skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr David Cowans (Cyngor Bwrdeistref Conwy) ac Aled Wyn Jones

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

 

Cofnod:

            Dim i’w nodi.

 

3.

MATERION BRYS

 

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

            Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 76 KB

 

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 29 Gorffennaf 2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 29 Gorffennaf 2019 fel rhai cywir.

 

 

5.

COFNODION CYFARFOD BLYNYDDOL Y GRONFA BENSIWN pdf eicon PDF 79 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth gofnodion cyfarfod Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd a gynhaliwyd  24ain o Hydref 2019

 

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth gofnodion cyfarfod blynyddol y Gronfa Bensiwn a gynhaliwyd 24ain o Hydref 2019

 

 

 

6.

CYMERADWYO CYLLIDEB 2020/21 pdf eicon PDF 63 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

 

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ymwneud a chais i’r Pwyllgor gymeradwyo cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020–2021, ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi.

 

Tynnwyd sylw at rai addasiadau i’r gyllideb ynghyd a chais am gynnydd i gyllideb hyfforddiant a chostau meddalwedd i’r Uned Gweinyddu Pensiynau. Cymeradwywyd addasiadau cyllideb o £140,940 a daw hyn a cyfanswm cyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau i £1,015,700 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21. Yn yr un modd, tynnwyd sylw at gais i addasu oriau gwaith a graddfeydd cyflogau swyddogion sydd wedi rhannu eu horiau rhwng Cronfa Bensiwn Gwynedd a Chyngor Gwynedd o fewn yr Uned Buddsoddi. Cymeradwywyd addasiadau cyllideb o £21,240, a daw hyn a cyfanswm cyllideb yr Uned Buddsoddi a ariannir gan y Gronfa Bensiwn i £110,460 ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21.

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag os oedd yr addasiadau yn cyfiawnhau ymrwymiad o’r gronfa, nodwyd eu bod yn cael eu cynnwys fel ‘adnodd ychwanegol’.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cyllideb blwyddyn ariannol 2020/21 ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau ac Uned Buddsoddi gan gynnwys yr adnoddau ychwanegol.

 

7.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2019/20 - ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN pdf eicon PDF 309 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad yn amlygu gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Amlygwyd, yn ystod y chwe mis rhwng y 1af o Ebrill a 30 Medi 30ain 2019 bod gweithgarwch benthyca’r Cyngor wedi aros o fewn cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol ac nad oedd unrhyw fanciau lle'r oedd y Cyngor wedi adnau arian wedi methu ad-dalu. Ategwyd yr amcangyfrifir bod incwm buddsoddi’r Cyngor yn rhagori ar incwm disgwyliedig cyllideb 2019 / 20.

 

Eglurwyd bod ychydig o fuddsoddiadau’r Cyngor mewn cronfeydd eiddo ac ecwiti cyfun strategol sydd yn cael eu rheoli yn allanol lle mae diogelwch a hylifedd tymor byr yn llai o ystyriaeth. O ganlyniad gwireddir yr amcanion drwy incwm refeniw rheolaidd a sefydlogrwydd prisiau hirdymor.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

 

8.

DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO 2020/21-2023/24 pdf eicon PDF 66 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn gwneud cais i’r Pwyllgor gadarnhau tybiaethau a pholisïau yn y Datganiad Strategaeth Cyllido drafft cyn ymgynghori a’r holl gyflogwyr. Adroddwyd i’r Pwyllgor bod gofyn statudol i adolygu a chyhoeddi Datganiad Strategaeth Cyllido tair-blynyddol erbyn 31.3.2020. Fel rhan o’r adolygiad, rhaid i’r awdurdod gweinyddol, ymgynghori gyda phob cyflogwr sydd yn rhan o’r cynllun, gydag actiwari ac ymgynghorwyr y gronfa, ac unrhyw bersonau eraill y maent yn eu hystyried yn addas.

 

Eglurwyd bod prisiad actiwaraidd tair-blynyddol y Gronfa wrthi yn cael ei baratoi ac fe roddodd yr Actwari Hymans Robertson  gyflwyniad  o’r broses a’r canlyniadau i’r Cyflogwyr mewn cyfarfod yng Nghaernarfon 24/10/2019. Amlygwyd bod y rhagdybiaethau wedi eu cytuno gyda’r cyfnodau adfer diffyg ar gyfer y gwahanol gategorïau o gyflogwr yn ddarbodus ac yn gyson gyda’r prisiad blaenorol (2016).

 

Trafodwyd y Datganiad Strategaeth Cyllido Drafft (oedd wedi ei baratoi gan Hymans) a tynnwyd sylw at rai materion – cyfeiriwyd yn benodol at adran 3 o’r adroddiad.

 

·         Cyfrifon cyfran asedau - amlygwyd bod y Gronfa wedi mabwysiadu dull llif arian ar gyfer olrhain asedau cyflogwyr unigol. Ategwyd bod gofyn cyflwyno’r wybodaeth yn fisol a bod ystyriaethau i’r gofyn ychwanegol hwn wedi ei gynnwys yng nghyllideb yr  Uned.

·         Premiwm Risg Ecwiti - amlygwyd wrth i'r gwahaniaeth tybiedig rhwng yr adenillion disgwyliedig gynyddu, mae’r risg yn cynyddu a’r sail ariannu yn mynd yn llai darbodus. Nodwyd bod yr enillion dros ben a ragwelir o’r tybiaethau ecwiti ar gyfer 2019 yn 1.7%

·         Cyfnodau Adfer Diffyg wedi eu cyflwyno ar gyfer prisiad 2019

·         Casglu Diffyg - bydd y diffyg yn cael ei gasglu fel canran o dal yn hytrach na chyfandaliad blynyddol (oedd yn cael ei dalu mewn 12 rhandaliad misol)

·         Cyflogwr Sefydlog – bod rhaid i bob cyflogwr sefydlog dalu cyfradd sylfaenol fel lleiafswm dros y tair blynedd nesaf. Amrywiadau posib wedi eu nodi yn yr adroddiad

·         Cyflogwyr Ansefydlog - mae'r cyfraddau cyfrannu ar gyfer cyflogwyr, sydd ar gau i newydd-ddyfodiaid, ac sy’n anelu tuag at ddarfyddiad, wedi cael eu gosod yn gyfartal â chyfraddau sylfaenol y cyflogwyr

·         Cyfnod Graddol o Gynyddu Cyfraniad – bydd y rheoliadau’n caniatáu i’r holl gyflogwyr gynyddu eu cyfraniadau’n raddol – ar gyfer prisiad 2019 gall y cynnydd gael ei rannu dros 3 blynedd

 

 

PENDERFYNWYD

·         derbyn y rhagdybiaethau a’r Polisïau

·         yn dilyn y broses ymgynghori, derbyn Datganiad Strategaeth Cyllido (DSC) derfynol i’w mabwysiadu erbyn 31 Mawrth 2020.         

 

 

9.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg ar cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Er bod budd cyhoeddus mewn cael dealltwriaeth o weithredu’r gronfa bensiwn mae’r adroddiad yma ynglŷn â graddfeydd arfaethedig sydd yn cael eu rhannu fel rhag rhybudd gyda Cyflogwyr y Cynllun. Nid yw’r wybodaeth yma wedi ei rannu o fewn cyfundrefnau rheolaethol pob un o’r Cyflogwyr yma a gall ei gyhoeddi ar y pwynt yma gael ardrawiad ar fuddiannau’r Cyflogwyr drwy danseilio eu trefniadau adrodd a pharatoi cyllid. Ar falans, mae’r Swyddog Monitro yn fodlon nad yw’r budd cyhoeddus yn cefnogi cyhoeddi yr adroddiad yma.

 

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD cau allan y wasg ar cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Er bod budd cyhoeddus mewn cael dealltwriaeth o weithredu’r gronfa bensiwn mae’r adroddiad yma ynglŷn â graddfeydd arfaethedig sydd yn cael eu rhannu fel rhag rhybudd gyda Chyflogwyr y Cynllun. Nid yw’r wybodaeth yma wedi ei rannu o fewn cyfundrefnau rheolaethol pob un o’r Cyflogwyr yma a gall ei gyhoeddi ar y pwynt yma gael ardrawiad ar fuddiannau’r Cyflogwyr drwy danseilio eu trefniadau adrodd a pharatoi cyllid. Ar falans, roedd y Swyddog Monitro yn fodlon nad yw’r budd cyhoeddus yn cefnogi cyhoeddi'r adroddiad yma.

 

10.

CANLYNIADAU PRISIANT Y GRONFA BENSIWN

I ystyried yr adroddiad

 

(copi arwahan i aelodau’r Pwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn amlygu canlyniad prisiant y Gronfa Bensiwn. Nodwyd bod gwellhad yn sefyllfa’r Gronfa gyda’r lefel cyllido wedi cynyddu o 91% ar 31 Mawrth 2016 i 108% yn 31 Mawrth 2019. Nodwyd bod hyn yn newyddion da iawn.

 

Tynnwyd sylw at yr atodiad oedd yn cynnwys manylion cyfraniadau cyflogwyr. Nodwyd bod pob cyflogwr sydd yn rhan o’r gronfa yn ymwybodol o’u canlyniad unigol a bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda hwy. Mynegwyd bod y sefyllfa yn un galonogol iawn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglyn a hawliau’r cyflogwyr i herio’r cyfraniadau / rhagdybiaethau, nodwyd bod gan y cyflogwyr hawl i herio egwyddorion y Gronfa fel rhan o’r ymgynghoriad, ond y Gronfa, gyda chyngor a chefnogaeth yr Actiwari, Hymans Robertson, sydd yn penderfynu ar y cyfraniadau terfynol. 

 

Cynigiwyd bod datganiad i’r wasg yn cael ei ryddhau, pan yn amserol, yn amlygu’r newyddion.

 

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth