skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Peredur Jenkins,

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

i. Canllawiau cenedlaethol ar gyfer trefniadaupŵliobuddsoddiadau’r C.P.Ll.L.
           

Adroddwyd bod y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn cynnal ymgynghoriad ar ganllawiau rheoli a gweinyddu pŵliobuddsoddiadau cronfeydd C.P.Ll.L.. Amlygwyd bod ymateb Partneriaeth Pensiynau Cymru yn cael ei baratoi ac i’w          drafod yn derfynol yng nghyfarfod nesaf Cyd-Bwyllgor Partneriaeth Cymru ar y 27ain o Fawrth.  Awgrymwyd rhannu’r ymateb drafft terfynol Partneriaeth Cymru gyda holl           aelodau Pwyllgor Pensiynau Gwynedd, fel byddai modd derbyn eu sylwadau arno. Ategwyd byddai’r Pennaeth Cyllid, y Rheolwr    Buddsoddi a Chadeirydd y Pwyllgor Pensiynau yn mynychu cyfarfod Cyd-Bwyllgor Partneriaeth Cymru ar y 27ain o Fawrth.

 

ii. Buddsoddi Egni Gwyrdd

 

Er gwybodaeth adroddwyd bod rheolwyr aasedau isadeiledd y Gronfa, ‘Partners Group’, wedi cadarnhau bod buddsoddiad financing for the Greenlink Interconnector yn mynd i ddod o’r Direct Infrastructure 2015 Fund y mae Cronfa Gwynedd yn buddsoddi ynddo. Ategwyd bod yr Interconnector yn brosiect o drosglwyddo trydan o dan y môr rhwng Iwerddon a Sir Benfro.  Nodwyd fod newyddion am fuddsoddiad o’r fath hyn i’w groesawu.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 88 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21.01.2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 21ain o Ionawr 2019 fel rhai cywir.

 

5.

DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH FUDDSODDI FLYNYDDOL AR GYFER 2019/20 pdf eicon PDF 56 KB

I ystyried adroddiad y Pennaeth Cyllid

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Yn unol â Chyfarwyddyd Statudol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar Fuddsoddiadau Llywodraeth Leol, mae’n ofynnol i’r Cyngor, fel rhan o’i swyddogaeth wrth reoli’r trysorlys, i baratoi Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol. Fel ymarfer da, ystyriwyd y dylai Cronfa Bensiwn Gwynedd (y “Gronfa”) fabwysiadu Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys (DSRhT) Cyngor Gwynedd am 2019/20, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn. Cafodd DSRhT Cyngor Gwynedd am 2018/19 ei gymeradwyo gan y Cyngor llawn ar 7 Mawrth 2019.

 

Dymuniad y Pwyllgor Pensiynau oedd caniatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni gyda balansau ariannol y Cyngor fyddai o ganlyniad yn denu llog uwch, isafu costau banc ac osgoi dyblygu gwaith o fewn y Cyngor. Cadarnhawyd mai cadw'r Gronfa yn saff a gwarchod yr arian yw’r flaenoriaeth ac nid cymryd risg.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr argymhellion.

 

·         Penderfynwyd cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Rheoli’r Trysorlys a’r Strategaeth Buddsoddi Blynyddol atodol am 2019/20, fel ei addaswyd i bwrpas y Gronfa Bensiwn.

·         Penderfynwyd gwneud cais i’r Cyngor (er nad yw’n gorff ar wahân) i ganiatáu i arian dros ben y Gronfa Bensiwn barhau i gael ei gronni a’I gyd-fuddsoddi gyda llif-arian cyffredinol y Cyngor o 1 Ebrill 2019 ymlaen.

 

 

6.

PARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU: BUDDSODDIADAU ECWITI pdf eicon PDF 59 KB

I ystyried adoddiad y Rheolwr Buddsoddi

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn hysbysu’r aelodau am drosglwyddiad portffolio ecwiti Cronfa Gwynedd i gronfeydd newydd Partneriaeth Cymru. Trosglwyddwyd symiau cyfartal i ddwy gronfa yn mis Ionawr 2019,

 

·         LF Wales PP Global Growth Fund (Class A Income)

            (Baillie Gifford, Veritas a Pzena)

·         LF Wales PP Global Opportunities Equity Fund (Class A Income)

(Morgan Stanley, Numeric, Sanders, Jacobs Levy, SW Mitchell, NWG ac Oaktree)

 

Ategwyd bod yr ymarfer wedi bod yn rhwydd gyda buddsoddiadau i’r ddwy gronfa wedi cadw eu gwerth yn ystod y trosglwyddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag adolygu’r ffioedd, perfformiad a gwerth y trosglwyddiad, nodwyd ei fod yn gynamserol i ddyfalu am drefniadau manwl, fyddai      trefniadau yn cael eu trafod yng nghyfarfodydd dilynol Partneriaeth Pensiynau Cymru gyda ‘Link Fund Solutions’ a ‘Russell Investments’.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag amserlen y trosglwyddiadau, nodwyd mai’r categori asedau ‘Incwm Sefydlog’ fydd yn trosglwyddo nesaf gan Gronfa Gwynedd yn            ystod Haf 2019.  Ategwyd bod trafodaethau eisoes wedi eu cynnal yn y Panel Buddsoddi     am y trosglwyddiadau hyn a bod diddordeb mewn cyfuniad o reolwyr asedau, gan gynnwys dau enw cyfarwydd yma yng Nghronfa Gwynedd.

 

Yng nghyd-destun asedau ecwiti mewn rhanbarthau penodol, eglurwyd nad oedd gan Gronfa Bensiwn Gwynedd fuddsoddiadau yn y rhanbarthau dan sylw yn gyntaf, ond y byddai ein asedau ecwiti mewn rhanbarthau marchnadoedd datblygol yn debygol o    drosglwyddo yn hwyr yn y flwyddyn 2019.

         

Ystyriwyd bod oddeutu 70% o’r buddsoddiadau wedi eu trosglwyddo hyd yma, ac y byddai asedau incwm sefydlog yn ychwanegu tua 15% at hyn. Anodd fyddai rhagweld trosglwyddiad        100%, oherwydd natur rhai buddsoddiadau a’r anhawster gyda’u trosglwyddo oherwydd cytundebau hir dymor.

 

          PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth