nesaf fydd cyflwyno’r egwyddorion a restrwyd i’r Bwrdd Pensiwn (12.4.18) i’w graffu. Os bydd y Bwrdd yn gytûn bydd modd ymgorffori’r egwyddorion fel rhan swyddogol o Ddatganiad Strategaeth Buddsoddi’r Gronfa.

Mewn ymateb i’r adroddiad, amlygwyd bod derbyn yr egwyddorion yn amserol  yng nghyd – destun Partneriaeth Pensiwn Cymru. Bydd gan Wynedd farn glir am eu hegwyddorion buddsoddi.

Croesawyd yr egwyddor o edrych i fuddsoddi mewn asedau cynaliadwy, gan gynnwys buddsoddi o fewn ardal Cymru pan fydd  ‘buddiannau anariannol’ yn deillio o hynny. Ategwyd bydd y Gronfa yn ystyried buddsoddi mewn asedau Cymru pan fydd y meini prawf yn caniatáu hynny. Sicrhau'r enillion gorau fydd prif flaenoriaeth y Gronfa.

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â geiriad egwyddorion 2.1 a 2.2 a’r awgrym bod y datganiadau yn gwrth-ddweud ei gilydd, nodwyd yr angen i ystyried yr egwyddorion yn eu cyd-destun llawn, heb dorri'r brawddegau i fyny a chanolbwyntio ar eiriau unigol.

Eglurodd y Pennaeth Cyllid fod dehongliad cyfreithiol y “SAB” o’r “dyletswydd ymddiriedol” wedi’i gylchredeg i aelodau’r Pwyllgor cyn cyfarfod y Panel Buddsoddi.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r egwyddorion sylfaenol ynghylch buddsoddi cyfrifol fel bod modd eu cynnwys yn Natganiad Strategaeth Buddsoddi’r Gronfa.

 

2.1     Yn unol â dyletswydd ymddiriedol y Pwyllgor, dylai ystyriaethau ariannol gario mwy o bwysau nac ystyriaethau anariannol wrth wneud penderfyniadau buddsoddi, er gall faterion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (‘ESG’) gael effaith materol ar risg a dychweliadau. Felly, dylai ffactorau ‘ESG’ gael eu mewnblannu yn y prosesau buddsoddi a phrosesau penderfynu’r rheolwyr penodwyd gan y Gronfa.

2.2     Bydd Pwyllgor y Gronfa yn edrych i fuddsoddi mewn asedau cynaliadwy, gan gynnwys buddsoddi o fewn ardal Cymru pan fydd buddiannau anariannol yn gallu deillio o hynny, yn amodol ar fodloni gofynion y ddyletswydd ymddiriedol.

2.3     Mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod ganddynt ddyletswydd i fod yn fuddsoddwr cyfrifol. Disgwylir y bydd ymgysylltu gyda chwmnïau, yn hytrach na pheidio buddsoddi, yn fwy effeithiol i newid ymddygiad corfforaethol a lleihau risg. Lle’n bosib, mae gweithrediad cydweithredol yn cynnig y ffordd fwyaf llwyddiannus er mwyn dylanwadu ar allbynnau.

2.4     Fel buddsoddwr hirdymor, mae’r Gronfa yn agored i risgiau systematig megis newid yn yr hinsawdd a’r disgwyliad i drawsnewid i economi carbon-isel. Gellir gwella deilliannau ariannol wrth reoli pa mor agored i risgiau o’r fath y mae’r Gronfa.

2.5     Gellid gwella dealltwriaeth rhanddeiliad a gwella deilliannau trwy ddatgelu ar hyd pob cam o’r gadwyn ychwanegu gwerth.