Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2020/2021

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Peredur Jenkins yn Gadeirydd y Pwyllgor am 2020/21

 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Peredur Jenkins yn Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020 /2021

 

Diolchwyd i’r Cynghorydd John Pughe Roberts am ei waith fel Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau 2018 / 20. Gydag ychwanegiadau i gyfrifoldebau’r swydd yn rhanbarthol a chenedlaethol, diolchwyd iddo am ei ymroddiad i’r swydd a hynny mewn cyfnod heriol ac anodd iddo.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is Gadeirydd ar gyfer 2020/2021

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am 2020/21

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Stephen Churchman yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020 / 21

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Amlygodd yr Aelodau fuddiant nad oedd yn rhagfarnu oherwydd eu bod yn Aelodau o’r Gronfa Bensiwn

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 226 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 23 Gorffennaf 2020 fel rhai cywir  

 

 

Cofnod:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Gorffennaf 2020 fel rhai cywir.

 

7.

CYFRIFON TERFYNOL 2019/20 - CRONFA BENSIWN GWYNEDD pdf eicon PDF 200 KB

a)        Cyflwyno’r datganiadau ariannol statudol diwygiedig

b)        Cyflwyno adroddiad ffurfiol “ISA 260” y Gronfa Bensiwn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd er gwybodaeth

  • Y Datganiad o’r Cyfrifon 2019/20 (ôl archwiliad)
  • Yr adroddiad ‘ISA260’ gan Deloitte ar gyfer  Cronfa Bensiwn Gwynedd
  • Y Llythyr Cynrychiolaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad ynghyd a Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd 2019/20 (ôl archwiliad), gan y Pennaeth Cyllid yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2020. Atgoffwyd yr Aelodau bod drafft o’r cyfrifon wedi eu cyflwyno i gyfarfod 23ain Gorffennaf 2020 ac er nad oedd y ffigyrau wedi newid, tynnwyd sylw at rai addasiadau i’r naratif yn dilyn archwiliad gan gwmni Deloitte. Cyfeiriwyd at adroddiad ISA260 ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru yn manylu ar eu darganfyddiadau. Ategwyd mai’r Pwyllgor Archwilio sydd â chyfrifoldeb i dderbyn y cyfrifon yn ffurfiol ac y byddent yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio ar y 15fed o Hydref ar gyfer cymeradwyaeth.

 

Cyfeiriwyd at ychwanegiadau gan yr Archwilwyr i Nodyn 4 ac 5 lle nodi’r gwybodaeth ar brisiadau’r gronfa eiddo. Yn dilyn atal masnachu ar gronfeydd eiddo fis Mawrth, adroddwyd bod y cronfeydd eiddo bellach wedi ail ddechrau masnachu a’r ataliad wedi ei godi ers dechrau mis Medi. Er bod y swm presennol ychydig yn is na’r hyn a amlygwyd ddiwedd Mawrth 2020, yn ôl Hymans, nid oedd yn sylweddol is na’r hyn oedd yn rhesymol. O ystyried bod y portffolio yn un eang, adroddwyd bod y portffolio wedi dal ei dir yn eithaf ac y byddai modd cynnal trafodaeth ac amlygu unrhyw bryderon gyda’r  Rheolwyr sydd yn buddsoddi ar ran y Gronfa yng nghyfarfod y Panel mis Tachwedd.

 

Adroddwyd er nad oedd yr Archwilwyr wedi amlygu un mater penodol i Gronfa Bensiwn Gwynedd, eu bod wedi nodi tri achos fyddai’n debygol o gael effaith ar y Gronfa.

 

-       Cydraddoli GMP

-       Achos McCloud

-       Achos Goodwin

 

Ategwyd bod yr achosion hyn yn gyffredin ar draws yr holl gronfeydd pensiwn a bod Gwynedd eisoes wedi dechrau cydweithio gyda’r actiwari yn achos Mc Cloud a Goodwin.

 

            Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylw canlynol:

·         Gyda symudiad mewn buddsoddiadau eiddo a gwerthoedd i ffwrdd o’r stryd fawr i mewn i ystordai, dylid ystyried newidiadau i arferion gwaith yn y tymor hir. Rhaid bod yn agored i gyfleoedd ac ymateb i’r newidiadau hyn.

 

Gwerthfawrogwyd ymroddiad a chywirdeb y gwaith a diolchwyd i’r Rheolwr Buddsoddi a’r tîm am baratoi’r gwaith.

 

Adroddwyd bod Marina Parry Owen (Swyddog Pensiynau a Buddsoddiadau) yn dioddef o Glefyd Addisons. Dymuniad y Pwyllgor oedd anfon eu dymuniadau gorau at Marina gan ddiolch iddi am ei gwaith yn yr Uned Pensiynau a Buddsoddi.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn, er gwybodaeth

·         Y Datganiad o’r Cyfrifon 2019/20 (ôl archwiliad)

·         Yr adroddiad ‘ISA260’ gan Deloitte ar gyfer  Cronfa Bensiwn Gwynedd

·         Y Llythyr Cynrychiolaeth

 

8.

DIWEDDARIAD INCWM SEFYDLOG PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 197 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

Derbyniwyd y wybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad, er gwybodaeth, gan y Rheolwr Buddsoddi yn rhoi diweddariad ar y gronfa Incwm Sefydlog. Adroddwyd bod buddsoddiad o £166,119,549.08 gyda Fidelity Global Equity wedi ei drosglwyddo yn llwyddiannus ar y 27ain o Orffennaf 2020 i’r Multi Asset Credit Fund.

 

Yn ychwanegol, nodwyd bod bwriad lansio Cronfa Abolute Return Bond yng Ngorffennaf 2020 ond darganfuwyd nad oedd buddsoddiadau presennol yn gymwys i’r strwythur ACS. Yn dilyn gwaith ymchwil pellach gan Paul Potter - Hymans Robertson, a thrafodaeth yn y Panel Buddsoddi ym mis Medi, lansiwyd yr Absolute Return Bond Fund ar y 1af o Hydref gyda’r buddsoddiad gyda Insight o £291,238,172.22 erbyn hyn wedi  trosglwyddo yn llwyddiannus i’r gronfa.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth

 

9.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a dyfarnu contractau ac yn cynnwys manylion am y cynnigioin ynghyd a statws a busnes y darpar gyflewnyr. . Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu tanseilio hyder darparwyr i ddod a prisiau ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r Cyngor i gaffael yn llwyddianus. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn â dyfarnu contractau ac yn cynnwys manylion am y cynigion ynghyd a statws a busnes y darpar gyflenwyr. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu tanseilio hyder darparwyr i ddod a phrisiau ymlaen gerbron y Cyngor ac felly gallu’r Cyngor i gaffael yn llwyddiannus. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

10.

IS-GRONFA ECWITI MARCHNADOEDD DATBLYGOL PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU

(Copi i’r Aelodau yn unig)

 

Penderfyniad:

Penderfynwyd cymeradwyo strwythur yr Is-gronfa

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn gwneud cais i’r Pwyllgor gytuno i strwythur yr Is-gronfa Marchnadoedd Datblygol Partneriaeth Pensiwn Cymru. Adroddwyd bod yr opsiynau wedi ei cyflwyno i’r Bartneriaeth ac eisoes wedi eu cymeradwyo gan y Cydbwyllgor Llywodraethu ar y 12fed o Fawrth 2020. Bydd disgwyl i’r Is-gronfa gael ei lansio yng Ngwanwyn 2021.

.

PENDERFYNWYD cymeradwyo strwythur yr Is-gronfa

 

11.

AIL AGOR Y CYFARFOD I'R WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig ail agor y cyfarfod ar gyfer y wasg a’r cyhoedd

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail agor y cyfarfod i’r wasg a'r cyhoedd

 

12.

CRONFA CARBON ISEL BLACK ROCK pdf eicon PDF 283 KB

I ystyried yr adroddiad

 

Penderfyniad:

 

Penderfynwyd cymeradwyo symud y gronfa bresennol yn yr ACS World Low Carbon Equity Tracker Fund (MSCI World Low Carbon Target i’r

 

-       ACS World Low Carbon Equity Tracker Fund (MSCI World Low Carbon Target ex Fossil Fuels Index)

 

yn unol a’r drafodaeth yn y Panel Buddsoddi diweddaraf

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn gofyn i’r Pwyllgor gytuno i drosglwyddo cronfa bresennol carbon isel Black Rock i’r ACS World Low Carbon Equity Tracker Fund.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod penderfyniad wedi ei wneud yng nghyfarfod mis Gorffennaf i drosglwyddo swm o gronfa bresennol Black Rock, ond ers hynny bod Black Rock wedi datblygu cronfa newydd gyda ffocws bellach ar leihau carbon o gymharu â’r gronfa bresennol.

 

Amlygwyd bod y gronfa newydd yn cynnwys y newidiadau canlynol;

 

-       sgriniau tanwydd ffosil cyn yr optimeiddio carbon isel

-       ar gyfer cynnydd mewn gwall olrhain o 0.30% i 0.50%, bydd carbon yn cael ei leihau 44%

class=WordSection2>

 

Nodwyd bod trafodaeth ar y gronfa newydd wedi ei gynnal yn y Panel Buddsoddi diweddar a bod yr ymgynghorwyr wedi cytuno y byddai’n fuddiol trosglwyddo i’r gronfa newydd.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·         bod y penderfyniad i fuddsoddi mewn cronfeydd sydd yn lleihau carbon yn gydnaws a daliadau’r strategaeth buddsoddi a gymeradwywyd ym misTachwedd 2019

·         nad oedd costau mawr i drosglwyddo

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo symud y gronfa bresennol yn yr ACS World Low Carbon Equity Tracker Fund (MSCI World Low Carbon Target i’r ACS WORLD LOW CARBON EQUITY TRACKER FUND (MSCI WORLD LOW CARBON TARGET EX FOSSIL FUELS INDEX)  yn unol a’r drafodaeth yn y Panel Buddsoddi diweddaraf.

 

13.

GWEINYDDIAETH PENSIYNAU pdf eicon PDF 208 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn y wybodaeth

 

Cofnod:

Derbyniwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn adrodd ar ymateb y Gwasanaeth i weithio drwy pandemig covid 19. Adroddwyd bod y Gwasanaeth wedi bod yn gweithio o adref yn llwyddiannus ers 25/03/2020. Amlygwyd nad oedd y gwasanaeth wedi dioddef oherwydd y newid i batrwm gwaith ac er yr heriau o fod yn hyblyg gyda rhai staff ac eraill yn trosglwyddo i adrannau eraill, ymddengys bod y newid wedi bod yn llesol i’r adran weinyddol. Blaenoriaethwyd y gwaith a gwnaed defnydd o’r cyfrwng Teams i gyfathrebu a chadw cysylltiad yn lleol ac yn rhanbarthol.

 

Nodwyd bod cynnydd yn nefnydd system hunanwasanaeth Aelodau a bod yr argyfwng wedi annog y tîm i weithio yn ddi-bapur (hyn yn fwy effeithiol, yn gynt ac yn rhatach). Ategwyd bod amryw o dasgau a phrosiectau angen sylw a rheiny wedi cael ei hamserlennu ar gyfer y misoedd nesaf.

 

Diolchwyd am yr adroddiad cadarnhaol ac am weithredu’r pensiynau mor effeithiol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â thaliadau staff ar ffyrlo ac, os yr oeddynt ar eu colled, a oedd yr Undebau wedi tynnu sylw at y mater? nodwyd bod y sefyllfa yn ddibynnol ar y cyflogwr yn talu'r 20% ychwanegol. Awgrymwyd bod y cwmnïau mwyaf yn fwy tebygol o dalu’r ychwanegiad. Eglurwyd, os na fyddai’r ychwanegiad yn cael ei dalu, yna byddai’r cyfranddaliadau yn cael eu tynnu oddi ar yr 80% ac o ganlyniad, bydd y staff ar eu colled. Ategwyd bod y cyfranddaliadau yn unol â'r pensiwn ac y byddai’r Undebau yn debygol o herio’r Cyflogwyr yn hytrach na’r Gronfa. Nodwyd hefyd bod ychydig o anfantais i’r rhai hynny sydd ar ffyrlo ac yn ymddeol eleni gan fod rhaid edrych dros y tair blynedd ddiwethaf i ganfod y tal terfynol i sicrhau tegwch.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â lleihau’r nifer o lythyrau papur sydd yn cael eu postio yn wythnosol, nodwyd nad oedd hyn yn ymarferol bosib bob tro gan fod rhai pobl yn dymuno cael llythyr papur a bod angen ymateb i rai llythyrau gyda llofnod. Er hynny, nodwyd bod defnyddio argraffdy Cyngor Gwynedd neu gwmni preifat i ddosbarthu’r llythyrau yn fwy effeithiol wedi cael ei ystyried ynghyd a sicrhau bod pob ymgais yn cael ei wneud i ddefnyddio e-byst pan yn bosib.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth